Efo gaucho’n marchogaeth y gorwel mae gweld enw teulu ap Iwan ar fynedfa yn Nant y Pysgod, Cwm Hyfryd yn eich cydio yn y gorffennol. Mab yr arloeswr Michael D. Jones oedd Llwyd ap Iwan ac un o hoelion wyth y Wladfa Gymreig. Anturiaethwr, peiriannydd, amaethwr ac, un o’r pethau prin Cymreig hynny, entrepreneur. Does yna fawr wedi newid yn Nant y Pysgod ers i ap Iwan gael ei saethu yno ym 1909 heblaw mai carreg goffa sy’n awr yn sefyll ar safle storfa Cymdeithas Gydweithredol y Camwy lle digwyddodd y llofruddiaeth ar noson wyntog o Ragfyr.
Nid hanes arwrol arloeswyr Y Wladfa Gymreig ddaeth a Llwyd ap Iwan i fy sylw gyntaf ym 1969 ond y ffilm gowboi Butch Cassidy and The Sundance Kid; ffilm wedi ei seilio ar hanes go iawn yr arwyr gwerin Americanaidd. Ar ôl ymgodymu efo ffilmiau Ingmar Bergman a Jean Luc Godard roedd cael ymlacio yn sinema orlawn y Plaza ym Mangor i wylio Robert Redford, Paul Newman a Katherine Ross yn chwarae rhan Butch, Sundance ac Etta Place, yn adloniant pur. Actio gwych, cyfarwyddo dyfeisgar a lluniau celfydd; Hollywood ar ei orau. Cinephile snobyddlyd ai peidio, roeddwn i wedi fy nghyfareddu. Yn fuan ar ôl dangosiad y ffilm cyhoeddwyd argraffiad newydd o lyfr James D. Horan a Paul Sann ‘Pictorial History of the Wild West’. Yn eu pennod ar hanes go iawn Butch Cassidy a’r Sundance Kid, ynghyd a’u lluniau, roedd yna gadarnhad eu bod nhw, fel yn y ffilm, wedi ffoi i Dde America ac wedi cael eu saethu yn San Vicente, Bolivia yn Nhachwedd 1908. Ond cyn cyrraedd Bolivia roedd Butch, Sundance ac Etta wedi treulio cyfnod rhwng 1901 a 1907 yn byw ar fferm yn Rincon de Cholila, Chubut, Patagonia. Rhywsut neu’i gilydd tyfodd y myth mai Butch a Sundance saethodd Llwyd ap Iwan.
Daeth ditectifs Pinkerton i chwilota’r Ariannin amdanyn nhw a bu raid i’r tri godi pac. Aeth Etta yn ôl i Ogledd America a Butch a Sundance i Chile ac oddiyno i Folivia lle buo nhw farw mewn cyrch gan y fyddin. Dyna’r fersiwn swyddogol a’r un yn y ffilm, ond fel pob stori werin mae yna sawl dehongliad – oherwydd ’dyw marwolaeth arwyr ddim ‘run fath ag un meidrolion.
Un wnaeth ymchwil manwl i amgylchiadau marwolaeth y ddau yn Bolivia oedd yr Arlywydd Rene Barrientos, gwr a phrofiad personol o farwolaeth arwyr gwerin gan mai ef ddienyddiodd Che Guevara. Er iddo agor sawl bedd yn San Vicente methodd yr Arlywydd a chanfod gweddillion Butch a Sundance. Ymhlith eraill a gredai fod y ddau wedi creu’r myth am eu marwolaeth eu hunain roedd y Pinkerton Ditective Agency. Mae sawl stori am Butch a Sundance yn ymddangos ar dir y byw flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn ôl ei chwaer ymunodd Butch Cassidy i fwynhau teisen lus efo hi mor ddiweddar â 1925.
