Dwn i ddim a ddylwn i gyfaddef y ffasiwn beth wrth ddarllenwyr llengar a diwylliedig Barn, ond y ffilm gyntaf yr wyf yn cofio ei gweld a chael fy nghyfareddu ganddi oedd yr un agoriadol yn y gyfres Star Wars. Heb os, lleoliad y sinema sy’n rhannol gyfrifol am hynny. 1978 oedd hi. Roeddem ni fel teulu newydd symud i fyw am gyfnod yn Awstralia. A ninnau wedi glanio ers ychydig ddyddiau’n unig, a Sydney’n ymddangos fel lle anfesuradwy o fawr i hogyn o gefn gwlad Sir Fôn – ac yn boeth a thrymaidd i’w ryfeddu – fe’n tywyswyd gan gyfaill i fy rhieni i un o ardaloedd mwyaf poblog y ddinas i weld ffilm a oedd erbyn hynny’n ffenomen fyd-eang. Ar ôl sefyll mewn rhes hir y tu allan yn cael ein byddaru gan griw o fynachod Hari Krishna (profiad newydd arall i Fonwysyn ifanc!) dyma gael mynediad i’r pictiwrs – ac i fyd Luke, Han Solo, Leia, Obi-Wan, Chewbacca a’r gweddill. Nid yw pymtheg mlynedd ar hugain wedi pylu’r cof am y fath brofiad...
Stori syml ydi stori’r ffilm gyntaf honno. Stori’r gwan (y Gwrthryfelwyr) yn llwyddo i herio grym y cryf (yr Ymerodraeth) oherwydd bod mwy o ruddin yn perthyn iddynt – boed ddynion, merch neu fwnci mawr blewog – na gweision y Fall. Naratif ffilm gowboi glasurol wedi ei throsglwyddo i’r gofod, meddai’r beirniaid. Ond a minnau bellach, diolch i ddylanwad fy mhlant innau, wedi gweld pob un o’r chwe ffilm yn y gyfres, heb sôn am gyfres cartwn Star Wars: The Clone Wars, a hynny fwy nag unwaith, rwy’n bendant fy marn mai’r ail ffilm i gael ei gwneud ydi’r orau o ddigon: The Empire Strikes Back.
Yn y ffilm honno gwelir holl rym yr Ymerodraeth yn pwyso ar wddf y gwrthryfelwyr. Ydi, mae eu harwriaeth hwythau’n llwyddo i liniaru peth ar y sefyllfa. Ond dim ots pa mor gyfiawn yw eu hachos, mae clorian grym wedi ei phwyso o blaid yr Ymerawdwr a’i giwed. Y nhw sydd hefo’r adnoddau a’r dechnoleg – y moddion materol, fe petai. Hyd yn oed os yw dyfeisgarwch ac ymrwymiad ein harwyr yn ddigon i sicrhau ambell i fuddugoliaeth fechan, mae llanw nerthol yn llifo yn erbyn y gwrthryfelwyr; llanw na ellir yn y pen draw ei wrthsefyll.
Am The Empire Strikes Back y meddyliais wrth i mi grwydro tuag adref ar ôl gwrando ar David Jones yn traddodi araith yn y Pierhead, Caerdydd, un noson ddiwedd mis Mehefin, yn dwyn y teitl Wales in a Continuing Union. Rwy’n prysuro i ddweud nad wyf yn ceisio awgrymu am eiliad fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymdebygu i Darth Vader neu’r Ymerawdwr Palpatine. Dim o gwbl! Ond trwy gyfrwng yr araith fe welwyd am y tro cyntaf ers tro byd – os nad yr Ymerodraeth – yna’n sicr yr Undeb yn taro nôl.
+ + +
Bu’r ddwy flynedd ddiwethaf yn gyfnod o lewyrch rhyfeddol i’r rhai yr arferid eu hadnabod fel y gweiniaid yn y dadleuon ynglyn â pherthynas gyfansoddiadol Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Wedi buddugoliaeth rwydd refferendwm Mawrth 2011, ac yn sgil y penderfyniad annisgwyl (a bron a bod yn ddamweiniol) rai misoedd yn ddiweddarach i sefydlu Comisiwn Silk, mae’r datganolwyr wedi cael rhwydd hynt i lunio’r agenda. Agenda yw honno a fyddai – o’i gweithredu – yn gweddnewid statws ein sefydliadau gwleidyddol Cymreig a natur perthynas Cymru a’r wladwriaeth Brydeinig. Eisoes gwelwyd Silk yn argymell datganoli pwerau trethiannol i Gymru. Y tebygrwydd yw y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cefnogi camau a fydd yn golygu fod gan Gaerdydd bwerau yn y maes a fydd yn cyfateb yn agos i rai Caeredin.
