Mae nifer o bobl yn credu ei bod yn anochel y bydd y Tywysog William, yn hwyr neu’n hwyrach, yn cael ei arwisgo yn Dywysog Cymru. Ond does dim sicrwydd y bydd hynny’n digwydd. Does dim sicrwydd y bydd Siarl, ei dad, yn dod yn Frenin. Fe allai Siarl farw cyn ei fam. Fe allai’r goron gael ei throsglwyddo yn syth i William. A chofier bod teimladau cryfion yn Lloegr yn erbyn gweld y Fonesig Camilla yn dod yn Frenhines. Ac mae amheuon dwfwn o fewn Eglwys Loegr ynglyn â gwneud Siarl yn Amddiffynnydd y Ffydd ac yn bennaeth ar yr Eglwys.
Ond y pwynt mawr i’w gofio yw hyn: nid oes y fath beth yn bod â Thywysog Cymru yn gyfansoddiadol a ffurfiol. Teitl o gwrteisi yw e, teitl a roddir gan Frenin neu Frenhines y dydd ar y mab cyntafanedig. Mae’n dilyn, felly, nad oes unrhyw reidrwydd cyfansoddiadol i gynnal seremoni arwisgo, hyd yn oed os bydd yr etifedd yn dod, mewn enw, yn Dywysog Cymru. Mae’r Arglwydd Dafydd Eis Thomas yn llygad ei le yn dweud mai ymarferiadau propagandaidd oedd Arwisgiad 1911 a 1969.
Ym 1911 roedd Victoria wedi bod yn ei bedd ers deng mlynedd, a’i mab hynaf, Edward, wedi bod yn segura am flynyddoedd, yn mercheta, yn hapchwarae ac yn ofera i’r eithaf. Mae’n bur debyg fod yna deimlad y dylid ceisio cael tipyn o drefen arno fe. Rhoi rhywbeth i Edward i’w wneud oedd y rheswm dros ei arwisgo’n Dywysog Cymru.
Mae’n anodd gen i gredu bod Lloyd George yn un o addolwyr mawr y goron. Ond roedd e’n Gwnstabl castell Caernarfon, yn ogystal â bod yn Ganghellor y Trysorlys, ac yn gweld y posibilrwydd o ‘godi’r Hen Wlad yn ei hôl’ drwy gynnal sbloet o arwisgiad. Fe weithiodd e a Winston Churchill yn galed iawn i lunio seremoni gofiadwy yng Nghaernarfon. A, gyda llaw, fe siaradodd Churchill beth Cymraeg yn y seremoni, gan gynnwys llinell o gynghanedd draws, ‘Môr o gân yw Cymru i gyd’. Lloyd George oedd wedi ei ddysgu e, wrth gwrs.
Erbyn cychwyn y paratoadau ar gyfer Arwisgiad 1969 roeddwn i yn y Swyddfa Gartref er nad oedd gen i ddim i’w wneud â’r trefniadau, diolch am hynny. Ond roeddwn i’n bur agos at Cledwyn Hughes, a oedd yn Ysgrifennydd Cymru ar gychwyn y bennod gythryblus honno. Fedra i ddim dweud pa mor frwdfrydig oedd Cledwyn ynglyn â’r Arwisgiad ond mae digon o dystiolaeth ei fod e wedi pwyso’n daer am gael gwybod pryd y byddai’r Arwisgiad yn cael ei gynnal. Fe gafodd e’r ateb ym mis Mai 1967. Y dyddiad fyddai Gorffennaf 1af 1969. Nawr dyw’r ffaith fod dyn yn dymuno gwybod yr union ddyddiad ddim o reidrwydd yn dweud ei fod e’n frwd nac yn oer. Gellir dyfalu bod Cledwyn wedi synhwyro na fyddai’n Ysgrifennydd Cymru am yn hir iawn eto. Ac ym Mawrth 1968 fe’i dyrchafwyd – os dyrchafu hefyd – yn Weinidog Amaeth. Ei olynydd yn y Swyddfa Gymreig oedd George Thomas. . .
Y cwestiwn sy’n codi yw hwn: pwy, mewn gwirionedd, oedd eisiau’r Arwisgiad? Fe allaf ddychmygu’r Frenhines, menyw weddol ifanc, yn pendroni beth i’w wneud â’r crwt yma oedd gyda hi, Siarl. Fe allai e orfod aros am ugeiniau o flynyddoedd cyn etifeddu’r goron. Roedd peryg, heb ddim i’w wneud, y bydde yntau’n dilyn yr un trywydd ofer ag Edward o’i flaen. Onid da o beth, yng ngolwg ei fam, fyddai ei arwisgo’n Dywysog Cymru mewn seremoni rwysgfawr a fyddai’n peri iddo gymryd ei ddyletswyddau o ddifrif?
