Silk Rhan 1: Dadansoddiad
Wysg ein tinau ac er ein gwaethaf y cawsom ein hunain yn byw mewn egin-wladwriaeth Gymreig.
Go brin fod ’na enghraifft well o hyn na’r modd damweiniol, bron, y sefydlwyd Comisiwn Silk. Pan ddechreuodd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol drafod telerau clymblaid yn sgil etholiad cyffredinol Prydeinig 2010, nid oedd unrhyw un ar y naill ochr na’r llall wedi bwriadu y byddai’r cytundeb yn arwain at adolygiad pellgyrhaeddol o gyfansoddiad datganoledig Cymru. Ond yn sgil methiant y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i ddarbwyllo eu cymrodyr Albanaidd y dylai ‘rhestr siopa’ eu plaid ar gyfer y trafodaethau gynnwys adolygiad o Fformiwla Barnett, dyma gynnwys yn y cytundeb terfynol – megis gwobr gysur i Kirsty Williams – eiriau i’r perwyl y dylid sefydlu ‘a process similar to the Calman Commission’ yng Nghymru.
Sefydlwyd Comisiwn Calman gan y pleidiau unoliaethol yn sgil buddugoliaeth yr SNP yn etholiad datganoledig 2007. Fe esgorodd yn ei dro ar argymhellion a weithredwyd i raddau helaeth yn Neddf yr Alban 2012. Elfen amlycaf y Ddeddf honno yw’r cynllun i ddiwygio pwerau trethu Senedd yr Alban. Ers ei sefydlu yn 1999, bu’n opsiwn gan y Senedd honno i amrywio’r gyfradd dreth incwm sylfaenol yn yr Alban hyd at 3 ceiniog. Ni ddefnyddiwyd yr opsiwn erioed, ac yn wir ymddengys na chadwyd y wybodaeth angenrheidiol gan yr awdurdodau treth er mwyn gallu gwneud hynny – hyd yn oed pe byddai’r awydd wedi bodoli. Ond yn sgil pasio Deddf 2012 – ac os pery’r Alban yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol – yna wedi 2016, bydd gorfodaeth ar Senedd y wlad honno i benderfynu lefel y ‘gyfradd Albanaidd’ (Scottish rate).
Bydd y drefn a ddefnyddir fel a ganlyn: bydd lefel y dreth incwm yn yr Alban yn cael ei gostwng 10 ceiniog ym mhob band treth. Ar yr un pryd fe fydd lefel y taliad blynyddol a wneir i Gaeredin o goffrau Trysorlys (y ‘grant bloc’) yn cael ei leihau, gyda maint y lleihad yn cyfateb i’r swm a gollir gan y Trysorlys yn sgil lleihau lefel y dreth incwm yn yr Alban. Yna bydd yn rhaid i Senedd yr Alban benderfynu lefel y gyfradd Albanaidd. Os codir 10 ceiniog ym mhob band treth yna bydd popeth yn aros yn ei unfan gyda’r cyfanswm fydd yn cyrraedd coffrau Llywodraeth yr Alban (grant bloc + cyfradd Albanaidd) yn parhau’n union yr un fath. Ond gellir dewis codi mwy (neu godi llai) na 10 ceiniog, gyda’r penderfyniad hwnnw (wrth reswm) yn penderfynu’r union swm fydd ar gael i’w wario gan yr Alban. Noder – a daw hyn yn arwyddocaol yn y man – na chaniateir i Senedd yr Alban wahaniaethu rhwng y bandiau, er enghraifft trwy leihau’r radd sylfaenol a chynyddu’r radd uchaf.
Yr hyn y sylwodd Kirsty Williams a’i chynghorwyr arno, fodd bynnag, oedd fod cylch gorchwyl Comisiwn Calman yn llawer iawn ehangach na phwerau ariannol yn unig. Hyd yn oed os na ddewisodd y Comisiwn achub ar y cyfle – ymddengys mai llyffetheirio’r SNP oedd ei brif fwriad – roedd ganddo’r posibiliad o ailystyried holl seiliau’r setliad Albanaidd. Felly, er mawr glod iddi, mynnodd Williams y dylai’r ‘process similar to the Calman Commission’ a arfaethwyd ar gyfer Cymru gynnwys y posibiliad o ailystyried holl seiliau’r setliad Cymreig. Ac felly, er nad oedd hynny wedi ei fwriadu gan unrhyw un, dyma eni Comisiwn Silk.
