Thema dywyll Thema golau

Cymru Fach

Doeddwn i ddim yn siwr, dau funud ar ôl dechrau gwylio ffilm Cymru Fach, ai ffodus neu anffodus oedd fy sefyllfa. Mae’r ffilm yn dechrau gyda sawl siot o drên ar wib (neu mor gyflym ag y gall trenau’r wlad hon deithio), yn cludo dyn ifanc ar hyd cledrau arfordir y Gogledd. Dim byd arbennig hyd yn hyn. Yna, gwelwn y dyn ifanc (Cliff, Gareth Pierce) yn camu i lawr o’r trên, ac yn cwrdd â merch ifanc (Kerry-Anne, Lowri Gwynne). Mae’r ferch yn ei berswadio, ar ôl ychydig funudau, i gnychu mewn cornel dywyll o’r orsaf, cyn i’r dyn ifanc ddianc tuag adref. A dyna pryd gofiais i fy mod i wedi gweld yr olygfa o’r blaen. Dros ddwy flynedd yn ôl, cefais y profiad o fod yn y gynulleidfa i weld y ddrama lwyfan Cymru Fach, sy’n sail i’r ffilm hon. Sylwer mai profiad yw’r gair, gan na chafodd y cynhyrchiad gwreiddiol fawr o argraff. Neu i fod yn fwy manwl, yr argraff oedd i anghofio’r atgof. Nid yw cyfarwyddwr y ffilm hon ychwaith wedi llwyddo i gynnau llawer o gyffro yn y geiriau artiffisial oedd i’w clywed yn y theatr ddwy flynedd yn ôl. Yn wir, caiff y geiriau gwag eu tanlinellu gan ddelweddau gwag i lenwi ffilm, rhywbeth oedd ddim yn bosibl, yn amlwg, o fewn y cylch sialc.

Mae sgript wreiddiol William Owen Roberts yn seiliedig ar ddrama ddadleuol Arthur Schnitzler, La Ronde, neu Reigen, drama a fu bron ag achosi terfysg pan y’i pherfformiwyd gyntaf ym 1921. Y mae yn bortread di-flewyn-ar-dafod o gymdeithas, ei rhyng-gysylltiadau, a’r afiechydon rhywiol (siffilis) sy’n achosi’i cwymp gwahanol gymeriadau, gan ddatgelu gwir wyneb hagr y gymdeithas. Nid oes ots ar ba haen gymdeithasol fo’r cymeriadau; maen nhw i gyd yn gallu syrthio yn y pen draw. Yn Cymru Fach, y byd Cymraeg sydd yng nghrafangau’r awdur, gan ddilyn y cymeriadau ar hyd arfordir gorllewinol a deheuol y wlad, o Fangor, i Gaernarfon, i Aberystwyth, i’r Eisteddfod, i Abertawe, i Gaerdydd, cyn dychwelyd i’r Gogledd eto ar hyd ffordd osgoi fawr Cymru, Powys.

Mae’r ffilm yn mynd ati o’r cychwyn i wawdio’r sefydliadau Cymraeg: Bwrdd yr Iaith, cwmnïau teledu, y prifysgolion, cerddoriaeth Gymraeg, y Cynulliad a gwleidyddion yn gyffredinol. Yn y drydedd olygfa, rhwng Dennis (Rhys ap Trefor) cyw cynhyrchydd teledu, ac Avril (Sioned Wyn), au pair ei dad, rydym yn cael ar ddeall bod Dennis ar fin cael comisiwn ar gyfer ail gyfres ei raglen deledu. Wedi i Dystion Jehofa darfu arnynt a ninnau ar fin cael y pleser o weld y weithred rywiol am y drydedd waith yn y ffilm (na phoener, wylwyr, mae mwy ar y ffordd!), mae’n bryd i Dennis ddianc i Aberystwyth yn ei gar. Cawn ei ymadawiad ar ffurf golygfa sy’n ceisio’n galed i fod yn gyfoes; tri ebychiad y larwm, y toaster ac injan y car yn rhedeg ar ôl ei gilydd. A yw’r cyfarwyddwr ofn siot hir?

Y rheswm pam bod Dennis yn llwyddo i gael comisiwn ar gyfer ei gyfres, wrth gwrs, yw am ei fod yn cysgu gydag Amanda (Nicola Beddoe), sy’n aelod o Fwrdd yr Iaith. Mae hi ynghanol tröedigaeth, yn deffro i’r ffaith ei bod wedi gwasanaethu fel lackey i’r sefydliad, yn galaru am fod geiriau fel ‘hyrwyddo Cymreictod mewn cyd-destun newydd’ yn cuddio’r ffaith nad oes unrhyw beth yn cael ei wneud i wrthdroi’r ‘mewnlifiad afiach ’ma’. Y teimlad yw nad ei geiriau hi yw’r rhain, ond serch hynny caiff Amanda ei rhoi ar bedestal fel llais yr awdur. Y frawddeg annealladwy sy’n goron ar hyn i gyd, yw ‘ond – oes gair mwy Cymreig yn bod?’

