Yn y suite o ystafelloedd yn Anfield a enwyd i goffâu Shankly y cawsom ein cinio y prynhawn Sadwrn hwnnw fis yn ôl pan ddangosodd Abertawe i Lerpwl sut i basio pêl, sut i greu onglau ar gae, a sut i dawelu’r Kop. O barchus goffadwriaeth iddo, rhoddais saliwt i’w gerflun, a saliwt arall i’r llun ohono sydd yn y cynteddoedd. Pwy nad edmygai’r pen caled a’r llygaid disgair llym? Pwy na welai yn ei wyneb creigiog benderfyniad di-ildio’r penboethyn deallus? Wel, mi ddywedaf bwy – yr ysgolhaig Cymraeg Syr Thomas Parry. Nid da gan Domas chwaraeon.
Ychydig ddyddiau cyn inni fynd i Anfield, dechreuais ddarllen y myrdd papurau o eiddo’i g?r a adawodd Lady Parry i Archifdy Prifysgol Bangor. Un o’r pethau cyntaf y trewais arno oedd copi o adolygiad gan Thomas Parry ar Y Bywgraffiadur Cymreig, 1953, lle cystwya’r golygyddion am fod ‘hanes L. R. Roose’, gôl-geidwad Cymru gyda thro’r ugeinfed ganrif, ‘gymaint ddwywaith â hanes Michael Roberts Pwllheli.’ Pregethwr Methodist ac athro ysgol oedd Michael Roberts, un o fyrdd o’i fath yn ei ddydd; y peth mwyaf cofiadwy amdano yw’r salwch meddwl a gafodd yn ei ganol oed ac a fu’n ‘loes i genedl gyfan’ (chwedl y Byw.). Am Roose, yr oedd yn golwr gyda’r mwyaf anghyffredin a aned erioed, ac, at hynny, yn ?r a gafodd fywyd lliwgar llawn, os byr. Yr oedd ei hanes yn haeddu dwywaith hanes y llall.

Eleni cyhoeddodd yr awdur Saesneg Craig Brown gadwyn o storïau am bobl enwog yn cyfarfod â’i gilydd ar hap, Marilyn Monroe a Nikita Khruschev, Marianne Faithfull a W. H. Auden, er enghraifft. Mor ddiddan (ac addysgiedig) fyddai peri i Shankly a Pharry gyfarfod â’i gilydd – y ddau’n awdurdodol eu barnau, y ddau’n rhethregwyr gyda’r ffraethaf, y ddau’n dynwyr coes, y ddau’n blant dwy werin dlawd, ond bod y naill yn ddiwydiannol a’r llall yn wledig. Da gennyf pe buasai’r ddau gyda ni ar y pumed o Dachwedd yn gwrando ar gefnogwyr Abertawe yn bloeddio cân. Am ei fod yn siomedig na allai’r tîm cartref gael y llaw uchaf ar yr ymwelwyr, yr oedd y Kop yn fud am allanohydion yn ystod y gêm. A’r adegau hynny yr oedd cefnogwyr yr Elyrch yn llafarganu drosodd a throsodd: ‘Is this place a library?’ Siawns na fyddai Tom Parry’r Llyfrgellydd Cenedlaethol yn chwerthin wrth glywed y ffraetheb honno? Ac na fyddai Shankly yn tynnu blewyn o’i fwstash i gau ei geg drachefn?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