Wrth sefydlu’r Comisiwn amhleidiol dan gadeiryddiaeth Paul Silk, rhannwyd ei gylch gorchwyl yn ddwy ran. Cafwyd gwys i roddi sylw’n gyntaf i bwerau ariannol y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, cyn troi yn ail ran y broses at ystyriaeth o’r setliad yn ei gyfanrwydd. Cyhoeddwyd argymhellion y Comisiynwyr yn sgil rhan gyntaf eu hymdrechion ym mis Tachwedd 2012. Wedi hynny cafwyd bron i flwyddyn gron o oedi a dadlau y tu ôl i’r llenni cyn, yn ddisymwth bron, i David Cameron a Nick Clegg ei throi hi am Gaerdydd i gyhoeddi eu bod yn derbyn bron y cyfan o’r argymhellion hynny.
Gan mai creadigaeth (ddamweiniol, bid siwr) plaid Nick Clegg oedd Silk, a gan fod y blaid honno wedi cefnogi datganoli ers degawdau lawer, ni ddylid synnu ei fod ef mor awyddus i gysylltu ei hun â’r cyhoeddiad. Ond mae parodrwydd, yn wir awydd, David Cameron i wneud yr un peth yn arwyddo newid o bwys yn agwedd y wladwriaeth ganolog yn gyffredinol, a’r Prif Weinidog yn benodol.
Adeg marw Margaret Thatcher, mewn cyfweliad na chafodd yn agos ddigon o sylw ar y cyrion Celtaidd Tori-sgeptig, bu Cameron yn pwyso a mesur cyfraniad ei arwres fawr. Fel y gellid disgwyl, canmoliaethus oedd y cywair. Ond pan ofynnwyd iddo am ei chamau gweigion fe soniodd yn benodol am ei gelyniaeth tuag at ddatganoli fel camgymeriad. Mae hyn yn arwyddocaol. Hyd yn ddiweddar, gallai’r Aelodau Seneddol Cymreig ac Albanaidd hynny oedd yn llugoer tuag at ddatganoli ddibynnu ar gydymdeimlad greddfol y wladwriaeth ganolog i’w amheuon. Bu’r Trysorlys, yn arbennig, yn gyndyn iawn ei gefnogaeth i unrhyw beth oedd yn llacio gafael ‘y canol’. Erbyn hyn mae’r rhod wedi troi. Yn hytrach, mae gwleidyddion hwn y wladwriaeth ynghyd â’u cynghorwyr agosaf wedi penderfynu bod angen ceisio creu setliadau cyfansoddiadol cynaliadwy ar gyfer yr Alban a Chymru – hyd yn oed os yw hynny’n golygu estyn mwy o bwerau i Gaeredin a Chaerdydd. Ac fel y gwyr ein Hysgrifennydd Gwladol, David Jones, erbyn hyn, ychydig iawn o wrandawiad a gaiff y rheini sy’n ceisio rhwystro hynny ar sail dogma unoliaethol treuliedig. Nid gwrthwynebiad David Cameron a George Osborne ar sail unrhyw egwyddor fu’n gyfrifol am bron i flwyddyn o oedi ond yn hytrach y ffaith fod ffawd argymhellion Silk wedi ei chlymu wrth faterion eraill yn y broses o fargeinio mewnol diddiwedd sy’n nodweddu unrhyw glymblaid. Pan drawyd bargen ar y rheini, sgubwyd gwrthwynebiad David Jones o’r neilltu yn gwbl ddiseremoni.
+ + +
Ond y tu hwnt i’r symbolaidd, beth mewn termau diriaethol y mae cyhoeddiad Cameron a Clegg yn ei olygu?
