Thema dywyll Thema golau

De Affrica: Dagrau Rhyddid

Mae De Affrica yn wlad llawn gwrthgyferbyniadau. Mae ganddi harddwch naturiol mawreddog ond hanes cythryblus a brwnt. Mae yna gyfoeth a moethusrwydd crand ond mae yna hefyd bobl sy’n cael trafferth byw o ddydd i ddydd. Mae’n wlad sydd ag enw drwg am droseddau a thrais ac eto mae diwylliannau lleol yn pwysleisio pwysigrwydd parchu eraill. Mae’r wlad lle gwnaed y trawsblaniad calon cyntaf yn ceisio ymdopi ag effeithiau brawychus pandemig HIV/AIDS. Mae’r gymdeithas a holltwyd yn nyddiau apartheid yn uno i ddathlu llwyddiannau chwaraeon, fel Cwpan y Byd rygbi a phêl-droed.

Er bod economi De Affrica ymhlith y mwyaf llewyrchus (y 25ain economi fwyaf yn y byd), mae yna anghyfartaledd syfrdanol rhwng y tlawd a’r cyfoethog, rhwng y duon a’r gwynion. Mae dros 40% o’r boblogaeth o bron 50 miliwn yn byw ar lai na $2 y dydd. Yn y maestrefi ar gyrion dinasoedd fel Cape Town, mae pobl yn dal i fyw mewn tai haearn simsan heb ddwr, toiledau na thrydan. Os yw eich cartref yn digwydd bod yma, gallwch ddisgwyl byw hyd at 47; ei chael hi’n anodd pasio arholiadau ysgol; aros yn hir am driniaeth feddygol mewn ysbytai gorlawn a budr. Ewch i’r ardaloedd mwy cyfoethog ac mae’r disgwyliad oes yn codi i 72; bydd eich cartref bron yn sicr wedi’i ddiogelu â muriau uchel a ffens drydanol; cewch addysg a gofal meddygol preifat o’r safon uchaf.

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Ne Affrica ers y 1970au a hynny ar y cyd â mudiadau eraill. A ninnau’n sôn am y wlad sydd â’r nifer uchaf o bobl sydd wedi’u heintio â HIV (tua 5.7 miliwn), prin ei fod yn syndod fod llawer o’r partneriaid hynny yn ymwneud â’r rhai y mae’r firws yn effeithio arnynt.

Un o’r mudiadau hyn yw Wola Nani (www.wolanani.co.za) a ddechreuodd weithio yn Cape Town yn 1994. Mae’r pwyslais wedi newid dros y blynyddoedd o ofalu am gleifion oedd yn marw i gefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i fyw bywyd llawn ac iach. Mae’r siwrnai wedi bod yn hir ac anodd, yn enwedig gan fod llywodraeth De Affrica, dan arweinyddiaeth Thabo Mbeki ar ddechrau’r ganrif hon, wedi gwadu mor hir bod HIV yn achosi AIDS ac felly heb gymryd y camau angenrheidiol i geisio rheoli’r epidemig a sicrhau bod triniaeth ar gael i’r rhai oedd ei angen. Mae’r driniaeth anti-retro viral (ARV) ar gael am ddim bellach ac mae tua 66% o’r rhai sydd angen triniaeth yn ei dderbyn.

Mae rhageln Wola nani yn helpu plant sy'n HIV+

Yn 2010, yn dilyn sawl ymweliad â De Affrica dros y blynyddoedd diwethaf, treuliais chwe mis yn gweithio i Wola Nani yn gofalu am eu rhaglen i blant amddifad a bregus. Mae sawl elfen i’r gwaith: cynllun creu incwm sy’n hyfforddi unigolion i wneud crefftau megis powlenni papier-mâché a bylbiau golau addurnedig; cymorth a chynghori trwy ysbytai, clinigau meddygol a chanolfannau yn y maestrefi; rhaglen i blant; ac athrofa ymchwil a hyfforddi a sefydlwyd yn 2010.

Mae dros 50, gwragedd yn bennaf, yn ennill incwm sefydlog trwy werthiant byd-eang y crefftau maen nhw’n eu cynhyrchu. Gweithio o adref maen nhw, yn prynu’r deunydd i wneud y nwyddau eu hunain gan werthu’r cynnyrch gorffenedig i Wola Nani.

