Thema dywyll Thema golau

Saunders, Gwynfor a Gadaffi

Cyn 1967, yn ôl D Tecwyn Lloyd, ‘bychan iawn [oedd] gwybodaeth y trwch o Gymry Cymraeg am unrhyw Iddewon diweddarach na rhai’r Testmanent Newydd.’ Yn y flwyddyn honno fe ddaeth y Cymry a gweddill y byd yn gyfarwydd â golygfeydd o Iddewon o fath na welwyd ers dyddiau’r Hen Destament – Iddewon arfog, yn gwrthdroi eu gelynion ac yn estyn eu tiriogaeth trwy rym milwrol. Bu’r Rhyfel Chwe Diwrnod ym mis Mehefin 1967 yn drobwynt allweddol yn hanes Israel a’r Dwyrain Canol, ac yn nes adref bu’n gam allweddol yn y broses raddol o newid agweddau llawer o Gymry cenedlaetholgar at y Wladwriaeth Iddewig.

Gwelwyd yn eglur mor hir yw cysgod digwyddiadau Mehefin 1967 ym mis Mehefin eleni, pan anogodd Dafydd Elis-Thomas ei gyd-Aelodau yn y Cynulliad i gadw draw o gyfarfod â Ron Prosor, Llysgennad Israel ym Mhrydain, oherwydd ymddygiad Israel at drigolion y tiroedd a feddiannwyd 41 mlynedd ynghynt. Nid eithriad oedd yr Arglwydd yn hyn o beth chwaith, fel y gwelwyd pan ymunodd pedair o gynrychiolwyr eraill ei blaid yn y Cynulliad, a’r dyrfa y tu allan yn gwrthdystio wrth i Mr Prosor gyrraedd y Bae. Dim ond y bennod ddiweddaraf oedd hon yn hanes hir ac amrywiol y berthynas rhwng Cymry cenedlaetholgar ac Israel – hanes sy’n taflu cryn oleuni ar natur y mudiad cenedlaethol yng Nghymru.

Deublyg yw’r rhesymau dros ddiddordeb mawr llawer ym Mhlaid Cymru yn Israel – ar y naill law yn weddol o syml, a noweddiadol o Brydeinig; ar y llall yn fwy dyrys, a neilltuol o Gymreig. Yn gyntaf oll, bu asgell chwith Plaid Cymru yn barod iawn ers yr 1980au i gyd-fynd â llif syniadol y Chwith Prydeinig, a does dim gwadu safle canolog Palesteina yn syniadaeth y Chwith ar hyn o bryd. Daeth hyn yn amlwg iawn yn ystod y protestiadau cyntaf yn erbyn Ail Ryfel y Gwlff, pan gafwyd ieuo anghymarus y ddwy slogan ‘Dim rhyfel’ a ‘Rhyddid i Balesteina’. Dangosodd Plaid Cymru ei hymroddiad i’r ddeuoliaeth hon yn 2002 pan gyflwynodd y blaid gynnig gerbron y Cynulliad yn galw ar lywodraeth Prydain i beidio â chefnogi ymosodiad milwrol ar Irac, ac i ‘geisio datrys y gwrthdaro rhwng Israel a’r Palestiniaid’ – fel pe bai’r naill beth yn dilyn yn anochel ar sodlau’r llall. Adleiswyd yr un meddylfryd ym maniffesto’r blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2007, lle yr addawyd mewn dwy frawddeg gyfagos y byddai Plaid Cymru’n ‘gwrthwynebu’n gyson a phendant y rhyfel yn Irac’ ac yn ‘parhau i weithio i ddod â meddiant Israel ar dir Palesteina i ben’ – eto fel pe bai’r ddau fater yn efeilliaid annatod.

Mwy cymhleth – a llawer mwy diddorol – fu cymhellion neilltuol o Gymreig nifer o genedlaetholwyr Cymru dros ymddiddori yn Israel. Yr oedd Saunders Lewis, Llywydd cyntaf y blaid, yn hoff o gwyno yn ystod yr 1920au a’r ’30au mai crwydriaid di-diriogaeth oedd Iddewon y cyfnod: pobl heb ‘un darn o ddaear yn llyffethair arnynt, nac un genedl yn glawdd terfyn iddynt’. Gyda sefydlu Gwladwriaeth Israel yn 1948 – ac wrth ochr hynny adfer yr iaith Hebraeg ar dafod leferydd – daeth tro ar fyd, a daeth yr Iddewon yn destun edmygedd a chenfigen i lawer a ewyllysiai ddyfodol cenedlaethol i Gymru. Fel y nododd Rhys Evans, mor gynnar ag 1949 yr oedd olynydd Lewis, Gwynfor Evans, wrthi’n darllen hunangofiant Arlywydd cyntaf Israel, Chaim Weizman, cyfrol a welai’n ‘llwythog o wersi ac ysbrydiaeth’ i’r Cymry. Nid yw’n syn chwaith fod hanes cenedl ymylol o bobl ddirmygedig yn creu eu gwladwriaeth eu hunain yn y diffeithwch yn apelio at ddynion fel Gwynfor Evans – yn enwedig am fod annibyniaeth Israel yn 1948 wedi rhoi diwedd ar lywodraeth ymerodorol Prydain yn yr ardal. Dyma esiampl, felly, i’w hedmygu a’i hefelychu, ac mewn erthygl yn Barn yn 1969, mynegodd Evans ei siom nad oedd y Cymry’n debycach i’r Israeliaid: ‘Gwerthoedd cenedlaethol yr Iddew, a’i benderfyniad i’w hymgorffori ym mywyd cenedl rydd – hyn a roes iddo’r dycnwch i atgyfodi’r iaith genedlaethol’. Galwodd o ddifrif ar Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i ‘wneud cymwynas ddifesur â’r Gymraeg’ trwy ddanfon ‘comisiwn o Gymry cymwys draw i Israel i astudio’r sefyllfa a dwyn adroddiad yn ôl’.

