Fe ddychwelodd Nick Bourne at yr un ansoddair gryn hanner dwsin o weithiau yn ystod y talwrn arweinyddol olaf a ddarlledwyd yn hwyr y nos tua diwedd ein hymgyrch etholiadol ddiweddar. Yr oedd cyn-arweinydd y Torïaid Cymreig am i ni ddeall fod Carwyn Jones yn complacent. Nid oes gennyf unrhyw le i gredu bod yr ensyniad yn gywir na bod y gwr sydd bellach wedi ei ailsefydlu’n Brif Weinidog yn ymffrostgar nac yn hunanfodlon. Fe fyddai’n llai na dynol, fodd bynnag, pe na fyddai’n teimlo’n fodlon iawn ei fyd ers cyhoeddi canlyniadau’r etholiad.
Heb amheuaeth, roedd sicrhau 42% o’r bleidlais etholaethol yn chwip o ganlyniad. Onid oedd hyn 2% yn well na’r hyn a sicrhaodd Rhodri Morgan yn 2003 pan oedd ei boblogrwydd yntau, ac effaith fyrhoedlog y Baghdad bounce bondigrybwyll, yn eu hanterth? Ond yn bwysicach o lawer na hynny, daeth buddugoliaeth ysgubol 2011 yn sgil dwy ymgyrch – y refferendwm a’r etholiad – lle y llwyddodd arweinydd y Blaid Lafur yn y Cynulliad Cenedlaethol i’w sefydlu ei hun fel ffigwr arlywyddol; ffigwr a all drosgynnu ffiniau pleidiol cul. Erbyn hyn, Jones ac nid James yw’r Carwyn di-gyfenw.
Serch hynny, yn ysbryd y caethweision hynny a gaent wys i sibrwd memento mori (cofia y byddi farw) yng nghlustiau ymerawdwyr Rhufeinig wrth iddynt dderbyn cymeradwyaeth y dorf ar ôl sicrhau rhyw fuddugoliaeth neu’i gilydd, mater bach yw tynnu sylw at y problemau sylweddol iawn sy’n wynebu Carwyn Jones, hyd yn oed yn awr fawr ei lwyddiant.
Mae’r Prif Weinidog ei hun yn ymwybodol iawn o un ohonynt. Mae eisoes wedi datgan ar goedd ei fod yn sylweddoli’n burion na fydd llywodraethu efo 30 aelod yn hawdd. Digon gwir, yn enwedig mewn cyfnod pan fydd y toriadau mewn gwario cyhoeddus yn golygu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd.
Wrth ddatgan yn gyhoeddus y bydd llywodraethu ar sail 30 yn dalcen caled, mae’r Prif Weinidog presennol eisoes wedi dangos gwell gafael ar realiti gwleidyddiaeth ddatganoledig na’i ragflaenydd. Yn ôl yn 2003 fe geisiodd Rhodri Morgan ymddwyn fel petai hanner aelodau’r Cynulliad yn gyfystyr â mwyafrif. Hyd yn oed cyn i Peter Law gicio dros y tresi, roedd hynny wedi golygu llywodraeth a oedd nid yn unig yn fregus ond a oedd hefyd yn hynod ddiddim a di-fflach. Trwy beidio â cheisio rhwystro Rosemary Butler rhag olynu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fel Llywydd, mae Carwyn Jones wedi datgan ei fod yn llawn sylweddoli mai llywodraeth leiafrifol y bydd o’n ei harwain o’r cychwyn cyntaf. Mewn cyd-destun o’r fath nid yw’r un bleidlais a gollir wrth i Lafurwraig gymryd y gadair yn gwneud gwahaniaeth y naill ffordd na’r llall. Doed a ddêl, dim ond gyda chefnogaeth plaid neu bleidiau eraill y bydd pleidleisiau o bwys yn cael eu hennill yn y Cynulliad.
