Llwyddodd GBM i ddod o hyd i ddau gogydd Cymreig allan o dri y tro hwn, er fod tai bwyta’r ddau Gymro y tu allan i Gymru. Ond pa le bynnag yr oedd eu bwytai, yr elfen gyson oedd rhywbeth is na’r safon disgwyliedig, er enghraifft menyw gyda chegin llai glân nag un myfyriwr prifysgol, a hurtyn a feddyliodd fod plât coch yn ddoniol. Cafodd y rhanbarthau eu cynrychioli gan restr o’r goreuon – seren Michelin yn erbyn seren Michelin yn erbyn seren Michelin. Pobl o’r fath safon aruchel fel eu bod yn codi’r awydd ynoch i neidio i mewn i’r car a thaflu eich arian i gyd tuag atynt, dim ond er mwyn cael blasu eu bwyd. Ond Cymru? Testun embaras.
Ffrwydrodd Twitter gyda saethau o sarhad tuag at Gymru a’i diffyg cogyddion sy’n ddigon da i gystadlu ar lwyfan ledled Prydain. A dyma fi’n dechrau teimlo’n grac a meddwl: ‘Mae’n rhaid fod gan y wlad ’ma dri chogydd da. Yn rhywle. O’r gorau, chwarae teg, ni allaf ddweud yn bendant – dydw i ddim yn un am fynychu tai bwyta cain. Felly does gen i ddim tystiolaeth i’r gwrthwyneb, ond teimlaf yn fy esgyrn nad yw’r Cymry mor syml, mor isel ei safon, mor gyffredin, mor diddychymyg â hyn!’
Rhywbeth tebyg yw fy nheimladau tuag at raglenni teledu Cymraeg eu hiaith. Wel, efallai y byddai’n gywirach dweud ’mod i’n arfer teimlo hynny, oherwydd mae gen i gyffes. Dydw i ddim wedi gwylio’r un raglen lawn ar S4C ers Nadolig 2009. Penderfynais roi’r gorau i’r Sianel a’i rhaglenni bryd hynny gan fod y safon mor wael a’r rhaglenni mor ddiddychymyg.
Corau a ffermwyr, a phobl a gollodd y gallu i fod yn cwl rywbryd tua 1989, wedi’u gwau â hiwmor sy’n dechrau, sy’n dirwyn ymlaen, ac yn gorffen gyda thafodiaith. Hyn fyddwn i’n ei weld bob tro y gorfodwn fy hun i geisio dioddef rhaglen ar S4C. Ystrydebau o ryw Gymry a fu, neu na fu erioed. Teimlwn yn fy esgyrn fod gan Gymru y gallu i wneud yn well na hyn, ond allwn i ddim gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r teimlad. Felly, peidiais â gwylio.
Yna, yn ddiweddar, gofynnwyd imi roi cynnig ar ysgrifennu colofn deledu Barn. Ie, ar y wyneb, nid yw’n gwneud synnwyr: yfi, a gafodd lond bol ar deledu Cymraeg, yn ysgrifennu am yr hyn sy’n digwydd ar deledu Cymraeg? Pam?
Wel, pam lai? Mae gennyf brofiad o weithio yn y byd teledu. Arferwn fod yn gynhyrchydd, ’n ôl yn yr Unol Daleithiau. Ond, yn bwysicach, ’dw i ddim eisiau teimlo mor negyddol tuag at gyflwr y celfyddydau teledol yng Nghymru. ’Dw i eisiau canfod y dystiolaeth fyddai’n codi ’nghalon nad yw pethau mor wael â hynny.
Ond y cwestiwn sy’n codi wrth ddod at raglenni Cymraeg yw: sut mae eu gwylio? Hynny yw, pa safonau ddylwn i eu defnyddio wrth wylio teledu Cymraeg? Tybed ai’r un safonau y dylwn eu disgwyl wrth wylio teledu Saesneg? Neu a ddylwn ostwng fy safonau? Neu, a ddylwn ddisgwyl i’r rhaglenni fod yn well?
Mae dadl dros ostwng eich safonau. Clywsoch, mae’n siwr, y geiriau: ‘O, mae Cymru mor fach...’
Dyma gaiff ei ddweud bob tro y byddwch yn mentro beirniadu elfen o’r bywyd Cymreig. Cerddoriaeth bop sydd heb symud ymlaen ers degawd a hanner / llenyddiaeth sy’n sownd yn yr un pynciau ers dyddiau Saunders Lewis / teledu ofnadwy – ie, bydd yr amddiffynwyr yn tynnu sylw at faintioli’r wlad a’i phoblogaeth fel esboniad. Yr awgrym, felly, yw: dylwn newid fy nisgwyliadau. Dylwn ddatblygu diffiniad newydd o’r hyn sy’n ‘dda’ er mwyn gwerthfawrogi cynnyrch Cymraeg.
Mae’n anodd gwneud y fath beth. Ac ni fyddwn eisiau gwneud hynny. Carthion yw carthion, waeth pa anifail y daethant allan ohono. Ac, fel y dywedais, teimlaf yn fy esgyrn nad yw pethau mor wael mewn gwirionedd. Efallai bod y wir dawn yn cael ei hanwybyddu. Wn i ddim. Chreda’ i ddim na all Cymru ddatblygu teledu sydd cystal â’r hyn sydd ar gael yn Saesneg. Ond ni welwn i dystiolaeth i brofi hynny.
Tra bod rhai, ar y naill law, yn awgrymu y dylai’r gwyliwr ostwng ei safonau er mwyn mwynhau S4C, gellid dadlau ar y llaw arall bod gan y Sianel ddyletswydd i gynhyrchu rhaglenni sydd o well safon na’r hyn a welir yn Saesneg.
Mae gwylio teledu, o hyd, yn brofiad ‘cymunedol’ mewn teulu. Ac yn y Gymru sydd ohoni (y Gymru na châi ei chynrychioli ar S4C), prin yw’r teulu gyda phob aelod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Felly efallai bod gan S4C faich ychwanegol, sef sicrhau bod ei rhaglenni o safon digon uchel i oresgyn anawsterau ieithyddol.
Tybed pa raglen fyddai’n cyrraedd y fath nod uchelgeisiol? Ni wn. Efallai nad yw’n deg awgrymu rhywbeth mor heriol. Wedi’r cyfan, buaswn yn hapus petai rhaglen yn llwyddo i gyrraedd y safonau rwy’n eu defnyddio gyda’r celfyddydau mewn ieithoedd eraill.
Ac efallai bod rhaglenni Cymraeg yn cyrraedd y safon hynny bellach. Cawn weld; rydw i’n awyddus i ddod yn ôl at deledu yn y Gymraeg. Ac yn gobeithio, hefyd, na chaf fy siomi.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
