Thema dywyll Thema golau

Dic yr Hendre

Parodd ei farwolaeth i don o hiraeth sgubo dros Gymru. Synhwyrwyd yn reddfol ein bod, ym marwolaeth Dic, wedi colli Cymro hynod.Yn ffigwr cenedlaethol o bwys – er nad oedd arlliw o’r pwysigyn ar ei gyfyl – roedd o uwchlaw popeth yn ddyn ei filltir sgwâr. Testun balchder iddo oedd hynny. Gwyddai o’r gorau mai cymdeithas amaethyddol ddiwylliedig Gymraeg Sir Aberteifi – ei chymdogaeth dda a’i chastiau – oedd wedi ei wneud o yr hyn ydoedd. Diau y byddai un a gafodd ei gynysgaeddu â’r fath ddoniau wedi gwneud ei farc ble bynnag y byddai wedi cael ei fagu. Ond nid yr un Dic fydda fo wedi bod heb ei athro barddol Alun Jeremiah Jones (Alun Cilie). Gellir bod yn sicr hefyd nad yr un Dic fydda fo wedi bod heb y gymdeithas o feirdd ffyrnig o gystadleuol a rhyfeddol o ddawnus a ddisychedai yn y Pentre Arms yn Llangrannog. Lol yw cyfeirio at Dic fel dyn digoleg. Chafodd yr un bardd erioed well coleg na Dic. Yn y gymdeithas honno y dysgodd grefft cerdd dafod. Ond yn ogystal â’r grefft roedd gan Dic bob amser rywbeth gwerth ei ddweud. Grymuso’r dweud hwnnw fyddai ei feistrolaeth ef o’r gynghanedd yn ei wneud, nid addurno ystrydebau.

Ar ei orau roedd o’n gwbl gyfareddol. Nid meidrolyn cyffredin sy’n gallu rhoi mynegiant syfrdanol o gofiadwy i dreigl y tymhorau ac i freuder a gorfoledd bywyd fel y gwnaeth Dic. Dwn i ddim sut mae esbonio’r peth. Mae’r Gwyddelod yn hoffi dweud bod yr angylion wedi cusanu pobol o’r fath. Y cyfan a wn i yw hyn: er mor hoff yw beirdd Sir Aberteifi o’r disgrifiad ardderchog gweithio englyn neu weithio cân, mae mwy iddi na hynny yn achos y gwirioneddol athrylithgar. Clywais Dic yn dweud bod rhai o’i linellau mwyaf cofiadwy wedi ei ‘gyrraedd’ yn ddisymwth o rywle, bron heb yn wybod iddo. Dwi ddim yn ceisio honni nad oedd Dic byth yn gorfod ymlafnio i loywi a mireinio ei linellau. Ond cyfaddefai fod yn well ganddo gyfansoddi yn ei ben yn hytrach nag ar bapur. Clywed y gynghanedd fyddai Dic Jones yn ei wneud nid chwilio ar bapur am gyfatebiaeth ac ati. A’r clywed hanfodol hwnnw sydd i gyfrif, decini, am y ffaith mai un o nodweddion pennaf ei arddull yw’r modd y mae ei linellau’n canu.

Wrth feirniadu’r Gadair ym Mhrifwyl Machynlleth yn 1981 mae o fel petai’n cadarnhau hynny. Yn lle gwawdio bardd gwanaf y gystadleuaeth mae Dic yn ei annog i ‘ddarllen barddoniaeth gaeth yn uchel iddo ei hun, er mwyn iddo gael ymglywed â’r acenion a’r cytseiniaid yn galw ar ei gilydd. Neu’n well byth ymuned â pharti cerdd dant iddo gael boddi ei hun yn rhythmau’r meistri, ac o dipyn i beth efallai, ddod i’w hefelychu. Achos efelychu yw tad pob crefft, a chrefft yw mam celfyddyd.’  

Daeth yn amlwg, fodd bynnag, fod Dic ei hun wedi hen roi’r gorau i efelychu pan enillodd y Gadair efo’i awdl ‘Cynhaeaf’ yn Aberafan yn 1966 ac yntau’n ddim ond 32 oed. Mae’n werth atgoffa’n hunain o’r ganmoliaeth a gafodd Dic ar y pryd gan Thomas Parry o bawb: ‘Os bu rhywun erioed yn haeddu cadair ac arian a chlod, y mae Bryn Coed (ffugenw Dic) yn eu haeddu. Ond ei wobr bennaf fydd gwybod ei fod wedi ysgrifennu cerdd sy’n gampwaith, a boed i ninnau oll ddiolch iddo yn wylaidd amdani – ac erfyn am ragor o’i chyffelyb.’

Nid yn ofer yr erfyniodd Thomas Parry. Fe gawsom ni ‘ragor o’i chyffelyb’ gan Dic. Do, droeon. Ni wn am neb a fu’n cyfoesi efo Dic a ganodd gymaint o gerddi y gellir sôn amdanynt ar yr un gwynt â goreuon y Gymraeg drwy’r oesau. Os yw marwnad Lewys Glyn Cothi i’w fab pum- mlwydd Siôn y Glyn yn cael ei hystyried yn un o glasuron yr iaith, onid ellir eisoes ddweud yr un peth yn union am alarnad ysblennydd Dic ar ôl Esyllt ei faban tri mis oed? Yr un sy’n cloi efo’r llinell ysgytiol, ‘Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth’. Ychwanegaf ‘os’ arall. Os yw Lewys Glyn Cothi yn un o feirdd mwyaf y bymthegfed ganrif, onid yw lle Dic Jones hefyd ym mhantheon ein beirdd mwyaf erioed wedi ei sicrhau yn barod?

Dawn dewin oedd dawn Dic. Ar ei orau – a chyrhaeddai’r gorau hwnnw yn rhyfeddol o aml – nid creu y byddai ond consurio.

Cydymdeimlwn ninnau oll â Siân a’r plant.    


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gweithred anghyfreithlon Comisiwn y Cynulliad

Ymlaen >

Cymru fel 'rhanbarth' Ewropeaidd