Mae’r berthynas arbennig sy’n bodoli rhwng America ac Israel yn enghraifft glasurol o’r gynffon yn siglo’r ci. Trwy ddangos y fath ffafriaeth agored tuag at Israel fe gollodd Unol Daleithiau America ei hygrededd, nid yn unig yng ngolwg y Palestiniaid ond yng ngolwg yr Arab a’r Moslem yn ogystal. Fu’r broses heddwch honedig yn ddim byd ond proses – proses heb yr un arlliw o heddwch ar ei chyfyl. Mae hi’n waeth na siam. Dan gochl trafodaethau heddwch araf a throfaus mae Israel yn tynhau ei gafael ar y Lan Orllewinol.
Mae’r anghymesuredd grym rhwng Israel a’r Palestiniaid yn dileu pob gobaith o ddatrys y gwrthdaro mewn modd cyfiawn. Byddai datrysiad cyfiawn yn golygu dod o hyd i ateb ar y cyd gan ddwy wladwriaeth. Golygai hefyd greu cenedl annibynnol i’r Palestiniaid ar y Lan Orllewinol ac ar Lain Gaza gyda’i phrifddinas yn Nwyrain Jerwsalem. America yn unig fyddai’n gallu pwyso ar Israel i gytuno i hynny. Ganddi hi y mae’r grym a’r gallu angenrheidiol, ond nid yw’n dewis eu defnyddio. Mae America’n rhoi arian ac arfau a chyngor i Israel. Mae Israel yn cymryd yr arian a’r arfau ond yn anwybyddu’r cyngor.
Y gobaith oedd y byddai ethol Barack Obama’n arwain at bolisi mwy cytbwys tuag at y gwrthdaro rhwng yr Iddewon a’r Palestiniaid. Yn ei araith yng Nghairo ar 4 Mehefin 2009 fe fynegodd Obama ei gefnogaeth i ‘ddyhead dilys y Palestiniaid am yr urddas sy’n deillio o fod â’u gwladwriaeth eu hunain’. Er fod Obama’n areithiwr heb ei ail, nid yw ei ddawn gwneud hanner cystal â’i ddawn dweud. Newidiodd y rhethreg ond parhau y mae’r ymlyniad at Israel.
I fod yn deg ag Obama, fe wnaeth yr Arlywydd gydnabod o’r cychwyn mai’r modd y gwladychwyd rhagor a rhagor o’r Lan Orllewinol gan Israel yw’r rhwystr pennaf i heddwch. Mynnodd fod Israel yn rhoi’r gorau i ehangu ymhellach yn y diriogaeth honno. Cyfarfu Obama deirgwaith â Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, i drafod y mater. Ac ildiodd deirgwaith i’r Israeliad. Pam ar wyneb daear ddaru’r dyn mwyaf pwerus yn y byd ganiatáu i gynrychiolydd Israel ei fychanu a’i drechu? Yr ateb, i raddau helaeth, yw dylanwad hirhoedlog a pharhaus y lobi Israelaidd ar wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Ymarferiad hollol ofer oedd y trafodaethau heddwch rhwng Israel a Phalestina, a lansiwyd gan yr Ysgrifennydd Clinton ar 2 Medi y llynedd. Doedden nhw ddim yn dechrau cwrdd â galwad fwyaf sylfaenol y Palestiniaid, sef dod â’r gwladychu i ben yn llwyr. Y cyfan y cytunodd Netanyahu yn anfoddog iddo oedd rhoi terfyn rhannol ar y gwladychu am ddeng mis. Nid oedd y gwaharddiad yn cynnwys y 3,000 o dai ar y Lan Orllewinol a ganiatawyd eisoes, nac i’r tir yn Nwyrain Jerwsalem a feddiannwyd wedi rhyfel Mehefin 1967. Pan ddaeth y cyfnod o waharddiad tila a diwerth hwn i ben ar 27 Medi fe wrthododd Netanyahu ei ymestyn.
