Thema dywyll Thema golau
Dangos dy Liwiau
Mewn undod mae nerth? Heddlu cenedlaethol newydd yr Alban
Cwrs y Byd - RS

Mewn undod mae nerth? Heddlu cenedlaethol newydd yr Alban


Aeth y Prif Gwnstabl Stephen House allan ar batrôl ar hyd strydoedd Caeredin yn ystod oriau olaf nos Sul, 31 Mawrth. Roedd yn briodol meddai, ei fod yn cychwyn ei swydd newydd fel Prif Gwnstabl, a chyfnod newydd yn hanes plismona yr Alban, ar strydoedd y brifddinas. Funudau yn ddiweddarach, ar 1 Ebrill, daeth yr wyth llu a fu’n gyfrifol am blismona yr oll o’r Alban at ei gilydd yn swyddogol i greu un llu newydd cenedlaethol a’r ail lu mwyaf yng ngwledydd Prydain, sef Police Scotland, neu, mewn Gaeleg, Seirbheis Phoilis na h-Alba.

Dim ond ffwl, fodd bynnag, fuasai’n dadlau mai dyhead i ddiwygio a gwella’r gwasanaeth ar sail datblygiadau technolegol a chymdeithasol sydd wrth wraidd yr uno. Yn hytrach, yr angen i ad-drefnu sydd yn gyfrifol am yr holl newid, a hynny’n bennaf oherwydd rhesymau cyllidol.

Dyma’r tro cyntaf i’r patrwm plismona newid yn yr Alban ers 1975, pan gwtogwyd nifer y lluoedd o 19 i 8. Mae Llywodraeth yr Alban yn disgwyl y bydd y cynllun yma i greu un llu yn arbed £1.7 biliwn dros y 15 mlynedd nesaf ond yr un pryd yn cadw at yr addewid gwleidyddol i gadw mwy o heddlu rheng-flaen nag erioed.

Does ryfedd fod y gweithwyr sifil sy’n gweithio i’r heddlu yn bryderus. Heddiw mae dros 17,000 o swyddogion a 6,500 o weithwyr cefnogol yn gweithio i Police Scotland ac mae Stephen House eisoes wedi cyhoeddi y bydd swyddi hyd at 3,000 o’r gweithwyr yma yn diflannu yn y dyfodol.

Bydd raid i blismona, meddai, ‘gostio llai yn y dyfodol’ a phwysleisiodd y bydd hyn yn digwydd ‘fwy na thebyg oherwydd y diswyddo gwirfoddol ac ymddeol yn gynnar a ddaw yn naturiol yn dilyn pennu swyddi lle mae yna beth dyblygu dyletswyddau neu lle nad oes angen gwneud y gwaith o gwbl erbyn hyn’.

Dyw’r gwleidyddion ddim yn debygol o fynd allan o’u ffordd i gefnogi’r gweithwyr sifil yn ymarferol. Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder y Llywodraeth, Kenny MacAskill, wedi dweud droeon ei fod yn benderfynol o gynnal a chadw’r mil o swyddogion ychwanegol sydd wedi cael eu cyflogi a’u hanfon i’r rheng flaen ers 2007. Mae o hefyd yn mynnu na fydd yna ddiswyddo gwirfoddol ymhlith y gweithwyr sifil, sydd wrth gwrs yn gyfaddefiad, fwy neu lai, y bydd yna, cyn bo hir, lai o weithwyr cefnogol yn gweithio i’r llu newydd.

Mae undeb UNSAIN, sy’n cynrychioli staff sifil yr heddlu, wedi dweud mai cam yn ôl fydd cael gwared â chymaint o swyddi cefnogol. ‘Bydd torri 2,000 o staff yr heddlu yn mynd â phlismona yn yr Alban yn ôl i’r saithdegau,’ meddai Dave Watson, pennaeth bargeinio ac ymgyrchoedd yr undeb. ‘Fe fydd yn union fel y rhaglen deledu Life on Mars ond go iawn – nid mewn drama deledu. Dyw torri ar staff yr heddlu yn gwneud dim synnwyr economaidd na synnwyr plismona – mae’n golygu y bydd swyddi pwysig ac arbenigol yn gorfod cael eu gwneud gan swyddogion yr heddlu.’

