Wrth drafod y cwestiwn i ba raddau y mae angen deddfu ym maes yr iaith Gymraeg, mae’n hanfodol ein bod yn cadw mewn cof beth yw sefyllfa’r iaith ar hyn o bryd. Er bod niferoedd cynyddol yn medru’r iaith, rhaid cydnabod ei bod yn parhau dan fygythiad fel iaith fyw. Mae’n argyfwng parhaol arni. Dyma ei sefyllfa er gwaetha’r gefnogaeth sylweddol y mae hi wedi ei derbyn o du’r awdurdodau yn Llundain a Chaerdydd ers chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’n cymryd mwy na chwta hanner canrif i ddadwneud effaith cannoedd o flynyddoedd o wrthod lle teilwng i’r Gymraeg ym mywyd Cymru.
O ran amcanion polisi, felly, byddwn i’n dadlau mai’r flaenoriaeth i’r llywodraethau fyddai gwneud y mwyaf y gallant cyn gynted ag y gallant, nid yn unig er mwyn sicrhau cynnydd yn y niferoedd, ond hefyd er mwyn sefydlu’r amodau o fewn cymdeithas sifig Cymru sy’n rhoi’r cyfle gorau i’r iaith Gymraeg barhau fel iaith fyw, gyhoeddus.
Pam ‘Pam Deddfu?’
Dewisais y teitl yma i’m sgwrs, gan mai dyma oedd her Syr Emyr Jones Parry i wleidyddion Cymru wrth gychwyn ar ei waith fel cadeirydd Comisiwn Cymru Gyfan. Heriodd nhw i ddarparu enghreifftiau ymarferol o pam fod angen pwerau deddfu ehangach ar y Cynulliad. Pa ddeddfau fyddwch chi’n eu pasio? Pam na allech chi ddefnyddio dulliau eraill o gyrraedd at yr un nod?
Mae adlais o hyn yn y modd y mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi bod yn craffu ar geisiadau gan y Cynulliad am bwerau deddfu dan y drefn Gorchymyn Deddfu bresennol (y bydd, wrth gwrs, llawer o sôn amdani heddiw yng nghyd-destun Deddfwriaeth Ieithyddol newydd fel a addawyd yn y ddogfen Cymru’n Un). Yr enghraifft mwyaf amlwg yn ddiweddar oedd y Gorchymyn Tai Fforddiadwy.
Nawr, yn fy marn i, o ran egwyddor, nid yw cwestiwn Syr Emyr yn gwestiwn y dylid ei ofyn o gwbl cyn bod grymoedd deddfu wedi eu trosglwyddo i’r Cynulliad. Nid oes modd rhagweld yn hollol pryd nac o dan ba amgylchiadau y byddai hi’n fuddiol i’r Cynulliad ddefnyddio pwerau deddfu. Un o ddibenion datganoli yw rhoi’r grym a’r rhyddid i lywodraeth ‘ranbarthol’ allu deddfu pan fo angen yn gyflym ac yn effeithiol, heb orfod dibynnu ar amserlen a blaenoriaethau’r llywodraeth ganolog.
Ond mae’n rhaid i minnau, ac i bawb arall, fyw yn y byd go iawn a chydnabod bod y cwestiwn yma’n un sy’n cael ei ofyn. Yn bwysicach, mae’n gwestiwn a fydd yn cael ei ofyn eto (a hynny’n gyfan gwbl ddilys) gan wleidyddion, gweision sifil a dinasyddion hefyd pan ddaw’r pwerau deddfu i Gaerdydd drwy Orchymyn Deddfu.
Cwestiwn pragmataidd sydd gan Syr Emyr, yn yr ystyr ei fod yn gofyn am enghreifftiau ymarferol o sut y gellid gwasanaethu pobl Cymru’n well drwy ddeddfu. Mae gen i gydymdeimlad mawr â’r agwedd yma. Os gellir cyflawni amcanion polisi heb ddeddfu, yna gorau i gyd. Byddaf yn cynnig ambell i ateb pragmataidd i gwestiwn Syr Emyr (gobeithio) yn y man, yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg. Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, rwyf am gynnig ateb sy’n dibynnu ar weledigaeth ychydig yn ehangach efallai am bwrpas a natur deddfu o ran y Gymraeg.