Yn raddol, mae’r ffilm yn ceisio cyrraedd uchelfannau’r byd Cymraeg. Amanda yw gwraig Eurwyn (Aneirin Hughes), athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd â’i fryd ar gyrraedd ‘y plas’ a swydd is-ganghellor y brifysgol. Mae Eurwyn yn teimlo y bydd popeth yn iawn wedi hynny, ac y bydd y fath lwyddiant yn ddigon i’w wraig hefyd. Mae e’n cael carwriaeth ar y slei gydag un o’i fyfyrwyr, Alison (Caitlin Richards). Cawn olygfa rhwng y ddau, lle mae Eurwyn fel bachgen bach cenfigennus yn holi faint o fechgyn mae Alison wedi bod gyda nhw yn yr Eisteddfod. Ceir golygfa embarassing ofnadwy, am y rhesymau anghywir, ar y Maes Ieuenctid wrth i Alison gyflawni gweithred rywiol ar Eurwyn tu allan i’w phabell. Rhaid teimlo trueni dros yr actorion, sy’n gwneud eu gorau drwyddi draw, gyda llinellau o sgript, wrth drafod agor potel o win, fel ‘dadsgriwio neu sgriwio ni am ’neud gynta?’

Mae mwy o ddeialog ‘risque a ‘dadleuol’ yn frith yn yr olygfa nesaf, rhwng y cerddor Raymond (Steffan Rhodri) (o ble mae’r enwau ’ma’n dod?) ac Alison. Yma, mae’r awdur yn llwyddo i wasgu sgwrs am hoff ffantasïau Alison a honiadau’r ddau mai ‘Saesneg yw’r Gymraeg newydd’, ac mai aeddfedu a chenhadu i’r byd yw canu yn Saesneg. Mae’r ddeialog yn ffals, a’r ddadl yn mynd â ni ’nôl ddeng mlynedd a mwy i ddyddiau cynnar Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Ai dyma yw ‘gofyn cwestiyna gonest i chdi dy hun’? Fodd bynnag, stori Raymond yw un o’r uchafbwyntiau prin yn y ffilm, ac yn un o’r straeon y gellid efallai fod wedi rhoi mwy o sylw iddi (ynghyd â stori gyfoes a phwysig y milwr ar y dechrau sy’n dychwelyd o Basra). Yn ogystal â bod yn ganwr gwael, mae Raymond hefyd wedi cael arian Amcan Un (‘Amcan Dau yw cael mwy o arian gan y Cynulliad’) i greu canolfan ynni amgen yn y Gorllewin i greu swyddi cynaliadwy. Gwelwn fyd Raymond yn datod wrth i raglen Panorama ddatgelu nad yw Raymond wedi gwario’r arian ar swyddi ac offer i’r ganolfan, ond yn hytrach ar offer stiwdio er mwyn hyrwyddo gyrfa gerddorol Alison.

O hyn ymlaen mae’r ffilm i’w gweld, o’r diwedd, fel petae yn canfod ei thraed, o safbwynt sgript a chyfarwyddo. Mae’r cyfarwyddwr fel petae o’r diwedd yn pwyllo, ac mae golygfeydd Raymond ac Irene (Victoria Pugh), ac Irene a Jimmy (Gwyn Vaughan), sy’n ymdrin â gwleidyddiaeth Cymru yn hytrach na rhyw daflu baw at y sefydliadau, yn llawer aeddfetach. Rhagrithiwr yw Jimmy, sy’n gweld symud i Fae Caerdydd o’i swydd bresennol fel Aelod Seneddol yn ‘gam yn ôl’. Mae e am wneud rhywbeth, am ‘wneud ei farc’, efallai drwy fynd i Frwsel. Erbyn golygfa olaf y ffilm, mae bellach yn Arglwydd Jimmy.

Ffilm yw hon sy’n trio mor galed i fod yn herfeiddiol fel nad oes unrhyw rinwedd arall iddi, bron. Pe bai modd osgoi’r cwestiynau amlwg am waith yr awdur ei hun, y sgriptio gwan a’r syniadau rhyfedd am beth yw cymdeithas, mae gormod o wacter yn treiddio drwy’r gwaith gweledol. Does dim llinyn yn rhedeg drwy’r golygfeydd o’r olwyn fawr uwchlaw Caernarfon, y ffrynt yn Aberystwyth, goleuadau llachar Abertawe; yr oll mae’r cyfarwyddwr wedi’i wneud yw creu delweddau hardd sy’n ymdebygu i hysbyseb gan Fwrdd Croeso Cymru. Rwy’n siwr na fyddai’r awdur yn hapus iawn â hynny. Yn yr un modd, mae’r defnydd o gerddoriaeth a sain yn drwsgwl. Mewn un olygfa mae’r milwr yn clywed synau brwydro, ond mae’r sain yn gwbl afrealistig ac ni chaiff y llinyn ei ddatblygu. Mae’r gerddoriaeth fel jukebox o stwff Cymraeg, yn gwthio’i ffordd i mewn ar adegau amhriodol, fel ffrind Amanda ac Eurwyn yn gofyn am fwstard, a’r ddau ar ganol ffrae. Yn ôl Alison, mae’n cymryd 87 munud i sgandal ledu o un pen o Gymru i’r llall. Mae’r ffilm hon yn cymryd 72 munud i ddweud bron dim.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Golygyddol - Tir Glas Cymru

Ymlaen >

Hawl i'r Gymraeg