Thema dywyll Thema golau

Cymru ac Ewrop: Rhwng y Cwn a’r Brain…

Mae deugain mlynedd ers i Gymru ymuno â’r hyn a elwir bellach yn Undeb Ewropeaidd. Yn ddi-os mae Ewrop wedi gadael ei marc ar Gymru yn y cyfamser. Yn y Gymru wledig daeth y CAP bondigrybwyll – yn ei holl haelioni rhyfeddol a’i gymhlethdod trybeilig – yn rhan o wead bywyd. Mae’r Gymru ôl-ddiwydiannol hithau wedi elwa’n fawr o gynlluniau Ewropeaidd sydd wedi eu bwriadu er mwyn adfer ardaloedd o’r fath yn sgil trai terfynol y diwydiannau trymion traddodiadol. Yn wir, gyda llywodraethau San Steffan, boed Lafur neu Geidwadol, wedi hen roi heibio’r syniad fod gweithredu polisi economaidd rhanbarthol ystyrlon yn rhan o briod waith y wladwriaeth, bu Cymru’n ddibynnol iawn ar gronfeydd strwythurol Brwsel.

Mae Cymry hwythau wedi gadael eu marc ar yr Undeb. Bu dau o’r tri Chomisiynydd ar ddeg a enwebwyd ers 1973 gan y Deyrnas Gyfunol yn Gymry, sef Neil Kinnock ac Ivor Richard. (Ganwyd un arall yn Abersychan, ond gan fod ei gefndir yn ffasiwn embaras iddo, caredicach efallai yw peidio â chyfrif Roy Jenkins yn drydydd.) Ond efallai mai’r Cymro a wnaeth y cyfraniad unigol mwyaf pellgyrhaeddol i ddatblygiad yr Undeb yw Hywel Ceri Jones. Mae’r cynllun Erasmus a grëwyd dan ei arweinyddiaeth – cynllun cyfnewid ar gyfer myfyrwyr – wedi gweddnewid yn llythrennol bywydau cannoedd o filoedd o bobl ifanc.

Wedi deugain mlynedd o aelodaeth, beth felly yw agwedd pobl Cymru tuag at yr Undeb? Mewn gair, pragmataidd. Go brin ein bod wedi syrthio mewn cariad hefo sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd na datblygu rhyw arddeliad mawr o blaid integreiddio. Nid y ni’r yw’r ‘Cymry Ewropeaidd’ hyderus a ragwelwyd gan rai delfrydwyr. Ond nid ydym chwaith wedi syrthio’n ysglyfaeth i’r dwymyn Ewrosgeptaidd sy’n nodwedd mor amlwg o wleidyddiaeth gyfoes ein cymdogion Seisnig. Yn hytrach ymddengys fod trwch pobl Cymru’n ystyried ‘Ewrop’ fel haen lywodraethol sy’n gwneud cyfraniad defnyddiol wrth lywio ein cymdeithas. I’r graddau y gwna hynny, rydym yn fodlon ei chefnogi a chydsynio â pharhad ei dylanwad drosom. Yn hyn o beth mae agwedd y Cymry tuag at Ewrop yn debyg i agweddau y rhan fwyaf o genhedloedd eraill gogledd Ewrop.

Ysywaeth, mae’r berthynas sylfaenol bragmataidd hon â’r Undeb Ewropeaidd bellach dan warchae, a hynny o ddau gyfeiriad.

Cyfeiriwyd eisoes at un ohonynt, sef yr agweddau yn Lloegr. Erbyn hyn mae carfan sylweddol o’r boblogaeth y tu draw i Glawdd Offa yn priodoli pob drwg – pob cam gwag mewn polisi cyhoeddus, boed real neu ddychmygol, – i ddylanwad Bwci Bo Brwsel. A bod yn fanwl gywir, ymddengys fod tua un o bob tri o boblogaeth Lloegr yn syrthio i’r categori hwn. Fel y gwelir o’r Tabl, mae 31 y cant o Saeson yn ystyried mai’r Undeb Ewropeaidd sydd â’r dylanwad mwyaf dros y ffordd y rheolir Lloegr (mae’r ffigwr yn codi i 69 y cant ymysg cefnogwyr UKIP!) Mae’r mwyafrif llethol o’r rhain yn dehongli’r dylanwad Ewropeaidd honedig hwn mewn golau cwbl fygythiol a sinistr. Dyma gnewyllyn yr Ewrosgeptiaeth galed sydd bellach yn ddylanwad mor bwysig ar fywyd gwleidyddol Lloegr. Gellir ychwanegu at eu niferoedd garfan ehangach sy’n llai selotaidd ond sydd serch hynny’n negyddol eu hagweddau.

