Thema dywyll Thema golau

Y Pla Anhygoel

‘... ac yn ein rhaglen ni heno mae gennym ni gystadleuaeth anhygoel. Gallwch chi ennill set deledu lliw 14" anhygoel wrth ateb cwestiwn anhygoel o syml. Ond yn gyntaf mae’n bleser gen i groesawu i’r stiwdio Nic Nac, bardd a phrif leisydd y band Bwch sydd newydd ryddhau eu halbwm anhygoel ddiweddaraf, Yn y Niwl. Croeso atom ni, Nic! Sut mae’r albwm yn gwerthu?’
‘Anhygoel, Arianrhod. Rîli, rîli anhygoel.’

Awgrymaf ddirwy o bum ceiniog y drosedd ar y diogyn cyffredin a phumpunt ar gyfryngis a Chymry Cymraeg proffesiynol eraill, megis athrawon, actorion, cerddorion, standyps a gwleidyddion.

Gallai’r incwm a ddeilliai o’r ddirwy ‘anhygoel’ fynd at ariannu cyrsiau gloywi iaith ar gyfer sylwebyddion rygbi sydd mor macho nes bod pob pêl, sgrym a llinell yn wrywaidd. Carfan arall ac arni angen cymorth cyffelyb yw’r gohebwyr ifainc fydd yn sôn am blant bach ‘dau’, ‘tri’ a ‘pedwar’ oed ac yn gresynu am ei fod o yn bwrw glaw ym Mharc y Scarlets neu ar gopa’r Wyddfa. Dylai ffeministiaid Cymru brotestio yn erbyn y gwryweiddio ieithyddol cywilyddus sydd ar gynnydd y dyddiau hyn.

Pe llwyddid i esgymuno ‘anhygoel’ dylid mynd ati i wneud yr un modd ag erchylleiriau fel ‘sgrwtineiddio’, ‘consiwmeriaeth’, ‘so’, a ffocysu.

Dim ond deunydd trosiadol o’r olaf y dylid ei wahardd, fodd bynnag; h.y. pan ddisodla ‘canolbwyntio’. Ni ellir hepgor ffocysu pan olygir ‘syllu ar un gwrthrych â dwy lygad’. Dywedaf hyn am fod honno’n weithred na allwn i ei chyflawni rhwng 17 Mai ac 20 Awst eleni.

Nid yw ‘ffacoemwlsifeiddio’, chwaith, yn air tlws na soniarus, ond mae yntau’n anhepgorol. Dyna enw’r dechneg o gael gwared o gataract o lygad trwy beri i ynni sainamleddog uchel ddifodi’r cataract a’r lens naturiol gyda’i gilydd a dodi lens newydd sbon, blastig yn lle honno. Rhyw ddeugain munud gymer y driniaeth. Mae mor boenus â chael mymryn o siamp? yn eich llygaid. Nid yw’n gadael staen na chraith ar amrant, grudd nac arlais. Os ewch i’r ysbyty ben bore byddwch yn ôl adref erbyn amser cinio.
Ffacoemwlsifeiddiwyd fy llygad dde ar 17 Mai. O ganlyniad, gwelwn yn well drwy honno nag a wnes er pan oeddwn i’n chwe blwydd oed tra oeddwn yn dal mor fyr fy ngolwg â thwrch daear yn y llall.
Ar boen ennyn crechwen darllenwyr neo-adweithiol rhaid imi gyfaddef i’m byd-olwg fod yn unllygeidiog am dri mis yr haf hwn, gan gynnwys wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaf hynny wrth ymddiheuro i gyfeillion a chydnabod a dybiai fy mod yn eu hanwybyddu neu yn taro yn eu herbyn yn fwriadol, neu yn wincio’n anllad arnynt.

Ar 20 Awst, ffacoemwlsifeiddiwyd fy llygad chwith a theflais ’maich oddi ar fy nhrwyn.
Anhwylustod byrhoedlog fu’r anghytbwysedd llygadol. Gweld dauddyblyg ar ddiwrnodau heulog, ond prin iawn fu’r rheini, trwy lwc. Pan gafwyd sbeliau braf ar Faes y Steddfod, ymdebygai hwnnw i baentiad ciwbaidd anferth. Profiad annymunol ond un a roddai mwy o bleser esthetig na chynnwys ymhonnus, gwacsaw y Lle Celf. Dim gyrru car na nofio o gwbl. Darllen ac ysgrifennu gydag anhawster. Meddwl am lithoedd i Barn a methu eu rhoi ar bapur nac mewn cyfrifiadur.