Bues i’n pendroni ynglyn â beth i alw’r ateb hwn: ateb polisi? ateb egwyddorol? Dw i wedi setlo ar air erchyll, ond sydd yn cipio orau yr hyn rwy’n ei olygu, sef yr ateb ‘normadol’. Ystyr y gair normadol i mi yn y cyd-destun hwn yw gosod sylfaen mewn deddf ar gyfer lle’r iaith Gymraeg o fewn y politi neu fywyd sifig Cymreig. Mewn geiriau eraill, sefydlu’r norm.
Yr ateb normadol 1 – cyfraith ryngwladol
O ran normau, dylem gychwyn efallai gyda Siarter Ewrop dros Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol. Dyma ddogfen sy’n gosod normau rhyngwladol ar y gwledydd hynny yn Ewrop sydd wedi ymrwymo i’r Siarter. Dan erthygl 7 y Siarter, mae dyletswydd ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i
- seilio ei pholisïau, ei deddfwriaeth a’i hymarfer ar y nodau a’r egwyddorion a ganlyn: [detholiad]
- Cydnabod yr ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn fynegiant o gyfoeth diwylliannol
- Yr angen am weithredu penderfynol i hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol er mwyn eu diogelu
- Hwyluso ac/neu annog defnyddio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn bywyd preifat a chyhoeddus
- - Addaswyd o gyfieithiad Cyngor Ewrop o’r Siarter, sydd ar gael ar wefan Cyngor Ewrop
Mae hwn yn ddyletswydd sy’n rhwymo’r Deyrnas Gyfunol dan gyfraith ryngwladol, ac mae’n cynnwys dyletswydd i ddeddfu.
Mae’r Deyrnas Gyfunol, fel nifer o wladwriaethau eraill, i raddau helaeth iawn wedi datganoli’r cyfrifoldeb am weithredu’r Siarter yn ymarferol i lywodraethau ‘rhanbarthol’ y cyrion Celtaidd. Mae hyn yn synhwyrol. Nid yw hyrwyddo a diogelu ieithoedd lleiafrifol yn uchel ar restr blaenoriaethau llywodraeth ganolog. Am yr un rheswm, prin iawn yw’r cyfleoedd i ddeddfu o ran yr ieithoedd hyn yn Llundain. Mae diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn fwy o flaenoriaeth yng Nghymru, a bydd mwy o gyfle ac o awydd i ddefnyddio grymoedd deddfu yng Nghaerdydd nag yn Llundain.
Eithr dim ond ateb y cwestiwn ‘Pam trosglwyddo grym deddfu?’ mae hyn, nid y cwestiwn ‘Pam deddfu?’ Eto, mae’n rhoi allwedd i ni, gan fod yr egwyddorion normadol a ymgorfforir yn Siarter Ewrop yn rhai a ddylai fod yn gyrru polisi Llywodraeth Cymru wrth ystyried sut i ddefnyddio pwerau deddfu’r Cynulliad er lles y Gymraeg, ac yn cyfiawnhau deddfu er mwyn sefydlu normau.
Yr ateb normadol 2 – Statws yr iaith Gymraeg
‘Y mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yn y wlad hon. Nid oes rhaid datgan hynny mewn cyfraith. Nid yw’n cael ei ddatgan mewn cyfraith yn achos y Saesneg. Mae’r Saesneg hefyd yn iaith swyddogol.’
Dyma eiriau Syr Wyn Roberts ym Mis Gorffennaf 1993, wrth gyflwyno’r mesur a ddaeth yn y man yn Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae geiriau Syr Wyn yn dangos grym a gwendid diffyg cyfansoddiad ysgrifenedig yn y Deyrnas Gyfunol. Mae modd gwneud datganiad fel hwn am nad yw’r ymadrodd ‘iaith swyddogol’ yn golygu dim byd yn y traddodiad Prydeinig.
