Thema dywyll Thema golau

Er Mwyn y Plant – Cofio Llangyndeyrn

Pan ddywedais wrth fy mam, ’nôl yn 1973, fy mod yn canlyn bachgen o Langyndeyrn, gloywodd ei llygaid a dweud ‘Llangyndeyrn!’

Oedd, roedd gwraig o Eifionydd yn gwybod yn iawn am y frwydr ddewr a ymladdwyd ddeng mlynedd ynghynt, ac yn llawenhau ym muddugoliaeth pentrefwyr Llangyndeyrn dros gynlluniau Corfforaeth Abertawe i foddi Cwm Gwendraeth Fach. Fel cenedlaetholwraig bu’n dilyn hanes brwydr Tryweryn bob cam, ac roedd yn yr agoriad swyddogol ger yr argae, yn rhan o’r dicter cenedlaethol tuag at y golled enfawr honno. Felly roedd clywed am griw o ffermwyr yng ngwaelodion Sir Gaerfyrddin a feddai ar ysbryd Beca a Rhyfel y Degwm yn rhoi asbri newydd i genedl mewn galar – a derbyniwyd fy narpar wr i’r teulu yn llawen.

I Gwm Gwendraeth Fach y daethom i wneud ein cartref, a gwelsom fel yr oedd pentrefwyr Llangyndeyrn yn cadw eu buddugoliaeth arwrol yn fyw yn y cof dros y blynyddoedd. Bu dathliadau mawr yn 1983, pryd y cofnodwyd hanes ugain mlynedd ynghynt ar glawr ac ar y sgrin (yn y gyfrol Cloi’r Clwydi gan Robert Rhys a’r rhaglen Y Byd ar Bedwar gyda Tweli Griffiths), ynghyd â dadorchuddio cofeb o waith Ieuan Rees yng nghanol y pentref. Yna yn 1993 bu dathlu eto, ac yn awr yn 2013 mae rheswm da dros ddathlu hanner can mlynedd ers achub y cwm.

Clywsom lawer am yr ymdrech ofer i achub Cwm Celyn, ac mae’n rhyfedd sylweddoli fod y ddwy frwydr, un Tryweryn ac un Llangyndeyrn, wedi cael eu hymladd yn ystod yr un cyfnod. Gwelsom raglenni teledu dirdynnol am hanes dinistrio cymuned Capel Celyn – pwy anghofia weld y teuluoedd yn ymadael am y tro olaf, a’r peiriannau’n rhwygo eu cartrefi a’u capel i’r llawr. Daeth yr enw ‘Tryweryn’ yn gyfystyr â thrallod yn ein hymwybyddiaeth genedlaethol, cawsom ein siarsio i’w gofio, a goferodd y llyn llwyd yn alargan ddiddiwedd yng ngeiriau’r beirdd. Ac os nad yw caneuon yn eich pen a geiriau ar ochr ffordd yn eich atgoffa i gofio Tryweryn, yna mae’r daith o Gwm Prysor i’r Bala yn siwr o wneud hynny.

Ond Llangyndeyrn? Y frwydr a gafodd ei hennill? Cafodd ddigon o gyhoeddusrwydd ar y pryd ar y cyfryngau yma yng Nghymru (‘Sleepy Village Wakes for a Rousing Battle’ / ‘They Shall Not Pass!’ yn y papurau lleol) yn ogystal â sylw ar y newyddion cenedlaethol o Lundain, a chynhaliwyd gorymdaith gyda baneri trwy strydoedd Caerfyrddin (‘Bro ein mebyd – ni chaiff fynd o dan y dwr’ / ‘Cyndeyrn sydd yma – nid Seithenyn!’). Er hynny, er gwaetha’r holl wrhydri, gyda’r ffermwyr yn gwbl barod i wynebu carchar pe byddai raid, llithrodd enw Llangyndeyrn oddi ar ymylon cof y genedl, ac ar wahân i Gwenallt digon tawedog fu’r beirdd ar y testun. Pwy heddiw sy’n ymwybodol o’r hanes cyffrous, yr ymegnïo a’r cynllunio brwd, y gofid a’r colli cwsg dros eu cartrefi a’u bywoliaeth a fu’n rhan o fywyd y pentrefwyr am bedair blynedd anodd? Yn y rhaglen Dilyn Ddoe (1996, gw. y wefan) clywn lais Sharon Morgan yn ynganu’r geiriau ‘Mae brwydr Tryweryn yn cael ei chofio, tra bod brwydr Llangyndeyrn yn cael ei hanwybyddu. A ydym ni fel Cymry’n cael ein hysbrydoli gan fethiannau, yn hytrach na chan fuddugoliaethau?’. Mae Sulwyn Thomas, oedd yn newyddiadurwr ifanc yn ardal Caerfyrddin adeg brwydr Llangyndeyrn, yn cynnig y ddadl ein bod ni’r Cymry yn hoffi methiannau (gw. ‘Atgofion Gohebydd’ ar y wefan), ac fe wna’r pwynt hefyd mai o du’r Cymry eu hunain y deuai’r bygythiad yn yr achos hwn, yn hytrach na’r gelyn arferol, sef y Saeson o Loegr.

