Thema dywyll Thema golau

UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr

Peidiwch â’m camddeall, braint o’r mwyaf ydi cael sgwennu colofn gyson yn Barn. Wrth gwrs hynny! A gan amlaf, mae’n orchwyl bleserus. Cyfle i rannu rhyw chwiw neu syniad. Cyfle hyd yn oed i neidio ar gefn fy ngheffyl a’i dweud hi am rywbeth neu rywun fu’n dân ar groen. Argian, mae’n gallu bod yn therapiwtig!

Ond mae colofn Mai yn wahanol. Bu honno’n destun angst a phryder i’ch colofnydd. Hynny am un rheswm penodol. Mis etholiadau yw mis Mai. A gan fod Barn yn mynd i’r wasg wythnos neu fwy cyn diwedd mis Ebrill mae colofnydd sy’n honni bod ganddo rywfaint o wybodaeth wleidyddol yn cael ei orfodi i fentro ei enw da. Rhaid ceisio ysgrifennu mewn modd sy’n rhagdybio canlyniad na ellir bod yn gwbl sicr ohono. Gan wybod mai pris cyflawni cam gwag fydd tynnu coes di-baid o gyfeiriad fy nghyd-aelodau o’r frawdoliaeth anoracaidd yr wyf yn perthyn iddo.

Felly diolch i’r drefn am Nigel Farage a Phlaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol.

Bythefnos cyn i etholwyr Môn a Lloegr fentro i’r blychau pleidleisio mae eisoes yn amlwg mai Farage a UKIP fydd yn darparu stori fawr etholiadau lleol 2013. Gyda’r anniddigrwydd yn rhengoedd y blaid Dorïaidd yn amlwg i bawb, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cilio i ddyrnaid o gadarnleoedd, a gyda Llafur yn methu ag argyhoeddi, UKIP sy’n elwa. Er mwyn manteisio ar yr hindda sy’n eu hamgylchynu mae dros 1,700 o ymgeiswyr yn sefyll yn lliwiau’r blaid honno.

Nid oes wybod eto faint yn union ohonynt a gaiff eu hethol. Mae’r polau piniwn (Prydeinig) yn awgrymu y byddai rhwng 10% a 16% yn ystyried bwrw eu croes i Farage a’i griw petai etholiad cyffredinol (Prydeinig) yfory. Nid etholiadau union gyffelyb yw’r rhain, wrth gwrs. Ond yn y 70% o wardiau lle ceir ymgeiswyr UKIP, gellir disgwyl i’r ganran fod yn uwch. Gallai’n hawdd fod lawer yn uwch yn yr ardaloedd hynny yn ne a chanolbarth Lloegr y gellir eu hystyried yn gadarnleoedd i’r blaid. A gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn prysur golli tir yng ngogledd y wlad – a’r Torïaid yn dal i ddioddef sgil-effeithiau etholiadol trychinebus Thatcheriaeth – mae’n fwy na phosib y gwelir ambell i ganlyniad annisgwyl yn yr ardaloedd hynny hefyd wrth i bleidleiswyr chwilio am rywun i herio gafael lleol Llafur.

Dichon y bydd llawer o’r dadansoddi sy’n rhwym o ddilyn y canlyniad yn troi o gylch goblygiadau (honedig) perfformiad UKIP i Cameron, Miliband a Clegg. Ond y tu hwnt i’r penawdau a’r ystyriaethau byr dymor, mae twf UKIP yn arwyddo newid mwy sylfaenol o lawer yng ngwead Lloegr.

* * *

Fis Tachwedd 2012 bu YouGov yn holi sampl gynrychioladol o 3,600 ar draws Lloegr ar ran tîm ohonom ym mhrifysgolion Caerdydd a Chaeredin a’r IPPR. Pwrpas y gwaith oedd casglu tystiolaeth er mwyn gallu ystyried ymhellach y newid agweddau yn Lloegr ar fater datganoli – mater a drafodwyd gyntaf oll yn nhudalennau Barn yn Rhagfyr 2011 cyn derbyn sylw eang iawn yn y cyfryngau Llundeinig. Er nad UKIP oedd y prif ffocws, mae ein hymchwil diweddaraf yn cadarnhau’r modd y mae’r blaid honno’n morio ar don o anniddigrwydd nid yn unig dros natur perthynas Prydain ac Ewrop – sef prif ffocws rhethregol Farage – ond hefyd patrwm llywodraethiant fewnol y Deyrnas Gyfunol ddatganoledig. Yn ddiarwybod iddi ei hun, efallai, tyfodd UKIP yn Blaid Genedlaethol Seisnig. Ac oherwydd hynny, rwy’n tybio nad tân siafins fydd unrhyw lwyddiant a ddaw i’w rhan. Bellach mae’r blaid yn cynrychioli ffrwd ddofn yn y gymdeithas Seisnig. Yn wir, petai Farage a’i gyfeillion yn magu gwell dealltwriaeth o union natur y ffrwd honno, rwy’n weddol sicr y deuai mwy fyth o lwyddiant i’w rhan.

Mae pum pwynt sy’n werth eu tanlinellu.

