Wrth gyfarfod David Pountney yn swyddfeydd Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, mae’n anodd braidd ei gredu pan ddywed, yn ddiymhongar ddigon, taw hon fydd ei ‘swydd olaf’. Mae’n ddyn tal, trawiadol, bywiog ei gerddediad, du ei wallt ac ifanc ei ysbryd: gallasai’n rhwydd fod o dan yr hanner cant, ac fel hynny mae holl egni ei siarad a’i syniadaeth yn taro dyn. Rhyw gwta flwyddyn a hanner ers ei apwyntio’n Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig WNO, mae Pountney wedi trawsnewid pob agwedd o waith a delwedd y cwmni, a hynny mewn ffordd naturiol a chadarnhaol. Ond efallai’n wir fod y ffaith y bydd yn cyrraedd ‘oed yr addewid’ ymhen pum mlynedd yn rhoi mwy fyth o fin ar ei awydd i fynd i’r afael ag amryfal agweddau ei swydd a hynny er mwyn symud ymlaen, heb oedi, i wireddu ei weledigaeth gynhyrfus. Dyn ar dân. Ond mwy am hynny yn y man.
Fel cyfarwyddwr opera sy’n parhau’n brysur ar bob cyfandir, pam derbyn y fath sialens ‘sefydlog’? Mae ateb Pountney yn cyffwrdd, i ddechrau, ar hirhoedledd ei gysylltiad ag Opera Cenedlaethol Cymru a’i ddymuniad yn awr i ‘dalu’r ddyled yn ôl’ i sefydliad a fu’n gymaint rhan o’i yrfa. Fel disgybl ysgol ar y pryd rwy’n cofio fel ddoe y profiad trydanol o weld cynhyrchiad Pountney o Jenufa yn yr hen Theatr Newydd, Caerdydd, yn 1975. Nid oedd operâu Janácek yn gyfarwydd iawn ym Mhrydain ar y pryd, ond gyda Richard Armstrong wrth y llyw cerddorol yng Nghaerdydd gwelodd Pountney gyfle i arloesi ac i gydweithio gydag Opera’r Alban (Scottish Opera) lle’r oedd eisoes yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau. Erbyn 1982 roedd y Cwmni wedi cyflwyno pob un o gampweithiau aeddfed y cyfansoddwr o Tsiecoslofacia – Jenufa, Katya Kabanova, The Makropoulos Case, Cunning Little Vixen a From the House of the Dead – y cyfle cynta’, fwy na heb, i weld y cylch rhyfeddol hwn heb fynd i Brâg neu Brno. Roedd Pountney nid yn unig yn gweithio law yn llaw gydag Armstrong fel arweinydd ond yn rhan o dîm gwych gyda’i gynllunydd Maria Bjornson, a Brian McMaster fel rheolwr newydd y cwmni o 1976 ymlaen. Dyma oes aur yn hanes WNO pan oedd pob agwedd o’r grefft o greu opera yn gweu i’w gilydd yn wyrthiol. Yn ddyn ifanc felly roedd Pountney wedi gweld y potensial yng Nghymru o weithio mewn modd unedig, organig, ac ar yr un pryd wedi creu perthynas arbennig gyda’r cwmni.
Yn dilyn y profiadau cynnar cynhyrfus hyn, daeth y cyfle wedyn i ymestyn y ddelfryd o weithio fel tîm, ond y tro hwn yn Llundain. Roedd cwmni ENO (English National Opera) yn y Coliseum yn gweithio i ryw raddau yng nghysgod y Cwmni Opera Brenhinol (yn Covent Garden) ond roedd yno eto y posibilrwydd o greu rhywbeth newydd. Trwy benodi Pountney fel rhan o driawd creadigol a oedd hefyd yn cynnwys yr arweinydd Mark Elder a’r trefnydd Peter Jonas, daeth chwa o awyr iach i drawsnewid y dechneg o gyflwyno canu a drama ar lwyfan mewn modd dramatig. Cyfnod euraidd arall yn hanes opera ym Mhrydain. Mae Pountney yn ofalus i bwysleisio mai gweithio fel rhan o dîm a oedd yn hanfodol i lwyddiant ENO ar y pryd a’i fod yn awyddus felly i dynnu ar y profiad hwn eto wrth lywio dyfodol WNO. Ac y mae’n gallu cyfeirio’n ogystal at ei lwyddiant digamsyniol yn rhedeg Gwyl Ryngwladol Bregenz (sy’n rhoi lle canolog i opera) dros y degawd diwethaf fel prawf o’i allu i arwain tîm – pluen arall yn ei het amryliw – ynghyd â’r ddawn greadigol honno sy’n dal i sicrhau gwaith iddo fel cyfarwyddwr mewn tai opera ledled y byd.
