Ddaru hynny ddim cymryd yn hir, naddo? Pan gyflwynwyd cyfundrefn ddeddfwriaethol newydd ar gyfer y Gymru ddatganoledig gwta ddeunaw mis yn ôl, roedd ’na ambell un ohonom eisoes yn darogan y byddai’r gyfundrefn honno yn rhwym o arwain at wrthdaro rhwng Llundain a Chaerdydd; at ymyrraeth gyson ar lannau’r Tafwys a rhwystredigaeth ddofn ar lannau’r Bae. Twt lol, ’dach chi’n codi bwganod, oedd ymateb rhai o’n harweinwyr gwleidyddol amlycaf. Onid oedd yna arbenigwyr cyfansoddiadol uwch eu parch a oedd yn fodlon tystio y byddai popeth yn gweithio’n esmwyth?
Bellach, prin iawn yw’r lleisiau hynny sy’n cael eu codi er mwyn amddiffyn cyfundrefn yr LCOs bondigrybwyll. Gwireddwyd ofnau’r amheuwyr. Mae’r gyfundrefn newydd wedi profi’n anfaddeuol hirwyntog a chymhleth. Ar ben hynny, mae’n gwbl amlwg fod ofnau ynglyn â’r posibiliad o ‘graffu dwbl’ wedi eu gwireddu. Erbyn hyn mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn gweithredu megis ail siambr de facto i’r Cynulliad Cenedlaethol, gan ddefnyddio’r broses Gorchmynion fel ffordd o liwio a llyffetheirio agenda Llywodraeth Cymru a’i Chynulliad. Gellid dadlau, yn wir, bod Alun Michael (ia, fo eto!) a David Jones, dau o aelodau mwyaf blaenllaw’r Pwyllgor Dethol, bellach yn ffigyrau mwy dylanwadol ym mhroses ddeddfwriaethol y Cynulliad nag unrhyw Aelod mainc gefn o’r Cynulliad ei hun; yn sicr ddigon maent yn fwy grymus o lawer na’r ddau sy’n cynrychioli’r un etholaethau yno, sef Lorraine Barrett a Darren Millar. Os pery sefyllfa o’r fath, yna nid gormodiaith yw dweud y bydd mandad democrataidd y Cynulliad yn cael ei danseilio.
Ystyriwch, er enghraifft, beth fyddai canlyniad llywodraeth Geidwadol yn Llundain – ac rwy’n dal i ddisgwyl y bydd y blaid honno’n ffurfio neu yn arwain llywodraeth Brydeinig erbyn Mehefin 2010. Pe digwydd hynny, fe fydd gan y Torïaid fwyafrif awtomatig ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, a hynny er gwaetha’r ffaith nad hi, siawns, fydd y blaid fwyaf yng Nghymru. Nid oes angen dawn proffwyd i ddarogan y bydd hyn yn golygu sbaddu’r Cynulliad. Nid oes angen llawer o ddychymyg, chwaith, i ragweld y tensiynau a fydd yn siwr o godi yn sgil hynny.
Wrth gwrs, mae Rhodri Morgan yn deall hyn yn burion. Ei strategaeth, fe ymddengys, yw ceisio dwyn perswâd ar Paul Murphy i greu ‘confensiwn seneddol’ a fydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu dibynnu ar San Steffan i basio’r Gorchmynion rheini sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r Llywodraeth i weithredu’r rhaglen wleidyddol sy’n sail iddi. Dichon, yn wir, mai dyma fydd yn digwydd, gyda Gorchmynion yn cael eu drafftio mewn modd caeth er mwyn caniatáu gweithredu union lythyren y rhaglen, a dim mymryn mwy na hynny – o leiaf, mewn meysydd dadleuol. Ond mae Rhodri Morgan hefyd yn wleidydd digon hirben a phrofiadol i sylweddoli nad yw hyn yn ateb hirdymor. Peth gwantan ar y naw ydi’r math o gonfensiwn seneddol sy’n cael ei gytuno’n breifat er mwyn esmwytho perthnasau mewnol un blaid. Oes yna unrhyw un mewn difrif yn credu y bydd Pwyllgor Dethol dan gadeiryddiaeth Geidwadol yn cael ei rwymo gan hynny os daw cais am rymoedd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ei galluogi i weithredu polisi sy’n tynnu’n groes i ddaliadau Torïaidd?
Ysywaeth, yn gyhoeddus o leiaf, nid oes olwg fod Rhodri Morgan yn ceisio dim mwy na datrysiad tymor byr i’r broblem. Caiff y broblem ei hetifeddu gan ei olynydd fel arweinydd y Blaid Lafur Gymreig. Ond ofer hefyd yw disgwyl unrhyw arweiniad gan y rheini sy’n paratoi i ymladd am y fraint o’i olynu. Yn hytrach na herio’r Aelodau Seneddol Cymreig, y tebygrwydd ydi y bydd rôl bwysig yr union aelodau hynny yn y coleg etholiadol a fydd yn ethol yr arweinydd yn golygu bod yr ymgeiswyr am y gorau yn eu mwytho a’u maldodi.
