A minnau’n rhannu cred greiddiol a di-sigl Dafydd Glyn Jones ym mhwysigrwydd addysg brifysgol cyfrwng Cymraeg i ddyfodol yr iaith, ac yn parchu’n fawr iawn ei arweiniad ynglyn a’r mater, teimlaf ei fod yn haeddu ymateb. A’r ymateb hwnnw’n syml yw hyn: gwaetha’r modd, ni allaf gytuno fod modd achub y freuddwyd o Goleg Ffederal o weddillion Prifysgol Cymru. Er mor enbyd o drist yw gorfod cydnabod hynny, mae unrhyw botensial a arferai berthyn i’r Brifysgol honno fel cyfrwng i hybu datblygiadau newydd wedi darfod amdano, a hynny’n derfynol. Yn hytrach, yr unig beth sy’n werth ei ystyried o ran y Brifysgol yw sut i forol am yr agweddau hynny o’i gwaith sy’n rhaid eu gwarchod er mwyn dyfodol ysgolheictod Cymraeg a Chymreig: y Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd ac, yn bennaf oll, Gwasg y Brifysgol. Fel arall, mae cyfraniad y Brifysgol ar ben.
A minnau, fel cymaint o ddarllenwyr Barn, wedi fy magu i barchu Prifysgol Cymru fel sefydliad cenedlaethol o bwys, nid peth hawdd yw datgan peth mor fawr â hynny mewn modd mor gignoeth. Ond ni thâl gwamalu. Mae 'na ormod yn y fantol.
O safbwynt y cynllun gwreiddiol ar gyfer Coleg Ffederal, yr oedd Prifysgol Cymru yn allweddol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, roedd yn cynnig fforwm a fframwaith sefydliadol parod (fwy neu lai) ar gyfer sicrhau cydweithrediad a chydlyniad rhwng y ‘sefydliadau cyfansoddol’, fel ei gelwid – sef Bangor, Aberystwyth, ac yn blaen – a’r Coleg Ffederal arfaethedig. Yn ail, ac yn gysylltiedig â hynny, gan fod y sefydliadau cyfansoddol i gyd yn cynnig yr un radd – gradd Prifysgol Cymru – wedi ei gweinyddu ar sail yr un rheoliadau cyffredin, byddai modd i fyfyrwyr wedi eu cofrestru gyda’r Coleg Ffederal astudio cyfuniad o gyrsiau wedi eu cyflwyno dan adain canghennau o’r Coleg Ffederal ar sawl safle ynghyd â’r sefydliadau cyfansoddol eu hunain. Byddai hyn yn ei dro yn sicrhau’r math o arlwy a hyblygrwydd a fyddai’n angenrheidiol er mwyn denu darpar fyfyrwyr i’r Coleg. Dichon y byddai angen dogn go helaeth o ewyllys gwleidyddol i’w gwireddu, ond genius cynllun y Coleg Ffederal oedd ei fod yn gweithio gyda graen y gyfundrefn addysg uwch yng Nghymru – fel ac yr oedd.
Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r rhod wedi troi. Gydag eithriad Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin, mae gweddill y sefydliadau addysg uwch rheini sy’n greiddiol bwysig o safbwynt darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi gadael Prifysgol Cymru ac yn brifysgolion llawn yn eu hawl eu hunain. Nid oes unrhyw werth i Brifysgol Cymru fel corff cydlynu neu gorff a all hybu a hwyluso cydweithrediad rhyngsefydliadol. Yn gysylltiedig â hynny, nid gradd Prifysgol Cymru a draddodir gan yr hen sefydliadau cyfansoddol bellach chwaith. Mae Bangor, Aber a’r gweddill yn traddodi eu graddau eu hunain a’r sail eu rheoliadau eu hunain. Dim ond sefydliadau addysg uwch gwanaf Cymru sy’n parhau i draddodi graddau Prifysgol Cymru. Yn wir, o edrych ar y tablau sy´n dangos perfformiad ymchwil sefydliadau addysg uwch Prydeinig, gwelir bod y sefydliadau rheini sy'n parhau i draddodi graddau Prifysgol Cymru ymysg y gwanaf yn y Deyrnas Gyfunol. Nid er mwyn bod yn filain yr wyf yn dweud hyn. Yn hytrach, gwneud er mwyn tanlinellu un pwynt hollbwysig. Un o’r dadleuon a glywir mynychaf gan y rheini sy’n parhau i ddadlau dros rôl ganolog i Brifysgol Cymru yn y Coleg Ffederal arfaethedig yw bod sefydlu prifysgol o’r newydd yn dalcen caled ar y naw ac y byddai’n gallach felly manteisio ar strwythur sydd eisoes yn bodoli, sef Prifysgol Cymru.