Mae’r ymresymiad hwnnw yn ymddangos i mi fel un posib. Mae yr un mor bosib fod y Frenhines wedi trafod y mater efo Harold Wilson, y Prif Weinidog, gwr a oedd ar delerau da â’r Teulu Brenhinol. Yn wleidydd praff a hynod alluog, fyddai Wilson ddim yn ddall i fanteision gwleidyddol cynnal seremoni o’r fath.
Rhaid cofio bod hyn i gyd yn cydgerdded â thwf sylweddol Plaid Cymru yn dilyn buddugoliaeth seneddol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin ym 1966. Yn sgîl hynny fe ddaeth y Blaid yn agos at ennill seddau seneddol yn y Rhondda a Chaerffili, yng nghadarnleoedd Llafur. Ar yr un pryd roedd bomiau’n cael eu ffrwydro yng Nghymru a Cayo Evans a Byddin Rhyddid Cymru yn cael cyhoeddusrwydd mawr – er taw aelod o’r Fyddin Brydeinig, John Jenkins, oedd yn bennaf gyfrifol, mewn gwirionedd, am y bomio. Ar ben hynny roedd Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu’n galed. Yn wir, roedd y byd gorllewinol yn ferw o brotest; yn erbyn rhyfel Fiet-nam, o blaid hawliau sifil dinasyddion croenddu America, a llu o achosion eraill. O Aberystwyth i Baris i Galiffornia roedd syn chwyldro ym mrig y morwydd. Yng nghanol y berw hwnnw y trefnwyd yr Arwisgiad!
Roedd e’n gyfnod cas. Fe rannwyd Cymru gan yr Arwisgiad. Bu rhwygiadau o fewn yr Urdd ac o fewn rhai o’r enwadau crefyddol. Ac fe greodd embaras i Blaid Cymru ac i’w harweinydd, Gwynfor. Roedd elfen gref o fewn y Blaid a oedd yn awyddus i gondemnio’r cyfan fel syrcas sarhaus ond gwyddai Gwynfor pa mor niweidiol ar y pryd fyddai mynd benben yn erbyn cefnogwyr y Frenhiniaeth.
Mewn hinsawdd o’r fath does dim rhyfedd fod pethau bizarre yn digwydd. Mae’r hanesydd cyfrifol Rhys Evans yn tynnu sylw at dystiolaeth ddogfennol fod y KGB, heddlu cudd Rwsia, yn bwriadu gosod bom ar y ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon, un ai ar union ddiwrnod yr Arwisgiad neu yn agos at y dyddiad. Bwriad y Rwsiaid fyddai lledaenu’r stori mai MI5, heddlu cudd Prydain, oedd wedi gosod y bom, gyda’r bwriad o bardduo Plaid Cymru. Bizarre, medda fi eto. Ond mae e’n dangos Maciafeliaeth gwleidyddiaeth ar ei waethaf.
Cyn hynny, ers buddugoliaeth Gwynfor yng Nghaerfyrddin, yr oedd yna deimlad cyffredinol yn y Blaid Lafur y gallai pethau chwalu yng Nghymru. Ar ben hynny roedd carfan rymus o wrth-genedlaetholwyr yn y Blaid Lafur a deimlai y byddai ildio modfedd i’r cenedlaetholwyr o fewn Llafur, sef Cledwyn Hughes a minnau (a Goronwy Roberts, i ryw raddau) yn tanseilio’r achos ymhellach. Ar y cyfan, roedd aelodau Llafur De Cymru’n wrthnysig iawn i’r ymdeimlad o genedlaetholdeb Cymreig. Bendith arno, roedd Jim Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, yn hynod o gall a graslon drwy’r cyfan. Ond roedd yna deimladau milain iawn.
Yr un a ymgorfforai’r teimladau hynny oedd George Thomas. Erbyn haf 1969 yr oedd e ar gefen ei geffyl ac roedd y syniad o chwarae rhan flaenllaw yn yr Arwisgiad fel Ysgrifennydd Cymru yn chwyddo ego George. Roedd e’n addoli’r Teulu Brenhinol. Ond nid oedd George yn wladgarwr o Gymro. I’r gwrthwyneb yn llwyr. Nid oedd yn gallu dirnad nac amgyffred y cysyniad o Gymru fel gwlad a chenedl. Ofnai hefyd y byddai unrhyw bwyslais ar genedlaetholdeb yn dyrchafu Gogledd Cymru, a’r cenedlaetholwyr hynny o fewn y Blaid Lafur a gyhuddwyd ganddo’n ddiweddarach yn ei hunangofiant Mr.Speaker o fod yn ‘fanning the flames of nationalism’. A hynny, wrth gwrs, ar draul hen do Llafur De Cymru.