Yn y traddodiad hwnnw, iaith yw iaith, ond mae rhai ieithoedd (ac un iaith yn arbennig) yn fwy cyfartal na’i gilydd. Gellir gwneud rhai pethau’n ddilys mewn unrhyw iaith (e.e. gwneud cytundeb neu ewyllys). Gellir gwneud rhai pethau ddim ond mewn un iaith (sef, fel arfer, Saesneg) (e.e. annerch llys yn Lloegr neu annerch y Senedd yn Llundain). Caniateir rhai breintiau i ieithoedd eraill (e.e. annerch llys yng Nghymru yn y Gymraeg, sef yr unig hawl ieithyddol sydd gennym ar hyn o bryd), ond weithiau ar yr amod fod y Saesneg hefyd yn cael ei defnyddio (e.e. arwyddion ffyrdd, neu gofrestru priodasau). Weithiau mae’n rhaid defnyddio’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg (e.e. arwyddion sy’n hysbysu na chaniateir ysmygu ‘yn y fangre hon’, sy’n enghraifft ddiddorol o sut y gellir deddfu o blaid y Gymraeg drwy is-ddeddfwriaeth, heb yr angen am bwerau pellach).
Does dim grym cyfreithiol, ysywaeth, i ddatganiad Syr Wyn.
Ond, fel y mae Gwion Lewis wedi dadlau’n bwerus yn ei gyfrol Hawl i’r Gymraeg, mae arwyddocâd ymarferol yng nghyfraith y Gymuned Ewropeaidd os bydd iaith yn cael ei chydnabod yn un swyddogol. Mae statws swyddogol ffurfiol yn galluogi gwladwriaethau i gymryd camau o blaid hyrwyddo ieithoedd a fyddai fel arall yn groes i gyfraith Ewrop. Dwyf i ddim am ymhelaethu ar hynny, yn hytrach rwyf am gynnig rhesymau eraill pam mai’r prif gam tuag at osod sylfaen gadarn ar gyfer yr iaith Gymraeg, neu sefydlu’r norm, fyddai datganiad mewn Mesur fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Mae’n debygol y byddai drafftwyr deddfwriaeth traddodiadol yn gwrthwynebu hyn. Dyma’r math o ddatganiad cyffredinol (niwlog, fe ddadleuent,) sy’n estron i’r traddodiad deddfu Prydeinig. Os ydym am ei gael, meddent, bydd angen diffiniad manwl o beth a olygir wrth ‘iaith swyddogol’ – pa nodweddion a berthyn iddi dan y gyfraith, a pha ddyletswyddau a chyfyngiadau sydd ynghlwm wrthi.
Ond byddwn innau’n dadlau, yn groes i’r arfer Prydeinig, bod angen sefydlu’r egwyddor cyfansoddiadol fel egwyddor cyfreithiol mewn mesur, gan ddatgan yn syml bod y Gymraeg (a’r Saesneg hefyd, wrth reswm) yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae hynny am fod grym y tu hwnt i rym cyfreithiol gan ddeddf.
Mae gan ddarn o bapur sydd ag arfbais a llofnod brenhinol arno rym seicolegol a chymdeithasol. Byddai cadarnhau mewn deddf bod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru yn ffordd briodol ac effeithiol o gladdu yn ffurfiol am byth ysbryd y ddeddfwriaeth a sefydlodd dros ganrifoedd y norm o gau’r iaith Gymraeg allan o fywyd cyhoeddus Cymru, ac allan o gynifer o beuoedd eraill; norm sy’n parhau yn rym seicolegol a chymdeithasol go iawn yn ein cymdeithas, er gwaetha’r cynnydd a wnaed yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Yr ateb normadol 3 – Hawl i’r Gymraeg?
Ffordd arall o sefydlu normau yw creu hawliau. Unwaith eto, dyma gam a fyddai’n tramgwyddo’r puryddion, gan fod y cysyniad o greu hawliau eto’n groes i’r traddodiad Prydeinig o ddeddfu. Y confensiwn yw fod cyfraith Prydain yn caniatáu popeth, oni bai ei fod yn cael ei wahardd. Hynny yw, mewn theori does dim angen hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, gan ei bod yn bodoli eisioes..