Un wraig sy’n elwa o’r cynllun yw Ruth. Mae sawl blwyddyn bellach ers i’w gwr farw o salwch yn deillio o HIV. Trwy ei dagrau eglurodd wrthyf sut y chwalwyd ei bywyd wedi ei farwolaeth. Symudodd o Johannesburg gyda’i dau fab, heb arian nac incwm, at deulu yn Cape Town. A hithau’n HIV+ hefyd, daeth i glywed am Wola Nani a dechreuodd fynychu grwp cymorth i bobl sy’n HIV+. O fod yng nghwmni eraill oedd yn cario’r firws a chael cyfle i siarad am broblemau a rhannu cyngor, fe ddychwelodd yr awydd i fyw. Dysgodd sut i wneud y crefftau ac, fel y crefftwyr eraill, mae’n ennill hyd at £300 y mis ar gyfartaledd. Mae’n llawn gobaith am y dyfodol gan weld ei mab hynaf yn mynd i’r brifysgol maes o law a chyfle iddi hithau symud allan o’i chaban i gartref mwy cysurus cyn hir.

Dywedodd Ruth na fyddai hyn yn bosib oni bai am Wola Nani.

A dyna roeddwn i’n ei glywed yn gyson – bod Wola Nani wedi trawsnewid bywydau pobl a’u bod nhw, o ganlyniad, yn teimlo’n ddyledus i’r mudiad. Yn wir, mae nifer helaeth o staff y mudiad yn bobl sy’n byw gyda HIV, yn wreiddiol wedi mynd at Wola Nani am gymorth a bellach yn teimlo’r awydd i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Nid yw’r system yma heb ei phroblemau. Gan fod safonau addysg yn isel yn y cymunedau croenddu, gall ysgrifennu a chyfathrebu yn Saesneg fod yn anodd iddynt. Roedd cofnodi gwybodaeth wrth ymweld â chartrefi’r plant yn gur pen bob tro (i mi ac iddyn nhw), gydag oedran a rhyw ambell i blentyn yn newid o un mis i’r llall. Creu dyfodol sefydlog yw nod y rhaglen i blant. Mae dros 400 yn derbyn cymorth gan Wola Nani yn fisol – rhai wedi colli rhiant oherwydd HIV, rhai yn HIV+ eu hunain, pob un yn agored iawn i’r peryglon sydd o’u hamgylch yn y maestrefi. Mae gan Wola Nani ganolfan mewn tair maestref lle mae’r plant yn ymgynnull ar ôl ysgol bedwar diwrnod yr wythnos. Yn ogystal â chael phryd bwyd maethlon, cânt eu haddysgu am bynciau megis trais rhywiol a thrais yn y cartref, cyffuriau, alcohol a HIV. Roeddwn i bob tro yn synnu bod y plant yn gweld drama am ferch yn cael ei threisio yn ddoniol, ond mae trais o’r fath yn beth mor gyfarwydd i’r plant nes bod gweld cyflwyniad dramatig o’r profiad fel petai’n cynnig ymryddhad, dros dro, rhag teimladau poenus sydd ynghudd. Mae’r plant hwn yn derbyn cymorth gwaith cartref ac mae hyfforddiant ar gael i’r oedolion hynny sydd yn gofalu am y plant amddifad. Yn bennaf, mae’r canolfannau yn llochesi diogel i’r plant allu dianc iddynt am ychydig oriau bob wythnos, rhywle iddynt gael y rhyddid i fwynhau bod yn blant a chael cariad diamod.

 Rhai o'r plant sy'n cael cymorth gan Wola Nani.

Roedd nifer o’r profiadau a’r storïau a glywais yn anodd i mi eu derbyn. Ar ddiwedd pob dydd byddwn i’n mynd adref i fflat foethus yng nghanol Cape Town, lle’r oedd y rhent misol yn fwy na chyflog dau o’r staff yn fy nhîm. Allwn i ddim llai na theimlo euogrwydd am yr holl eiddo sydd gen i, yn enwedig pan fyddwn yn eistedd mewn caban un ystafell ac eiddo teulu cyfan i’w weld o flaen fy llygaid. Anghyfiawnder yw bod plant yn gorfod brwydro dros y darnau bach o fwyd sydd dros ben wedi iddynt fwyta, o bosib, yr unig bryd bwyd a gânt y diwrnod hwnnw. Pam fod rhaid i oedolion benderfynu y byddai’n well ar y plant yma a’u teuluoedd pe byddent yn stopio cymryd triniaeth ARV, gan beryglu eu bywydau, yn y gobaith o dderbyn grant anabledd misol gan y llywodraeth sy’n werth llai na £100?

