Thema dywyll Thema golau

Dyfodol Llafur: plaid ranbarthol, nid cenedlaethol?

Un o fân ryfeddodau canlyniadau’r etholiadau Ewropeaidd yw enwau’r ddwy blaid honno. Y prif bennawd, wrth gwrs, a hynny’n gwbl naturiol felly, oedd buddugoliaeth y Ceidwadwyr. A pha syndod hynny? Am y tro cyntaf ers canrif a hanner, dyma’r Torïaid ar y brig mewn etholiad Cymreig. Ie, cant a hanner o flynyddoedd. Meddyliwch am y peth, mewn difrif. Nid yw’n syndod fod David Cameron wedi ei heglu hi am Gymru drannoeth yr etholiad er mwyn ymffrostio yn y fath lwyddiant. Nid y fo oedd yr unig un chwaith yn y blwyfol Lundain i sylwi fod ‘na bethau mawr ar droed yng Nghymru. ‘Richard, what the hell is going on there?’ oedd cwestiwn un cyfaill – Llafurwr o Sais – wrthyf. Cefais hyd yn oed wahoddiad i ateb fersiwn barchusach o’r un cwestiwn mewn cyfweliad estynedig ar gyfer y BBC World Service. Dyn a fiyr beth oedd y gwrandawyr ym mhedwar ban byd yn ei feddwl am y peth, ond roedd y cynhyrchwyr yn amlwg yn credu bod gwleidyddiaeth Cymru’n teilyngu sylw – am unwaith o leiaf.

Heb os, roedd y penawdau’n rai rhagorol i’r Ceidwadwyr. Felly hefyd y darlun a ddatgelir wrth inni dreiddio’n ddyfnach i mewn i’r canlyniadau. Daeth y Ceidwadwyr i’r brig mewn 17 etholaeth, gan ddod o fewn trwch blewyn i ennill mewn un arall hefyd. Gwir, nid oedd pob un o’r 40 o ‘etholaethau’ Ewropeaidd yn cyfateb yn union i’r 40 etholaeth Gymreig arferol. Serch hynny, cafwyd cadarnhad digamsyniol fod gobaith real gan y Ceidwadwyr o sicrhau eu canlyniad gorau erioed yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yr hyn sy’n gwneud canlyniad o’r fath yn fwy tebygol fyth yw methiant Llafur i ddirnad maint yr her sydd bellach yn eu hwynebu. Yn ddiweddar bu’r golofn hon yn canu clodydd Rhodri Morgan gan geisio mesur hyd a lled ei gyfraniad i’w blaid ac i Gymru. Ysywaeth, bu ymateb y Prif Weinidog i’r canlyniadau Ewropeaidd yn enghraifft ohono ar ei waethaf. Unwaith yn rhagor fe’i clywyd yn cynnig fflyd o esgusodion cyd-destunol er mwyn egluro perfformiad symol ei blaid. Unwaith yn rhagor methodd â mynd i’r afael â’r eliffant ar stepen ei ddrws, sef y ffaith syfrdanol ond anwadadwy fod Llafur –ie, Llafur! –wedi perfformio’n waeth yng Nghymru nag yn naill ai Lloegr na’r Alban. Do, ers 1997 fe gollodd Llafur fwy o dir yma nag yn y gwledydd Prydeinig eraill. Nid digon, chwaith, yw dweud bod Llafur yn cychwyn o lefel uwch yng Nghymru. Nid yw hynny’n lleddfu dim ar y realiti fod gan Lafur broblem benodol yn y ffyddlonaf o’i hen gadarnleoedd.