Oni bai, wrth gwrs, bod modd i Lafur daro bargen hirdymor a fyddai’n sicrhau mwyafrif parhaol. Oes gobaith taro bargen o’r fath? Eto gwelir cyferbyniad eglur rhwng Rhodri Morgan a Carwyn Jones yn y modd y mae Carwyn wedi trafod y sefyllfa ar ôl yr etholiad. Yn 2007 fe aeth Morgan allan o’i ffordd i dynnu blewyn o drwyn darpar-bartneriaid. Canlyniad uniongyrchol haerllugrwydd o’r fath oedd i’w blaid orfod ildio i gais Plaid Cymru am refferendwm er mwyn osgoi ‘llywodraeth enfys’. Eleni, er nad oedd unrhyw obaith ail-lunio’r enfys, mae Carwyn wedi trin darpar-bartneriaid gyda pharch. Yn rhannol oherwydd hyn mae’r drysau’n dal yn gilagored ar gyfer trafodaethau ac mae cronfa helaeth o ewyllys da ar bob tu y gellid tynnu arni pe bai’r cyfle’n codi. Felly mae gobaith sicrhau cytundeb. Serch hynny, mae ymhell o fod yn sicr y caiff y gobaith ei wireddu; a hyd yn oed os daw cytundeb, fe allai brofi’n anodd iawn i’w gynnal dros bum mlynedd y Cynulliad newydd.
Ar ôl eu dihangfa wyrthiol yn yr etholiad mae’ Rhyddfrydwyr yn ddiau yn bartner posibl. Ond er bod rhai sylwebwyr yn tybio bod y ddwy ochr yn awchu am sicrhau cytundeb, y gwir amdani yw fod amheuon dwfn yn y naill wersyll a’r llall. O safbwynt y Rhyddfrydwyr bydd etholiadau lleol y flwyddyn nesaf yn rhwystr mawr, ac anorchfygol, efallai. Yn benodol, mae llawer o’r ymgyrchwyr lleol hynny yn yr ardaloedd trefol yn y de a fydd yn wynebu her gan Lafur. Maen nhw’n daer eu gwrthwynebiad i gytundeb efo plaid Carwyn Jones ar y gwastad datganoledig. Ni fydd KirstyWilliams yn gallu gwneud dim heb eu cydsyniad hwy.
O ran Llafur, mae sylweddoliad y bydd clymbleidio efo’r Rhyddfrydwyr yn debyg o danseilio conglfaen eu hymgyrch etholiadol. Sut yn wir y gellid ‘sefyll cornel Cymru’ yn erbyn llywodraeth San Steffan os yw Llafur ar yr un pryd yn cynnal breichiau un o bleidiau’r llywodraeth honno yng Nghymru? Byddai gymnasteg wleidyddol o’r fath yn anodd, hyd yn oed mewn gwlad sydd wedi hen arfer efo clymbleidio. Nid yw Cymru eto’n un o’r rheini. A phetai cytundeb, a fyddai’n gynaliadwy? Er enghraifft, yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Prydain yn 2015 pan fydd y Rhyddfrydwyr yn ymladd am eu heinioes. Go brin. Fe fyddai’r tensiynau yn annioddefol.
O ran y partner posibl arall, ymddengys ar hyn o bryd fod Llafur yn fwy awyddus i daro bargen efo Plaid Cymru nag ydi Plaid Cymru hithau i daro bargen efo Llafur. O safbwynt Llafur mae’r rhesymeg yn amlwg: fe’i siomwyd ar yr ochr orau gan brofiad Cymru’n Un.Wir i chi, fe synnech glywed pa mor gadarnhaol yw ffigyrau dylanwadol yn y Blaid Lafur yn y Bae ynglyn â chyfraniad Plaid Cymru (yn ddeallusol ac yn ymarferol) dros y pedair blynedd ddiwethaf. Ar ben hynny, mae grym bargeinio Plaid Cymru yn wan, beth bynnag. A gan nad yw Llafur mewn grym yn Llundain ac nad yw felly mewn sefyllfa i gynnig diwygiadau cyfansoddiadol i Gymru, y dybiaeth yn gwersyll Llafuraidd yw na fyddai’r pris y byddai’n rhaid ei dalu am gytundeb efo’r Blaid nac yn fawr nac yn boenus.