Pan ddaw refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd – a phwy bellach a all amau na ddaw maes o law? – gyda Lloegr yn gartref i fwyafrif llethol etholwyr y Deyrnas Gyfunol, bydd agwedd wahanol iawn pobl Cymru (agwedd sy’n fwy cymesur o’r hanner) yn rhwym o gael ei boddi’n llwyr. Gweler y Tabl er mwyn gweld cymaint y bwlch rhwng agweddau yng Nghymru a Lloegr.

Agweddau tuag at yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru a Lloegr (%)

  CYMRU  LLOEGR

Pleidlais mewn refferendwm

 42 33
 Aros  35 50
 Gadael  22 17
 Ddim am bleidleisio/Ddim yn gwybod 1007 3600
 N  
   
 Efo mwyaf o ddylanwad dros y modd y rheolir Cymru/Lloegr?   
 Awdurdodau Lleol 7 6
 Llywodraeth Cymru  19 --
 Llywodraeth y DG 56 55
 Yr UE 8 31
 Arall -- 2
 Ddim yn gwybod 10 8
 N 2544 3599


Ffynhonnell: Caglwyd y data i gyd gan YouGov. Daw’r data Seisnig o arolwg a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2012. Casglwyd y data Cymreig ar gyfer y cwestiwn cyntaf ym mis Chwefror 2013 ac ar gyfer yr ail yn Ebrill 2011.

 

Ond fel pe na bai hynny’n ddigon o fygythiad ynddo’i hun i’n safle yn Ewrop, ceir hefyd fygythiad o gyfeiriad Brwsel ei hun.

Yn ddi-os mae sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd yn wynebu’r argyfwng mwyaf difrifol yn eu hanes a hynny yn sgil methiant alaethus yr Ewro. Prin mai gormodiaith yw dweud fod cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc yn ne Ewrop ac Iwerddon bellach yn cael eu haberthu ar allor yr ymdrech seithug i greu un arian trawsgyfandirol. Ond a hwythau wedi rhodio mor bell i lawr y llwybr hwn, mae arweinwyr yr Undeb fel petaent yn grediniol nad oes modd troi yn ôl. Yn hytrach maen nhw’n benderfynol o fwrw ymlaen â’u hymdrech i greu undeb arianyddol er mwyn gosod seiliau sicrach i’r arian sengl. Hyd yn oed petai’r ddamcaniaeth fod modd creu undeb o’r fath ar draws diwylliannau ac amodau cymdeithasol ac economaidd mor amrywiol yn gywir – ac a siarad yn bersonol, rwy’n ystyried hynny’n freuddwyd gwrach – y ffaith amdani yw nad oes cefnogaeth ymhlith pobloedd Ewrop i’r camau fyddai’n angenrheidiol er mwyn ei chyflawni. Ond nid yw hynny’n mennu dim ar eu bwriadau. Rhaid wrth undod pellach, costied a gostio. Nid yw’n ddim llai na thrasiedi fod cefnogwyr yr Ewro mor ddi-hid o’r gwerthoedd democrataidd hynny y bu’r Undeb Ewropeaidd ar un adeg yn eu gwarchod mor llwyddiannus.

Petaem yn byw mewn gwlad wahanol, gwell gwlad, byddai Cymru’n codi llais nerthol ond adeiladol yng nghoridorau grym Brwsel o blaid Ewrop sy’n fwy pragmataidd a democrataidd. Ni fyddem ar ein pennau ein hunain chwaith. Ceir gwladwriaethau bychain eraill lle rhennir ein gwerthoedd a’n pryderon, gwladwriaethau sydd am weld newid cyfeiriad. Ond yn lle hynny mae’n rhaid i ni wylio o ymyl y llwyfan, wrth i selotiaid gwrth-ewropeaidd Lloegr fynd benben â gwleidyddion a biwrocratiaid Ewropeaidd sydd yr un mor benstiff a chibddall yn eu hanallu i gydnabod fod prosiect yr Ewro wedi methu.

Do fe gyrhaeddwyd y deugain, ond ar hyn o bryd mae’n anodd dychmygu y bydd Cymru mewn sefyllfa i ddathlu hanner can mlynedd fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd

Ymlaen >

Materion y Mis - Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?