Mae’n help i ni ddeall hyn drwy edrych ar faes arall. Mae maes ‘hawliau’ pobl hoyw yn cynnig enghraifft ddiddorol. Yn achos dynion hoyw, nid sefydlu hawliau fel y cyfryw y mae diwygiadau’r hanner can mlynedd diwethaf wedi ei wneud, ond diddymu gwaharddiadau blaenorol ar weithredoedd rhywiol rhwng dynion a’i gilydd. Cymharer â sefyllfa menywod hoyw, lle nad oedd gwaharddiad mewn grym, felly nid oedd angen ‘cyfreithloni’ gweithredoedd rhywiol rhwng menywod a’i gilydd.
Ond mae’r drefn mewn gwledydd eraill yn wahanol. Dyma, er enghraifft, eiriau Erthygl 6 Statud Gernika, sef Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg:
Bydd gan ‘Euskera’, iaith y Basgiaid, fel Sbaeneg, statws iaith swyddogol yn Euskadi. Bydd hawl gan holl drigolion Euskadi i wybod ac i ddefnyddio’r ddwy iaith.
Nawr, wrth gwrs, mae perygl wrth fabwysiadu’n slafaidd yr hyn sy’n digwydd mewn perthynas ag iaith arall mewn gwlad arall, ond mae yna rywbeth yn ddeniadol o syml yn y syniad y gellid datgan mewn deddf bod hawl gan holl drigolion Cymru i wybod ac i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Dyma sefydlu egwyddor a fedrai ein cario ni i’r dyfodol yn hyderus, byddai rhai yn dadlau.
Dw i’n credu, fodd bynnag, fod yna anawsterau ymarferol i’r math yma o hawl pen-agored. Un anhawster yw cyfartaledd hawliau. Nid wyf yn gweld sut y gellir rhoi hawliau ffurfiol i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, heb roi hawliau cyfatebol i ddefnyddio Saesneg. Fel y mae pethau, mae cyfraith Prydain a chyfraith ryngwladol yn cydnabod bod elfen o driniaeth anghyfartal yn briodol, lle bo hynny er mwyn hyrwyddo iaith swyddogol neu iaith leiafrifol.
Dyma, er enghraifft, eiriau’r Llys Apêl ym 1999, mewn achos lle’r oedd teulu di-Gymraeg wedi symud i fyw i gymuned Gymraeg ei hiaith, ac yn hawlio y dylai Cyngor Sir Dyfed ddarparu trafnidiaeth am ddim i’w plant i ysgol categori B:
In any event, since this family is not briefly in the country but by buying a hill farm has become part of the rural community, there is a possible countervailing argument that these children are part of a Welsh speaking community and may need to be fluent in Welsh in order to integrate within that community. On the information before this court I would not be disposed to find that the Category A school was objectively unsuitable for these children although clearly it is not in accordance with the wishes of the parents.
Pe bai hawl debyg i’r hawl yng Ngwlad y Basg yn bodoli yng Nghymru, a fyddai hynny’n golygu hawl, er enghraifft, i riant yn Llyn fynnu bod y cyngor sir yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol gynradd Saesneg ei chyfrwng agosaf (fyddai yn siwr o fod y tu allan i’r sir), fel bod ei blentyn yn medru ymarfer yr hawl i siarad Saesneg yn ddidramgwydd?
Yn y traddodiad cyfreithiol Prydeinig, y duedd yw gosod cyfrifoldebau a dyletswyddau, yn hytrach na chreu hawliau fel y cyfryw. Hyd yn oed mewn meysydd lle y defnyddir ieithwedd a rhethreg hawliau (megis hawliau i’r anabl), yr hyn a geir yn dechnegol yw dyletswyddau a osodir ar rai cyrff a phobl i beidio â chamwahaniaethu yn erbyn person ar ryw sail penodol. Gellir camwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Nid wyf yn y sgwrs yma am fynd ar ôl y pwynt hwn yn fanwl ond, ar hyn o bryd, mater o wahaniaethu anuniongyrchol yw gwahaniaethu ar sail iaith. Credaf fod hynny’n briodol, gan ei fod yn caniatáu gweithredu’n bositif o blaid y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol.