Hyd yma mae Plaid Cymru wedi ymateb yn syber ac yn synhwyrol i’w siom o syrthio i’r trydydd safle am y tro cyntaf mewn etholiad datganoledig. Yn hytrach na neidio i ben clawdd a lambastio’i gilydd yn gyhoeddus, cytunwyd i sefydlu ymchwiliad mewnol a fydd yn asesu sefyllfa’r blaid. Bydd IeuanWyn Jones wedyn yn camu o’r neilltu gan roi cyfle i arweinydd newydd sefydlu ei hun mewn da bryd ar gyfer yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf. Er bod Dafydd Elis-Thomas a John Osmond ar dân i ddod â’r holl broses honno i ben ar frys gwyllt, y farn gyffredinol – fel y dadleuwyd yng ngholofn y mis diwethaf – yw fod cwestiynau sylfaenol angen eu hystyried a’u hateb. Go brin y bydd y gwaith hwnnw’n dod i ben cyn, dyweder, haf y flwyddyn nesaf. Nid yw hyn yn golygu bod cytundeb yn gwbl amhosibl yn y cyfamser; ond digon o waith hefyd. Ac ymhen y flwyddyn? Mae llawer iawn yn dibynnu ar ganlyniad proses fewnol y Blaid. Ond os bydd cyfeiriad neu bwyslais y Blaid yn wirioneddol wahanol, oni fyddai’n fwy synhwyrol iddi geisio agor ei chwys newydd ei hun yn hytrach na cheisio altro rhyw fymryn ar gwys y bydd llywodraeth Carwyn Jones wedi ei hen agor ar ei chyfer ei hun erbyn hynny?
Nid dim ond yng nghyd-destun ei pherthynas â phleidiau eraill y mae’n rhaid i Blaid Lafur Gymreig Carwyn Jones fod yn wyliadwrus chwaith. Fe all perthnasau mewnol brofi’n gythryblus hefyd. Ers sawl blwyddyn bellach bu’r golofn hon yn tynnu sylw at effeithiau posibl bwriad y Ceidwadwyr i leihau nifer y seddau yn Nhy’r Cyffredin ac i gysoni maint etholaethau. Gyda’r ddeddfwriaeth bellach ar y llyfr statud, erbyn yr hydref fe fydd canlyniadau ymarferol hyn oll yn dod yn amlwg. Dyna pryd y bydd y Comisiwn Ffiniau yn rhyddhau map o’r 30 etholaeth newydd Gymreig a arfaethir ganddynt ar gyfer etholiad cyffredinol Prydeinig 2015.Wedi’r hwtian a’r ysgyrnygu dannedd sy’n siwr o ddilyn y cyhoeddiad, buan y bydd y wleidyddiaeth go iawn yn dechrau wrth i’r aelodau etholedig presennol – darpar-aelodau uchelgeisiol – ddechrau ymgyrchu o ddifrif am yr enwebiadau ar gyfer y seddau newydd hyn. Fe fydd hi’n hyll. Ac fe fydd hi’n waedlyd. A gan fod mwy o lawer o aelodau Llafur yn cael eu heffeithio nag aelodau unrhyw blaid arall, mae’n dilyn mai yn y gwersyll hwnnw y bydd y tywallt gwaed gwaethaf.
