Beth sy’n nodweddu’r gyfrol fywiol, felly? Yn gyntaf oll, agosrwydd. Un agos-atom yw’r awdur; hynny yw, y mae’r person sy’n athronyddu lawn mor amlwg â’i athroniaeth. Wrth ddweud hynny, nid awgrymu yr wyf fod y gyfrol hon yn llawn o fanylion personol am fywyd yr awdur, er y ceir ambell hanesyn a ffotograff hefyd. Cais awdur Ffiniau ddianc rhag dylanwad ‘ei safbwynt personol’ ar ei feirniadaeth (t. 32). Ond gan amlyced angerdd y dweud a diffuantrwydd y dadlau, teimla’r darllenydd ei fod yn graddol ddod i ddeall cymeriad yr awdur. Yn The Possibilities of Sense, y gyfrol deyrnged a gyflwynwyd i’r Athro Phillips yn 2002, nododd James Conant na wahaniaethai Wittgenstein rhwng yr athronyddol a’r personol i’r un graddau ag y dadleuai Dewi Z., a theimlaf fod Ffiniau yn enghraifft o’r egwyddor honno ar waith. Clywn ynddi lais dyn egnïol, rhwystredig; dyn a glywodd yr ‘alwad at fyfyrdod athronyddol’, ac sy’n llefaru o ganol ‘galwedigaeth ddychrynllyd o anodd’ (t. 32); ond oherwydd y ‘ffin sydd wedi datblygu rhwng y cyhoedd ac athroniaeth Wittgenstein a’i ddilynwyr yng Nghymru’ (t. 336-7), ac oherwydd cyflwr truenus athroniaeth yn gyffredinol yn ein gwlad heddiw (t. 17-18), y mae’r alwedigaeth honno yn un anos fyth i’r athronydd Cymraeg hwn, a’i athronyddu gan hynny’n ymylu ar fod yn grwsâd personol. O ganol y gwrthdaro hwn – yr anghytgord rhwng dyn a gyfrif athroniaeth yn ffordd o fyw a diwylliant sy’n llwyr ddibris o’i gwerth – teimla’r darllenydd fod gwth arbennig yn gyrru’r gyfrol Ffiniau yn ei blaen, un nad yw’n bresennol yn y rhelyw o lyfrau ym maes beirniadaeth lenyddol. Ym mhob un bennod, ym mhob un cwestiwn a ofynnir gan yr awdur rhadlon, anniddig, ymglywir â’i awydd byw i amlygu ‘pwysigrwydd athroniaeth i’n diwylliant’ (t. 32). Er mwyn iddo lwyddo yn hyn o dasg, cais yr athronydd amlygu inni ddryswch y diwylliant hwnnw sy’n brin ei hathroniaeth.
Yn rhan gyntaf y gyfrol, trafodir ambell agwedd ar theori lenyddol, ac yn anad neb John Rowlands, M. Wynn Thomas a Dafydd Johnston yw’r tri a wysir gerbron brawdle’r athronydd. A’r cyhuddiad yn eu herbyn? ‘[P]lygu glin i ddamcaniaethau o’r cyfandir a’r Unol Daleithiau fel petai ynddynt feddyginiaeth i’n hargyfwng gwacter ystyr honedig’ (t. 54). Rhyfedd clywed lleisio’r feirniadaeth hon gan athronydd a oedd yn ddisgybl i Wittgenstein ac a oedd yn dal Cadair Danforth mewn Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Claremont Califfornia! Ond nid arddel damcaniaethau estron yw prif fyrdwn beirniadaeth yr awdur. Beirniadu y mae yn hytrach yr awydd i goleddu unrhyw ddamcaniaeth, boed honno’n un newydd ôl-strwythurol Ffrengig neu’n un Galfinaidd ac iddi hen draddodiad Cymreig. Rhagdyb beirniadaeth o’r fath ydyw fod ‘myfyrio’n athronyddol’ yn llwyr wahanol i ‘ddamcaniaethu’, a bod yr awdur ei hun yn llefaru heb ddamcaniaeth, megis dyn diduedd.
Nid arddelaf fi fy hun y safbwynt hwn. Fy nhuedd yn hytrach yw ceisio cydnabod fy rhagfarnau, neu o leiaf eu bodoleth. Nid yw hynny’n gyfystyr â gwadu na ellir ‘[g]werthfawrogi a deall safonau a gwerthoedd gwahanol’ (t. 32). Daw’r alwad yn Ffiniau ar inni ‘ehangu cylch ein gwerthfawrogiad y tu hwnt i gylch ein gwerthoedd personol’ (t. 279). Ac eto, ni welaf fi fod yr apêl ar i bawb ohonom ddefnyddio iaith gyffredin (t. 293) yn golygu nad yw’r awdur ‘diduedd’ ei hun yn tueddu i gyffredinoli ar dro ac y bydd rhai darllenwyr wrth iddynt ddilyn rhediad geiriau’r awdur am gytuno ag ef, pan na ddylent (gw. t. 71).
Beth pe baem, er enghraifft, yn newid yr ymadrodd ‘plygu glin i ddamcaniaethau’ am un llai delweddol-ddychanol? Beth pe baem yn dywedyd mai ystyried syniadau a wnaeth yr ysgolheigion hyn – neu’n hytrach ‘y damcaniaethwyr’, fel y’u gelwir? Cyhudda’r athronydd ei wrthwynebwyr ar dro o ‘rethreg’, hynny yw, o ddefnyddio geiriau i ddibrisio ei safbwynt (t. 338, cf. 217, 270). Ym mha fodd y mae ei ddefnydd yntau o iaith (a’m defnydd innau) yn wahanol? Oni all y sawl sy’n ‘myfyrio’n athronyddol’ hefyd ddyfynnu’n ddethol a rhoi’r (cam)argraff mai barn gyffredinol ei wrthwynebydd yw’r un honno y mae ef yn ei disgrifio ac yn ei beirniadu?
