Rhyw syllu ar fy mogail fy hun a chwalu meddyliau a wnawn. O edrych o gwmpas y trawstiau a’r décor glân a chwaethus yn y goleuni gwan cofiwn am y cyfarfodydd cynnar hynny pan ddadleuai Gwenlyn Parry, Owen John Thomas ac Alan Jobbins, ymhlith eraill, fod angen clwb yfed ar gyfer y Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd.
Nid pawb oedd am ymuno â’r cyfryngis Cymraeg ym Mhontcanna a Llandaf beunydd beunos, ac nid pawb o blith y cyfryngis Cymraeg eu hunain chwaith oedd am slochian fyth dragywydd yn eu ffynhonnau eu hunain.
Roedd y New Ely, cysegrfan ieuenctid darpar-chwyldro y 1970au a mangre recordio Pontsian yn mynd trwy’i bethau (Sain 6), wedi chwythu’i blwc. Ac roedd yna sylweddoliad nad oedd rhaid arllwys arian diddiwedd i bocedi perchnogion clybiau nos y dociau. Gellid bod yn fentrus a throi arferion gwario hwyr y nos y Cymry Cymraeg i lenwi eu coffrau eu hunain. Ac felly y bu, sefydlwyd Clwb Ifor Bach a chafwyd canolbwynt lle gorseddwyd y Gymraeg fel iaith gymdeithasol ac iaith trin cwsmeriaid ac iaith adloniant byw, a hynny ar gyfer y genhedlaeth iau yn bennaf.
Roedd hynny chwarter canrif nôl. Roedd yna batrwm wedi’i sefydlu yn Nulyn lle roedd yna Gaeltacht fach o glwb Gwyddeleg yng nghanol prifddinas y Weriniaeth. Dros y blynyddoedd datblygwyd soffistigeiddrwydd ac erbyn hyn sefydlwyd gwefan na fyddid wedi breuddwydio y byddai’r fath beth yn bosib ar ddechrau’r 1980au. Ond, ysywaeth, does arni ddim sôn am hanes y sefydlu na chwaith esboniad ynghylch y dewis o enw.
Ymddengys nad yw gwreiddiau’n cyfrif dim heddiw. Does yno chwaith ddim sôn am egwyddorion sefydlu’r fenter. Ond hwyrach bod y fath air yn anffasiynol bellach ac nad yw Clwb Ifor Bach yn ddim amgen na’r un busnes arall yn Stryd Womanby sy’n ceisio cael dau pen llinyn ynghyd, waeth beth oedd amcanion yr Ifor ap Meurig gwreiddiol o Senghennydd. Wedi’r cyfan llifodd galwyni lawer o ddwr rhwng glannau’r Taf ers y ddeuddegfed ganrif
Tebyg mai dyna pam y datblygodd y lle’n ganolfan cynnal gigs ac mai prin o’r herwydd yw’r gigs Cymraeg a gynhelir yno bellach. ‘Music venue also known as Welsh club to English speakers’ yw’r disgrifiad ohono. Does mo’i angen fel cyrchfan slotian pan mae gennych lefydd ysblennydd megis y Mochyn Du, neu'r Eli Jenkins yn y Bae a chyfle i gymysgu â chriw’r Cynulliad mae’n siwr.
Nid yw Clwb Ifor Bach heb ei selebs o fynychwyr chwaith. Gall gosod enwau i’r wynebau teledol cyfarwydd ladd tipyn o amser. Ac, yna, gall yr annisgwyl hoelio sylw’n sydyn yng nghanol y gwagswmera. Gwelais gefn ac arno’r slogan ‘Baby, I'm bored’ a chael ar ddeall, ymhen hir a hwyr, mai gwisgwr y crys t hwnnw oedd cadeirydd cyfredol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac enillydd coron Eisteddfod Caerdydd eleni.
Nawr, doeddwn i ddim am ddyfalu pam y dylai bardd a oedd yng nghyffiniau’r ardal a ysgogodd ei greadigaeth arobryn am gyhoeddi ei fod wedi syrffedu. Ond roedd gen i ddiddordeb mewn ceisio dyfalu pam roedd Hywel Griffiths yn arddel geiriau Saesneg ar ei grys t mewn gig o eiddo’r mudiad roedd yn ei gynrychioli. Oedd e’n ceisio awgrymu nad oedd y dewis o artistiaid yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod at ei ddant? Oedd e’n rhagfynegi teimladau pawb wrth ddisgwyl i’r swynwr o Solfach gyrraedd?