Mae’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn cytuno ac felly hefyd, i raddau, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Alban, ACPOS, a Chymdeithas y Prif Uwch Arolygwyr. Bydd rhaid cynnal rhai swyddi sifil, meddai’r Prif Gwnstabl Kevin Smith, pennaeth ACPOS, neu fe fydd hyn yn cael effaith ar blismona rheng-flaen. ‘Yna,’ meddai, ‘fe fyddwn ni yn yr hen sefyllfa hurt o orfod tynnu cops oddi ar y stryd.’

A beth am Ffederasiwn yr Heddlu, undeb y swyddog cyffredin? Maen nhw’n bryderus iawn y bydd unrhyw doriadau cyllidol yn achosi cynnydd sywleddol mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth i swyddogion gael eu gosod y tu ôl i ddesg yn hytrach nag ar y stryd.

Mae’r cwestiwn pwy ddylai gael rheoli’r gweithwyr sifil yma wedi achosi cryn anghytuno yn barod rhwng y Prif Gwnstabl Stephen House a Chadeirydd Awdurdod newydd Police Scotland, Vic Emery. Mae’r ddau yn credu mai nhw ddylai fod yn gyfrifol am adnoddau dynol a chyllid yn ogystal â ffawd y gweithwyr sifil. Maen nhw bellach wedi cytuno i anghytuno – a rhannu’r dyletswyddau.

Ar y llaw arall roedd esgid fach – neu esgidiau hoelion mawr yn hytrach – yr hen luoedd yn gwasgu ers blynyddoedd yn yr Alban, fel ag ym mhob llu arall yng Nghymru a Lloegr. Roedd heddlu Strathclyde, sef y llu mwyaf, a hen lu Stephen House ei hun, yn wynebu diffyg sylweddol yn y gyllideb yn y flwyddyn ariannol 2010–11 er gwaetha’r ffaith ei fod wedi derbyn cynnydd o 3.1% yn yr arian oddi wrth Lywodraeth yr Alban. Roedd aelodau pob Awdurdod yr Heddlu hyd yn oed bryd hynny yn gwybod ac yn derbyn mai mynd o ddrwg i waeth fuasai pethau oherwydd y dirwasgiad economaidd.

Cyndyn iawn, fodd bynnag, oedd yr Awdurdodau i ildio awenau plismona lleol gan gredu na allai un llu, wedi’i ganoli yng nghyffiniau Caeredin, gynrychioli cymunedau mor wahanol i’w gilydd ag ardaloedd difreintiedig Glasgow ac ynysoedd ac ucheldir y gogledd. Wrth i’r mesur i greu’r llu cenedlaethol ddod gerbron y gwleidyddion yn Holyrood, mynegodd sawl un bryderon cyffelyb.

Roedd Cymdeithas Awdurdodau Lleol yr Alban, COSLA, yn poeni’n arw y byddai uno’r lluoedd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r heddlu fod yn atebol ar lefel leol gan ddadlau bod modd gwneud yr un arbedion trwy ailstrwythuro oddi mewn i’r wyth llu.

Ar y llaw arall doedd Audit Scotland, y corff sy’n arolygu gwariant cyhoeddus ac Arolygwyr yr Heddlu, ddim yn hael eu canmoliaeth i’r cynghorwyr a oedd yn aelodau o’r hen Awdurdodau Heddlu mewn adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Roedd yna arwyddion pendant, yn ôl yr adroddiad, fod swyddi cefnogol yn cael eu gwneud eisoes gan swyddogion ac nad oedd y cynghorwyr wedi cael digon o hyfforddiant ar sut i ddal y lluoedd yn atebol am wariant. Ychwanegwyd fod arweinyddiaeth a sgiliau craffu’r aelodau hefyd yn wantan er eu bod yn ymwybodol iawn o anghenion plismona lleol.