O ran y Torïaid, mae Adroddiad Roberts – adroddiad a ddisgrifiwyd wrthyf fel ‘a twenty-five thousand word stream of consciousness’, a hynny gan rywun a ddylai wybod – fel petai wedi lladd unrhyw obaith am ddatrysiad synhwyrol. Ymddengys mai canlyniad argymhellion Roberts fydd ymrwymo ei blaid i gynnal cyfundrefn yr LCOs er gwaethaf popeth a ddywedodd llefarwyr Ceidwadol ynglyn â’r modd y lluniwyd y gyfundrefn honno, nid er budd Cymru, ond er mwyn pontio hollt fewnol y Blaid Lafur ar fater datganoli. Unwaith yn rhagor, nid oes angen dawn proffwyd i ragweld y bydd y Ceidwadwyr ryw ddydd yn gwaredu at ddiffyg gweledigaeth strategol Wyn Roberts.
Beth sydd i’w wneud felly? Yn ôl Adam Price a Bethan Jenkins, mae’n bryd cychwyn yr Ymgyrch Ie ar gyfer y refferendwm sydd wedi ei addo yn rhan o gytundeb clymblaid Cymru’n Un. Rwy’n anghytuno. Y caswir amdani yw fod gwleidyddiaeth Cymru yn parhau yn ddarostyngedig i rythmau gwleidyddiaeth Prydain. Nid oes obaith cychwyn Ymgyrch Ie o unrhyw sylwedd a gwerth cyn yr etholiad cyffredinol Prydeinig. Ni cheir cydweithrediad rhyngbleidiol ystyrlon hyd nes i’r frwydr wleidyddol honno dawelu. Ar ben hynny, hyd nes y gwyddom beth fydd canlyniad y frwydr i sicrwydd, mae’n anodd gwybod sut yn union i saernïo neges unrhyw ymgyrch. Yn wir, o geisio rhoi cychwyn arni rwan, y perygl ydi y bydd yr achos o blaid datganoli go-iawn yn cael ei chysylltu lawer iawn yn rhy agos hefo Plaid Cymru, a’r blaid honno’n unig. Go brin fod angen atgoffa Adam Price na Bethan Jenkins am ganlyniadau trychinebus hynny dri deg o flynyddoedd yn ôl.
Ydi, mae’r gyfundrefn gyfansoddiadol bresennol yn un gwbl annigonol. Ond na, nid oes yna ryw lawer y gallwn ei wneud am y peth am y tro, y tu hwnt i’r gwaith pwysig o dynnu sylw at yr holl ddiffygion a’r gwendidau. Sylweddolaf nad oes yna lawer o gysur yma i unrhyw un sy’n deisyf cyfundrefn lywodraethol gall i Gymru. Serch hynny, dyna’r realiti, ac ar hyn o bryd mae sythwelediad – gweld pethau fel ag y maent – yn fwy gwerthfawr o lawer na choleddu rhyw ffug-olygon cysurlon.
* * *
Byddai, fe fyddai wedi bod yn wych o beth petai Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 – y rhan o’r ddeddf sy’n sail i’r gyfundrefn LCOs – wedi esgor ar drefn ddeddfwriaethol effeithlon, tryloyw a chynaliadwy. Ond roedd hi’n amlwg i’r sawl sy’n meddu crebwyll gwleidyddol nad dyna fyddai’n digwydd. Roedd y drefn yn ddiffygiol o’r cychwyn cyntaf, ac ni fyddai unrhyw ymdrech i ganu ei chlodydd yn gwneud iawn am y diffygion hynny. Ac felly y bu. Wrth edrych i’r dyfodol, ac ar gychwyn blwyddyn newydd, tybed gaf i gynnig yr adduned ganlynol i’n harweinwyr gwleidyddol? O hyn ymlaen beth am fabwysiadu agwedd fwy realistig at ein cyfundrefn lywodraethol?
Do, fe gafwyd enillion gwirioneddol arwyddocaol o ganlyniad i greadigrwydd dychmygol blynyddoedd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol – neu’r blynyddoedd ôl-Alun Michael a bod yn fanwl gywir. Ond materion yn ymwneud â threfniant mewnol y Cynulliad ei hun oedd yn y fantol yr adeg hynny: materion nad oedd o fawr ddiddordeb i unrhyw un y tu allan i Gaerdydd. Erbyn hyn, fodd bynnag, rydym wedi symud i fyd gwleidyddol gwahanol iawn, byd lle mae Alun Michael unwaith eto yn rym ym mywyd mewnol y Cynulliad. Mae hi bellach yn frwydr bengaled rhwng y Cynulliad a’r Aelodau Seneddol Cymreig am rym (rhaid cofio nad yw trwch yr Aelodau Seneddol eraill yn malio’r un iot). Bydd ennill y frwydr honno’n dibynnu ar weledigaeth strategol a thactegol, a’r gallu i gymryd mantais ar y cyfleoedd sy’n codi. Go brin y ceir buddugoliaeth os yw ein harweinwyr yn parhau i fynnu gweld pethau fel y carent iddynt fod, yn hytrach nag fel y maent. Gadewch i siomedigaethau cyfundrefn yr LCOs fod yn wers iddynt.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