Ond roedd y bygythiad yn un real. Gwyddai’r ddau arweinydd, y Cynghorydd William Thomas, un o’r ffermwyr a wynebai golli’r rhan helaethaf o dir ei fferm pe codid yr argae, a’r Parch W.M. Rees, gweinidog Bethel Llangyndeyrn, y byddai perygl y câi’r frwydr ei cholli ar y dechrau’n deg. Dim ond i syrfewyr Abertawe gael caniatâd i ddod i mewn i diroedd ffermydd Llangyndeyrn i archwilio’r tir, dyna hi. Byddai’n anodd, onid amhosib, ennill y frwydr wedyn. Felly dyma ffurfio’r rhengoedd – cynllunio sut i rwystro gwyr Abertawe rhag dod i gaeau’r pentref, hyd yn oed pe torrai’r ffermwyr gyfraith gwlad wrth wneud hynny. Mae’r stori’n un lawn drama, gyda chadwyni a pheiriannau fferm yn cau’r clwydi, sïon fod ‘spy in the camp’ gan Langyndeyrn yng Nghorfforaeth Abertawe, ras i lawr i Gaerfyrddin i ddwyn perswâd ar asiant tir, a gwyliwr ar y twr yn barod i ganu cloch yr eglwys pan ddeuai Abertawe i mewn. A phan ddaeth diwrnod ‘Y Frwydr Fawr’, 21 Hydref 1963, a chonfoi o lorïau llawn dynion â’u hoffer oedd yn barod i fynnu mynediad i’r caeau, roedd y cyffro a’r emosiwn a chnul y gloch bron yn ormod i’w ddal wrth i bawb, yn hen ac ifanc, ruthro i fyny’r hewl i amddiffyn gatiau Glanyrynys. Ofnid y byddai hi’n troi’n dreisgar, ond dan arweiniad bugeiliol W.M. Rees ni chodwyd dwrn mewn dicter.

Ymladdodd pobl Llangyndeyrn eu brwydr heddychlon fel un gwr, ac yn awr, adeg 50fed pen-blwydd eu buddugoliaeth, daeth yn amser cofio, a dathlu. A gan mai pobl Llangyndeyrn ydyn nhw, caiff pethau eu gwneud gyda brwdfrydedd heintus. Dechreuwyd ar y dathlu y llynedd, gyda nifer o ddigwyddiadau yn y pentref gan gynnwys noson o atgofion rhai o aelodau Pwyllgor Amddiffyn 1963; noson pennill a pheint fyrlymus yn y dafarn leol; helfa drysor, a thaith gerdded i deuluoedd gyda thua 80 o’r pentrefwyr yn troedio o gylch y cwm a fuasai’n llyn o ddwr pe cawsai Corfforaeth Abertawe ei ffordd. Ond yng nghanol y dathlu mae un ystyriaeth bwysig ganddynt uwchlaw’r cyfan, sef cadw’r cof ynghynn ym meddyliau a chalonnau’r to sy’n codi.