1. Mae pwysigrwydd hunaniaeth Seisnig (nid Prydeinig) yn Lloegr yn cael ei ddiystyru gan sylwebwyr sy’n dal i feddwi ar symbolau Prydeinig.

Ceir digon o dystiolaeth i gefnogi’r gosodiad yma yn ein harolwg, ond os am gadarnhad digamsyniol gweler yr ‘arolwg’ mwyaf ohonynt i gyd, sef canlyniadau’r Cyfrifiad. Canlyniadau sy’n mynd mor gyfan gwbl groes i’r holl heip yngl?n â Phrydeindod a gafwyd yn haf 2012 fel ei fod wedi cael eu hanwybyddu’n gyfan gwbl, bron, gan y cyfryngau.

Am y tro cyntaf fe holodd Cyfrifiad 2011 am synnwyr neu ymdeimlad dinasyddion o hunaniaeth genedlaethol gan roi cyfle i’r sawl a holwyd nodi pa hunaniaethau cenedlaethol a deimlai’n berthnasol iddynt hwy. A’r canlyniad? Bydd yn rhaid disgwyl am nifer o fisoedd cyn cyhoeddi’r data perthnasol ar gyfer yr Alban ond, wedi gweld y canlyniadau o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, rwy’n gwbl hyderus wrth ddatgan mai dim ond yng Ngogledd Iwerddon – hynny yw y tu hwnt i ffiniau Prydain ei hun – y ceir mwyafrif sy’n teimlo’n Brydeinig! Yn Lloegr, dim ond 29% sy’n teimlo’n Brydeinig (boed hynny’n Brydeinig yn unig neu’n gyfuniad o Brydeinig a Seisnig, dyweder.)

Tabl 1 Cyfrifiad 2011 – Hunaniaethau cenedlaethol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

  Lloegr  Cymru  Gogledd Iwerddon
 Seisnig/Cymreig/Gog Iwerddon yn unig 60 58 21
 Seisnig/Cymreig/Gog Iwerddon unrhyw gyfuniad 70  66  29
 Prydeinig yn unig 19  17  40
 Prydeinig unrhyw gyfuniad 29  26  48
 Gwyddelig yn unig 1  0 25
 Gwyddelig unrhyw gyfuniad 0  0  28

2. Ffenomen Seisnig nid Prydeinig yw gwrth-Ewropeaeth yn Lloegr

O ddarllen y Daily Mail, dyweder, neu’n wir o wrando ar UKIP ei hun, byddai dyn yn taeru mai Prydeindod sydd dan warchae yn sgil aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Ond y ffaith ryfedd amdani yw hyn: po fwyaf Prydeinig mae trigolion Seisnig yn teimlo, po fwyaf cefnogol ydyn nhw i ‘Ewrop’. Y rheini sy’n meddu ar hunaniaeth Seisnig a wêl Ewrop fel bygythiad (gw. Tabl 2).

Tabl 2. Agweddau tuag at aelodaeth y DG o’r Undeb Ewropeaidd fesul hunaniaeth genedlaethol (2012)

  CYFAN  Seisnig nid Prydeinig   Mwy Seisnig na Prydeinig  Cyfartal Seisnig a Phrydeinig Mwy Prydeinig na Seisnig
  Prydeinig nid Seisnig
Peth da
 28  14  24  29  39  45
 Peth drwg 43 64 53 40 31 28
 Ddim yn dda nac yn ddrwg 21 17 18 24 26 20
 Ddim yn gwybod  8 5 5 8 4 7
 N  3,600 545  734   1,405 371  234

3. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng Ewrosgeptiaeth ac anniddigrwydd yngl?n â’r ‘annhegwch’ a grëwyd yn sgil datganoli i’r Alban, yn arbennig.

Mae’r bobl hynny’n sy’n amheus neu’n ddilornus o ‘Ewrop’ hefyd yn anfodlon iawn â’r sefyllfa a grëwyd oddi mewn i ffiniau’r wladwriaeth Brydeinig o ganlyniad i ddatganoli. Yn benodol, mae teimlad fod yr Alban yn cael gormod ar draul Lloegr. Gwelir hynny’n eglur yn Nhabl 3 sy’n cymharu bwriadau pleidleisio mewn refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd ag agweddau pobl at y cwestiwn: a yw’r Alban yn cael ‘cyfran deg’ o wariant cyhoeddus?

Byddai mwyafrif o’r garfan fechan honno sy’n credu bod yr Alban yn cael llai na chyfran deg yn pleidleisio i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd a mwyafrif bychan o’r rheini sy’n credu bod yr Alban yn cael cyfran deg yn gwneud yr un fath. Ond byddai mwyafrif llethol o’r garfan fawr iawn honno sy’n credu bod yr Alban yn cael gormod yn pleidleisio i adael.