Defnyddiaf weddill y gofod a ganiateir imi, felly, i ymateb i bwyntiau diddorol a godwyd gan golofnwyr eraill yn ystod yn misoedd diwethaf.

Yn rhifyn mis Mehefin o’r cylchgrawn hwn holodd Alun Ffred Jones: ‘Beth sydd i’w gyfrif am fudandod awduron yn y theatr a beth mae’n ei ddweud am ein diwylliant?’ Cwynodd nad yw awduron Cymraeg yn sgwennu gweithiau sy’n ‘delio gyda “syniadau” a themâu mentrus’ sy’n adlewyrchu ‘y chwalfa economaidd, ieithyddol, grefyddol a chymdeithasol’ a welsom yn ein gwlad. Gresynai hefyd oherwydd iddynt ‘anwybyddu i raddau helaeth’ y ddrama hanesyddol.

Gwn am nifer o lenorion a chanddynt y ddawn a’r dychymyg i lunio dramâu a blesiai Alun Ffred a minnau ond beth a dalai hynny iddynt, heb gomisiwn gan gwmni theatr nac addewid i lwyfannu’r gwaith?
Daeth Ffred yn agos iawn at ateb ei gwestiwn ei hun ym mharagraff olaf ei erthygl gyda chwestiwn arall: ‘A ydym fel Cymry Cymraeg yn rhy gyfforddus ein byd? Neu a ydym yn rhy ofnus i ddangos y drych didostur i’n byw a’n bod yn y theatr?’

Mae cyfarwyddwyr artistig ein theatrau, fel y mwyafrif o Gymry Cymraeg diwylliedig, yn fodlon iawn ar eu byd a’r status quo. Nid oes unrhyw fater economaidd, cymdeithasol, crefyddol na gwleidyddol yn eu blino, ac eithrio parhad yr Iaith a’r cwmni. Nid ydynt yn genedlaetholwyr mwyach. Tybiaf eu bod yn ystyried mai eu swyddogaeth yn y Brydain Fawr ddatganoledig yw darparu adloniant Seisnig yn Gymraeg, fel y gwna S4C a BBC Cymru. Gan hynny, gwnânt ddefnydd helaeth o gyfieithiadau a chyfyngant eu comisiynau i gyfeillion sy’n arddel yr un ideoleg geidwadol, unoliaethol, saff â hwy eu hunain.

Arddelwyd yr ideoleg honno gan Marged Parry yn Golwg (16 Awst 2012). Yr hyn sydd wrth ei bodd hi yw ‘dramâu yn cael eu perfformio gyda graen ac asbri yn y Gymraeg waeth o ba wlad yn y byd y daethon nhw’n wreiddiol. Efallai mai’r rheswm taw’r addasiadau sy’n fy mhlesio yw nad yw’r thema o Gymreictod yn holl bresennol. Eto mae’r Gymraeg yn gwbl bresennol ac yn gwneud ei gwaith yn gwbl effeithiol drwy ddweud stori’.

Mae theatr pob gwlad y gwn i amdani yn gwneud defnydd helaeth o gyfieithiadau ond diwylliant afiach a pharasitig yw’r un sy’n llwyr ddibynnol ar ddiwylliant estron am faeth creadigol ac yn analluog i lunio ei straeon ei hun.

‘Rhaid llacio gafael y dosbarth canol Cymraeg ar y tonfeddi. A dyna’r her newydd go-iawn i’r bartneriaeth rhwng y BBC ac S4C,’ meddai Gwilym Owen yn yr un rhifyn o Golwg.

A beth wedyn? A yw hi’n debygol y cipiai criw o ddarlledwyr a gweinyddwyr gwerinol yr awenau? Asiantaethau’r wladwriaeth Brydeinig yw BBC Cymru ac S4C. Rhaid i’w llywodraethwyr a’u prif swyddogion fod yn Gymry Da ac yn Brydeinwyr Pybyr yn ogystal. Faint elwach fyddem ni o weld un set o Aelodau, Urddolion a Chomandos yr Ymerodraeth Brydeinig yn disodli un arall?
Rhaid llacio gafael y dosbarth canol Prydeinig, yn Saeson, Cymry ac Albanwyr, ar y tonfeddi a’r wladwriaeth. Dyna’r her a’r nod democrataidd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Camu i’r Goleuni o Gysgod Breivik

Ymlaen >

Y Dyn Fu yn y Lleuad