Thema dywyll Thema golau

Pan ddaw’n adeg lledu adenydd

Yn wahanol i Erddi Glasfryn, nid oes staff Cymraeg yn Tapley Avenue. Mae Gerddi Glasfryn yn uned sy’n darparu cefnogaeth arbenigol i blant a phobol ifanc awtistig, tra mae Tapley yn adnodd cymysg. Nid oeddem yn fodlon anfon Joel i aros noson yn rhywle cwbwl ddiarth, a fyddai’n golygu bron yr un faint o deithio iddo.

Gwrthodwyd ein cais gan y ‘Panel Comisiynu ar y Cyd’ dirgel, felly dyma apelio yn erbyn y penderfyniad. Roedd eu hawgrym y byddai Tapley yn addas i Joel pe gellid darparu siaradwr Cymraeg yn un niwlog. Pe bai Joel yn Bwyliad, dyweder, byddai ei anghenion ieithyddol a diwylliannol yn debygol o gael gwell ystyriaeth na’u cydnabod dros ysgwydd yn unig.

Roeddem wedi cael ar ddeall o le da fod Tapley bron yn orlawn ac yn brin o staff ac adnoddau. Nid oedd Joel – nad yw’n fodlon mynd ar wyliau i nunlle ac eithrio i dy fy rhieni yn Sir Fôn – eisiau mynd i aros yno, tra byddai’n berffaith fodlon aros yn amgylchedd cartrefol a chyfarwydd Gerddi Glasfryn.

Gwrthodwyd yr apêl, ar y sail fod Joel ar fin mynd i wasanaethau trosiannol (y tir neb hwnnw rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion) ac mai ‘integreiddio yn y gymuned’ oedd yn bwysig yn eu tyb nhw.

Cwynais yn erbyn y penderfyniad a threfnwyd cyfarfod i ni efo dwy uwch swyddog. Yn y cyfamser cysylltais â Chyngor ar Bopeth (ni fu ein Aelod Cynulliad ein hetholaeth yn fawr o help), a chael siom o glywed nad oedd rheidrwydd ar y gwasanaethau cymdeithasol i dalu am ddarpariaeth breswyl i Joel. Nid oedd modd i ni dalu am y ddarpariaeth ein hunain gan nad ysgol breifat mohoni.

Yn y cyfarfod, fe’n digalonnwyd ymhellach pan ddywedodd y swyddogion eu bod yn ffafrio colegau lleol yn hytrach na cholegau preswyl, a ninnau wedi rhoi ein bryd ar weld Joel yn mynd i Goleg Derwen yng Ngobowen ar ôl iddo adael ysgol (rheswm arall dros geisio lle iddo yng Ngerddi Glasfryn oedd er mwyn arfer aros oddi cartref cyn mynd i’r coleg).

Dyna frwydr arall o’n blaenau felly, er y gwyddem hynny’n barod oherwydd enw drwg honedig Cyngor Wrecsam am wrthod ariannu lleoliadau preswyl. Pe bai Joel yn fodlon symud ty, byddem yn ystyried mudo i Sir Ddinbych yn y gobaith o gael gwell chwarae teg.

Dim ond os bydd y colegau lleol yn dweud na fedran nhw gwrdd ag anghenion Joel y bydd coleg preswyl yn cael ei ystyried, a hyd yn oed wedyn tydw i ddim yn gwbwl ffyddiog, yn enwedig a’r Cyngor yn wynebu toriadau enfawr. Ond yr hyn sy’n fy ngwylltio ydi’r ffaith nad oes neb wedi cyfaddef mai diffyg arian ydi’r broblem, ac mai gwasanaethau fel hyn sy’n dioddef.

Mae’n rhaid i ni gwffio neu chawn ni ddim byd, meddai pobol ‘o’r tu mewn’ (cadarnhad, os oedd angen, o anghyfiawnder y system). Ond mi rydw i’n cwffio, yn bangio ’mhen yn erbyn wal sy’n gwrthod dymchwel. Efo dyfalbarhad, a chymorth ein Haelod Cynulliad Rhanbarthol mwy ’tebol, dim ond gobeithio y bydd diweddglo cadarnhaol i’r holl saga.

 

 

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

O Ewrop- Siôn Corn Wyn a Phedr Ddu

Ymlaen >

Y Pridd a'r Concrid