Roedd tair elfen i argymhellion Silk. Yn gyntaf, dadleuwyd y dylai Llywodraeth Cymru allu benthyg arian o fewn cyfyngiadau penodedig. Yn ail, dadleuwyd y dylid trosglwyddo nifer o fân drethi i ofal y Cynulliad Cenedlaethol, yn fwyaf amlwg yn eu plith y dreth stamp a threth tirlenwi. Yn drydydd, argymhellwyd y dylid trosglwyddo rhan o’r cyfrifoldeb dros dreth incwm i Gymru, a hynny’n fras ar fodel Deddf yr Alban 2012. Hynny yw, dylid lleihau lefel y dreth incwm yng Nghymru 10 ceiniog ymhob band ac yna gorfodi’r Cynulliad Cenedlaethol i osod lefel ‘cyfradd Gymreig’.
Yr oedd cynllun Silk ar gyfer y dreth incwm yng Nghymru yn wahanol i fodel Calman mewn un ffordd bwysig. Mynnodd y Comisiynwyr y dylai Cymru gael yr hawl i amrywio lefel y ‘gyfradd Gymreig’ rhwng y gwahanol fandiau treth yn hytrach na gorfodi unffurfiaeth ar draws y bandiau. Gwnaed hyn oherwydd eu bod yn derbyn dadansoddiad (awdurdodol) Gerry Holtham y byddai diffyg hyblygrwydd o’r fath yn y cyd-destun Cymreig yn golygu y byddai’n anodd iawn gwneud unrhyw beth ac eithrio dilyn lefelau treth Lloegr yn gwbl slafaidd. Yn ogystal, gosodwyd dau rag-amod cyn symud ymlaen at ddatganoli treth incwm: dylid sefydlu trefn ‘ariannu teg’ ar gyfer Cymru a dylid hefyd gynnal refferendwm (eto fyth!) cyn gwneud dim.
Anaml iawn y bydd unrhyw lywodraeth yn derbyn pob un o argymhellion unrhyw adroddiad. O gofio hynny, mae’r graddau y derbyniwyd cynigion adroddiad Silk ar gyfer ariannu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru gan lywodraeth Llundain yn wirioneddol drawiadol. Derbyniwyd bron â bod bopeth ym mhecyn Silk gyda dim ond un eithriad o bwys: model Calman a geir ar gyfer y gyfradd Gymreig yn hytrach na’r model mwy hyblyg a ddeisyfwyd. Hyn mae’n debyg oherwydd bod y Trysorlys yn amharod i gynnig mwy o ryddid i Gymru nag a estynnwyd i’r Alban, a hynny ddeng mis yn unig cyn i’r wlad honno gael y cyfle i bleidleisio o blaid annibyniaeth.
Fe welwyd, hyd yn oed, ymdrech deg (yn y fy marn i, beth bynnag) i sicrhau model o ‘ariannu teg’ trwy arwyddo cytundeb hefo Llywodraeth Cymru a fydd yn rhoi stop ar y broses o leihau lefel gwariant y pen yng Nghymru i’r lefel Seisnig – ‘gwasgfa Barnett’ fel y’i gelwir. Mae hyn yn llawer iawn gwell na dim y llwyddodd y Blaid Lafur Gymreig i’w sicrhau pan oedd Gordon Brown ac Alistair Darling yn trigo yn 11 Downing Street.
Yn anffodus (eto yn fy marn i), fe gytunwyd hefyd na fydd unrhyw gyfrifoldeb dros dreth incwm yn cael ei drosglwyddo nes bod pleidlais gadarnhaol yn y pedwerydd refferendwm Cymreig ar fater datganoli. Ond gan fod Comisiwn Silk wedi galw’n unfrydol am ffasiwn beth, go brin fod gan Lywodraeth Llundain unrhyw ddewis ond cytuno i’r rhag-amod hwnnw, dim ots pa mor hurt y bo.
Mewn byr eiriau, dyma becyn Silk fwy neu lai’n gyflawn.