Cyfoeth o brofiad, felly, ond lle ddechreuodd y cyfan? Oes meithrinfa i gyfarwyddwr opera? Daw’r ateb heb betruso.
‘Canu fel bachgen bach bob dydd yng Nghapel y Coleg a dysgu darn newydd o gerddoriaeth bob dydd, dros gyfnod o bum mlynedd – a dim nerfau!’
Mae David Pountney, a aned yn Rhydychen, yn un o’r rhai dethol hynny a fu mor ffodus â dod dan ddylanwad y diweddar chwedlonol George Guest yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt – cyswllt Cymreig o’r cychwyn felly. Roedd Dr Guest yn creu gwyrthiau trwy ddatblygu traddodiad corawl newydd o hen wreiddiau, yn chwyldroi o fewn sefydliad traddodiadol, ac wrth edrych yn ôl gwêl Pountney i hynny gyfrannu at ffurfio ei syniadau yntau. Fe ddychwelodd maes o law i’r coleg enwog hwn fel myfyriwr yn astudio Saesneg a Hanes a dyna pryd y dechreuodd brofi bwrlwm opera fel cynhyrchydd, ymhlith cymdeithasau opera’r Brifysgol.
‘Rhaid ichi gofio bod Caergrawnt ar y pryd yn llawn cantorion ifanc rhyfeddol ond rhai oedd yn ysu am ddianc, nawr ac yn y man, o awyrgylch defosiynol eu capeli ac i brofi’r ffrwydrad hwnnw o ryddhad oedd i’w gael wrth actio a chanu ar lwyfan. Roedd yno asbri a dyfeisgarwch a’r cyfle i arbrofi heb boeni am fethu. Rwy’n cofio gwneud operâu anghyffredin iawn gan Alessandro Scarlatti, Telemann, Rossini – La cambiale di matrimonio – a Smetana – Y Gusan – sy’n dal yn brin heddiw ond eto’n hwyl aruthrol i’w cyfarwyddo ar y pryd.’
Prentisiaeth anffurfiol felly mewn diwylliant lle’r oedd y safonau yn broffesiynol yn barod – a digon o feirniaid dylanwadol yn dod lan o Lundain i edrych am dalent, ac yn aml i gynnig cyfle. Wrth adael Caergrawnt yn ei ugeiniau cynnar fe aeth Pountney yn syth i weithio ar gynhyrchiad gyda Scottish Opera lle’r oedd Peter Hemmings, fel rheolwr, yn fawrfrydig ei natur ac yn awyddus i alluogi cynhyrchydd ifanc nid yn unig i deimlo meddiant llawn o holl adnoddau opera ond i ddod yn aelod o’r cwmni yn ogystal – dyma brofiad cynnar o waith tîm. A dyma, hefyd, lle y cychwynnodd Pountney ar ei daith arbennig yng nghwmni Janácek, gan gynhyrchu Katya Kabanova yn 1972.
‘Fe fûm yn ddigon ffodus i fynd fwy neu lai yn syth o’r coleg i weithio yn y theatr a dyna lle’r ydw i wedi aros.’
Tra oedd yn yr Alban daeth gwahoddiadau i mewn yn gyflym o wyl Opera enwog Wexford yn Iwerddon, a chais wedyn i gynhyrchu The Rake’s Progress gan Stravinsky yn Amsterdam. Erbyn 1975 dyma Pountney gyda WNO am y tro cyntaf – ac wrth sgwrsio nawr ym Mae Caerdydd, yn 2013, mae ei frwdfrydedd am y dyfodol yng Nghymru yn cysylltu’n naturiol â’r bwrlwm a oedd yn nodweddiadol o gyfnod cyffrous Brian McMaster a Richard Armstrong.