Yn wir, yn hytrach na chynnig arweiniad amgen defnyddiodd Rhodri Morgan beth o’i awdurdod a’i enw da er mwyn rhwystro’r unig ddatblygiad a allai gynnig peth gwaredigaeth i Lafur yn ei hadfyd presennol. Wedi’r etholiad teithiodd y Prif Weinidog i Lundain ar gyfer cyfarfod allweddol o’r Blaid Lafur seneddol er mwyn gwrthwynebu’r ymdrechion a oedd ar waith yno i ddiorseddu Gordon Brown. Hyn –os deallaf yn gywir –oherwydd bod yr ymdrechion hynny yn cael eu dehongli yn nhermau cynllwyn ‘adain dde’ yn erbyn y Prif Weinidog arall, Brown. Dichon na fyddai ymadael â Brown yn cynnig panacea i Lafur; mae’n anodd credu y gallai unrhyw un neu unrhyw beth bellach ei hachub yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Eto i gyd, wrth gadw dwylo Brown ar y llyw mae Llafur yn gwarantu chwalfa lwyr. A glynwch yn dynn wrth Brown oedd neges Rhodri i’w blaid.

Ni ddylid bod yn rhy lawdrwm ar Morgan serch hynny. Drwy’r trwch gwelwyd Llafur yn ymateb i’w canlyniad Ewropeaidd difrifol trwy ymollwng i’r hyn y mae seicolegwyr yn ei alw’n ymwadiad (denial). Ymatal ddaru’n pleidleiswyr ‘ni’ yn hytrach na phleidleisio i rywun arall, fel petai hynny’n gysur o fath yn y byd yn wyneb crasfa o faintioli hanesyddol. Yn fwy trawiadol fyth clywyd selogion Llafur yn ymffrostio yng nghanlyniad Blaenau Gwent –lle gwnaeth Llafur yn dda –fel pe byddai hynny’n gwneud iawn am y ffaith ei bod wedi gwneud mor sobor o wael dros rannau eraill o’r wlad.

Mae’r ymateb i Blaenau Gwent yn arwyddocaol mewn ffordd arall hefyd. Mae’n cadarnhau bod ‘na elfennau seicolegol a danlinella’r duedd sy’n amlwg o’r ystadegau etholiadol eu hunain. Heb amlhau geiriau, mae Llafur mewn peryg gwirioneddol o droi’n blaid ranbarthol oddi mewn i Gymru. Yn yr un modd ag yr oedd Plaid Cymru yn blaid yr hen fröydd Cymraeg cyn 1999, gall Llafur yn hawdd ganfod ei hun yn blaid y cymoedd ôl-ddiwydiannol.

Gellir gweld hyn yn glir o’r canlyniadau Ewropeaidd. Dim ond mewn 15 o ‘etholaethau’ y daeth Llafur i’r brig, a’r rheini i gyd yn y cymoedd neu ar eu cyrion –yn yr hyn a alwodd Denis Balsom yn ‘Welsh Wales’. Y tu hwnt i’r rheini mae pethau’n edrych yn llwm iawn i Lafur. Fel y nodwyd sawl gwaith yn y golofn hon, mae Llafur ar fin cael ei gwthio allan o ogledd, canolbarth a de-orllewin Cymru yn gyfan gwbl. Llwm hefyd yw’r rhagolygon yn y dinasoedd deheuol. Yn wir, os cymrwn ni 20% o’r bleidlais fel rhyw fath o drothwy amrwd yn dynodi gobaith a difrifoldeb gwirioneddol, yna mae’n drawiadol fod Llafur wedi sicrhau llai na 20% o’r bleidlais mewn 19 o’r 40 etholaeth. Prin fod Llafur yn cyfrif o gwbl yn y llefydd hyn bellach.

Er gwaethaf yr ymffrost ynglyn â chanlyniad Blaenau Gwent, mae Llafur yn mynd i’w chael hi’n anodd, anodd os bydd yn rhaid iddi ddibynnu ar y cymoedd. Wedi’r cwbl – a maddeuwch i mi am fod yn bengaled am foment – dyma ardal sy’n lleihau yn ei phwysigrwydd cymharol; ardal a fydd, ymhen y rhawg, yn colli seddau wrth iddynt gael eu hailddosbarthu mewn ymateb i symud poblogaeth.

