Wyth mlynedd yn ddiweddarach dychwelais yno am flwyddyn yn brentis feddyg a dod yn ôl yno yn 1964 yn ymgynghorydd seiciatryddol. Bryd hynny roedd rhwng 1,600 a 1,800 o gleifion yn Ysbyty Dinbych. Rhwng 1958 a 1964, yn ogystal â gwneud ymchwil yn Llundain, treuliais dair blynedd yn ymchwilio ym Môn i’r modd y gallai Dinbych ddarparu ar gyfer anghenion seiciatryddol yr ynys. Daeth yn amlwg imi nad oedd llu o’r bobol a welais fel rhan o’m gwaith ym Môn ddim mymryn gwahanol i’r bobol a oedd yn yr ysbyty. Buan y sylweddolais nad oedd rhithyn o reswm dros i’r rhan fwyaf o gleifion Dinbych fod yno o gwbl.
Fe es i ati’n syth i wagio’r ysbyty. O fewn tair blynedd hanerwyd nifer y cleifion i ychydig dan 800.Wrth gwrs, nid oedd yr 800 a ryddhawyd o angenrheidrwydd yn ddigon atebol i sefyll ar eu traed ei hunain a derbyn cyfrifoldeb llwyr dros eu bywydau. Yr hyn a wnaed oedd gofalu eu bod nhw’n cael eu cartrefu mewn tai preifat lle’r oedd gwragedd caredig ac eangfrydig yn fodlon eu gwarchod a rhoi, ar yr un pryd, fesur helaeth o ryddid i rai a fu’n gaeth.
Mae gan Gymru le i ymfalchïo bod Dinbych ar flaen y gad yn y broses o ddarparu gofal yn y gymuned ymhell cyn i’r term hwnnw gael ei fathu. Ond yn achos arloesol Dinbych nid slogan wag oedd hynny. Roeddem ni’n o ymorol bod gwir ofal i’w gael y tu allan i furiau’r ysbyty.
Roedd lleihau’r niferoedd yn rhoi’r gofod i Ddinbych fynd ati i ddatblygu unedau ymchwil i ystod o gyflyrau, o liniaru cyflwr yr hen a’r ffwndrus i fynd i’r afael ag ymddygiad ieuenctid trwblus.
Un claf alcoholig yn unig oedd yn yr ysbyty pan gychwynnais i yn 1964. Bellach mae alcoholiaeth a chyffuriau yn rhemp ar hyd a lled Gogledd Cymru. Dywedais droeon fod pobol yr ymylon, y rhai a ddietifeddwyd yn ieithyddol neu’n diriogaethol, megis Llydäwyr, brodorion cynhenid Gogledd America – a’r Cymry hefyd – yn ei chael hi’n anodd defnyddio alcohol yn synhwyrol.
Wrth sôn am briodoleddau cenedlaethol, mae’n rhaid pwysleisio pa mor Gymreig a Chymraeg oedd Ysbyty Dinbych. Er bod y seiat wedi chwythu ei phlwc erbyn i mi gyrraedd, bu adfer yr hen seiat brofiad yn fodd i sawl un gael taflu ei faich oddi ar ei war.
Be ydi’r gwahaniaeth rhwng seiat a therapi grwp? Ac mae’n rhaid imi ddweud bod cyfarwyddiadau Williams Pantycelyn yn Drws y Society Profiad wedi bod o gymorth mawr i’r seiciatrydd hwn ar hyd ei yrfa. Meddyliwch am W illiams yn cyfeirio at y ‘meddyliau gwyllt echrydus’ sydd ‘fel chwa o ymyl pwll ag arogl brwmstan arno’. Dyna uffern.
Cynhelid cyngerdd yn neuadd fawr yr ysbyty bob nos Sul. Ac eisteddfod flynyddol lle byddai’r wardiau mewn cystadleuaeth â’i gilydd.
Gorffennaf efo englyn o waith un o’r cleifion, William Siôn, adeiladydd o Ddolgellau. Fo gododd eglwys Brithdir, meddan nhw. Perswadiodd ei hun fod twr yr eglwys yn gam a phwysodd hynny’n ddirfawr ar ei feddwl. Dyma ei feddargraff iddo ei hunan:
Uchel nod a osodais – i’w gyrraedd,
Am goron ymdrechais;
Ond ofer, cofier, fu’r cais
Mewn asailwm noswyliais.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