Tabl 3: Yr Alban yn cael cyfran deg yn ôl bwriadau pleidleisio mewn refferendwm ar aelodaeth y DG o’r Undeb Ewropeaidd (2012)

 

  Alban yn cael cyfran deg  Alban yn cael mwy na’i chyfran  Alban yn cael llai na chyfran deg
 Aros  44  30  48
 Gadael  42  60  36
 Ddim yn bwriadu pleidleisio 3 2 11
 Ddim yn gwybod 10 8 5
 N 652  1,866 147

4. Mae’r un garfan sy’n deisyfu gweld y DG yn pellhau oddi wrth Ewrop hefyd yn tueddu i fod o blaid gweld Lloegr yn derbyn cydnabyddiaeth fel uned oddi mewn i’r wladwriaeth.

Yr hyn sy’n drawiadol am drigolion Ewroamheus Lloegr yw eu bod – yn groes i’r disgwyl efallai – yn cefnogi newid cyfansoddiadol oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol. Fel y gwelir yn Nhabl 4, o edrych ar y rheini fyddai’n pleidleisio i adael Ewrop, mae llai yn cefnogi’r status quo cyfansoddiadol (14%) nag sy’n cefnogi Lloegr annibynnol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (16%)! Yn wir, mae tri opsiwn ‘Seisnig’ yn fwy poblogaidd na’r drefn sydd ohoni.

Tabl 4. Deisyfiadau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Lloegr yn ôl bwriadau pleidleisio mewn refferendwm ar aelodaeth y DG o’r Undeb Ewropeaidd (2012)

 

  CYFAN  Aros  Gadael  Ddim yn bwriadu pleidleisio
 Lloegr i gael ei llywodraethu fel ar hyn o bryd hefo cyfreithiau wedi eu llunio gan bob AS yn Senedd y DG  22 38 
 14  11
 Cyfreithiau Seisnig wedi eu llunio gan ASau Lloegr yn unig oddi mewn i Senedd y DG 33  30  38  25
 Senedd i Loegr hefo pwerau deddfu 18  15  23  14
 Lloegr yn wladwriaeth annibynnol oddi mewn i’r Undeb Ewropeaidd 4 11 4 8
 Lloegr yn wladwriaeth annibynnol tu allan i’r Undeb Ewropeaidd 8 0 16 6
 Ddim yn gwybod 12 6 6 35
 N 1,774 577  900  78

 

5. Ymddengys fod pobl Lloegr yn gynyddol debygol o weld UKIP fel y blaid sy’n cynrychioli buddiannau Lloegr orau.

Os yw Lloegr yn uned wleidyddol gynyddol bwysig ym meddyliau’r rheini sy’n teimlo fod yr hen Brydeindod yn llithro o’u gafael yn sgil anfadwaith Ewrop a’r cyrion Celtaidd, bydd y gallu i hawlio mantell y blaid sy’n ‘Rhoi Lloegr yn Gyntaf’ yn gynyddol bwysig. Mae’r tabl olaf (5) yn tanlinellu’r modd y daeth UKIP i gael ei hystyried gan ganran gynyddol fawr fel gwarcheidwaid buddiannau Lloegr.

Tabl 5. Pa blaid sy’n amddiffyn buddiannau Lloegr orau?

  Tachwedd 2011 Tachwedd 2012 Ebrill 2013
 Y Blaid Geidwadol  20 16 17
 Y Democratiaid Seisnig 2 2 1
 Y Gwyrddion 2 2 2
 Llafur  21 19 19
 DemRhyddion  4 3 6
 UKIP  9 18 21
 BNP  4 3 2
 Plaid arall  0 0 0
 Dim plaid  23 22 16
 Ddim yn gwybod 15 15 15

* * *

O safbwynt y blaid ei hun, byddai’n synhwyrol i UKIP ddatblygu’n gynrychiolydd mwy hunanymwybodol a llafar i fuddiannau Lloegr. Yn eironig ddigon, un o’r pethau sydd wedi ei rhwystro hyd yma yw dylanwad aelodau UKIP o Gymru sydd wedi gwrthwynebu camau o’r fath yn chwyrn. Yn yr Alban, yn wahanol i Gymru, mae rhyw fath o sail gymdeithasol i UKIP. Ac nid yn unig ymysg y garfan fechan honno o wrth-ddatganolwyr sy’n ymdebygu fwyfwy i’r Empire Loyalists y gellir eu canfod hyd heddiw hwnt ac yma yng ngwledydd yr hen Gymanwlad Wen. Mae’n werth cofio hefyd fod y Cyfrifiad yn dangos fod 11% o boblogaeth Cymru’n eu hystyried eu hunain yn Saeson yn unig o ran eu hunaniaeth genedlaethol. 14% yn Saeson mewn rhyw gyfuniad. Os yw hunaniaeth Seisnig yn newid, teg yw disgwyl y bydd hynny’n effeithio ar y garfan hon. Ac efallai closio at UKIP?

Eto fyth, os bydd rhaid dewis rhwng rhyngu bodd UKIPwyr Ynys Môn neu elwa ar anniddigrwydd y Saeson, go brin y bydd Nigel Farage yn oedi cyn lapio ei hun ym maner Croes San Siôr. A bydd yn rhaid i’r pleidiau eraill ymateb trwy wneud yn union yr un fath.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

O Ewrop - "Cydlyniant" - Gair Arall am Doriadau

Ymlaen >

Dangos dy Liwiau