Mae’r ysgrifen ar y mur, ac un gair sydd yno’n fawr ac yn fras: chwyddiant. Mae ynganu’r term yn ddigon i anesmwytho’r rhai ohonom sy’n cofio’r 1970au, pan oedd prisiau’n codi hyd at 27% y flwyddyn, a Phrydain yn gorfod troi at yr IMF i gadw’r wlad allan o’r coch. O chwilio ymhellach yn ôl i’n cof gwerin, cwyd drychiolaethau o drueiniaid Gweriniaeth Weimar yn casglu eu cyflogau mewn whilberi, cyn cyfnewid miliwn o Reichmarks am dorth o fara. Neu gallwn gyfeirio at yr esiampl gyfoes amlwg, Zimbabwe, lle mae arian yn ddiwerth cyn cael ei wario, gyda chwyddiant blynyddol o fwy na 100,000%. Dim ond tua 4% oedd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) Prydain yn hanner cyntaf eleni, ond ar i fyny y mae ei duedd. Mae’r RPI wedi bod yn codi’n raddol o’i isafbwynt o 1% yng nghanol 2002, ac mae pob argoel mai dal i esgyn a wna. Pwy neu beth, felly, sy’n gyfrifol am y sefyllfa?
Mae pawb yn gytûn erbyn hyn mai peth drwg yw chwyddiant, ond mae cryn anghydweld o hyd am beth yw gwraidd y drygioni. O wrando ar y Prif Weinidog a’i Ganghellor, y mae’r ateb yn ddigon syml, sef nyni. Trwy fynnu mwy o arian, ac wedyn mynnu ei wario, yr ydym ni, bobl Prydain, yn tanseilio economi ein gwlad ac yn bygwth ein bywiolaethau ein hunain. Er mwyn ein lles ni gyd, rhaid i ni ymatal rhag y fath ymddygiad hunanol, a ‘restraint’ yw’r cysyniad mawr y mae’r Meistri Darling a Brown yn ei ddyrchafu fel totem gerbron y wlad. ‘Pay discipline is essential to prevent inflation’, dwrdiodd Gordon Brown o flaen Cynghres yr Undebau Llafur y llynedd. Yr un neges a oedd gan ei gan ei olynydd yn y Trysorlys yn araith gyntaf hwnnw o flaen Arglwydd Faer Llundain ym mis Mehefin eleni, pan rybuddiodd Alistair Darling giniawyr y Mansion House rhag peryglon ‘inflationary pay settlements’, gan alw am ‘continued restraint on pay’.Yn goron ar y cyfan, wele’r Prif Weinidog wrthi eto ym mis Gorffennaf eleni, yn sbecian i mewn i geginau’r wlad ac yn ein cyhuddo o wthio prisiau i fyny trwy wastraffu bwyd ac felly’n creu ‘unnecessary demand’.
Ac os nad yw’r fath bwysau moesol yn ddigon i’n tynnu oddi wrth ein hafradlonedd digywilydd, mae bwgan arall i’n dychryn. Os na phwyllwn a chymedroli, fe’n rhybuddir, llithro’n ôl i ddyddiau tywyll yr 1970au fydd ein tynged anochel; ac os oes un peth arall y mae pawb yn cytuno yn ei gylch, hwn ydyw: nad oes neb am ddychwelyd i’r degawd a ddaeth yn enwog am anghydfod diwydiannol ac ansefydlogrwydd economaidd. Yr eironi mawr yn hyn oll yw fod arweinwyr y wlad, wrth ein rhybuddio mor groch am beryglon ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol, yn eu troi eu hunain at ddulliau’r ’70au i ddatrys ein problemau. Yn natganiadau cyhoeddus Darling a Brown, gwelwn arwyddion clir o atgyfodiad rhywbeth a oedd gymaint yn rhan o’r 1970au â hafau poeth, skateboards a Björn Borg, sef y Polisi Prisiau ac Incymau. Trwy’r rhan fwyaf o’r degawd hwnnw – a’r un blaenorol – cafwyd ymdrechion diffuant a difrifol ond cynyddol seithug gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd i gadw gafael ar chwyddiant trwy reoli cyflogau a phrisiau, naill ai trwy berswâd neu drwy statud. Ni chyraeddasom y pwynt eto lle y mae ein gwleidyddion heddiw’n barod, fel y bu Callaghan a Heath ar un adeg, i geisio deddfu yn erbyn chwyddiant, ond y mae’r galwadau mynych am ‘restraint’ yn dangos mor gryf yw gafael y meddylfryd saithdegaidd ar sawl un a ddylai wybod yn well.