Sut, meddwch chi, mae hyn yn debyg o effeithio ar Carwyn Jones a’i gymrodyr yn y Cynulliad, gan mai etholaethau San Steffan fydd yr etholaethau newydd hyn? Wel yn syml iawn, ni ellir cymryd yn ganiataol mai felly y bydd hi. Mae ffigyrau dylanwadol iawn yn y pleidiau sy’n llywodraethu yn Llundain ar hyn o bryd yn dwys-ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio’r un etholaethau ar gyfer yr adran etholaethol yng nghyfundrefn bleidleisio’r Cynulliad. Un syniad a wyntyllir yn eu plith yw hyn: beth am ethol 30 aelod yn yr etholaethau newydd a 30 trwy restr genedlaethol? Byddai seddau ar y rhestr yn cael eu dosbarthu mewn modd a fyddai’n sicrhau bod aelodaeth y Cynulliad yn adlewyrchu’r canrannau sy’n pleidleisio ar gyfer y gwahanol bleidiau yn yr adran etholaethol. Mae’r cymal olaf yma’n bwysig. Dan gyfundrefn o’r fath fe fyddai’r ‘ail bleidlais’ ar gyfer y seddau rhestr presennol yn cael ei dileu’n gyfan gwbl. Y bleidlais yn yr etholaethau fyddai’n cyfrif. Byddai diwygiadau o’r math yma’n golygu canlyniad mwy cyfrannol o lawer. Byddai felly yn anfanteisiol i Lafur. Ond byddai dileu’r ail bleidlais hefyd yn ei gwneud hi’n anos o lawer i bleidiau’r cyrion megis UKIP sicrhau sedd yn y Cynulliad. Mae’n hawdd deall yr apêl. Petawn i’n ddyn betio, fe fyddwn yn mentro swllt mai rhywbeth o’r fath gaiff ei ddefnyddio ym Mai 2016 pan fyddwn unwaith yn rhagor yn ethol ein cynrychiolwyr yng Nghaerdydd. Os felly, gellir disgwyl y bydd yr un tensiwn mewnol, y gellir ei broffwydo’n hyderus yng nghyd-destun San Steffan, hefyd yn brigo i’r wyneb yn rhengoedd y Blaid Lafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Llywodraeth leiafrifol â’i haelodau yng ngyddfau ei gilydd: dyna i chi hunllef!
Hyd yn oed a chanolbwyntio’n unig ar y sefyllfa yng Nghymru, mae’n amlwg fod sawl her sylweddol yn wynebu Carwyn Jones.A beth wedyn am yr heriau o’r tu draw i Glawdd Offa? Dyna i chi’r tensiynau a all godi yng nghyd-destun y Calman Cymreig arfaethedig. A fydd modd i Carwyn Jones lynu at y geidwadaeth gyfansoddiadol a welwyd ym maniffesto etholiadol ei blaid os cynhelir trafodaeth ystyrlon ar oblygiadau sefydlu senedd ddeddfwriaethol i Gymru? Efallai y bydd yn plesio Aelodau Seneddol Llafur, ond beth am oblygiadau hyn i’r sefyllfa yn y Cynulliad Cenedlaethol?
A beth wedyn am oblygiadau byddugoliaeth hanesyddol yr SNP? Heb os, dyma’r canlyniad mwyaf rhyfeddol mewn unrhyw ornest etholiadol a gynhaliwyd ym Mhrydain ers degawdau lawer. Bydd y trafodaethau – ac efallai’r diwygiadau – cyfansoddiadol a fydd yn digwydd cyn y refferendwm arfaethedig ar annibyniaeth yn siwr o gael effaith yng Nghymru ac ar sefyllfa Cymru. Er hyn, gellir bod yn gwbl sicr na fydd llais Carwyn Jones – heb sôn am lais Cymru – yn cyfrif dim yn y trafodaethau. Sut yn y byd y bydd y Blaid Lafur Gymreig yn ymdopi efo sefyllfa o’r fath?
Roedd canlyniad etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 yn cynrychioli buddugoliaeth fawr i Carwyn Jones. Nid yn unig mae wedi llwyddo i gamu i esgidiau Rhodri Morgan heb faglu, ond ers yr etholiad mae wedi ei brofi ei hun yn fwy sicr ei gerddediad na’i ragflaenydd. Heb os, mae’n haeddu cael ei longyfarch yn hael ar ei gamp. Ond ac yntau bellach yn troi at lywodraethu dan amgylchiadau anodd, teg yw dweud hefyd mai dros y pum mlynedd nesaf y caiff ei ddoniau fel gwleidydd eu profi go iawn.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
