Thema dywyll Thema golau

Is-etholiad Glenrothes

Fe fydd rhai ohonoch yn cofio i mi ymweld a'r Alban llynedd, er mwyn adrodd ar ymgyrch yr SNP yn etholiadau seneddol. Bryd hynny, bum yn dilyn Alex Salmond wrth iddo fynd ati i geisio denu digon o gefnogaeth i allu ffurfio llywodraeth genedlaetholgar Albanaidd am y tro cyntaf. Ac yn gwbl ddamweiniol, treuliodd y diwrnod arbennig hwnnw yn Ebrill 2007 yn crwydro'r union etholaeth sydd – flwyddyn a hanner yn ddiweddarach – yn faes y gad unwaith eto.

Etholaeth wasgaredig ar lannau'r Forth yw Glenrothes. Mae'r etholaeth wedi ei henwi ar ôl y ganolfan boblogaethol fwyaf, un o'r “Trefi Newydd” digon di-galon a godwyd yn y blynyddoedd yn union ar ôl yr Ail Ryfel Byd. O amgylch y brif dref hon mae nifer o drefi llai a phentrefi, llawer ohonyn nhw yn gyn-ardaloedd diwydiannol, a fu'n ganolfannau morwrol neu lofaol ar rhyw gyfnod. Yn yr oes ôl-ddiwydiannol hon, does 'na ddim rhyw lawer o fwrlwm yn perthyn i'r ardal. Croeswch Bont Forth am 5 o'r gloch y prynhawn, ac fe welwch fflyd o gerbydau yn teithio o gyfeiriad Caeredin am y dref. Ar eu ffordd adref o'r gwaith, bydd gyrwyr y ceir hyn yn pasio hoel ymdrechion sawl llywodraeth ac asiantaeth ddatblygu i adfywio Glenrothes. Mewn un man wrth ochr y ffordd, saif ffatri anferthol, newydd sbon. Fe'i codwyd – ar gost o filiynau o bunnoedd i'r trethdalwyr – yn benodol er mwyn cartrefu cwmni gwneud sglodion-meicro i gyfrifiaduron, rhan o fuddsoddiad a oedd yn fod i droi yr ardal yn “Silicon Glen”. Ond erbyn i'r to gael ei osod ar y ffatri newydd, roedd y diwydiant technolegol hwn wedi penderfynu chwilio am borfeydd glasach, a does yr un gweithiwr erioed wedi ei gyflogi yno.

Er bo Glenrothes yn beryglus o agos ar fan geni yr athronydd economaidd Adam Smith, mae'r rhan hon o'r Alban wedi bod yn gadarnle i'r Blaid Lafur ers cenedlaethau. Dyma gartref gwleidyddol Gordon Brown, sydd – yn ogystal a bod yn Brif Weinidog Prydain – yn aelod seneddol ar etholaeth Kirkcaldy a Cowdenbeath, sydd yn ffinio Glenrothes. Cynrychiolydd diweddaraf Glenrothes yn y senedd oedd John MacDougall, un o ffrindiau Brown, a cyn iddo ef ennill y sedd – a gai ei hadnabod fel Central Fife bryd hynny – cai ei chynrychioli gan Henry McLeish, ail brif weinidog yr Alban ddatanoledig. Rhwng 1945 a 1950, roedd yr etholaeth ym meddiant y Blaid Gomiwnyddol, a gai eu cynrychioli gan yr Undebwr Llafur enwog, William Gallacher. Mewn unrhyw flwyddyn arferol, felly, gellid disgwyl y byddai'r Blaid Lafur yn dal eu gafael ar y sedd hon heb rhyw lawer o ymdrech. Ond a Llafur yn genedlaethol yn hynod amhoblogaidd, mae'r SNP wedi targedu y sedd, gyda'r gobaith o'r chipio o dan drwyn y Prif Weinidog, fel y digwyddodd yn Nwyrain Glasgow ym mis Gorffennaf.

Y tro diwethaf i mi ymweld a'r ardal cefais fy nghyflwyno i'r dyn a oedd yn sefyll ar ran yr SNP yn etholaeth Kirkcaldy yn etholiadau Senedd yr Alban – gwr unigryw o'r enw Chris Harvie. Syndod o'r mwyaf oedd darganfod – a ninnau yn sefyll tu allan i ffatri bapur yn Markinch – ei fod yn aelod o Blaid Cymru yn ogystal a'r SNP. Wrth sgwrsio ac ef y diwrnod hwnnw, daeth yn amlwg ei fod yn adnabod Cymru yn well na sawl Cymro cynhenid. Mae ganddo gartref yn Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth, ac mae wedi dysgu yn y coleg ger y lli. Yn fwy na hynny, roedd yn cyfri y diweddar Gwynfor Evans a Kyffin Williams ymhlith ei gyfeillion – ac roedd yn adnabod nifer o gyfranwyr Barn yn dda. Doedd hi'n fawr o syndod i'r ddau ohonom ni gael sgwrs faith, felly, a cadwais mewn cysylltiad ag ef dros y misoedd nesaf. Methodd a chael ei ethol yn Aelod o Senedd yr Alban (ASA) dros Kirkcaldy, ond gan nad yw'r gwaharddiad ynfyd yn erbyn sefyll ar restr rhanbarthol ac mewn etholaeth yn berthnasol i'r Alban, mae wedi llwyddo i ennill sedd yn cynrychioli Canolbarth yr Alban – rhanbarth sydd yn cynnwys Glenrothes.