Cyfannu cylch efallai?
‘Dyna sy’n ddelfryd a gobaith gennyf. Mae tîm cadarn yma nawr ac mae’r arweinydd Lothar Koenigs wedi sefydlu safon gerddorol eithriadol sy’n sylfaen i’n holl gynlluniau.’
Nid yw’n gyfrinach fod Pountney wedi helpu yn y broses o ddenu Koenigs i WNO ac fel un o gyfarwyddwyr gwadd cyson y cwmni o 1975 ymlaen mae ei rwydwaith rhyngwladol o gysylltiadau wedi bod o fudd sawl gwaith. Felly mae’n bosib gweld ei benodiad diweddar gan WNO fel penllanw perthynas, ac yntau wedi dechrau ar y gwaith yn ymwybodol o draddodiad unigryw’r cwmni ond yn cydnabod yr angen hefyd i edrych o’r newydd ar holl bwrpas y cwmni, ac ar ffurf opera ei hun, mewn byd sydd bellach yn syfrdanol o wahanol.
‘Rwy’n barod wedi creu themâu unedig sy’n rhoi cymeriad arbennig i bob tymor: “Eneidiau Rhydd” yn y gwanwyn pan gyflwynwyd Lulu, Cunning Little Vixen a Madam Butterfly; daw “Breuddwyd Wagner” nawr yn yr haf wrth gyflwyno Lohengrin a Wagner Dream; yn yr hydref trown at “Y Tuduriaid” yng nghwmni Anna Bolena, Maria Stuarda a Roberto Devereux ac yng ngwanwyn 2014 bydd yr “Eneidiau Rhydd” yn ildio’u lle i “Ferched Wedi Cwympo”: Manon Lescaut, La Traviata a Boulevard Solitude.’
Enghraifft arall o athrylith Pountney yw uno Moses und Aron Arnold Schoenberg gyda Nabucco o waith Verdi dan faner ‘Ffydd’, ac edrychwn ymlaen at William Tell Rossini a Fall of the House of Usher Debussy yn y dyfodol, ynghyd â nifer o operâu newydd, dyfeisgar.
Ar ôl degawd o chwarae’n saff mae WNO wedi newid cyfeiriad o’r diwedd (diolch i Geraint Talfan Davies fel Cadeirydd) ac yn David Pountney mae yma gyfarwyddwr a all argyhoeddi’r byd fod Cymru ar flaen y gad wrth gyflwyno opera i gynulleidfa ehangach fyth. Digon rhwydd ailwampio nifer cyfyngedig o ‘ffefrynnau’ gan smalio mai hyn yw pwrpas opera, ond nid felly y gwêl Pountney bethau.
‘Mae’n rhaid i opera gyfrannu at ddealltwriaeth ddeallus o’n sefyllfa yn y byd heddiw. Mae hynny’r un mor wir am glasuron y genre ag ydyw am yr hyn sy’n ein cymell heddiw i gyflwyno opera i gynulleidfa newydd. Nid adloniant yn unig yw opera – dyma’r ffurf gelfyddydol uchaf ei gobeithion ac y mae gennym yma yng Nghymru y cyfuniad gorau i gyrraedd yr entrychion. Rwy’n gobeithio y bydd ein cynulleidfa yn ymateb ac yn trafod y cyfraniad y mae opera yn ei wneud i’n bywydau – sef ein codi i fyd gwell.’
Wedi profi’r ysgytwad y mae David Pountney yn ei gynnig yn y theatr gerddorol lawer gwaith, gallaf ategu ei ddyhead yn frwd: gall opera yn sicr fod yn rhan hanfodol o’n bywydau, ond dim ond os yw’r gynulleidfa yn barod i gyfrannu hefyd. Dewch, felly, yn llu i’r wledd sy’n barod ar eich cyfer trwy Gymru gyfan.
-----------------------------------
Mae cynyrchiadau haf WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, yn parhau’r mis hwn gyda Lohengrin (1 a 8 Mehefin) a Wagner Dream (6 a 7 Mehefin). Am raglen y gaeaf a’r gwanwyn nesaf ewch i wefan y cwmni www.wno.org.uk
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
