Rhwng 2002 a 2003, roedd fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru ar y pryd – Adam Price, Simon Thomas a Hywel Williams (ynghyd â’n cyfeillion yn yr SNP) – yn unfrydol ein gwrthwynebiad i ryfel Irac. Ar 18 Mawrth 2003 pleidleisiodd pob un ohonom yn erbyn ymosod ar y wlad.
Bryd hynny, fel heddiw, nid oeddem yn credu fod y wybodaeth a gynhyrchwyd gan lywodraeth y dydd yn profi bodolaeth unrhyw fygythiad credadwy o du cyfundrefn Saddam Hussein. Dywedodd Tony Blair y byddai’n rhoi’r gair olaf ar fynd i ryfel i’r Senedd. Ond nododd y cynnig a ffurfiodd sail y bleidlais Seneddol y canlynol:
‘that this House recognises that Iraq’s weapons of mass destruction and long range missiles, and its continuing non-compliance with Security Council Resolutions, pose a threat to international peace and security.’
[Official Report, 18 March 2003; Vol. 401, c. 760.]
O ganlyniad roedd sail y ‘dewis’ a roddodd Mr Blair i’r Senedd yn un ffug. Hyd heddiw, mae hi’n aneglur i ba raddau roedd Blair ac, yn wir, ei Gabinet yn ymwybodol fod yr honiadau hyn yn anwir.
Ar 17 Tachwedd 2004 gosodwyd cynnig uchelgyhuddo Blair yn fy enw i, Edward Garnier QC AS, Douglas Hogg QC AS, ac Alex Salmond AS. Cefnogwyd y cynnig (un ai’n ysgrifenedig neu fel arall) gan ddau ddeg pedwar aelod o Dy’r Cyffredin, ond ni ddaeth yr alwad am ddadl ar y cynnig.
Derbyniodd yr ymgyrch i uchelgyhuddo Blair gefnogaeth clymblaid ‘Stop the War’, y Blaid Werdd, Frederick Forsyth, Terry Jones, Brian Eno, y diweddar Harold Pinter, y diweddar Corin Redgrave, y diweddar Jimmy Reid, a’r diweddar Iain Banks.
Heddiw, Irac yw’r bumed wlad sydd fwyaf dan fygythiad terfysgaeth yn y byd, a’r wythfed wlad fwyaf llygredig. Mae hi’n wlad wedi ei handwyo gan hunanfomwyr a bomiau ceir. Dan y Prif Weinidog Shia, Nouri al-Maliki, caiff grym ei rannu ar hyd llinellau ethnig. Yn economaidd ac yn gorfforol, mae’r wlad wedi ei dinistrio. Mewn pôl a gyhoeddwyd ym Medi 2011, dywedodd 42% o Iraciaid fod pethau’n waeth o ganlyniad i’r rhyfel, o’u cymharu â 30% oedd o’r farn fod pethau wedi gwella.
Un arall o ganlyniadau’r rhyfel yw’r ffaith fod aelodau eraill yr ‘axis of evil’, Iran a Gogledd Corea, wedi cael gafael ar arfau niwclear, ac mae bygythiad terfysgaeth wedi tyfu gartref hefyd. Nid oes sail i’r honiadau fod gan al-Qaeda bresenoldeb cryf yn Irac cyn 2003. Yn sgil y rhyfel y digwyddodd hynny.
Mae’r gost ddynol hefyd wedi bod yn drychinebus. Rhwng Mawrth 2003 a diwedd gweithrediadau’r DU ym Mai 2011, bu farw 179 aelod o luoedd arfog y DU o ganlyniad i weithredoedd yn Irac. O’r rhain, lladdwyd 136 wrth frwydro.
Yn ôl prosiect ‘Iraq Body Count’ (arolwg answyddogol o farwolaethau sifiliaid Irac), mae tua 113,000–123,000 o ddinasyddion wedi marw o ganlyniad i’r trais yn Irac ers Mawrth 2003. Yn ôl yr un ffynhonnell, bu farw 883 dinesydd ym Mai 2013 – y nifer uchaf o farwolaethau ymysg dinasyddion mewn unrhyw fis ers Ebrill 2008.
Dyma wyneb hyll gwaddol y rhyfel.
Ni chaf unrhyw foddhad o ddweud fod y rhai ohonom a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig seneddol wedi ein profi’n gywir. Mae’r difrod yn Irac wedi ei hen wneud, ond serch hynny, mae cwestiynau dros fynd i ryfel yng ngwanwyn 2003 heb eu hateb o hyd.
Nid oes gennyf fawr o amheuaeth fod y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Senedd wedi ei hystumio, a’r penderfyniad i fynd i ryfel wedi ei wneud fisoedd cyn i’r cynnig, hyd yn oed, ymddangos gerbron y Ty.
Fis Medi 2004, agorais ddadl yn galw am gyhoeddi cyngor y Twrnai-Cyffredinol ar gyfreithlondeb y rhyfel yn llawn. Yn ystod y ddadl, gwnes y pwynt yn glir nad ydi’r côd Gweinidogaethol yn cyfyngu ar gyhoeddi cyngor o’r fath. Nodais hefyd fod cynsail yn bodoli ar gyfer cyhoeddi cyngor y Twrnai Cyffredinol, yn cynnwys Terfysgoedd Belffast. Dyfynnais safbwyntiau pum cyfreithiwr rhyngwladol, pob un â barn wahanol ar gyfreithlondeb y rhyfel yn Irac, ond yn unfrydol o blaid cyhoeddi cyngor y Twrnai Cyffredinol yn llawn.
Dywedodd yr Arglwydd Alexander, QC, mai dadleuon y Twrnai Cyffredinol oedd ‘y farn gyfreithiol bwysicaf i gael ei rhannu yn y chwarter canrif ddiwethaf’.
Ond hyd heddiw, nid yw’r cyngor hwnnw wedi cael ei gyhoeddi.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o’r rheswm am hynny. Yn 2002, anfonwyd dogfennau i mi gan ffynhonnell anhysbys a argyhoeddodd fi fod Blair yn benderfynol o fynd i ryfel gydag Irac o’r dechrau un. Roedd nodyn byr gyda’r dogfennau yn dweud eu bod yn ddogfennau cwbl gyfrinachol, rhai ohonyn nhw’n Brydeinig, a’r gweddill yn tarddu o ffynonellau cudd-wybodaeth eraill. Dangosodd y dogfennau fod trafodaethau am ddymchwel Saddam wedi digwydd mor fuan â 2001/2. Roedden nhw’n crybwyll y term ‘regime change’.
Yn fuan wedi derbyn y memoranda, cafodd fy nghydweithiwr ar y pryd Adam Price a minnau ymweliad gan ddau uwch swyddog o Heddlu’r Metropolitan. Nid oedd y dogfennau yn fy meddiant ar y pryd ac felly ni allwn eu rhoi iddynt.
Pan sefydlwyd Ymchwiliad Chilcot yn 2009, serch hynny, penderfynais drosglwyddo’r dogfennau i law swyddfa’r ymchwiliad yn Victoria Street. Yno, rhoddais y dogfennau i Ysgrifennydd yr Ymchwiliad, Ms. Margaret Aldred.
Aeth sawl mis heibio heb i mi dderbyn unrhyw ymateb. Naw mis yn ddiweddarach, ac yn dilyn nifer o lythyrau nas atebwyd, o’r diwedd daethant o hyd i’r cwrteisi i ymateb.
O ganlyniad i’r fath driniaeth, roedd gen i fy amheuon ynglyn â swyddfa’r ymchwiliad. Canfyddais fod Ms Aldred, a oedd wedi gweithredu’n flaenorol fel Is-Bennaeth Ysgrifenyddiaeth Polisi Tramor ac Amddiffyn y Cabinet, wedi cael ei chynnig ar gyfer rôl newydd. Yn honno byddai’n archwilio gweithredoedd yr un Polisi Tramor ac Amddiffyn. Cynigiwyd hi gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, Sir Gus O’Donnell. Roedd y fath wrthdaro posib mewn diddordebau yn syfrdanol. Dysgais fod Ms Aldred wedi cadeirio grwp uwch swyddogion Irac yn rheolaidd yn ei rôl flaenorol. Rhaid cofio hefyd mai Swyddfa’r Cabinet – cyn-gyflogwr Ms Aldred – oedd wedi cynllunio ar gyfer newid cyfundrefn. (Y regime change y cyfeiriais ato’n gynharach).
Diolch i waith ditectif Dr Chris Lamb, daeth yn hysbys inni’n ddiweddarach nad oedd y penodiad hwn wedi dilyn trefn Côd y Gwasanaeth Sifil ac nad oedd yn agored nac yn dryloyw. Mynnais fod penodiad Ms Aldred yn codi’r posibilrwydd fod yr ymchwiliad yn rhyw fath o is-gangen o Swyddfa’r Cabinet. Ond yn absenoldeb adroddiad Ymchwiliad Chilcot i’r rhyfel, mae’n amhosib i mi wneud sylw pellach ar y mater.
Serch hynny, mae’r catalog o gwestiynau sydd heb eu hateb yn parhau i syfrdanu rhywun. Mewn memo gan Blair at ei bennaeth staff, Jonathan Powell, dyddiedig 17 Mawrth 2002 (a oedd, cyn Ymchwiliad Chilcot, heb ei gyhoeddi), meddai Blair:
the immediate WMD problems [posed by Iraq] don’t seem obviously worse than three years ago. So we have to re-order our story and message.
Pam, felly, y dywedodd wrth San Steffan, fisoedd yn unig yn ddiweddarach, fod rhaglen Arfau Torfol Dinistriol Irac yn tyfu?
Dechreuodd Blair y memo i’w bennaeth staff drwy ddweud: ‘I do not have a proper worked-out strategy on how we would do it… I will need a meeting on this with military folk.’
Gallwn gasglu felly fod ‘it’ yn cyfeirio at weithredu milwrol. Yn amlwg, roedd Blair wedi penderfynu, mor fuan â Mawrth 2002, y dylem fynd i mewn i Irac – er gwaetha’r ffaith fod newid cyfundrefn yn anghyfreithlon dan erthygl 2, paragraff 4 Siarter y Cenhedloedd Unedig.
Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy truenus yw’r ffaith fod twyll Blair yn y misoedd yn arwain at y bleidlais ym Mawrth 2003 wedi creu canlyniadau trychinebus yn Irac yn dilyn yr ymosodiad. Ni luniwyd cynlluniau milwrol priodol gan na chawsant eu trafod yn iawn: yn ei dystiolaeth i Chilcot, cyfaddefodd Blair mai dim ond mewn 14 o 28 cyfarfod gyda ffigyrau allweddol i drafod y posibilrwydd o ryfel y cadwyd cofnodion.
Mae’r deunydd cyfrinachol yn cynnwys llythyrau swyddogol rhwng Blair a Bush. Mae disgwyl i Ymchwiliad Chilcot gyhoeddi ei adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn.
Fis Mawrth 2005 teithiais i Irac gan ymweld â Bagdad a Basra. Yn ystod yr ymweliad, a drefnwyd gan y Swyddfa Dramor, cefais gyfle i gyfarfod gwleidyddion lleol a grwpiau merched ym Masra yn ogystal â gwleidyddion cenedlaethol ac undebwyr llafur ym Magdad.
Roedd hi’n amlwg na fu fawr o ymdrech i gynllunio ar gyfer rhyfel – bu hyd yn oed llai o ymdrech i gynllunio ar gyfer yr heddwch. Dywedodd sawl unigolyn wrthyf eu bod yn casáu Saddam ond o leiaf, medden nhw, pan oedd o mewn grym roedd ganddynt garthffosiaeth, dwr glân a thrydan, a rhyw fath o economi. Mae’r wlad mewn cyflwr truenus hyd heddiw.
Gwyddai pawb y byddai Saddam yn cael ei drechu mewn mater o ddyddiau, neu wythnosau ar y mwyaf. Yr unig gynllun heddwch oedd caniatáu i gwmnïau Americanaidd wneud gwaith atgyweirio ar isadeiledd Irac gyda nawdd o’r gorllewin. Cwmnïau oedd y rhain oedd yn dod ag elw ariannol sylweddol i neo-geidwadwyr Bush, yr union rai oedd yn ei gynghori i ymosod ar Irac! Bellach nid oes ganddynt ddiddordeb mewn adfer Irac yn unol â safonau disgwyliedig cenedl sy’n perthyn i’r 21ain ganrif. Cywilydd arnynt oll.
Wrth i ryfeloedd dichonadwy eraill yn y Dwyrain Canol ddod i’r golwg, does dim ond gobeithio y bydd y Prif Weinidog a’i Gabinet yn dysgu gwersi hanes ac yn osgoi camgymeriadau gwaedlyd a dinistriol eu rhagflaenwyr.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