Ond mae un peth yn sicr, fe fu Butch, Sundance ac Etta’n byw yn y Wladfa Gymreig yn Chubut rhwng 1901 a 1907 ac mae eu caban yn dal yno hyd heddiw. Os oedda’ nhw wedi gadael Y Wladfa erbyn 1907, ac yn ôl yr hanes swyddogol, yn farw flwyddyn yn ddiweddarach, pwy felly saethodd Llwyd ap Iwan? Roedd yna lygad dyst i’r llofruddiaeth ac fe gofnodwyd yr hanes yn fanwl mewn llythyr Cymraeg yn ol i’r Hen Wlad gan un o weithwyr ap Iwan. Yn ol Robert Roberts, y llythyrwr, dau Sais oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Nant y Pysgod. Wrth i un ohonyn nhw ei orfodi i agor y sêff ymosododd Llwyd ap Iwan ar y lleidr ond methodd gael y gorau arno ....a dyma ergyd allan a Mr ap Iwan yn rhoi un ochenaid olaf, ond cafodd dair o ergydion ei gollwng allan ar ol i Mr ap Iwan druan rhoi yr ochenaid. Wrth gwrs oedd hyn yn blaen i ni fod Mr ap Iwan yn farw...” meddai Robert, yn amlwg wedi cynhyrfu.
Lledaenodd y newydd fel tan gwyllt trwy bapurau Cymru. Mae R.J.Berwyn mewn llythyr arall o’r Wladfa i bapur Y Brython yn honni mai lladron Americanaidd adnabyddus oedd yn gyfrifol; arbenigwyr mewn ymosod ar drenau – gyda dynes yn eu mysg! Mae R.J.Berwyn yn cadarnhau eu bod nhw’n rhan o gymuned Y Wladfa ac yn byw yn heddychlon yn Cholila :
“Bu eu plant dan addysg yn Cwm Hyfryd” meddai Berwyn a “byddai rhai yn absennol ysbeidiau. Adeg felly, ysbeiliwyd banc yn Bahia Blanca gan dri neu bedwar ganol dydd... Yr oedd cuddswyddogion Pinkerton & Co. o New York yn tramwy y Weriniaeth Ariannin i chwilio am ysbeilwyr y trenau tua Montana; ac yn sydyn, gwerthodd yr Ianciaid eu heiddo yn Cholila, a diflanasant pan yn sydyn torrwyd banc ym Mendoza gan dri dyn, a dynes gerllaw yn gofalu am y ceffylau.”
Mae adroddiad R.J.Berwyn fel petai’n cyfeirio at Butch Cassidy, y Sundance Kid, Etta Place a’r Hole in the Wall Gang, ac yn ychwanegu at y myth. Ond yn ol haneswyr diweddar dau ddihiryn Americanaidd arall fu’n gyfrifol am ladd Llwyd ap Iwan. Bu William Wilson a Robert Evans yn byw yn ardal Rio Pico ers rhai blynyddoedd ac mae’n bosib eu bod nhw’n adnabod Butch a Sundance. Ymhen dwy flynedd ar ol y llofruddiaeth roeddynt hwythau’n farw ar ol cyrch milwrol gan y llywodraeth.
Ers i’r ffilm Butch Cassidy and The Sundance Kid ymddangos ym 1969 does yna ddim diwedd ar y damcaniaethu ynglwn â’r ffeithiau hanesyddol. Cydiodd y ffilm yn nychymyg cenhedlaeth. Mae cyd-destun hanesyddol y ffilm a blwyddyn ei rhyddhau yn cynrychioli diwedd dau gyfnod – troad yr ugeinfed ganrif a diwedd y 1960’au – dau gyfnod arwyddocaol. I Butch a Sundance roedd dyddiau’r Gorllewin Gwyllt ar ben. Yn y ffilm mae’r ganrif newydd sydd am eu dofi wastad ar eu gwarthaf yn ffurf y Pinkerton Ditective Agency. Mae’r posse bob amser ar y gorwel ac yn aneglur drwy’r tarth. Who are those guys? meddai Butch droeon. Roedd hi’n hawdd i’r gynulleidfa uniaethu a’i benbleth. Roedd eu byd hwythau ar newid a degawd gyffrous y 60’au yn dod i ben – y Beatles yn chwalu, tensiwn gwleidyddol yr Arwisgo, anterth rhyfel Vietnam.
When I was a kid, I always thought I’d grow up to be a hero meddai Butch Cassidy yn y ffilm. Mae Paul Newman wedi gwireddu’r freuddwyd honno nid yn unig i Robert Leroy Parker alias Butch Cassidy ond iddo ef ei hun am ei ddoniau actio a’i ddyngarwch.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