Y tu hwnt i hynny, mae’r syniad y dylid adsefydlu’r drefn ddatganoledig ar gyfer Cymru ar seiliau cwbl wahanol – un sy’n ymdebygu i’r drefn Albanaidd – bellach wedi ennill cefnogaeth eang iawn yng Nghymru. Fel y gwyr darllenwyr Barn, yn yr Alban ceir rhagdybiaeth fod popeth wedi ei ddatganoli oni bai ei fod yn fater sydd wedi ei gadw’n ôl yn benodol gan San Steffan. Yng Nghymru, mewn gwrthgyferbyniad, y rhagdybiaeth yw nad yw mater wedi ei ddatganoli oni bai ei fod yn cael ei enwi’n benodol (yn Atodiad 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006) fel mater sydd wedi ei drosglwyddo i Gaerdydd.
Ddiwedd y 1990au penderfynodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol beidio gweithredu yn yr Alban y model a fyddai, maes o law, yn cael ei weithredu yng Nghymru. Y rheswm a roddwyd dros hynny oedd y byddai’n creu dryswch ac ansefydlogrwydd diangen a fyddai’n diweddu mewn dadleuon cyfreithiol ac achosion llys. Gan danlinellu doethineb y penderfyniad hwnnw, ers iddo gael ei roi ar waith yng Nghymru ar ôl refferendwm 2011, mae’r gyfundrefn ‘pwerau penodedig’, fel y’i gelwir, wedi arwain at ddryswch ynglyn â phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol. A do, cafwyd hyd yn oed achos yn yr Aruchel Lys wrth i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol herio’r Ddeddf Gymreig gyntaf i gael ei chreu dan y drefn newydd. Pan gofir na ddigwyddodd hynny erioed yn achos y deddfwriaeth ddatganoledig a grëwyd yng Nghaeredin a Belffast, nid yw’n syndod fod cymaint yng Nghymru – gan gynnwys llywodraeth Carwyn Jones – yn benderfynol o symud i fodel o ddatganoli sydd eisoes wedi profi’n effeithiol a sefydlog yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond mae mwy iddi na hynny: erbyn hyn clywyd lleisiau dylanwadol yn galw am ddatganoli heddlua, cyfiawnder troseddol, darlledu, prosiectau ynni mawr, a rhagor. Mae sôn agored hefyd yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru am oblygiadau creu Awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig. Cam y mae’r rhan fwyaf sy’n meddwl o ddifrif am y pethau hyn yn credu ei fod yn siwr o ddilyn, yn hwyr neu’n hwyrach.
Wrth i’r agenda uchelgeisiol yma gael ei gwyntyllu, bu’r rheini sy’n llugoer neu’n wrthwynebus tuag at ddatganoli bron â bod yn gwbl fud. Do, bu rhywfaint o rwgnach gan rai Aelodau Seneddol Llafur, yn arbennig, yn achos argymhellion Silk i ddatganoli trethi. A do, fe gafodd Carwyn Jones ei ddwrdio gan yr un bobl am ei hyfdra yn galw am ddatganoli heddlua. Ond ni chafwyd unrhyw wrthsafiad cyhoeddus, heb sôn am weledigaeth amgen o’r ffurf y dylai datganoli Cymreig ei chymryd. O leiaf hyd nes i David Jones gamu i’r llwyfan yn y Pierhead.
+ + +
Roedd sawl elfen i ddadl yr Ysgrifennydd Gwladol.
Chwythu bygythion oedd peth ohono. Cafwyd rhybudd eglur iawn i aelodau Comisiwn Silk nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i ail adroddiad Silk argymell mwy na mân newidiadau i’r gyfundrefn ddatganoledig bresennol. Go brin fod hanner arall y glymblaid yn Llundain yn cytuno â hynny – a chofier fod Jones yn atebol i Nick Clegg – ond mae’n bosibl y bydd rhai o’r Comisiynwyr am bwyllo cyn tynnu blewyn o drwyn Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd. Dyna’n sicr ei obaith.
Ar yr un trywydd, codwyd bwgan trosglwyddo pwerau o Gaerdydd i Lundain. Mae’n hysbys fod coblyn o ffrae oddi mewn i’r llywodraeth Brydeinig ynglyn â’i thystiolaeth i ail ran proses Silk. Testun y ffrae oedd awydd David Jones i argymell bod rhai meysydd datganoledig yn cael eu trosglwyddo yn ôl i Lundain. Fe’i rhwystrwyd yn ei fwriadau gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond mae’n amlwg nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi’r gorau i’r syniad ac yn ystod yr araith fe ddefnyddiodd ffurf ar eiriau a allasai’n hawdd gael ei ddehongli fel awgrym y dylid symud y cyfrifoldeb am rai priffyrdd o Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Clywyd hefyd ddadleuon hen gyfarwydd o’i enau ynglyn â pham na ddylid creu Awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae Cymru, mae’n debyg, yn rhy fach i feithrin a digoni’r dalent gyfreithiol angenrheidiol i gynnal cyfundrefn o’r fath. A byddai perygl y byddai Awdurdodaeth gyfreithiol mor fychan yn ysglyfaeth i ddylanwad gwleidyddol annerbyniol. Gyda phob dyledus barch mae dadleuon o’r fath yn rhyfeddol o nawddoglyd a go brin y byddent yn cael llawer o ddylanwad y tu hwnt i’r cylchoedd hynny sydd eisoes yn cytuno â’i safbwynt. Yn wir, er bod David Jones am inni gredu ei fod bellach yn cefnogi’r egwyddor, dadleuon yn erbyn unrhyw fath o ddatganoli o gwbl ydi’r rhain yn y pen draw. Y math o ddadleuon a oedd yn tycio gydag etholwyr Cymru yn 1979 ond sydd bellach wedi colli eu rhin.