Erbyn 1974, yr oedd Evans yn dal i frolio ‘camp anghymarol Israel yn adfer yr Hebraeg’, ac yn datgan bod bywyd Israel yn dangos ‘y grym moesol difesur sydd mewn cenedlaetholdeb’. Er hynny, yr oedd yn barod erbyn 1974 i leisio’i amheuon am ‘rai agweddau ar ei pholisïau cyfoes’ – cyfeiriad cynnil, mae’n si?r, at ryfel 1967 ac at bolisi Israel wedyn o greu trefedigaethau Iddewig yn Nhiroedd y Meddiant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach yr oedd prif bapur newydd Iddewig Prydain, y Jewish Chronicle, yn canfod ‘a new and critical attitude on the part of Welsh Nationalist leaders towards Israel’, a hynny yn sgîl ymgais rhyfeddol gan Phil Williams ac eraill i feithrin cysylltiadau â llywodraeth y Cyrnol Gadaffi yn Libya, régime a oedd yn nodedig o elyniaethus tuag at Israel. Ni wnaeth Gwynfor Evans fawr ddim i wella’r sefyllfa pan gafodd ei gyfweld yn y papur ym mis Awst 1976, ac yntau’n ceisio’n lletchwith egluro nad oedd gan Gadaffi a’i griw – a oedd wedi cyflenwi awyrennau i’r Aifft ar gyfer Rhyfel Iom Cipwr yn 1973 – ddim drwgdeimlad at Israel fel y cyfryw, ond eu bod yn wrth-Seionyddol.

Collodd Israel lawer o’i chefnogaeth ryngwladol yn ystod yr 1980au, yn enwedig yn yn sgîl Rhyfel Libanus yn 1982 a chyflafan erchyll treflannau Sabra a Siatila. Erbyn 1989, yr oedd Evans yn barod i gyhuddo’r wladwriaeth y bu’n mor edmygus ohoni gynt o fod yn gefn i ‘rai o lywodraethau creulonaf y byd’, gan honni hefyd bod ei ‘gormes ar Arabiaid Gaza a’r Banc Chwith (sic) yn waeth na gormes unrhyw wlad gomiwnyddol a chynddrwg â gormes De Affrica’. Fel De Affrica, ‘gwlad hiliol’ oedd Israel yn ei dyb ef, gan adleisio’r rhethreg newydd ar y pryd mai ‘gwladwriaeth apartheid’ ydoedd. Parhau y mae’r cymariaethau â’r hen Dde Affrica, ac wrth gyfiawnhau ei chefnogaeth i’r gwrthdystiadau ynghylch ymweliad Ron Prosor â’r Cynulliad, dyfynnodd Bethan Jenkins eiriau’r Archesgob Desmond Tutu fod tynged y Palesteiniaid yn debyg i sefyllfa pobl groenddu De Affrica o dan yr hen drefn yno.

Gellir gweld, felly, pa fodd y datblygodd agweddau rhai cenedlaetholwyr Cymreig at garfan arall o genedlaetholwyr – mwy milwriaethus, ac mewn termau oeraidd o ymarferol, mwy llwyddiannus. Ond mae yna le i ni holi a fu cenedlaetholwyr parchus Cymru erioed yn debygol iawn o ddilyn patrwm chwyldroadol y Seionyddion. Trwy ryfel guerilla gwaedlyd yn erbyn awdurdodau Prydeinig Palesteina – ac wedyn rhyfel cartref milain rhwng Arabiaid ac Iddewon – y sefydlwyd Gwladwriaeth Israel. Gydag ychydig ethriadau, cyfansoddiadol a chymedrol eu gwleidyddiaeth fu ein cenedlaetholwyr ni, ac er cymaint y cenfigenent ar un adeg oherwydd gorchestion yr Iddewon ym Mhalesteina, arswydent hefyd wrth eu dulliau treisgar a’u hysbryd milwrol. Yn hyn o beth, mae tebygrwydd amlwg i’r berthynas rhwng cenedlaetholwyr Cymru ac Iwerddon, gwlad arall lle y llwyddwyd i sicrhau annibyniaeth genedlaethol – os nad adferiad yr iaith genedlaethol – trwy rym y gwn. At hynny, er gwaethaf holl frwdfrydedd Gwynfor Evans ac eraill am gamp anhygoel yr Israeliaid yn adfer yr Hebraeg, go brin yr arddelai neb ym Mhlaid Cymru oddi ar gyfnod Saunders Lewis syniad y Seionyddion bod rhaid gwneud yr iaith genedlaethol yn brif gyfrwng – neu’n unig gyfrwng – holl gyfathrach a chyfathrebu’r wlad. Am yr holl resymau hyn, mae’n fwy na thebyg mai cwbl anochel oedd yr ysgariad graddol rhwng cenedlaethodeb Cymreig a Seionyddiaeth a ddigwyddodd o 1967 ymlaen.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ffiniau, Dewi Z Phillips

Ymlaen >

Rhwng Cwsg ac effro