Wedi dweud hynny, credaf fod dadl dros sefydlu rhai cyd-destunau cadarn lle mae hawl ddi-amod i ddefnyddio eich dewis iaith (boed Gymraeg neu Saesneg) – rhywbeth mor elfennol â hawl defnyddio eich dewis iaith mewn sgwrs gyda rhywun arall sy’n dymuno defnyddio’r iaith, er enghraifft. Peidiwch â synnu at hyn. Rwy’n credu bod angen sefydlu’r egwyddor hwn. Pe bai achos Thomas Cooke wedi mynd i’r tribiwnlys, nid yw hi’n sicr mai o blaid hawl y gweithwyr i siarad Cymraeg â’i gilydd y byddai’r penderfyniad wedi bod. Mae hynny oherwydd bod dyletswydd ar berson a gyflogir i ufuddhau i orchmynion rhesymol y cyflogwr. Nid wyf yn argyhoeddedig ei bod yn sicir y byddai tribiwnlys wedi canfod ei bod yn afresymol mynnu bod busnes y cyflogwr yn cael ei drafod yn Saesneg pan oedd ei gynrychiolydd yn bresennol.
Ac wedyn dyma holl gwestiwn sefydlu ‘hawl’ i dderbyn gwasanaethau ac yn y blaen trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes hawl, er bod rhyw fath o ddyletswydd dan gynlluniau iaith, ond nid oes modd eu gorfodi pan fo unigolyn wedi cael cam. A oes angen sefydlu hawliau positif fel y cyfryw, neu a fyddai’n ddigon creu fframwaith o ddyletswyddau a gwaharddiadau yn erbyn camwahaniaethu ar sail iaith? Does gen i ddim ateb i’r cwestiwn hwn, ond byddaf yn dychwelyd at y pwnc yma wrth drafod cryfhau Deddf yr Iaith Gymraeg isod.
Yr ateb pragmataidd 1 – Boed anwybod yn obaith
Rhaid i ni gydnabod mai’r prif faen tramgwydd wrth geisio rhoi ateb pragmataidd i’r cwestiwn ‘Pam deddfu?’ heddiw, ar 7 Tachwedd 2008, yw na wyddom beth fydd cynnwys y Gorchymyn Deddfu arfaethedig.
Yn ddelfrydol, wrth gwrs, tri gair fyddai’r Gorchymyn yn eu gosod yn Atodlen 5 y Ddeddf, sef ‘yr iaith Gymraeg’. Ond, am resymau technegol yn ogystal â rhai gwleidyddol, mae hynny’n annhebygol iawn. Go brin, er enghraifft, y bydd y Gorchymyn yn cwmpasu defnyddio’r Gymraeg mewn llysoedd barn na chwaith darlledu Cymraeg, sydd yn faterion nad ydynt wedi eu datganoli i Gaerdydd.
Ond gadewch i ni fod yn obeithlon. Rhagdybiaf yn y sgwrs hon y bydd y Gorchymyn yn ddigon eang i gynnwys y Gymraeg ym mhob maes y mae gan Weinidogion Cymru rym gweithredol ynddo, dim ond er mwyn dangos beth sydd yn bosibl.
Yr ateb pragmataidd 2 – lle’r ydym ni nawr?
Gadewch i ni oedi am ychydig i edrych ar y tirwedd cyfreithiol.
Dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel corff hyd-braich sydd â’r dyletswydd statudol o hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg. Sefydlwyd yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd, a chrëwyd y gyfundrefn o gynlluniau iaith gorfodol ar gyfer cyrff cyhoeddus. Mae’n hawdd bychanu’r Ddeddf hon, a deuaf at rai o’i diffygion yn y man. Yn fy marn i, mae ei heffaith wedi bod yn fwy arwyddocaol nag y mae ei beirniaid wedi ystyried. Am y tro cyntaf, dyma osod sylfaen ar gyfer cynllunio ieithyddol o fewn deddfwriaeth Brydeinig, a gosod dyletswyddau ar y sector cyhoeddus i barchu ac i ddefnyddio’r Gymraeg.
Cryfhawyd hyn gan Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi strategaeth ar gyfer yr iaith a pharatoi math newydd o gynllun iaith. Mae’n briodol yma heddiw ein bod yn cydnabod ymdrech ac amynedd Gwilym Prys Davies wrth sicrhau bod y llywodraeth yn Llundain yn mabwysiadu Adran 78 fel rhan o’r Ddeddf. Hebddi, byddai bwlch difrifol wedi bod yn Neddf 2006.