+ + +
Wrth gwrs, ers i Cameron a Clegg ddychwelyd yn eu holau dros Bont Hafren, bu arweinwyr y Blaid Lafur Gymreig (ynghyd â David T.C. Davies – dyna i chi gyfuniad rhyfeddol a dadlennol) yn brysur yn tywallt dwr oer dros y cyfan. Atgyfodwyd y ddadl na ddylid trosglwyddo grymoedd dros y dreth incwm cyn ‘diwygio fformiwla Barnett’. Geiriad sy’n awgrymu mwy nag atal ‘gwasgfa Barnett’ eithr yn hytrach ychwanegu swm cymharol fychan at gyllideb flynyddol Cymru ac ar yr un pryd yn torri swm sylweddol iawn oddi ar gyllideb yr Alban. Dyma i chi gwestiwn: tybed ydi Carwyn Jones ac Owen Smith yn ddigon o hogiau i ddadlau o blaid cymryd cam o’r fath yn yr Alban cyn 18 Medi 2014? Sgersli bilîf! Ond os nad ydynt, pam y dylem gredu fod galw am ‘ddiwygio Barnett’ yn ddim ond ystum cwbl sinigaidd a ffuantus er mwyn osgoi’r cyfrifoldeb gwleidyddol pwysfawr sydd ymhlyg yn y grym i fedru effeithio ar lefelau trethiant personol?
Clywir hefyd ddadleuon i’r perwyl na ellir ennill refferendwm ar ddatganoli’r dreth incwm. Mae’n dân ar groen clywed yr union bobl a fu unwaith yn dadlau fod refferendwm yn angenrheidiol yn dadlau erbyn hyn fod y rheidrwydd i gynnal refferendwm yn golygu na ellir gwneud dim. Ond mae dyn yn deall pam fod pobl yn credu y byddai refferendwm o’r fath yn dalcen caled ar y naw.
O ganlyniad i agwedd lugoer Llafur ac amheuon (dilys) ynglyn â’r her y byddai refferendwm yn ei chynrychioli, ymddengys fod sylwebyddion gwleidyddol Cymreig wedi penderfynu mai tipyn o dân siafins oedd cyhoeddiad Cameron a Clegg wedi’r cyfan. Bydd, fe fydd pwerau benthyg cyfyngedig yn cael eu trosglwyddo i Gaerdydd ynghyd â chyfrifoldeb dros nifer o fân drethi. Y tu hwnt i hynny, fodd bynnag, fydd yna ddim refferendwm ac felly fydd yna ddim pwerau treth incwm yn y dyfodol rhagweladwy.
Dyna’r consensws, beth bynnag. A pham yn wir y dylai’r Blaid Lafur Gymreig drafferthu â’r ‘gyfradd Gymreig’ os yw’r Trysorlys wedi ildio’r pwerau benthyg y mae Llafur yn sicr yn eu deisyfu? Cawn weld, wrth gwrs. Ond bydd yn werth craffu’n fanwl ar brint mân y drefn ariannol a sefydlir ar gyfer Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Safbwynt cwbl gadarn y Trysorlys yw y bydd unrhyw bwerau benthyg yn gymesur â grymoedd trethiannol y Cynulliad Cenedlaethol. A’r gwir amdani yw bod y symiau a godir yng Nghymru gan y mân drethi a gaiff eu trosglwyddo yn gwbl bitw. Sy’n golygu, wrth gwrs, mai bychan iawn fydd y symiau y caiff Cymru eu benthyg.
Os felly, buan iawn y bydd Llywodraeth Cymru mewn cyfyng gyngor. Mae’n gwbl amlwg ei bod yn blaenoriaethu buddsoddi mewn gwella’r M4 ger Casnewydd. Ond byddai gwneud hynny’n unig yn creu peryglon gwleidyddol mawr iawn i Lafur. Gallwch weld y penawdau yn y Daily Post, y Cambrian News ac Evening Post Abertawe’n barod: Llafur yn ffafrio’r de-ddwyrain ar draul gweddill Cymru... Y gwir amdani yw y bydd yn rhaid buddsoddi mewn cynlluniau cyfalaf ar draws Cymru. Ond ni ellir gwneud hynny heb allu benthyg symiau go sylweddol. Ac mae’n fwy na phosib mai dim ond pwerau ym maes treth incwm fydd yn creu digon o lif incwm i alluogi Cymru i ryddhau pwerau benthyg digonol.
Wysg eu tinau ac er eu gwaethaf, mae’n bosib y bydd Llafur yn penderfynu fod angen cynnal y refferendwm nesaf lawer ynghynt na’r disgwyl...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
