I ba beth mae’r byd yn dod? I ofn, anhrefn, chwalu neu or-reoleiddio cymdeithas, a therfysg, os yw’r nofelydd yn nes na’r hanesydd. Ac ers datgelu cred rhai haneswyr mewn ‘Diwedd Hanes’ fel rhith mor sigledig â chred fin de siècle arall mewn ‘Cynnydd’, pwy ydan ni i ddadlau? Nid dyma’r unig ddwy nofel ddiweddar i drafod byd bygythiol wedi ei osod yn y dyfodol rhagweladwy: mae rhywun yn meddwl, er enghraifft, am Annwyl Smotyn Bach Lleucu Roberts, sydd hefyd â naws o fygythiad annelwig. Ac yn gynnar yn nofel Lloyd Jones, mae’r disgrifiad o ryddhau’r ceffylau ar ddechrau pennod 9 yn dwyn i gof ‘Horses’ Edwin Muir, ac awyrgylch ôl-apocalyptaidd y gerdd honno hefyd.
Mae gwahanol fathau o arswyd, wrth gwrs, a gwahanol fathau o fydoedd. Mae byd Milwr Bychan Nesta yn dal yn gymharol waraidd a threfnus – yn drefnus a threfnedig tu hwnt, yn wir, a dyna gnewyllyn y stori. Mae’r dyn, y ‘milwr bychan’ (chawn ni fyth wybod ei enw), yn llythrennol yn ddyn gwyllt o’r coed sy’n torri ar draws Nesta Bowen a’i byd cyfforddus. Os cyfforddus hefyd, oherwydd mae dyfnderoedd o wylltineb neu anarchiaeth neu, yn wir, o hen warineb, yn Nesta ei hun, a hwnnw’n bygwth brigo i’r amlwg yn ei hymwneud â’i chymydog busneslyd ac â’i merch yr un mor annioddefol o fusneslyd, Melissa. Y rhain, a swyddogion fel Gavin, cynrychiolwyr y drefn, yw’r rhai gwirioneddol beryglus, ac y maent wedi eu darlunio mor gain a chynnil fel mai prin yr ydych yn sylweddoli hynny ar y cychwyn. Y perygl ‘amlwg’ yw Coed Cadno – trigfa gwylltineb ac anarchiaeth. Tybed?
Os mai’r wladwriaeth â’i holl arfau technolegol yw’r bwgan yn llyfr Aled Islwyn, y gwrthwyneb hollol sy’n wir yn Y Dwr. Mae oes y cyfrifiaduron wedi mynd heibio, a chyfeiriadau didaro, bron, a gawn at hynny: rhyw grybwyll swydd flaenorol Jac wrth basio; bywyd Wil yn fir ifanc; hanner brawddeg fel ‘Ers i Ddolfrwynog golli’r letrig...’. Terfysg a gangiau a lladd sy’n digwydd y tu hwnt i fyd fferm Dolfrwynog, ac y mae’r bychanfyd hwnnw hefyd yn llithro’n arswydus o sydyn yn ôl at gyntefigrwydd. Heb erioed ddweud hynny’n blaen, mae yma hergwd go-iawn i freuddwydwyr dychwelyd-at- natur. Natur ei hun sydd yn dychwelyd, yn cymryd drosodd, ac y mae’r awdur yn grefftus ac yn gignoeth wrth ddangos yn union mor frwnt a digysur yw’r natur hwnnw, a’r effaith a gaiff ar Elin ac Yncl Wil, Mari a Huw, Nico a Jac.
Soniais eisoes fod tebygrwydd rhwng y ddwy nofel, ac yn wir, wrth ddarllen y ddwy am yn ail, âi’r cyd-daro weithiau yn iasol ynddo’i hun. Pan mae Mari yn gwau ei chwedlau am drigolion y beddau yng ngwaelod y gadlas, ac yn adrodd hanes Sara ei chwaer, yr ymprydwraig y tyfodd cwlt o’i chwmpas, a phan gofiwn Sarah Arall Aled Islwyn, mae rhywun yn ymysgwyd ac yn meddwl – pa stori, pa nofel yn union sydd yma?
Pa gyswllt? Fe ddywedwn i mai cyfoethogi profiad y darllenydd a wna hyn, yn hytrach na drysu. Yn sicr, y mae haen ar ôl haen o gyfeiriadaeth yn Y Dwr – mae’n cael ei leisio amlycaf yng nghymeriad Yncl Wil, a’i hiraeth am yr hyn a fu, a thristwch sy’n cael ei gyfleu yn ingol ydyw gweld hyd yn oed yr hiraeth a’r cof hwnnw yn cilio ac yn pylu tua’r diwedd. Mae mwy o ddweud – efallai mwy o gyffro ar adegau – yn Milwr Bychan Nesta, ac ni all rhywun ond rhyfeddu at ddawn y naill nofelydd a’r llall i fynd i’r afael â phwnc a bygythiad sydd yn real iawn yn ein dyddiau ni.
Ar waethaf y cyswllt, ac ar waethaf y bygythiad sy’n hofran yn hollbresennol yn y ddwy nofel, y mae yma wahaniaethau. Mae’r ddawn gan y naill awdur a’r llall i fod yn delynegol, i drin geiriau, ac i daro ar gymariaethau cofiadwy. Ond er y teimla’r darllenydd ym mêr ei esgyrn y daw rhyw drychineb i oddiweddyd byd y milwr bychan a theulu Dolfrwynog, prysuro yn fy mlaen i weld beth fyddai diwedd Y Dwr oeddwn i: y nofel honno oedd wir wedi cydio ac yn gwrthod gollwng. Teimlwn y gallwn dreulio mwy o amser gyda’r campau geiriol yn llyfr Aled Islwyn – ond arddull Lloyd Jones, a’r cyfoeth o haenau a chyfeiriadau sydd yn Y Dwr, oedd wedi fy llwyr swyno a’m harswydo, ac a fydd yn fy nhynnu’n ôl drachefn.
Y Dwr , Lloyd Jones (Y Lolfa, £8.95)
Milwr Bychan Nesta, Aled Islwyn (Gomer, £8.99)
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