Yn ogystal â’r rhain, mae yno hefyd nifer o fân-ddeddfau ac is-ddeddfau, ac ambell i achos llys sydd yn creu corpws o gyfraith yn ymwneud â’r iaith Gymraeg yn benodol. At y rhain gallwn ychwanegu achosion a deddfau Prydeinig ac Ewropeaidd sy’n ymwneud ag ieithoedd yn gyffredinol.
Yr ateb pragmataidd 2 – beth sydd angen ei wneud?
Mae ateb teilwng i’r cwestiwn hwn yn golygu dadansoddiad manwl o’r sefyllfa bresennol, a’i diffygion. Mae hefyd angen ystyried nid yn unig beth sydd angen ei wneud, ond sut mae ei wneud o. Nid oes amser i fynd yn fanwl i mewn i’r pynciau hyn.
Eto, fe allwn ni ganolbwyntio ar ambell i thema. Rwyf am ddewis tair thema, sef (1) rheoleiddio cynlluniau iaith, (2) addysg, a (3) iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae angen ateb y cwestiwn pragmataidd mewn modd pragmataidd. Mae angen meini prawf mwy gwrthrychol na’r rhai a ddefnyddiais wrth drafod yr ateb normadol. Mewn geiriau eraill, rhaid dangos beth, yn ymarferol, rydym ni’n ceisio ei gyflawni drwy ddeddfu, nad oes modd ei gyflawni drwy ddull arall.
Yr ateb pragmataidd 3 – rheoleiddio cynlluniau iaith
A derbyn, am y tro, y bydd yna o hyd gyfundrefn o baratoi a chytuno, arolygu a gwerthuso cynlluniau iaith (boed hynny gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg neu gan ryw greadur neu greaduriaid newydd), mae’n briodol ystyried sut y gellid gwella ar y gyfundrefn bresennol.
Mae’r Athro Colin Williams, sydd yn aelod o’r Bwrdd, yn ei gyfraniad i’r gyfrol Language and Governance,
wedi cynnig nifer o ddulliau trwy y rhai y gellir gwella ar y gyfundrefn bresennol, ac mae’n werth edrych yno ar y manylion.
Yn fras, fodd bynnag, mae angen deddfu er mwyn cryfhau’r drefn.
Gellid dadlau mai un rheswm nad yw ambell i gorff cyhoeddus o ddifri ynghylch ei ddyletswyddau o dan ei gynllun iaith yw nad oes gorfodaeth arno i gydymffurfio ag unrhyw ymchwiliad gan y Bwrdd i weld a fu torri ar y cynllun ai peidio. Rheswm arall yw nad oes sancsiynau effeithiol, er enghraifft lle bo aelod o’r cyhoedd heb dderbyn gwasanaeth sy’n unol â’r cynllun iaith. Mae’r gyfundrefn orfodi yn glogyrnaidd ac yn dibynnu yn y pen draw ar ewyllys wleidyddol y Gweinidogion ym Mae Caerdydd i fynd â’r corff cyhoeddus i’r Llys. Dyw hynny ddim yn rhesymol, nac ychwaith yn deg, boed i achwynydd nac i gorff cyhoeddus.
Ers pasio Deddf 1993, mae cyfundrefnau ac arferion newydd wedi datblygu yng Nghymru er mwyn archwilio arferion a gweithredoedd cyrff cyhoeddus, a sicrhau atebolrwydd a chydymffurfiaeth.
Mae’n deg dweud nawr, rwy’n credu, mai’r norm yn y cyd-destun hwn yw pwerau archwilio gorfodol, sy’n gosod dyletswydd ar dystion i gydweithredu gyda’r sawl sy’n archwilio, i roi tystiolaeth ac i ddatgelu dogfennau. Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hyn Cymru bwerau felly. Hefyd mae gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus rym i osod sancsiynau lle bo camweinyddu wedi bod, a rhywun wedi dioddef yn ei sgil.
Yn y cyd-destun hwn, ymddengys braidd yn od nad yw cydymffurfio â chynlluniau iaith yn cael ei ystyried yn fater digon pwysig ar gyfer cyfundrefn gryfach.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnwys cymalau yn y Mesur Drafft ar Gomisiynydd Safonau i Gymru yn ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth â chynlluniau iaith, ond nid yw hynny’n ateb y broblem. Mae’n bosibl y bydd sefydlu Comisiynydd iaith, fel y mae rhaglen Cymru’n Un yn ei ragweld, yn datrys y sefyllfa annigonol bresennol, ond hyd yn oed os nad yw hynny’n digwydd, byddai angen cryfhau’r gyfundrefn bresennol.