Yn rhinwedd fy swydd, roedd rheidrwydd, bron, arnaf i fynd i seremoni’r Arwisgiad yng Nghaernarfon. Roeddwn i’n awyddus, fodd bynnag, i gadw draw gan nad oeddwn i’n gallu uniaethu â’r holl beth. Ond fe gefais i dri neu bedwar o lythyrau dienw yn bygwth y byddwn i’n cael fy saethu’n gelain pe byddwn i’n mynd ar gyfyl yr Arwisgiad. Nawr, rydw i’n gallu bod yn ystyfnig fel donci! Rhag cael fy ngweld yn ildio i’r bygythiadau hyn fe es i i’r seremoni yng nghastell Caernarfon. Ond doedd edrych o gwmpas heb wybod i sicrwydd a fyddwn i’n dod oddi yno’n fyw ddim yn deimlad braf.
Ar nodyn personol arall, mae gen i atgof am Emrys Hughes, Aelod Seneddol Llafur De Ayrshire. Roedd e wedi priodi merch ieuengaf Keir Hardie ac roedd e’n or-wyr i John Hughes, Pontrobert, cofiannydd Ann Griffiths, a’r un a fu’n gyfrifol am ddiogelu ei thrysorfa o emynau. Roedd Emrys yn gomiwnydd digymrodedd ac yn casáu a ffieiddio’r syniad o Frenhiniaeth. Meddai Cledwyn Hughes ar y pryd wrth Emrys Hughes: ‘Rydan ni wedi dewis emyn i’w ganu yn yr Arwisgiad, O anfon Di yr Ysbryd Glân o’r nefoedd wen i lawr, sef emyn eich hen daid.’ Fe aeth Emrys yn lloerig! ‘I’ll interdict you blaggards,’ medda fe. Hynny yw, byddai’n mynnu cael gwaharddiad llys i atal y fath anfadwaith! Ond wnaeth e ddim.
A hithau’n tynnu at ddeugain mlynedd er pan arwisgwyd Siarl yng Nghaernarfon, sut mae crynhoi’r digwyddiad? Nid oes gwadu’r ffaith bod y defnydd o’r term ‘tywysogaeth’ yn brawf terfynol mai gwlad a goncrwyd gan goron Lloegr yw Cymru. Rhan yw hi o’r ysbail sy’n dod i ran y buddugwr mewn rhyfel. Yn yr ystyr hynny nid oes dim yn fwy diraddiol na galw Cymru’n ‘dywysogaeth’. Ond mae llawer yn dibynnu ar ddeiliad y swydd, sef Tywysog y dywysogaeth. Cychwynnodd Siarl yn dda. Daeth yn fyfyriwr i Aberystwyth am rai misoedd. Dysgodd rywfaint o Gymraeg. Dwi ddim yn credu, serch hynny, ei fod e’n ieithydd da. Ond mae e’n ddynwaredwr – mimmick – da.
Rhyw fis cyn yr Arwisgiad traddododd Siarl araith Gymraeg saith munud, mewn acen pur gredadwy, o lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth. Perfformiad oedd hwnnw, wrth gwrs. Rhan o’r propaganda neu’r charm offensive, fel y’i gelwir bellach. Ond ystyriwch hyn: pe byddai’r bachgen 19 oed hwnnw, sydd nawr yn 60 oed, wedi dod i siarad Cymraeg yn rhugl, a’i defnyddio’n helaeth yn ei ddatganiadau cyhoeddus ac mewn cyfweliadau, oni fyddai hynny wedi gwneud byd o ddaioni i ddelwedd y Gymraeg? Fel y ceisiais ddadlau, nid er mwyn hyrwyddo hunaniaeth Cymru a’r Gymraeg yr aethpwyd ati i gynnal Arwisgiad ym 1969. Ond er bythol glod i Gwynfor Evans, roedd e’n deall o’r gorau bod modd i Gymru ddefnyddio Siarl er lles Cymru a’r Gymraeg. Ysywaeth, wnaeth hynny ddim digwydd, er bod Gwynfor wedi chwarae efo’r syniad o wahodd Siarl am swper i’w gartref yn y Dalar Wen, Llangadog.
Dwr dan y bont erbyn hyn yw llawer o’r materion a grybwyllais uchod. Ond fe erys un ffaith. Tywysog neu beidio, nid tywysogaeth yw Cymru ond gwlad a chenedl. Rydan ni wedi symud ymlaen ers 1969. Mae gyda ni yn awr fater anhraethol bwysicach nag Arwisgiad i’w wynebu yn y dyfodol lled agos. Cyfeiriaf at y refferendwm ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Adran 4 y ddeddf honno’n creu blueprint cynhwysfawr ar gyfer Senedd Lywodraeth i Gymru. Os enillir y refferendwm hwnnw, mae’r posibiliadau i Gymru yn ddihysbydd. Os collwn y cyfle, yna byddwn wedi rhoi bywyd y genedl mewn peryg. Ar y refferendwm tyngedfennol hwnnw y dylem ganolbwyntio. O’i gymharu â hynny, gwag ac ymylol yw pob ystyriaeth arall. Senedd sy’n bwysig, nid Arwisgiad.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