Y broblem gyda’r ddadl honno yw hyn: pa bynnag fri a gysylltwyd â gradd Prifysgol Cymru yn y gorffennol, buan iawn y bydd hynny’n newid wrth i ddarpar fyfyrwyr a darpar gyflogwyr ddod i ddeall gwir sefyllfa’r Brifysgol sydd ohoni. Mewn sefyllfa o’r fath, fe fydd graddau o Fangor neu Aber neu Gaerdydd, dyweder, lawer iawn yn fwy deniadol na gradd Prifysgol Cymru, hyd yn oed os yw hyn yn beth anodd i’r rhai ohonom sy’n ddeiliad graddau’r Brifysgol honno i’w gydnabod. Ond ni ellir codi dim o werth ar seiliau mor sigledig â sentiment a hiraeth am a fu. I’m tyb i, byddai ceisio adeiladu cyfundrefn addysg uwch cyfrwng Cymraeg newydd ar dir mor sigledig a threuliedig a Phrifysgol Cymru yn gamgymeriad trychinebus.
Ar y pwynt yma anodd iawn yw osgoi trafod y cwestiwn o sut yn y byd y cwympodd Prifysgol Cymru mor bell? Adroddiad ar ddyfodol y Brifysgol gan bwyllgor a gadeiriwyd gan Dafydd Wigley sy’n cael y bai gan rai, fe ymddengys. Adroddiad ar ddyfodol addysg uwch yng Nghymru gan bwyllgor o’r Cynulliad a gadeiriwyd gan Cynog Dafis sy’n cael y bai gan eraill. Yn bersonol rwy’n credu bod yr hwch wedi mynd trwy’r siop ymhell cyn hynny. Seliwyd tynged y Brifysgol gan y penderfyniad i groesawu pob un o sefydliadau addysg uwch Cymru a fynnai i’w rhengoedd yn sgil polisi’r llywodraeth Geidwadol o ddileu’r gwahaniaeth rhwng prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Y gwir amdani, yw nad oedd ac nad oes nemor ddim yn gyffredin rhwng y prifysgolion newydd a grëwyd wedi 1992 a’r prifysgolion hyn, a chanlyniad anwybyddu’r gwirionedd sylfaenol yna – ar sail sentiment eto, fe dybiaf: un Brifysgol i Gymru, a ballu – sydd wrth wraidd y chwalfa a’r israddoli presennol. Goroesodd Prifysgol Llundain, cyfundrefn ffederal arall, am i iddi beidio â syrthio i’r fagl honno.
