Pan fu farw Catrin o Ferain ar 27 Awst 1591, roedd hi’n 56 mlwydd oed. Yn ei gywydd marwnad, fel hyn y soniodd Siôn Tudur amdani:
Y mae oerni a marwnad
Am aeres deg, mawr ei stad
Roedd Berain ar y pryd yn dair mil o erwau ond roedd Catrin wedi etifeddu mil o erwau ym Môn hefyd, ‘Biwmares – aur ei maneg’, a hynny drwy’i mam, merch Syr Rowland Filfel, mab anghyfreithlon Harri Tudur. Er mwyn gwarchod ei hetifeddiaeth, ac fel yr unig ddewis i ferch fel Catrin yn y cyfnod hwn, priododd yn ddoeth, a hynny bedair gwaith.
Stori sy’n rhan o chwedloniaeth ardal Llannefydd yw honno amdani’n claddu ei gwr cyntaf, Siôn Salsbri. Ar y ffordd allan o’r eglwys daeth Morys Wyn o Wydir ati i ofyn am ei llaw mewn glân briodas. Gwrthododd hithau gan ddweud ei bod eisioes wedi derbyn cynnig Rhisiart Clwch ar y ffordd i mewn, ‘ond os digwydd yr un ffawd trist eto, fe’ch cadwaf mewn cof’. Bu’n driw i’w gair ac wedi marw Clwch yn Hambwrg yn 1570 daeth Morys Wyn yn drydydd gwr iddi. Barn haneswyr yw nad aeth Catrin yn agos i angladd y diwrnod hwnnw ac mai llên gwerin yw’r cyfan. Edward Thelwall, o Blas-y-ward ger Rhuthun, oedd ei phedwerydd gwr.
Priodas blant oedd priodas gyntaf Catrin â Siôn Salsbri, aer Llyweni. Bu farw Siôn yn 1566 yn ei ugeiniau cynnar gan adael Catrin yn weddw ifanc, yn fam i ddau o feibion, Tomos a Siôn. Rhisiart Clwch oedd yr ail wr; mab i ddyn-gwneud-menig oedd o, parvenu, ond marsiandïwr heb ei ail, a wnaeth hel ei ffortiwn ym marchnadoedd arian Ewrop, yn Antwerp a Hambwrg. Yn 1570 bu farw yntau gan adael Catrin yn weddw am yr eildro, yn disgwyl Mari, ac Ann y ferch yn ddyflwydd yn ei chôl.
Yn 1572 priododd Catrin am y trydydd tro gyda Morys Wyn o Wydir. Edward a Siân oedd y plant o’r briodas hon a ddaeth i ben gyda marw Morys yn 1580. Ieithydd o fri, Edward Thelwall o Blas-y-ward, Rhuthun, oedd ei gwr olaf. Roedd hon yn briodas ddwbl i warchod buddiannau’r teuluoedd gan i Siân Wyn (deg oed) briodi â Simon Thelwall (un ar ddeg – ac yn frawd yng nghyfraith iddi) yr un pryd.
Diogelu ei hetifeddiaeth hi a’i phlant oedd nod Catrin. Roedd pob un o’i phriodasau yn rhai da. Ychwanegu cyfoeth at gyfoeth a pharhau ag enw da y teulu oedd y cymhelliad bob tro. Roedd hi’n fam i chwech o blant, yn llysfam i un ar bymtheg, ac roedd ganddi ddeuddeg ar hugain o wyrion gwaed; nid rhyfedd iddi gael yr enw Mam Cymru.
Mae llawer wedi gwirioni ar ei hanes. Ond nid pawb sy’n ei brolio. Galwodd Siôn Wyn o Wydir (mab hynaf ei thrydydd gwr) hi’n ‘hudoles a rheibes gywilyddus’; roedd y beirdd ar y llaw arall yn ei chanmol i’r cymylau. Mae sôn iddi lofruddio’i hail wr drwy dywallt plwm poeth i’w glust. Ond y gwr hwnnw a soniodd amdani’n annwyl: ‘I have founde my wyfe so good honest and frendlye unto me... she is worthye to marrye any kinge.’
Yn fferm Berain hyd heddiw, gelwir un o’r ystafelloedd yn Llofft y Marchog. Yno ar wal, mae staen coch nad yw fyth yn diflannu, er ei lanhau’n gyson. Dyma’r union fan lle llwyddodd Catrin i lofruddio Clwch yn ôl y sôn.
Mae’r darlun enwog ohoni gan Adriaen van Cronenburgh yn un o drysorau Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yn 34 oed, delweddir Catrin fel gwraig urddasol, bryd-golau. Yn un llaw deil lyfr defosiynol, ond gorwedda’r llaw arall ar benglog dynol, yn arwydd annymunol o freuder bywyd. Y darlun hwn – ar fenthyg o Gaerdydd – fydd un o atyniadau mwyaf arddangosfa newydd sbon sy’n agor yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, yr hydref hwn. Bydd honno’n arddangosfa werth ei gweld, yn sicr.
____________
Bydd rhaglen am Catrin o Ferain yn cael ei dangos ar S4C yn yr hydref fel rhan o’r gyfres Mamwlad.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