A beth am y gwleidyddion? Roedd y Ceidwadwyr yn erbyn yr uno o’r cychwyn cyntaf gan ddweud y buasai ethol Comisiynwyr lleol, yn debyg i’r cynllun sydd erbyn hyn ar y gweill yng Nghymru a Lloegr, yn llawer mwy effeithiol. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn pryderu am sgil-effeithiau’r holl ganoli gan ddadlau nad yw canoli, er mwyn cael arbedion maint, o reidrwydd yn golygu arbed arian. Roedd y Blaid Lafur yn gefnogol i’r egwyddor ond yn amheus iawn o fanylion y cynllun.

Bwrw ymlaen a wnaeth Llywodraeth yr SNP beth bynnag, gan greu patrwm cenedlaethol o blismona sydd, yn eu tyb nhw, yn mynd i arbed arian a gwarchod yr egwyddor o blismona lleol.

Bellach mae yna 14 rhanbarth lleol dan arweiniad Prif Uwch Arolygwyr yn yr Alban ac fe fydd yna gynllun plismona lleol ar gyfer pob un o’r 373 o wardiau llywodraeth leol ar hyd a lled y wlad a fydd hefyd yn adlewyrchu’r blaenoriaethau cenedlaethol. Fe fydd tri o’r Prif Gwnstabliaid Cynorthwyol newydd yn uniongyrchol gyfrifol am y dwyrain, y gorllewin a’r gogledd.

Mae yna hefyd bellach adrannau a fydd yn gweithredu’n genedlaethol. Bydd yr Adran Trosedd Arbenigol yn ymdrin â throseddau fel llofruddiaethau, trais a chyffuriau ac er y bydd yn cael ei rheoli yn genedlaethol bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n lleol. Bydd llofruddiaethau, er enghraifft, yn cael eu hymchwilio gan dri thîm yn nwyrain, gorllewin a gogledd yr Alban a gweddill y troseddau arbenigol yn cael eu hymchwilio yn y rhanbarthau.

Yn yr un modd, bydd priffyrdd yn cael eu plismona yn genedlaethol o hyn allan – nid o fewn ffiniau’r hen luoedd. Mae yna hefyd adrannau cenedlaethol cyffelyb yn plismona troseddau cyfundrefnol, a hefyd cefnogaeth weithredol.

Yn cadw llygad ar hyn oll bydd awdurdod Police Scotland, a fydd, yn ôl y cadeirydd, y dyn busnes Vic Emery, yn llawer mwy trylwyr wrth alw’r llu i gyfrif am eu gwaith nag yr oedd aelodau’r hen awdurdodau.

Mae’r Prif Gwnstabl Stephen House yn grediniol na fydd hi’n hir cyn y bydd lluoedd yn uno yng Nghymru a Lloegr hefyd wrth i gostau cynnal pob un o’r 43 llu presennol gynyddu y tu hwnt i bob rheswm. Yng Nghymru, mae’n bur debyg y gallasai hyn ddigwydd yn naturiol os caiff y gofal am blismona ei ddatganoli.

Mae’r galw am weld hyn yn digwydd wedi cryfhau’n ddiweddar gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn awgrymu’r union syniad yn ei gyflwyniad fel rhan o adroddiad i Gomisiwn Silk.

‘Yr heddlu a chyfiawnder troseddol yw’r unig wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli i Gymru. Mae’r status quo wedi dod yn anodd iawn ei gyfiawnhau. Dylid datganoli’r heddlu erbyn hyn,’ meddai.

Pe digwydd hynny, tybed a fydd geiriau golygyddol The Scotsman yn cael eu gwireddu yma ac y gwelwn y pedwar llu Cymreig hefyd yn uno?

‘Ni all yr heddlu eu hysgaru eu hunain oddi wrth yr angen i ddiwygio, ailstrwythuro a gwneud y gorau o’r newidiadau mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu er mwyn arbed arian i’r trethdalwr. Gall aros heb newid olygu sicrhau parhad rhwydwaith o flaenoraethau pitw, cecrus.’

Amser, heb unrhyw amheuaeth, a ddengys.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dangos dy Liwiau

Ymlaen >

Cwrs y Byd - RS