Yr hyn sy’n fwy diddorol yw ei ddadleuon yn erbyn troi cefn ar y model pwerau penodedig o ddatganoli. Ymddengys fod David Jones o’r farn fod Peter Hain a Rhodri Morgan, penseiri ‘setliad’ Deddf 2006, wedi taro ar drefn ddatganoledig sydd fwy neu lai’n berffaith. Go dda hogia! Pam hynny? Gellir crynhoi rhesymu’r Ysgrifennydd Gwladol fel a ganlyn:
- Hyd yn oed oes rhaid cydnabod (yn anfoddog?) fod y Deyrnas Gyfunol yn wladwriaeth aml-genhedlog, dylid hefyd ystyried uned Lloegr-a-Chymru fel uned o bwysigrwydd arbennig.
- Mae pwysigrwydd Lloegr-a-Chymru’n cwmpasu’r cyfreithiol, y cymdeithasol a’r gwleidyddol.
- Golyga hyn yn ei dro fod yn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru fodloni ar lai o rym ac ar statws is na’r hyn a feddir gan ei chwaer sefydliadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- A dyna’n union a sicrheir trwy barhau â’r model pwerau penodedig o ddatganoli ar gyfer Cymru.
A beth am y ffaith fod y Llywodraeth Brydeinig ei hun wedi penderfynu (ddiwedd y 1990au) na fydd y model pwerau penodedig o ddatganoli yn darparu eglurder a sefydlogrwydd ond yn hytrach yn arwain at ddadleuon cyfreithiol? Rhywbeth y mae’r profiad Cymreig ers 2011 eisioes fel petai’n ei gadarnhau. Nid yw David Jones yn mynd i’r afael o gwbl â’r materion hyn. Ond gellir tybio ei fod yn credu fod hyn yn bris sy’n werth ei dalu er mwyn cadw sefydliadau llywodraethol Cymru yn eu priod le.
+ + +
Cynrychiola araith yr Ysgrifennydd Gwladol yr ymdrech gyntaf gan y rhai sy’n amheus o ddatganoli i lunio rhyw fath o forglawdd deallusol i wrthsefyll y llanw o blaid gosod y gyfundrefn lywodraethol Gymreig ar seiliau amgen. Fel y gwelwyd, hanfod dadl David Jones yw pwysigrwydd Lloegr-a-Chymru fel uned. Dichon ei fod yn ystyried y penderfyniad i adeiladu archgarchar enfawr yn y gogledd ddwyrain fel cam a fydd yn tanlinellu gwerth y cwlwm hwnnw. Yn wir, onid dyma fuddsoddiad £100 miliwn ym mharhad Awdurdodaeth gyfreithiol unedig ar gyfer y ddwy wlad?
Yn sicr mae gofyn bod cefnogwyr datganoli pellach yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r araith a’r dadleuon a geir ynddi. Ond go brin fod yn rhaid iddynt wangalonni chwaith. Oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, mae’r ddadl ddeallusol o blaid symud i fodel pwerau wedi eu cadw yn ôl ar gyfer Cymru eisoes wedi ei hennill. Mae cymdeithas sifil yng Nghymru, mwyafrif llethol y gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol ac, yn wir, Aelodau Seneddol Llafur Cymreig dylanwadol, eisoes wedi eu hargyhoeddi o’r angen. A hynny i raddau helaeth oherwydd fod Swyddfa Cymru wedi mynnu herio’r ddeddf Gymreig gyntaf i gael ei chreu dan y drefn pwerau penodedig yn yr Aruchel Lys. Penderfyniad a danlinellodd ddiffygion y drefn honno a phenderfyniad yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol presennol yn rhan ohono.
Go brin chwaith y bydd tynfa Lloegr-a-Chymru yn profi mor apelgar ag y mae David Jones yn ei dybio, a hynny yn Lloegr, lawn cymaint os nad yn fwy nag yma yng Nghymru. Mae Saeson a Chymry fel ei gilydd yn deisyfu cyfundrefnau llywodraethol sy’n cydnabod ffiniau cenedlaethol (oddi mewn i fframwaith y Deyrnas Gyfunol.) Dim ond carfan fechan o arch-unoliaethwyr Cymreig sy’n teimlo unrhyw fath o ymrwymiad mawr at Loegr-a-Chymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio codi ei forglawdd ar dywod.
Do, fe drawodd yr Ymerodraeth yn ôl. Ond mae’r ergyd yn wannach o’r hanner nag yr oedd ers talwm. Tra gall yr Ysgrifennydd Gwladol arafu ac oedi, go brin y gall rwystro’r symudiad tuag at gyfundrefn lywodraethol Gymreig gallach. Y tro hwn, y gwrthryfelwyr fydd yn fuddugol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
