Thema dywyll Thema golau
Llyfrgelloedd Mewn Peryg
O Ewrop – “Cydlyniant” – Gair Arall am Doriadau
UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr

O Ewrop – “Cydlyniant” – Gair Arall am Doriadau

Ni fynnwn eich llethu ag ystadegau, ond gwaith digon hawdd yw dangos maint ein dibyniaeth ar gymorth o Ewrop. Derbyniodd Cymru £1.5 biliwn o gronfeydd strwythurol yr UE rhwng 2000 a 2006, a thua £1.9 biliwn rhwng 2007–2013.

Ond am ba hyd y bydd hynny’n parhau? Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn llygad ei le wrth iddo rybuddio y gwneir toriadau ciaidd mewn rhaglenni cymorth dan y polisi cydlyniant bondigrybwyll. Gallai Cymru golli hyd at £400m. ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd fydd yn gweld y golled fwyaf,’ meddai Mr Jones. Mae’r Prif Weinidog yn ofni hefyd y bydd toriadau sylweddol yn nwyrain Cymru.

A gwaeth sydd i ddod. Mae toriadau sylweddol ar y gorwel yn ogystal yng nghyllideb y polisi amaethyddol cyffredin (PAC). Yn y cyfnod rhwng 2007 a 2013 yn unig cyfrannodd y polisi dadleuol hwnnw dri biliwn i’r diwydiant amaeth Cymreig.

Cytunodd arweinwyr yr UE ar doriad o 3% mewn termau real yn y gyllideb gymorth. Efallai nad yw’r ganran yn uchel ond pan fo’r cymorth i wlad fechan fel Cymru yn y biliynau, mae 3% yn doriad mawr. Nid oes llawer o rym gan Senedd Ewrop i newid y cynlluniau hyn yn sylweddol ond mae hi’n bygwth peidio rhoi sêl ei bendith ar y gyllideb yn ei ffurf bresennol.

Er ei holl rethreg, mae’n anodd credu y byddai Llywodraeth Prydain dan arweinyddiaeth Ed Miliband yn cymryd safiad gwahanol iawn i’r Torïaid mewn trafodaethau ym Mrwsel. Serch hynny mae Carwyn Jones wedi beirniadu David Cameron yn hallt am beidio ag amddiffyn buddiannau Cymru. Dadleuodd nad oes unrhyw degwch na chyfiawnder mewn lleihau’r cymorth i’r rhanbarthau tlotaf, fel gorllewin Cymru a’r Cymoedd, a’i ailddosbarthu ymhlith ardaloedd cyfoethocach Prydain.

Cyfaill cwn, gwenwyn gwenyn

Fel y gwyr pob ci a chath garwr sy’n darllen Barn, trwy drugaredd mae hi’n hawdd iawn difa’r chwain uffernol hynny sy’n hoffi byw ym mlew eich annwyl anifeiliaid anwes. Mae’r diolch am hynny i genhedlaeth newydd o chwain a phryfleiddiaid synthetig megis imidacloprid, clothianidin a thiamethoxam. Enwau anghyfarwydd i’r mwyafrif ohonom. Ond enwau a ddaeth yn dra chyfarwydd erbyn hyn o fewn cynteddau Comisiwn Ewrop. Bu’r Comisiwn yn trafod a ddylid atal eu defnyddio nhw, yn dilyn adroddiadau gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a’r diwydiant cynhyrchu mêl. Haerir bod y cemegau lladd chwain hyn yn rhannol gyfrifol o leiaf am y lleihad mawr a fu ym mhoblogaeth heidiau gwenyn Ewrop benbaladr.

Er y dystiolaeth gynyddol, roedd Prydain ymysg grwp bychan o bum gwlad, yn y Pwyllgor Sefydlog ar y Gadwyn Fwyd ac Iechyd Anifeiliaid, a ymataliodd rhag argymell cyflwyno gwaharddiad. Roedd naw gwlad arall yn bendant yn erbyn gwahardd y chwainladdwr. Ond cefnogwyd gwaharddiad gan 13 o wledydd gan gynnwys Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Daeth y bleidlais ar ôl misoedd o lobïo dwys gan y diwydiant plaladdwyr.

Yn y cyfamser, fel y gwyr y rhai ohonom sy’n mwynhau mêl ar ein boreol dost neu croissant, mae prinder mêl wedi peri i’w bris godi i’r entrychion. Dyma gyfle i wyddonwyr Cymru. Bydd y sawl a all ddyfeisio gwenwyn a fydd yn lladd chwain cwn a chathod ond yn caniatáu i wenyn ffynnu’n ddiwenwyn yn gwneud ei ffortiwn.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llyfrgelloedd Mewn Peryg

Ymlaen >

UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr