Thema dywyll Thema golau

Ieuan Wyn – “Pro Gwleidyddol Par Excellence”

Fe dreuliodd Ieuan Wyn Jones fis Awst 1997, gydag ymgyrch y refferendwm yn dechrau poethi, yn Normandi yn ysgrifennu Y Llinyn Arian: Agweddau o Fywyd a Chyfnod Thomas Gee 1815–1898. I Ieuan, roedd Thomas Gee, perchennog a golygydd Y Faner, ‘fel llinyn arian yn clymu’r gwahanol elfennau ym mywyd Cymru yn ystod [y 19eg] ganrif’: Anghydffurfiaeth, yr efengyl gymdeithasol, radicaliaeth Ryddfrydol ac, erbyn yr 1890au, ymgyrch Cymru Fydd dros hunanlywodraeth. Daeth y Saunders Lewis ifanc dan ddylanwad yr elfen olaf yna drwy ddarllen Cofiant Emrys ap Iwan T. Gwynn Jones, awdur Cofiant Thomas Gee yn ogystal, a dyna ran o’r gyriant dros sefydlu Plaid Cymru.

Gellid dadlau mai estyn llinyn arian Thomas Gee i mewn i ail hanner yr 20g., ac i ddechrau’r 21g., fu cenhadaeth wleidyddol IWJ gydol ei yrfa. Bu ei dad yn weinidog yn Ninbych, tref Thomas Gee. Yno yr ymsefydlodd Ieuan yn gyfreithiwr, ac fel ymgeisydd yn Sir Ddinbych y bwriodd ei brentisiaeth etholiadol yn 1974 a 1979. Byth ers hynny, bu’n gyfan gwbl ddiwyro ei ymlyniad wrth amcanion gwleidyddol Gee (wedi’u dwysáu â dogn go lew o sosialaeth) a’r ymgyrch dros hunanlywodraeth yn benodol. Drwy holl ymsymudiadau a chroes-gerrynt y mudiad cenedlaethol dros y cyfnod hwnnw, gwleidyddiaeth etholiadol Plaid Cymru fu cyfrwng ei ymroddiad a’i ymgyrchu cwbl ddiflino.

Ar hyd ei yrfa fe fu wrthi’n meistroli crefft gwleidydda. Fe soniodd wrthyf rywbryd am ei hoffter o ddarllen cofiannau gwleidyddol. O fewn y Blaid fe arloesodd wrth ddatblygu technegau ymgyrchu etholiadol megis casglu, dadansoddi a storio data, targedu sectorau penodol o’r pleidleiswyr a sicrhau bod cefnogwyr yn pleidleisio ar y dydd. Doedd dim carreg i fod heb ei throi er mwyn cyrraedd yr amcan ac roedd yn gas ganddo amaturiaeth byw-mewn-gobaith. Dyma’r pro gwleidyddol par excellence.

Enghraifft nodedig o’i ymroddiad llwyr i wleidyddiaeth y Blaid oedd y penderfyniad i ddadwreiddio’i fusnes a’i deulu (nid heb eu cydsyniad wrth gwrs!) o Ddinbych i Fôn er mwyn manteisio ar y potensial a oedd i’w weld yno yng nghanlyniadau etholiadol y 70au a’r siom yn sgil buddugoliaeth Keith Best, Tori o Sais, dros y Llafurwr cenedlaetholgar Elystan Morgan yn 1979.

Fe soniodd un o Bleidwyr yr ynys wrthyf ar y pryd am y ffordd yr aeth Ieuan ati’n ddiymdroi i adeiladu hyder a theyrngarwch ei gefnogwyr drwy greu peiriant etholiadol ac arwain y drafodaeth gyhoeddus ar faterion megis gwasanaethau cyhoeddus, preifateiddio a dyfodol porthladd Caergybi. Fe’i gwobrwywyd drwy ddod yn ail agos i Best yn 1983 ac ysgubo i fuddugoliaeth yn 1987. Teyrnged i drylwyredd a dycnwch Ieuan yw i’r Blaid gadw’r sedd seneddol yn wyneb mewnfudiad Seisnig parhaus tan iddo droi’i olygon tua’r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn 1992–3, i Ieuan yr ymddiriedwyd y gwaith, a Llywodraeth Major mewn picil wrth geisio llywio Cytundeb Maastricht drwy’r Senedd, o daro bargen fanteisiol i Gymru yn gyfnewid, nifer o droeon, am bedair pleidlais grwp y Blaid, gan ennill parch gweinidogion megis David Davis a Trystan Garel Jones.

Yn y cyfnod hwn roedd y gwynt yn hwyliau’r Blaid wrth i John Smith ymrwymo i sefydlu seneddau i’r Alban a Chymru ped enillai Llafur yr etholiad nesaf, ond newidiodd popeth wedi i Tony Blair gyhoeddi yn haf 1996 y byddai’n rhaid cynnal refferenda. Ysigwyd hyder aelodau’r Blaid gan bryder, yn ymylu ar banig, y gwelid ailadrodd trychineb 1979 a phan ailgynullwyd y Senedd ym Mai 1997, a Llafur mewn grym a refferendwm ar y trothwy, roeddem ni fel llong yn tin-droi yn y niwl. I Ieuan, fodd bynnag, roedd y peth yn syml. Dyma gyfle hanesyddol i gael cynulliad cenedlaethol i Gymru ac roedd rhaid i’r Blaid wneud popeth yn ei gallu i sicrhau pleidlais Ie. Hyd yn oed cyn iddi ddatgan ei chefnogaeth yn gyhoeddus, roedd Ieuan wedi sicrhau gan y Blaid gyllideb i osod system ganfasio ffôn yn ei lle ac aeth ati yn y dirgel i gydlynu â Leighton Andrews o Ymgyrch Ie ac Andrew Davies, trefnydd ymgyrch Llafur. Erbyn trannoeth 18 Medi, nid yn unig yr oedd cofiant Thomas Gee wedi’i gwblhau ond roedd yr awdur wedi chwarae rhan gwbl allweddol yn y gwaith o sicrhau gwireddu elfen ganolog yn rhaglen y gwron hwnnw.

Chwaraeodd ran lawn mor allweddol yn trefnu ymgyrch 1999 i’r Cynulliad Cenedlaethol, gyda’r carismataidd Dafydd Wigley yn arwain y gad. A dyna ddechrau ar gyfnod o ofidiau. O’r cychwyn, cafodd y Blaid hi’n anodd dal y ddysgl yn wastad rhwng cyfrannu’n adeiladol at waith Cynulliad newydd digon bregus a gweithredu fel gwrthblaid heriol-feirniadol. Yn gynnar iawn roedd Ieuan wedi rhagweld clymblaid Llafur-DemRhydd a phan ddaeth yn arweinydd y Blaid ym mis Gorffennaf 2000, gwrthbleidiaeth oedd piau hi.

Cyn iddo gael ei draed tano braidd, fe’i goddiweddwyd, a’r Blaid hithau, gan helynt Seimon Glyn. Bachodd Llafur ar y cyfle i bardduo’r Blaid â chyhuddiad o hiliaeth a gwrth-Seisnigrwydd. Mae methiant Ieuan ar Question Time i ddelio â’r mater yn wyneb ymosodiad Glenys Kinnock bellach yn chwedl. Gwnaethpwyd y gymhariaeth anochel, a theg, â’r ffordd y buasai Dafydd Wigley wedi ymdopi, a chlwyfwyd arweinyddiaeth Ieuan yn dost. Ond roedd y ddilema yr oedd e’n ceisio ymgodymu â hi mor astrus ag yr oedd hi’n enbyd: yr angen ar y naill law i ymateb i angst dilys cenedlaetholwyr ynghylch erydiad eu hiaith a’u hunaniaeth ddiwylliannol ac ar y llaw arall gynnal y weledigaeth o Gymru gynhwysol, amlhiliol yr oedd y Blaid – a neb yn fwy nag Ieuan – wedi gweithio mor galed i’w meithrin. Gwrthsafwyd galwad rhai am ddiarddel Seimon Glyn, neu o leiaf ei ddisgyblu’n llym, ond costiodd yr helynt, a’r saga ddilynol – sefydlu Cymuned, Llais Ceredigion a’r ymgyrch i gael maer i Geredigion ac ati – yn ddrud i’r Blaid. Ataliwyd ei chynnydd a chollwyd sedd seneddol Môn a, maes o law, Ceredigion.

Yn dilyn siom etholiad Cynulliad 2003, roedd y pwysau ar Ieuan mor annioddefol nes iddo ildio’r arweinyddiaeth cyn penderfynu, megis John Major gynt, cystadlu o’r newydd amdani. A dyna ddechrau’r ailadeiladu graddol-gyndyn a arweiniodd yn ei dro at y cynnydd yn etholiad 2007. Erbyn hynny roedd ganddo’r hygrededd arweinyddol i fynnu bod ei blaid yn ysgwyddo cyfrifoldeb llywodraethu a’r sgiliau bargeinio a esgorodd ar Lywodraeth Cymru’n Un. Fe gyflawnodd y Llywodraeth honno lawer, ac ar sawl ffrynt, ond dichon mai’r gamp hanesyddol oedd mynnu, yn nannedd gwrthwynebiad ac amheuon, gynnal refferendwm 2011, ac ennill pwerau deddfu go iawn i’r Cynulliad Cenedlaethol. Felly y gwireddwyd talp sylweddol pellach o fwriad Thomas Gee a Chymru Fydd.

Dyw cymeriad a gyrfa wleidyddol Ieuan Wyn Jones yn ddim llai na rhyfeddod. Bu’n fficser gwleidyddol na welodd y Blaid mo’i debyg yn un peth. Ond cymaint pwysicach yw’r nodweddion eraill: dewrder, hunanddisgyblaeth a phenderfyniad di-ildio a di-lol ac ie, ystyfnigrwydd yn ôl yr angen. Dywedodd wrthyf unwaith mai’r mwyaf y gellid ei ddisgwyl gan ein cenhedlaeth ni oedd ennill senedd ddeddfwriaethol i Gymru. Mae Ieuan gyda’r blaenaf ymysg y bagad a gafodd y maen yna i’r wal. Ffigwr hanesyddol, nid llai.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Stori Teulu a Chyfandir

Ymlaen >

Ysbyty Dinbych 1848–1995