Yn ei ymateb yntau i’r canlyniadau Ewropeaidd fe ddywedodd Huw Lewis, Aelod Cynulliad uchelgeisiol Merthyr, ei bod yn hwyr glas i’w blaid ganolbwyntio ar y gelyn go iawn –y Torïaid –a rhoi heibio’r paldaruo ynglan â ‘gwleidyddiaeth hunaniaeth’, sef ei law fer o am y cwestiwn  cyfansoddiadol / cenedlaethol. Heb os, rhoi cic i aelodau ei blaid ei hun oedd Lewis. Defnyddiai’r dacteg y mae ymgynghorwyr gwleidyddol Americanaidd yn ei alw’n ‘dog whistle’ er mwyn hudo gwrthddatganolwyr Llafur i’w gefnogi ef yn y frwydr i olynu Rhodri Morgan. Er gwaethaf hynny, mae ei sylwadau’n rhai dadlennol.

Diau fod Lewis yn gywir ynglan â’r prif elyn. Mae’n anghywir, fodd bynnag, ar fater gwleidyddiaeth hunaniaeth (yn yr ystyr eang). Roedd goruchafiaeth hanesyddol Llafur yng Nghymru yn dibynnu, nid yn unig ar y ffordd yr oedd yn gallu rhoi mynegiant i ddyheadau dosbarth (sef un agwedd ar wleidyddiaeth hunaniaeth, wrth gwrs). Ond deilliai hefyd o’r modd yr oedd Llafur yn llwyddo i grisialu a rhoddi mynegiant i’r ffyrdd cymhleth y mae hunaniaeth dosbarth a hunaniaeth genedlaethol wedi cydymdreiddio yn y cyd-destun Cymreig. Dyma bwynt y mae Rhodri Morgan wedi ei ddeall erioed, a dyna pam ei bod yn wir i ddweud mai Llafur oedd ‘gwir blaid Cymru’, a hynny am ddegawdau lawer. Dim ond o ddeall hynny y gellir dirnad dominyddiaeth Llafur yng Nghymru.

Ond wedi cystudd estynedig, mae’r Gymru honno bellach ar drengi. Y dewis sy’n wynebu Llafur yn y cyd-destun newydd yw hyn: parhau ar y trywydd (de facto) presennol, sef dyfod yn lladmerydd buddiannau gweddillion yr hen Gymru honno. Golyga hynny goleddu rôl fel plaid ranbarthol ar gyfer y cymoedd (neu’n waeth fyth, plaid ranbarthol ar gyfer rhannau han etholaeth y cymoedd). Neu gall Llafur ganfod y dull a’r modd i gysylltu â’r Gymru newydd yn ei holl gymhlethdod ac amrywiaeth. Hynny yw, dyfod unwaith yn rhagor yn blaid genedlaethol.

Dyna’r dewis i Lafur, felly. Ond gyda chwalfa etholiadol arall –a phwysicach o lawer –yn prysur agosáu dros y gorwel, mae’n bosibl y bydd yr etholwyr yn gwneud y dewis drosti. Heb aelodau etholedig, heb sôn am ddiffyg trefniadaeth dros y rhan fwyaf o’r wlad, dim ond dyfodol rhanbarthol fydd yn weddill i Lafur wedyn. Ydyn mae’r rhain yn ddyddiau gwirioneddol argyfyngus i Lafur.

A’r cwestiwn agoriadol? Plaid Cymru ac UKIP oedd yr unig ddwy blaid a gafodd dros fil o bleidleisiau ym mhob etholaeth yng Nghymru; fy nghyfaill am cyd-awdur Roger Scully sylwodd ar hynny.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Merched Lloyd George a Ffion

Ymlaen >

Diwedd Michael Jackson. Dechrau’r diwedd i deledu?