Mae Bwrdd yr Iaith wedi llwyddo i raddau helaeth i ennill ymddiriedaeth, ac felly gydweithrediad, y sector cyhoeddus drwy gymryd agwedd gymharol gyfeillgar, os cadarn, i sefydlu ac arolygu cynlluniau iaith. Ni fyddai raid i’r agwedd honno newid yn sgil creu cyfundrefn gadarnach. Yn wir, buaswn i’n dadlau bod yr agwedd honno’n hanfodol er mwyn parhau â chynnydd; ond byddai cryfhau braich y rheoleiddiwr yn fodd i sicrhau bod y cyrff a reoleiddir yn cymryd cydymffurfio â’u cynlluniau iaith o ddifri’. Gellid dadlau hefyd y byddai sefydlu trefn sy’n cynnwys elfen o wneud iawn, lle y dioddefodd aelod o’r cyhoedd yn sgil methiant â chadw at gynllun iaith statudol, yn fodd i sicrhau ‘hawliau iaith’ yn ymarferol, mewn rhai cyd-destunau o leiaf.
Yr ateb pragmataidd 4 – addysg a iechyd
Yma, rwyf am droi eto at Siarter Ewrop.
Mewn perthynas ag addysg Gymraeg, mae’r Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo o dan y Siarter i sicrhau i bob pwrpas bod addysg Gymraeg ar gael i bob plentyn y mae ei deulu’n dymuno iddo ei gael. Mae hyn yn golygu hefyd sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch.
Gyda golwg ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol, yn fras mae yna eto ddyletswydd i sicrhau bod y rhain ar gael yn y Gymraeg, o fewn rhai cyfyngiadau.
O ran addysg, soniais uchod am hawliau, ac am amharodrwydd deddfwriaeth Brydeinig i gydnabod hawliau fel y cyfryw. Yn hytrach, creu dyletswyddau yw tuedd ein deddfau. Ar hyn o bryd, nid yw deddfwriaeth Brydeinig yn cydnabod hawl benodol i dderbyn na dyletswydd benodol i ddarparu addysg Gymraeg.
Yr agosaf y down ati yw Deddf Addysg 1996, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried (‘have regard to’) yr egwyddor y dylid addysgu plant yn unol â dymuniadau eu rhieni, cyn belled ag y bo hynny’n cydfynd â darparu addysg effeithlon ac osgoi cost gyhoeddus afresymol.
Nawr, fe wyddom fod yna fylchau difrifol mewn rhai mannau yng Nghymru o ran darparu addysg Gymraeg. Mae ystadegau’n awgrymu y byddai llawer mwy o rieni yn dewis addysg Gymraeg i’w plant, pe bai honno ar gael o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi.
Ym maes iechyd, fe wyddom eto fod bylchau, yn arbennig felly mewn perthynas â phlant bach, yr henoed, ac ym maes iechyd meddwl, lle mae iaith yn hollbwysig. Does neb yn dadlau (am wn i) y dylai pob arbenigedd meddygol manwl fod ar gael yn Gymraeg, ond mae’n deg disgwyl bod gwasanaethau Cymraeg ar gael ar lefel gofal cynradd, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, therapyddion lleferydd ac yn y blaen.
