Mae nofel newydd gan Wiliam Owen Roberts yn ddigwyddiad mawr. Gyda’r farchnad lyfrau Cymraeg yn boddi dan don o nofelau ‘poblogaidd’ diddrwg didda, mae cael nofel sydd yn cynnig mwy na’r mogadon llenyddol arferol yn bleser eithriadol o brin. Dyma’r ail mewn trioleg o nofelau sy’n olrhain hanes aelodau teulu o Rwsiaid a gafodd eu halltudio a’u chwalu yn sgil Chwyldro Hydref 1917. Ar ddiwedd Petrograd, gadawsai Alyosha ei gyfnitheroedd Margarita a Larissa ym Merlin ar ôl cynhebrwng eu mam, a chychwyn am fywyd newydd ym Mharis. Yn y flwyddyn ddilynol, 1925, yr ailafaelwn â’r hanes, gyda Larissa’n priodi meddyg o Almaenwr a Margarita yn ymlwybro tuag at aelodaeth o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen, tra mae Alyosha’n byw o’r llaw i’r genau ym Mharis. Erbyn y diwedd, mae bywydau pob un o’r tri a’u perthnasau – Inessa, mam Alyosha, a’i brawd hithau, Artyom – wedi newid droeon.
Er gwaethaf llinyn naratif cadarn a gafaelgar, nid saga deuluol gonfensiynol mo’r nofel hon, fodd bynnag, ond cyfle i archwilio hanes Ewrop rhwng 1925 a 1933 trwy brofiadau’r cymeriadau. Wrth inni symud rhwng Paris a Berlin gydag ymweliadau â gwledydd eraill hefyd, cyflëir a dadansoddir hanfodion yr athroniaethau gwleidyddol y bu’r brwydro rhyngddynt yn fath o ymarfer ar gyfer y rhyfel y gwyddom ni, y darllenwyr, ei fod ar y gorwel. O garfanau’r Comiwnyddion a’r Sosialwyr i’r Monarchwyr hiraethus neu’r Ffasgwyr sydd yn prysur fynd o nerth i nerth, mae rhai yn delfrydu am orffennol coll, tra mae eraill yn breuddwydio am drefn newydd. Ond beth bynnag fo lliw gwleidyddol y garfan, y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Chwyldro yn Rwsia yw’r ddwy injan sy’n gyrru’r symudiadau, a chanlyniadau hir-dymor y ddau ddigwyddiad cataclysmig hyn sydd yn lliwio safbwynt ac yn dylanwadu ar ddewisiadau’r unigolyn. Trwy aelodau’r teulu estynedig o Rwsiaid a’u cydnabod dangosir sut y bydd pobl yn ymdopi ac addasu mewn byd o newid cyson: rhai yn gorfod canolbwyntio ar oroesi’n gorfforol, eraill yn ildio’n oddefol i’r drefn; ambell un yn uchelgeisiol benderfynol o droi pob dwr i’w felin ei hun, ac un arall eto’n gweithio tuag at wireddu delfryd; alltudiaeth yw’r llinyn arian yn gweu trwy’r cwbl. Ac yn sgil alltudiaeth ddaearyddol yn aml fe ddaw alltudiaeth o ddosbarth cymdeithasol, a hynny’n dod â’i ganlyniadau seicolegol ei hun.
Nofel hanesyddol gwbl gyfoes yw Paris. Amhosibl yw ei darllen heb ganfod adlewyrchiad o’n hoes ni. Wrth i’r awdur amlygu’n ddi-flewyn-ar-dafod effeithiau alltudiaeth, fe’n gorfodir i ystyried y précarité sy’n nodweddu bywydau’r miliynau o bobl sydd heddiw yn mudo er mwyn chwilio am waith a diogelwch, heb sôn am ddinasyddion dirifedi yng Nghymru a gwledydd eraill Ewrop a sugnir yn ddyfnach i bwll tlodi wrth i gyfalafiaeth noeth gryfhau o ddydd i ddydd. Nofel Ewropeaidd yw Paris hefyd, o ran ei bydolwg a’i chynhysgaeth lenyddol, gydag adleisiau cryfion o waith awduron y Cyfandir megis Balzac. Trist yw gorfod nodi mor brin yw nofelau heddiw sy’n procio’r meddwl cystal â hon a lle mae’r Gymraeg mor naturiol gyfoethog, yn batrwm o gryfder yr iaith mewn dwylo medrus.
Tristach fyth yw gorfod nodi esgeulustod cywilyddus cyhoeddwr y nofel hynod bwysig hon. Dan y diwyg atyniadol mae’r testun yn draed moch drwyddo draw. Nid oes yma ôl unrhyw law olygyddol. O’r rhestr cymeriadau i’r diweddglo, mae’r camgymeriadau’n frith ac yn ymwthio’n ddi-baid rhwng y darllenydd a’r testun nes imi flino eu nodi. Droeon mae angen darllen brawddeg ddwywaith neu dair cyn medru ei deall, oherwydd hepgor neu ailadrodd geiriau, a cheir achosion lu o gamsillafu trwy gamdeipio, gydag enwau ac ymadroddion o ieithoedd eraill wedi dioddef yn arbennig. Peidied Barddas â meddwl ailargraffu Paris heb osod y testun yn gyntaf yn nwylo golygydd diwylliedig a deallus a phrawf-ddarllenydd craff.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