Ystyrier, er enghraifft, yr hyn a ddywedir am M. Wynn Thomas yn Ffiniau. Ar sail pennod a gyfrannodd M. Wynn Thomas i Sglefrio ar Eiriau, ’n ôl yn 1992, ‘Pwys Llên a Phwysau Hanes’, portrëedir ef yn fath ar ôl-strwythurwr peryglus ac yn ddisgybl i Michel Foucault. Anodd gennyf dderbyn hyn. Ai dyna ‘realiti’r logos’, ys dywed yr athronydd (71)? Hyd yn oed pe baem am funud yn anwybyddu gweithiau beirniadol eraill M. Wynn Thomas, fel y gwna’r awdur yn Ffiniau, gwelir o’r dyfyniadau a gyflwynir yn y gyfrol – dyfyniadau a godwyd o ‘Pwys Llên a Phwysau Hanes’ – mai cyflwyno syniadau’r ‘ôl-strwythurwyr’ mewn cywair addysgol y mae M. Wynn Thomas. ‘[S]ôn amdanynt’ y mae, heb ei ystyried ei hun yn un ohonynt (Sgelfrio ar Eiria t. 19). Yn wir, pwysleisiodd M. Wynn Thomas yn yr ysgrif ‘[nad] trwy ddilyn theori’ eithr ‘trwy ddilyn [ei d]rwyn’ yr ymchwiliodd ef i’r berthynas rhwng cerddi a’u cyd-destun hanesyddol (SE t. 11). Prin iawn yn ei waith yw’r awydd am un ddamcaniaeth hollgynhwysol, yn groes felly i awgrym Dewi Z. sydd, fodd bynnag, yn glynu wrth egwyddor didueddrwydd, doed a ddelo. Siawns nad yw’r athronydd, felly, er gwaethaf iddo geryddu’r Soffyddion (t. 71), yntau’n tueddu i ddefnyddio geiriau er mwyn cyflawni ei amcanion. Dyna’n rhannol paham y mae’r llyfr hwn mor ddifyr-ddarllenadwy, gan y gall geiriau fod yn arfau. (Wrth gwrs, y mae beirniadu’r awdur am gamgyflwyno gwaith ambell feirniad llenyddol, eto’n cadarnhau cywirdeb ei safbwynt Socrataidd ynglych ‘realiti’r logos’.)
Megis yn yr ymdriniaethau ar waith R. M. (Bobi) Jones yn rhan gyntaf y gyfrol, y mae’r drafodaeth ar amryw destunau llenyddol yn ail ran y gyfrol – a’r rhan helaethaf o ddigon yw honno, gyda llaw – yn aml yn fath ar ddeialog, gyda Dewi Z. yn ymrafael â naill ai’r bardd ei hun, neu â’r modd y dehonglwyd ei waith gan ryw feirniad arall. (Tueddu i gydganu y mae yng nghwmni R. S. Thomas.) Gwelwn ef yn datgymalu esboniadau T. H. Parry-Williams ar ei waith ei hun, ac yn ymateb i gerdd Gwenallt ‘Colomenod’ wrth iddo wrthod darlleniad M. Wynn Thomas ohoni (t. 293). Y mae’r awdur yn ei elfen wrth iddo drafod yr anghytundeb rhwng Saunders Lewis a Kate Roberts ynghylch Traed Mewn Cyffion, ac ymdriniaeth gyfoethog arall yw’r un honno o’r mynych ddarlleniadau o gerdd Saunders Lewis, ‘Gweddi’r Terfyn’. (Ceir hefyd drafod ar waith Waldo Williams a Dylan Thomas, a chyferiadau at ambell fardd arall.)
Y mae’r dweud o bennod i bennod yn llifo’n un bwrlwm o feirniadu gonest, gafaelgar, a’r tudalennau’n ymdroi’n rhwydd. Cysylltir y penodau ynghyd o’r naill i’r llall mewn modd cynnil, gan gelu’r ffaith mai ffrwyth ‘aildrefnu, ac ailfeddwl ar brydiau’ ysgrifau a gyhoeddwyd rhwng 1972 a 2001 sydd yma (t. 11). Y mae’r modd y pletha’r awdur ynghyd feirniadaeth destunol ar gerddi unigol a materion athronyddol ynghylch natur iaith, crefydd a llenyddiaeth, a hynny yn ein ‘iaith gyffredin’, yn cadarnhau ei ffilosoffi ynghylch gallu athroniaeth i fwrw ymaith ddryswch, ac yn sicrhau bod Ffiniau yn gyfrol ffraeth a hynod ddarllenadwy. Gyda hyn, y mae’r gyfrol Ffiniau yn wahoddiad inni ymddadlau â Dewi Z. a mwynhau ei gwmni o’r newydd; rhoi i’w holl waith y sylw dyledus y mae’n ei haeddu. A ddigwydd hynny? Ynteu – gan aralleirio un o sylwadau Dewi Z. ei hun – a yw ‘un math o ddiddordeb yn y byd wedi erydu’r ymatebion [athronyddol] iddo’ (t. 156)? Yr oedd ef ei hun, mi gredaf, yn ofni hynny. Ac eto, hyd at dudalen olaf y gyfrol, gwrthod derbyn y ffin a ddatblygodd rhwng yr athronydd a’r cyhoedd yng Nghymru y mae Dewi Z.. Gan ddiolch iddo am hynny, rhof iddo’r gair olaf. ‘Taw, Socrates? Na.’
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