Er mwyn dwyn perswâd ar Netanyahu i ymestyn y gwaharddiad am 60 diwrnod arall fe gynigiodd Obama gytundeb diogelwch hirdymor iddo, sgwadron o awyrennau ymladd F-35, gwerth $3 biliwn, yn ogystal â defnydd o feto America yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i wrthod unrhyw gynnig nad oedd wrth fodd calon Israel. Fe gafodd Israel hefyd y cynnig i brynu sgwadron arall o awyrennau F-35. Prynwch un, cewch y llall am ddim! Mynnodd yr elfennau mwyaf digymrodedd ac adweithiol yng nghlymblaid Netanyahu ei fod yn gwrthod y cynnig rhyfeddol o hael hwn. Does dim plesio ar rai pobol.
Ni ellir osgoi dod i’r casgliad nad yw Netanyahu yn gydymaith o fath yn y byd i’r Palestiniaid ar y daith tuag at heddwch. Nid yw meddiannu tir yn gydnaws â byw’n heddychlon. Ac ar feddiannu y mae bryd llywodraeth adain dde Israel. Yn lle mynd ati i rannu’r pizza yn deg mae Netanyahu yn parhau i’w lowcio. Mae’n anodd credu cymaint o lipryn gwangalon yw Obama yn ei ymwneud â’r Israeliaid. Yn hytrach na defnyddio ei holl rym i bwyso ar y wlad gryfaf, mae o’n mynnu bod y wlad wannaf yn gwneud rhagor a rhagor o gonsesiynau.
Dan y fath amodau does nemor ddim gobaith am sicrhau heddwch rhwng Israel a Phalestina. Gydag Obama yng ngofal y broses heddwch honedig does dim goleuni ym mhen draw’r twnnel. Bydd rhagor o wladychu anghyfreithlon. Yn sgil hynny daw rhagor o gythrwfl, trais, colli gwaed ac, yn y pen draw, trydydd intifada.
Mae’r difrod y mae Israel yn ei wneud i fuddiannau America yn anfesuradwy. Yn ystod y Rhyfel Oer roedd Israel yn gefn strategol i America. Heddiw, maen tramgwydd ydyw i America yn wleidyddol, yn ddiplomyddol ac yn strategol. Nid yw lladmeryddion y geidwadaeth newydd yn blino dweud wrthym mai’r un dyheadau cenedlaethol yn union sydd gan Israel ac America. Os credwch chi hynny, fe gredwch chi unrhyw beth. Gellid dadlau bod meddiannu’r Lan Orllewinol yn llesol i fuddiannau Israel, er fy mod i’n anghydweld â hynny. Ond byddai ceisio dadlau bod y meddiannu o les i America yn gwbl chwerthinllyd. Dywedodd y Cadfridog David Petraeus wrth y Gyngres fod safiad anhyblyg Israel yng nghyswllt Palestina yn tanseilio safle UDA drwy’r holl ardal. Adroddwyd bod y Dirprwy Arlywydd Joe Biden wedi dweud wrth Netanyahu bod yr hyn yr oedd Israel yn ei wneud yn peryglu diogelwch lluoedd arfog America yn Irac, Affganistan a Phacistan.
Eto i gyd, mae Israel yn llythrennol yn cael llofruddio’n ddi-gosb. Problem sylfaenol America yw ei bod yn ystyried Israel fel mater mewnol yn hytrach na rhan o’i pholisi tramor. Dyna agwedd pob llywodraeth Americanaidd o bob plaid. Os ceir yr awgrym lleiaf bod y Ty Gwyn yn rhoi pwysau ar Israel, mae gynnau mawr y lobi Israelaidd gref yn cael eu hanelu tuag at Capitol Hill. Mae’r Gyngres ei hun wedi cael ei disgrifio fel tiriogaeth a feddiannwyd gan Israel. Gydag Arlywydd mor aneffeithiol yn y Ty Gwyn, dichon y bydd yn cymryd mwy o amser i ryddhau’r Gyngres nag a gymer hi i ryddhau tiriogaethau’r Palestiniaid.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