Doedd Ian Jones ddim wedi ei eni ’nôl yn 1963, ond mae’n cofio dathliadau 1983 ac mae’n werth gwrando arno bryd hynny, yn fachgen ysgol, yn siarad gyda Tweli Griffiths ar Y Byd ar Bedwar. Symudodd Ian a’i briod Mari yn ôl i’w bentref genedigol y llynedd gyda Gwenllian fach, a bwriodd ei hun i mewn i gynlluniau a gweithgareddau’r Pwyllgor Dathlu gydag arddeliad. Fel Pennaeth Adran Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin mae ei ddiddordeb yn naturiol mewn ymarfer corff a chwaraeon, a’i syniad ef oedd y daith feiciau trwy Gymru a gynhelir y mis hwn a fydd, yn ôl y wefan, yn ‘cofio’r brwydrau a gollwyd i achub cymunedau rhag boddi’. Yr enwocaf o’r rheiny, wrth gwrs, yw Tryweryn, ac o’r ardal honno y bydd y daith yn cychwyn ar 8 Mehefin.

‘Mae’n bwysig fod y plant yn gwybod am hanes brwydr Llangyndeyrn,’ medd Ian. Mis oed yw Cynan, brawd Gwenllian, ac mae cenhedlaeth newydd i’w haddysgu am wrhydri eu hynafiaid. Mae Ian yn benderfynol nad yw buddugoliaeth cenhedlaeth ei dad-cu yn mynd yn angof. ‘Mae eisiau cadw’r frwydr yn fyw yn y cof, er mwyn y plant,’ meddai, gan edrych allan trwy’r ffenest at ble y byddai’r argae 80 troedfedd o uchder wedi ei chodi nid nepell oddi wrth ei dy. ‘Ry’n ni’n gwneud yn siwr eu bod nhw’n gallu cymryd rhan yn y dathliadau, fel eu bod nhw’n deall.’

Bydd y daith feiciau yn rhan o hyn. Fore Sadwrn 8 Mehefin bydd 25 o feicwyr yn cychwyn ar y daith 127 milltir o’r Bala i lawr heibio Clywedog a Llyn Brianne (lle y cododd Abertawe eu cronfa ddwr yn y diwedd) gyda nifer o blant yn seiclo am rai rhannau ar y daith, a chânt eu croesawu ’nôl i Langyndeyrn bnawn Sul 9 Mehefin. Mae’r daith gyfan wedi ei chynllunio’n fanwl, a bu’r beicwyr yn cwrdd ddwywaith yr wythnos i ymarfer ers misoedd. Bydd tîm o gefnogwyr yn teithio gyda nhw i’r gogledd, ac ar nos Wener 7 Mehefin cynhelir talwrn y beirdd yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn. Yna ym mis Hydref bydd penllanw’r dathlu, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau yn Llangyndeyrn gan gynnwys arddangosfa, te parti, pasiant y plant, gloddest, cyngerdd fawreddog a gwasanaeth diolchgarwch.

Ffordd arall o gadw’r frwydr ar gof a chadw ar gyfer y dyfodol, medd Ian, yw’r wefan newydd a sefydlwyd gan y Pwyllgor Dathlu. Ar hon (www.llangyndeyrn.org) mae atgofion rhai aelodau o’r Pwyllgor Amddiffyn gwreiddiol; portreadau o’r ddau arweinydd; fersiwn ddigidol o Cloi’r Clwydi lle ceir yr hanes i gyd; rhaglenni teledu a chyfweliad; oriel luniau; llinell amser, a’r newyddion diweddaraf am y digwyddiadau a’r cyfarfodydd nesaf. Mae hi’n storfa o wybodaeth sy’n adlewyrchu cymdeithas fyw y pentref fel y mae heddiw yn ogystal â dod â chynnwrf ddoe yn ôl. Ymwelwch â hi er mwyn cael blas ar frwdfrydedd to newydd o bobol y cwm sydd eisiau trysori eu cymuned a’i hanes i’w trosglwyddo i’w plant hwythau, ac er mwyn gweld o ba fath ddeunydd y gwnaed Cymry canol yr 20g. a gredai mai mewn undod mae nerth ac mai trech gwlad nag arglwydd.


Talwrn y Beirdd yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn 7.30pm, 7 Mehefin gyda thimau Crannog/Cwm Gwendraeth/Tryweryn/Llanuwchllyn. Meuryn: y Prifardd Tudur Dylan.

Taith Feiciau yn gadael y Bala fore Sadwrn, 9.00am 8 Mehefin. Manylion pellach am y ddau ddigwyddiad ar y wefan www.llangyndeyrn.org. Cadwch olwg ar hon ar gyfer dathliadau’r hydref.

 

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Materion y Mis - Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?

Ymlaen >

Cyfannu Cylch - Holi Cyfarwyddwr Opera