Yn yr areithiau ffarwel, fe wnaeth dwy o’m cydweithwyr gyfaddef eu bod, pan ddechreuais i ar y gwaith, yn meddwl ‘Pwy yw’r dyn gwyn yma i ddweud wrthon ni beth i’w wneud?’ Wrth deithio bron yn ddyddiol i’r maestrefi, lle na fyddai’r gwynion yn mentro’n aml oni bai eu bod ar daith i ymwelwyr, fe ddeuthum yn boenus ymwybodol o liw fy nghroen – wrth gerdded rownd yr archfarchnad; cael fy nghyfarch fel ‘boss’; a rhai o’r plant yn cwestiynu pam mai person gwyn o dramor oedd y rheolwr. Mae hil a lliw croen yn parhau i fod yn bwnc llosg yn y wlad, gyda drwgdeimlad ac ansicrwydd rhwng y gwahanol grwpiau. ‘Oes yna broblem AIDS yma?’ gofynnodd bachgen 19 oed, cyfoethog a gwyn – un y deuthum maes o law i rannu fflat ag ef. ‘Sai’n delio gyda’r dyn gwyn!’ oedd ymateb perchennog tacsi wedi camddealltwriaeth dros ffi ar gyfer cludo’r plant i weithgareddau y tu allan i un o’r maestrefi. Un yn gwbl anwybodus o broblemau sy’n effeithio ar bobl ei wlad ei hun, a’r llall yn ymateb i ddegawdau o gael ei reoli a’i israddio gan system ormesol.

Mae nifer o’r problemau y deuthum i ar eu traws yn ystod fy amser yn Ne Affrica yn rhai digon cyffredin yma yng Nghymru – trais, cyffuriau, alcohol, HIV – ond ar raddfa lawer iawn yn llai. Mae tlodi’n gwneud y sefyllfa’n saith gwaeth. Er mwyn mynd i’r afael â HIV rhaid dileu tlodi. Ond mae HIV hefyd yn achosi tlodi, fel yn achos Kaandi, oedd yn ymgynghorydd bwyd gyda Woolworths (siop debyg iawn i Marks & Spencer) nes iddi fynd yn sâl oherwydd HIV. Yn ddi-waith a dihyder, mae hi, fel Ruth o’i blaen, yn gorfod ailadeiladu ei bywyd a Wola Nani yn ei helpu drwy’r broses.

Mae De Affrica yn wlad gyfoethog a chanddi gronfeydd sylweddol o fwynau gwerthfawr megis platinwm, manganîs ac aur. Fel yng nghyfnod apartheid, nifer fach o bobl sy’n elwa o’r diwydiannau hyn. Mae’r cwmnïau rhyngwladol yn llwyddo i osgoi talu trethi trwy wneud cytundebau cudd a chamgyfrifo. Dim ond 5.5 miliwn o bobl yn Ne Affrica sy’n talu treth incwm, gan fod cyflogau mor isel a diweithdra mor uchel. Mae yma fwy o bobl yn byw gyda HIV nag sy’n talu trethi, felly mae’r arian sy’n ddyledus gan gwmnïau rhyngwladol yn hanfodol i ddatblygiad pellach y wlad.

 Gwaith crefft sy'n fodd o greu incwm i'r gwragedd sy'n cael cymorth gan Wola Nani.

Rhwng 2002 a 2005, allforiwyd gwerth $620 miliwn o fwynau yn ddi-dreth o Dde Affrica i’r Unol Daleithiau. Mae’r weinyddiaeth dreth yn Ne Affrica yn fwy effeithiol o gymharu â gwledydd eraill yn Affrica. Serch hynny, roedd pasio Deddf Breindaliadau Mwyngloddio yn broses hir a llafurus wrth i’r cwmnïau cloddio ddangos eu nerth er mwyn cyflwyno newidiadau er eu lles ariannol nhw. Daeth y ddeddf i rym yn 2010 ac mae’r newidiadau yn debygol o gostio cannoedd o filiynau o ddoleri i’r economi.

Am bob $10 o gymorth sy’n cael ei dalu i wledydd tlawd, mae $15 yn gadael gan fod cwmnïau yn llwyddo i osgoi talu trethi. Gall hyn fod yn werth cymaint â $160 biliwn y flwyddyn – swm sylweddol a allai godi miliynau o bobl allan o’u tlodi a rheoli’r pandemig HIV. Dyna pam fod Cymorth Cristnogol yn galw am system dreth ryngwladol fyddai’n golygu bod cwmnïau rhyngwladol yngorfod cofnodi’r elw y maen nhw’n ei wneud ym mhob gwlad lle maen nhw’n gweithredu, a’i gwneud hi’n anoddach cuddio arian mewn hafanau treth ac osgoi talu’r hyn sy’n ddyledus.

Rydyn ni’n byw mewn byd llawn gwrthgyferbyniadau, lle mae gan rai ddigon ond lle mae eraill heb ddim. Mae hyn yn sicr yn amlwg yn Ne Affrica. Rydyn ni’n gwybod hyn oll. Ond a oes gennym yr awydd i newid pethau?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ta Ta Meic?

Ymlaen >

Teimlo Fel Brenin