Claddwyd ffolineb y Polisi Prisiau ac Incymau – yn derfynol, yn ôl pob golwg ar y pryd – yn 1979, pan gamodd y monetariaid o’r cysgodion a chydio yn awenau’r wlad. Beth bynnag oedd eu gwendidau, pobl oedd y rhain a ddeallai gyfalafiaeth. Pobl oeddynt a wyddai – er ei fod yn cael ei fynegi mewn gwahanol ddulliau cymhleth – mai ffenomen syml yn y bôn yw chwyddiant mewn economi gyfalafol. Mae’n digwydd am fod mwy o arian yn cylchredeg nag y mae twf yr economi yn ei gyfiawnhau. Yr arwydd amlycaf fod gorgyflenwad o arian yw bod prisiau a chyflogau’n codi’n gyflymach, ond symptom yw hynny, nid achos. Yng ngeiriau cyffelybiaeth gofiadwy Enoch Powell, y mae honni bod chwyddiant yn digwydd achos bod prisiau’n uchel fel dweud bod glaw yn disgyn oherwydd bod y pafin yn wlyb.
Nid gweithwyr na chynhyrchwyr, felly, sy’n gyfrifol am chwyddiant trwy fynnu’r tâl gorau y gall y farchnad ei roi. Ni ellir rhoi’r bai ar werthwyr, chwaith, am gynnig nwyddau am y prisiau a ddaw â’r elw fwyaf iddynt, nac ar eu cwsmeriaid am brynu’r hyn sydd ar gael hyd y gallant ei fforddio. Ymddygiad cwbl naturiol mewn economi gyfalafol yw hwn; afresymol ac annaturiol fyddai i bobl wneud fel arall. Cysyniad estron, mae’n siwr, yw hwn i sawl yn y Blaid Lafur, plaid sydd wedi ymroi i hybu cyfalafiaeth heb erioed fod yn rhyw gysurus iawn yn ei chylch. Nodweddiadol iawn o’r anghysur hwn yw galwadau Darling a Brown am ‘restraint’, galwadau sy’n amlygu eu hawydd i weld y farchnad yn gweithio mewn modd mwy trefnus, llai cyfalafol. Fel y gwelwyd ar adeg helynt Northern Rock, a phan gaewyd ffatri Burberry yn Nhreorci, lladmeryddion brwd iawn dros y farchnad rydd yw Llafurwyr, ond amharod iawn ydynt i dderbyn ei goblygiadau.
Ymhlith y goblygiadau hyn, un ffaith syml ac anghyfleus y mae Darling a Brown am ei hanwybyddu yw mai llywodraethau cenedlaethol, trwy reoli’r cyflenwad arian neu beidio â’i reoli, sy’n pennu gwerth arian, ac felly’n rheoli’r raddfa chwyddiant. Dewis peidio â’i reoli y bydd llywodraethau fel arfer, a hynny am fod canlyniadau ei reoli mor annymunol ac amhoblogaidd, iddynt hwy ac i’w hetholwyr, yn enwedig yn y tymor byr. Fel y cydnabu Simon Heffer – un o selogion selocaf monetariaeth – yn ddiweddar, ffisig go chwerw fyddai unrhyw ymgais i gyfyngu yn awr ar y cyflenwad arian, gan arwain at fethdaliadau yn y sector preifat a diswyddiadau lu yn y sector cyhoeddus. Am y rheswm hwn, yn bennaf, y bu llawer un yn barod iawn i wfftio monetariaeth, gan dybio, gan eu bod yn ei gweld yn syniadaeth greulon ac annynol, na allai gynnig diagnosis cywir o gyflwr cyfalafiaeth. Ond dyna’n union y mae hi’n ei gynnig.
Y gwir yw nad yw’r egin-argyfwng chwyddiant ond cadarnhad, pe bai ei angen, o natur y gyfundrefn yr ydym yn rhan ohoni. Ansefydlog yn ei hanfod yw cyfalafiaeth, gyda llu o ffactorau – megis chwyddiant – yn croesdynnu o’i mewn i wneud ffyniant parhaol yn amhosibl. Anaml y ceir twf heb chwyddiant yn dynn ar ei sodlau; a chymaint yw rhyfeddodau dirgel ffyrdd y farchnad nes ei bod yn bosibl hefyd ddioddef chwyddiant pan fydd yr economi’n crebachu. Am yr holl resymau hyn, mae rhai – lleiafrif, mae’n wir – yn gwrthod cyfalafiaeth ac yn gweithio dros drefn fwy cydweithredol a democrataidd. I’r mwyafrif, gan gynnwys pob un o’n prif bleidiau gwleidyddol, sy’n mynnu gweithio o fewn y drefn sydd ohoni, mae gwers galed i’w dysgu. Nid oes yr un ffordd sicr o rwystro chwyddiant mewn economi gyfalafol ond drwy gyfyngu ar y cyflenwad arian a disgwyl am y gwaethaf am y tro, nes i gydbwysedd yr economi ddychwelyd. Yn y cyfamser, mae un peth sy’n sicr: ni fydd ymdrechion Mr Darling i gadw trefn ar bethau trwy alw arnom i arfer ‘restraint’ fymryn yn fwy llwyddiannus nag oedd ymdrechion Meistri Callaghan a Heath o’i flaen.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