Rhaid oedd gwneud ychydig o ymchwil rhag ofn fod yna bolisïau ieithyddol newydd wedi eu mabwysiadu gan y Gymdeithas a fyddai’n taflu goleuni ar y mater. Ond, na, doedd dim sôn iddi gyhoeddi mai iaith Gymraeg oedd y Saesneg wedi’r cyfan ac mai ffolineb oedd yr holl ymgyrchu a fu dros statws i’r Gymraeg ac ati.
Taflu golwg ar flog personol y cadeirydd wedyn. Ond, na, eto, ar wahân i ambell gyfeiriad at ymgyrchu dros orfodi cwmnïau preifat i ddefnyddio’r Gymraeg, doedd dim wedi’i bostio yno a oedd yn awgrymu unrhyw athroniaeth na pholisi ynghylch gwisgo crysau t. Yn wir, doedd yr un sill wedi’i ychwanegu at y blog ers mis Tachwedd y llynedd.
Troi wedyn at fy nghopi o’r Cyfansoddiadau i ddarllen y cerddi cyfoes y dywedir eu bod yn disgrifio’r gwladychu newydd ar hyd Stryd Pleser y brifddinas. Ond och ac aw, beth a welwn ond llun o’r awdur eto fyth mewn crys t a’r geiriau ‘Winter Blues’ ar y tu blaen y tro hwn. Oedd yr Eisteddfod wedi torri un o’i reolau euraid ei hun trwy ganiatáu Saesneg mor amlwg ac mor ddianghenraid yn ei gyhoeddiad? A ddylwn hawlio fy £7 nôl?
Credais erioed, ers gwisgo fy nghrys t Che Guevara cyntaf, mai gogoniant dilledyn o’r fath oedd cynnig cyfle i’r gwisgwr gyhoeddi datganiad croyw ynghylch y byd a’i helbul. Rhydd gyfle i roi ymateb personol ac i ymgyrchu yn enw argyhoeddiad. Pa arf symlach i fudiad sydd ganddo neges i’w gyfleu mewn slogan slic? Pa ddull hwylusach o gyfleu hunaniaeth a darbwyllo newid meddwl ac ewyllys?
Neu ai fi sydd bellach yn naïf a hen-ffasiwn yn fy henaint a heb sylweddoli nad rhywbeth i’w harddel yn barhaus yw egwyddorion yr un mudiad mwyach yn oes y wleidyddiaeth newydd safonau dwbl Caerdyddaidd y Cynulliad ar ei brifiant?
Yn 1983 cafodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr eu gwahardd am flwyddyn rhag perfformio mewn gigs o eiddo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am eu bod wedi cymryd rhan mewn cyflwyniad o un o chwedlau’r Mabinogion ar dir cestyll y goresgynwyr Normanaidd yn rhan o jambori’r Bwrdd Croeso i ddathlu 700 mlynedd ers i Iorwerth 1 ddarostwng y Cymry.
Angharad Tomos oedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg chwarter canrif nôl a phan oedd y mudiad ei hun yn chwarter canrif oed y cadeirydd oedd Helen Prosser. Pa nifer o grysau t Saesneg sydd yn eu cypyrddau dillad hwy erbyn hyn?
Erbyn heddiw ymddengys nad taeogrwydd yw’r bwgan ond yn hytrach dihidrwydd. Onid rheitiach fyddai i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddefnyddio’r holl arian a waddolwyd iddi mewn ewyllysiau i drefnu ymgyrch Cymreigeiddio crysau t a pherswadio pobl ar lawr gwlad i ddefnyddio’r hawliau ieithyddol a roddwyd iddynt gan ymgyrchoedd cenedlaethau cynt, yn hytrach na dewis ambell gwmni preifat yn gocyn hitio?
Tebyg yn y pen draw y dylwn aralleirio teitl y gân honno o eiddo'r Super Furry Animals yng nghanol y 1990au ‘(Nid) Hon yw’r Gân sy’n Mynd i Achub yr Iaith’ trwy ddweud nad hwn yw’r clwb sy’n mynd i achub yr iaith ac nad hon yw’r gymdeithas sy’n mynd i achub yr iaith chwaith. Af i chwilio am grys t sy’n cynnwys yr enw Glerorfa.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