Lawer pwysicach na phwyntio bys, fodd bynnag, yw’r holl fater o ddyfodol y rhannau hynny o Brifysgol Cymru sy’n allweddol i ddysg Gymreig a Chymraeg. Nid codi bwganod yw fy mwriad yma, ond rhaid cyfaddef fy mod yn poeni am ddyfodol hirdymor Gwasg y Brifysgol dan y drefn newydd sydd ohoni. Dyma gorff a arferai berthyn (mewn modd digon annelwig, mae’n wir) i sefydliadau cyfansoddol hyn, ond sydd bellach wedi ei ynysu oddi wrthynt fel rhan o Brifysgol Cymru ar ei newydd wedd. Eto, mae’r Wasg yn parhau i chwarae rôl cwbl ganolog ac anhepgorol ym mywyd deallusol y genedl. Yn wir, ceisiwch, am eiliad, ddychmygu beth yn union fyddai cyflwr yr astudiaeth o hanes, lenyddiaeth a chymdeithas Cymru heb y Wasg. Mae’n ddarlun i fferru’r gwaed. A yw’r strwythur newydd yma’n ddigonol er mwyn cynnal a datblygu’r Wasg? A oes cefnogaeth ariannol, rheolyddol a deallusol digonol i’r Wasg rwan bod ei Phrifysgol wedi crebachu i’r fath raddau? Efallai wir, ond fe fyddwn i’n llawer iawn yn fwy tawel fy meddwl petawn yn gallu bod yn sicr fod y cwestiynau hyn wedi eu gwyntyllu a’u trafod yn drylwyr gan unigolion nad ydynt â diddordeb sefydliadol mewn atebion cysurlon a bywyd tawel. Chlywais i erioed achlust, hyn yn oed, o drafodaeth o’r fath.
Ond beth am ddyfodol addysg uwch cyfrwng Cymraeg? Wel y neges yn syml yw anghofiwch Brifysgol Cymru. A yw hynny’n golygu anghofio am Goleg Ffederal hefyd? Ydi, o leiaf ar y ffurf y mae rhai ohonom wedi arfer meddwl amdano: sef, fel yr awgryma’r enw ei hun, fel Coleg yn rhan o Brifysgol ffederal. Diflannodd unrhyw bosibiliad o hynny a ni ellir ei atgyfodi. Yn wir, dichon y byddai’n well anghofio am yr enw Coleg Ffederal ei hun bellach, gan ei fod yn gwneud dim ond cymylu a drysu. Ond nid yw hynny’n gyfystyr ag anghofio am yr ymgyrch i sicrhau cynydd sylweddol iawn yn y ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg, a hynny ar sail newid strwythurol pur radicalaidd – sef yr hyn y mae nifer o’r rheini sy’n defnyddio’r enw Coleg Ffederal yn ei olygu wrth wneud hynny (Cymdeithas yr Iaith flaenaf yn ei mysg, fe dybiaf).
O safbwynt yr ymgyrch honno, mae’n gyfnod pan y mae’n briodol seinio nodyn lled-obeithiol. Gyda mwy o adnoddau ar gael ar gyfer cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg nag erioed o’r blaen – fawr o gamp! – mae gwendidau a chyfyngiadau’r strwythurau presennol yn dod yn fwyfwy amlwg. Ar ben hynny, ymddengys fod cyn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Robin Williams, cadeirydd Bwrdd Cynllunio y Coleg Cymraeg Ffederal, yn gwneud ei orau glas i sicrhau y bydd y Bwrdd hwnnw’n cynnwys ac yn clywed trawstoriad eang o leisiau a safbwyntiau beirniadol. Nid pwyllgor yr usual suspects a’r cadwedig, ddiogel rai mohono. Yn wir, dyma’r union fath o bwyllgor anystywallt a ddiflannodd o fywydau’r rhan fwyaf o brifysgolion ers blynyddoedd lawer. Hei lwc iddo ef ac iddynt hwy. Gyda’r hen fodelau a’r hen fodel amgen fel ei gilydd wedi methu neu wedi eu dryllio, mae’n bryd meddwl o’r newydd a gobeithio’n fawr y gall y Bwrdd wneud hynny. Amser a ddengys.
Ydi, mae cwymp Prifysgol Cymru’n fater affwysol o drist. Dichon hefyd fod y gwymp yn un diangen. Ond dyna fo, fe gwympodd. Nid mater o digwyddodd, darfu, mae’n wir: ond digwyddodd, parhaodd i rygnu byw am gyfnod – ffawd sydd yn fwy di urddas na darfod. Serch hynny, byddwn yn gwneud anghymwynas mawr iawn â gobeithion y Gymraeg yn ein prifysgolion os nad ydym yn cydnabod tranc Prifysgol Cymru ac yn cydnabod goblygiadau hynny i gynlluniau’r dyfodol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
