Thema dywyll Thema golau

Dangos dy Liwiau

Cododd y sefyllfa gwbwl annhebygol yma pan sylweddolodd y rheolwyr arferol eu bod ill dau’n gweithio ddiwrnod y twrnameint, a holwyd a wnawn i gamu i’r adwy, gan ’mod i’n ‘ddelach nag Arsene Wenger’. Atebais drwy nodi fod hynny’n wir am y rhan fwyaf o’r boblogaeth, ond na wnâi hynny rywun yn gymwys i reoli tîm pêl-droed, plant neu beidio. Parhau wnaeth y seboni, nes y daeth un ergyd farwol i orffen y job: ‘Wel, cheith yr hogia ddim mynd os nad ei di â nhw...’

Derbyniad cymysg gafodd y newyddion annisgwyl yma ar yr aelwyd. Yn ôl fy merch, dyma’r peth mwyaf embarasing sy’ wedi digwydd iddi erioed – ers y peth mwyaf embarasing dwytha wrth gwrs (oedd hefyd a wnelo â fi, os gofiai’n iawn). Roedd ymateb fy mab, sy’n chwarae i’r tîm, ychydig yn fwy cadarnhaol: ‘Hi 5, Mam! Ond paid â sybio fi!’

A dyna lle rydw arni, ac os awn ni drwy’r diwrnod heb i neb gael ei frathu, mi fydda i’n ddigon hapus.

Bu pêl-droed yn rhan fawr o ’mywyd i ers i mi gael mab sy’n gwbwl obsesiynol am y gamp, ond doedd o ddim yn fyd cwbwl ddiarth cynt. Arferwn ganlyn efo cefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, ac roedd fy Sadyrnau’n mynd ar ddilyn y tîm. Ychydig iawn o’n i’n ddallt, ond ro’n i’n mwynhau’r hyn oedd yn dod efo’r gêm, y teimlad o fod yn rhan o deulu, o berthyn i rhywbeth, a’r syniad fod yna draddodiad a diwylliant a iaith unigryw i’r cyfan. Roedd hi’n ddyddiau dreng ar Gaerdydd, ond roedd y ffans yn ffyddlon, a’r balchder yn amlwg.

Bûm mewn ambell i gêm wedyn, a chadwais lygad ar hynt a helyntion y tîm. Ar ôl cnocio drws yr Uwch Gynghrair ers sawl blwyddyn, esgynnodd yr Adar Gleision o’r diwedd, a gan mai’r Premiership bondigrybwyll ydi’r greal sanctaidd, mi ddylwn i fod yn dathlu.

Ond nid mewn glas mae’r Adar Gleision yn chwarae mwyach. Penderfynodd y perchennog newydd y dylai’r tîm chwarae mewn coch, lliw lwcus ’nôl adra yn Malaysia. Roedd addewid o fuddsoddiad ariannol mawr pe cytunai’r clwb i newid lliw, ac er gwrthwynebiad nifer arwyddocaol o gefnogwyr, dyna ddigwyddodd. Y tymor yma ail-frandiwyd y clwb, newidiwyd lliw y cit cartref ac ail-gynlluniwyd y bathodyn, er i liw glas a symbol yr aderyn fod yn rhan o hanes y clwb ers 1910.

Felly ar ôl tymor llwyddiannus iawn mae Caerdydd yn paratoi i chwarae yn erbyn y goreuon y tymor nesaf. Mae nifer o’m hen ffrindiau ffwtbol bellach wedi troi cefn ar y tîm, oherwydd yr hyn a welan’ nhw fel y clwb yn gwerthu’i enaid. Ond mae digon o gefnogwyr eraill fyddai’n dweud wrthoch chi y byddan’ nhw’n ddigon hapus i weld eu tîm yn chwarae mewn pinc a smotiau melyn petai hynny’n sicrhau parhad a dyrchafiad iddyn nhw.

Dydw i ddim yn cyfri fy hun yn ffan go iawn wrth reswm pawb, ond mae ’na flas cas ar siampên y dathlu, wrth i’r profiad crwn hwnnw o ddilyn y bêl gron gael ei erydu ymhellach. ’Wrach mai rhamantu ydw i, ond mae ’na fwy i bêl-droed na’r Prem, a’r holl gost a gor-heipio a phwysau i ‘aros i fyny’ sy’n dod yn ei sgil o, ac mae’r profiad o wylio’ch tîm lleol yn yr Ofal yng Nghaernarfon neu yng nghae Eithin Duon yn Llanrug yn llawer iawn difyrrach na sleboga o flaen Sky Sports. Er, dwn ’im a fyddai tîm dan-9 Llewod Llanrug, a’u wardrobs llawn replica-kits, yn cytuno ’chwaith...


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr

Ymlaen >

Mewn undod mae nerth? Heddlu cenedlaethol newydd yr Alban