A oes angen felly sefydlu dyletswydd statudol yn gysylltiedig â darparu Addysg Gymraeg, a gofal iechyd yn Gymraeg? Dwi’n credu bod hynny’n dibynnu ar ba mor effeithlon yw dulliau eraill o gyrraedd at yr un nod. Y dulliau hynny, wrth gwrs, yw ewyllys wleidyddol, cynllunio strategol ac adnoddau digonol. Does dim ond rhaid edrych, er enghraifft, ar sut y mae Gwasanaeth y Llysoedd neu Heddlu Gogledd Cymru wedi sicrhau bod pethau’n digwydd mewn perthynas â’r Gymraeg ym meysydd cyfraith a threfn na ellid ond breuddwydio amdanynt mewn perthynas â ieithoedd lleiafrifol eraill. Mewn cynhadledd ddiweddar am gymod ieithyddol a drefnwyd gan Heddlu Gogledd Cymru, crybwyllodd Aelod Seneddol Ewropeaidd o Navarra mor wych oedd hi fod yr Heddlu yn hyrwyddo iaith leiafrifol, a pha mor ddieithr oedd hynny i brofiad siaradwyr ieithoedd lleiafrifol Sbaen. Nid yn sgil deddf y gwnaed hynny, ond yn sgil gweithredu egwyddorol a phragmataidd, ac arweiniad pendant.
Hyd yn ddiweddar, mae’n deg dweud bod nifer o awdurdodau lleol wedi ystyried addysg Gymraeg yn broblem, yn hytrach na rhywbeth y mae angen cynllunio yn strategol yn ei chylch. Ar lefel llywodraeth Cymru, nid oedd Iaith Pawb yn delio ag addysg gynradd nac addysg uwchradd mewn modd strategol o gwbl, nac yn gosod gweledigaeth ar gyfer hynny. Eto, mae arwyddion nawr fod llywodaeth leol a Llywodraeth Cymru yn dechrau ystyried y pwnc mewn modd strategol.
Yn yr un modd, mae penderfyniad diweddar y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, i ganoli cynllunio darparu gwasanaethau yn Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle ar gyfer gweithio’n strategol ar draws Cymru gyfan ym maes gofal iechyd yn y Gymraeg.
Dadl y pragmatydd yw, os yw hyn oll yn dwyn ffrwyth ar draws Cymru, gan sicrhau darpariaeth ddigonol, i beth y mae angen deddf? Ac mae’n anodd gwrthod y ddadl honno yn y cyd-destun hwn, oherwydd mae angen cadw sylw Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a’r asiantaethau lleol eraill ar y dasg o gyflawni tra bo ewyllys wleidyddol, yn hytrach na’u clymu i mewn i drafodaeth am ddeddfu.
Ond os nad yw hyn oll yn dwyn ffrwyth, a hynny’n weddol fuan, beth wedyn? A oes rhaid i ni barhau i ddisgwyl?
Dw i’n credu ym maes addysg, yn arbennig, fod yna ddadl dros greu dyletswydd o ryw fath yn fuan. Yn ddelfrydol, byddwn am weld dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bob plentyn sy’n ei dymuno mewn ysgol sy’n weddol hygyrch at ei gartref. Dw’ i ddim yn credu, fodd bynnag, fod hynny’n debygol o gyrraedd y llyfr statud, nac yn credu ychwaith ei fod yn ymarferol bosibl heb hyfforddi nifer sylweddol o athrawon ychwanegol. Wedi dweud hynny, gallesid yn hawdd osod dyletswydd newydd ar y Gweinidogion yng Nghaerdydd i gynhyrchu, i gynnal ac i weithredu strategaeth benodol ar gyfer addysg Gymraeg (yn debyg i ddyletswydd Adran 78, ond yn cynnwys dyletswydd i weithredu’r strategaeth), a gosod dyletswydd ar lywodraeth leol i weithredu’n unol â’r polisi hwnnw wrth gynllunio ar gyfer addysg, ac wrth gwrdd ag anghenion rhieni a disgyblion unigol, gan ganiatáu eithriadau mewn amgylchiadau penodol yn unig.
Ac i gloi
Fel y dywedais, enghreifftiau yn unig yw’r rhain o’r posibiliadau o ddefnyddio deddfau mewn modd pragmataidd.
Ond hoffwn ddychwelyd, i gloi, at yr awgrym y dylid achub ar y cyfle i ddatgan mewn deddf bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae’n amser rhoi pragmatiaeth a chonfensiwn i’r naill ochr am y tro. Os ydym yn wir am ddefnyddio grymoedd deddfu er mwyn gwneud newid radical i sefyllfa’r iaith, a gosod seiliau ar gyfer ei pharhad fel iaith fyw, hwn yw ein cyfle gorau, ac efallai mai hwn fydd ein hunig gyfle, i orseddu’r egwyddor yma mewn deddf.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