Roedd Harvie ymhlith y cannoedd o aelodau'r SNP a deithiodd i Glenrothes i gynorthwyo yn y frwydr. Ar brynhawn glawog olaf y 6ed o Dachwedd, roedd y ganolfan ymgyrchu yn Markinch o dan ei sang. Safai John Beare, un o gynrychiolwyr yr SNP ar Gyngor Fife, wrth yr adwy yn gwaeddi ar bobl i symud o'r ffordd, er mwyn i'r fflyd o geir – pob un a baneri yr Alban yn cyhwfan o'i ffenestri – allu mynd a dod, yn llawn cefnogwyr ar eu ffordd i guro drysau'r etholaeth.

Teithiais gyda Chris Harvie wrth iddo gael ei yrru i sefyll tu allan i Eglwys Sant Ninian, ynghanol stad o dai cyngor digon distadl yng nghanol y dref. Yn aros amdanon ni roedd Linda, dynes leol, yn rhannu taflenni ar ran y Blaid Lafur. Ac er nad oedd yr etholwyr yn sefyll mewn rhes tu allan i'r eglwys, yn aros am y cyfle i bleidleisio, roedd llif cyson o bobl yn cyrraedd, a hynny yng nghanol y prynhawn, a'r glaw yn pistyllio. Mae'r berthynas rhwng dwy brif blaid yr Alban yn adnabyddus am ei chwerwder, doedd dim o hynny i'w ganfod tu allan i Eglwys Sant Ninian. A minnau'n bresenoldeb estron, trodd y sgwrs at Gymru. Roedd Linda, yn ogystal a Chris, yn ymwelydd cyson a Chymru, ac yn hytrach na thrafod rhagolygon y ddwy blaid yn Glenrothes, aeth yn sgwrs ynglyn ac atyniadau twristaidd de-orllewin Gwynedd.

Serch hynny, roedd gan Harvie ddigon i'w ddweud ynglyn a rhagolygon ei blaid, wedi i ni ffarwelio a Linda. Roedd yn ofalus i beidio a bod yn rhy barod i ddarogan y dyfodol, ond roedd yn ffyddiog y byddai'r SNP yn dod yn agos at ennill y noson honno. Erbyn canol y prynhawn, roedd gwefan y Guardian yn darogan y byddai'r SNP yn ennill o tua 1500 o bleidleisiau, ond roedd Harvie – ynghyd a nifer o'i gyd-aelodau – yn gwrthod credu y byddai cymaint a hynny o fwlch rhwng y ddwy blaid. Holais John MacInnes, Swyddog y Wasg i'r SNP beth oedd ei broffwydoliaeth ef. “Fe fydd 'na llai na 200 ynddi” meddai – ond gwrthodai ddweud pa blaid fyddai ar y blaen.

Gall rhywun ddeall pam bod yr SNP yn amharod i ddweud gormod. Er mai sedd Lafur – a sedd Lafur ddiogel – oedd hon, roedd yn rhaid i'r SNP ddangos nad tan siafins oedd buddugoliaeth 2007. Yn wahanol i genedlaetholwyr Cymreig, mae'r SNP yn anelu o ddifri at dorri yn rhydd o hualau Prydain. Mae'n bur debyg na fydden nhw'n llwyddo yn y dyfodol agos iawn; Dyw trwch y boblogaeth ddim, eto, yn debygol o gefnogi annibyniaeth mewn refferendwm. Ond drwy wthio tuag at annibyniaeth yn y tymor canolig, maent yn gobeithio ennill rhagor o rymoedd i Senedd yr Alban yn y tymor byr.

Pan bum i draw yn yr Alban yn 2007, dywedodd Alex Salmond wrthyf ei fod yn dymuno gweld “datganoli economaidd” yn dod i'r Alban – hynny yw, bod gan Senedd Holyrood yr hawl i godi trethi. Byddai ennill grym o'r fath yn gam anferth ymlaen i'r Alban, ac yn golygu newid sylfaenol, pell-gyrhaeddol yn natur yr Undeb. Ond er mwyn bod a chyfle o ennill y wobr arwyddocaol hon, roedd yn rhaid i'r SNP allu cynnal momentwm y 18 mis diwethaf. Mae'r trafferthion ariannol byd-eang wedi siglo'r blaid, gyda llawer o sylwebyddion yn dadlau na fyddai Alban annibynnol yn gallu gwrthsefyll grymoedd y farchnad ariannol ryngwladol ar ei phen ei hun. Er mwyn dangos nad yw'r cyhoedd wedi colli hyder yn yr SNP, roedd ennill Glenrothes yn hynod o bwysig.

Ond nid felly y bu hi. Wrth i'r blychau pleidleisio gael eu hagor, daeth yn amlwg bod holl waith caled y cenedlaetholwyr wedi bod yn ofer. Doedd y canlyniad ddim am fod yn un agos. Daeth sibrydion o garfan yr SNP yn cydnabod eu bod wedi colli, a hynny o fil neu fwy. Erbyn i'r ddau ymgeisydd gael eu galw i'r llwyfan, roedd pawb yn y neuadd yn ymwybodol nad ychydig filoedd oedd ynddi – enillodd Lindsay Roy, ymgeisydd Llafur, a hynny o fwyafrif o 6,737. Yn ei araith fuddugol, enwyd Gordon Brown dair gwaith gan Roy; roedd y neges yn glir – nid yw pethau ar ben i Lafur.

Mae'n anodd gwybod pa effaith a gaiff hyn ar boblogrwydd Llafur drwy Brydain gyfan. Roedd Glenrothes yn sedd Lafur ddiogel, wedi'r cyfan, ac mewn unrhyw flwyddyn arall byddai'r is-etholiad hwn wedi pasio yn ddistaw. Dim ond ffwl fyddai'n dadlau bod yr hyn a ddigwyddodd yn Glenrothes yn debygol o gael ei ail-adrodd mewn etholaethau ymylol yn Lloegr, sydd a hanes o newid dwylo yn gyson. Pan ddaw etholiad cyffredinol mewn blwyddyn a hanner, mae'n ddigon posibl mai ymylol fydd y rhan a gaiff ei chwarae gan etholaethau megis Glenrothes, wrth edrych ar y darlun Prydeinig.

Ond mae'r canlyniad yn un arwyddocaol yn yr Alban, ac hefyd yng Nghymru. Clywn rai o aelodau yr SNP a Phlaid Cymru yn sôn o dro i dro am “etifeddu y traddodiad radical”. Wrth wraidd hyn y mae'r syniad bod trwch etholwyr Cymru a'r Alban wedi treulio cenedlaethau yn pleidleisio yn ffyddlon i'r Blaid Ryddfrydol, cyn trosglwyddo eu teyrngarwch i'r Blaid Lafur, wedi'r Ail Ryfel Byd. Gobaith rhai cenedlaetholwyr yw bod yr union etholwyr hyn – y dosbarth gweithiol, sosialaidd, sydd yn trigo tu allan i'r brifddinas – yn barod i symud en masse at blaid newydd, radical, unwaith eto, ac mae'r pleidiau cenedlaetholgar fydd yn elwa o'r newid sylfaenol hwn.

Wedi canlyniadau syfrdanol yn etholiadau Seneddol a Chynulliad 2007, buddugoliaeth yr SNP yn is-etholiad Dwyrain Glasgow, a chanlyniadau trychinebus y Blaid Lafur Gymreig yn etholiadau llywodraeth leol eleni, roedd 'na rai cenedlaetholwyr yn dechrau gobeithio ein bod ar fin gweld y newid sylfaenol hwn yng ngwleidyddiaeth Prydain. Roedd 'na rai yn credu y byddai etholiad cyffredinol 2010 yn gweld pleidlais Llafur yn ei chadarnleoedd hanesyddol yn diflannu, yn wyneb amhoblogrwydd cenedlaethol y blaid, gyda'r SNP a Phlaid Cymru yn elwa ar amheuaeth hanesyddol y Cymry a'r Albanwyr o Geidwadaeth. Mae canlyniad Glenrothes yn gwneud i rhywun amau nad fel hyn y bydd hi. Fel y mae sawl un o genedlaetholwyr y gorffennol wedi darganfod, mae cefnogaeth y ffyddloniaid Llafurol yn ei chadarnleoedd yn fwy gwydn na'r disgwyl. Wedi buddugoliaeth Plaid Lafur yr Alban yn Glenrothes, bydd yn rhaid i'r SNP a Phlaid Cymru ystyried, unwaith eto, y ffordd ymlaen.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Americanwr oddi cartref

Ymlaen >

Senedd, nid arwisgiad