Mae’n anodd peidio â gweld rhywbeth yn hynod o addas yn y sefyllfa. Mae swyddfeydd Theatr Bara Caws ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caernarfon, a hynny gerllaw canolfan ailgylchu. Ac mae cryn dipyn o ailgylchu’n mynd ymlaen yn y cwmni theatr ei hun ar y funud. Mae’r sioe glybiau bresennol, y mae ei thaith ar fin dirwyn i ben, yn gynhyrchiad o’r gorffennol wedi’i atgyfodi a dyna, hefyd, fydd sioe gyntaf y cwmni y flwyddyn nesaf. Nid fod Betsan Llwyd, cyfarwyddwr artistig newydd Bara Caws, yn ymddiheuro am eiliad am elfennau ‘gwyrdd’ y rhaglen gyfredol. Yn wir, wrth ei holi am ei chynlluniau, a ninnau’n eistedd mewn ystafell orlawn o hen brops a geriach llwyfan, mae’n ymddangos bod tyrchu i orffennol y cwmni ar drywydd pethau sy’n werth eu cadw yn rhan greiddiol o’r weledigaeth sydd ganddi ar gyfer Bara Caws, ond gan gadw llygad barcud ar y dyfodol yr un pryd.
Er bod taith y sioe glybiau gyfredol, Un Bach Arall (Eto), wedi’i threfnu cyn i Betsan ddechrau ar ei swydd yn ôl ym mis Ebrill, dywed ei bod yn gwbl hapus gyda’r penderfyniad i ail-lwyfannu sioe a wnaed gyntaf gan y cwmni ddeunaw mlynedd yn ôl. Wedi’r cwbl, meddai, roedd hi’n un o’u sioeau clybiau mwya’ poblogaidd erioed ac mae ei thema, sef tafarnau bach yn cau, yn gyfoes iawn o hyd. Ac waeth beth yw barn ambell adolygydd am y sioeau hyn, gyda’u harddull slapstic a’u hiwmor rhemp a masweddus, does gan y gyfarwyddwraig newydd ddim bwriad o gwbl i gladdu’r traddodiad. ‘Mi fuasen ni’n wirion i beidio gwneud sioe glybiau,’ meddai. ‘Mae’r gynulleidfa isio nhw!’ Yng ngolwg Betsan, clefyd Cymreig, ac un rhyfedd braidd, yw’r arfer o feirniadu cwmnïau theatr am ail-lwyfannu sioeau o’r gorffennol. ‘Mae cwmnïau theatr yn Lloegr yn cael atgyfodi pethau drwy’r amser, a neb yn troi blewyn! Be am Mousetrap? Mae llawer o’r gynulleidfa yn newydd bob tro beth bynnag. Os oes yna reswm dros atgyfodi rhywbeth, ac os ydi’r gynulleidfa yno ar ei gyfer – pam lai?’
Yn sicr, mae gan yr actores a’r gyfarwyddwraig o Sir Fflint resymau pendant dros fod eisiau atgyfodi Hwyliau’n Codi, a fydd yn teithio yng ngwanwyn 2013. Y rifíw yma am fyd y llongwr yn y 19g., ac yn benodol am stori teulu’r Davies, y perchnogion llongau enwog o Borthaethwy, oedd y sioe gyntaf erioed gan Bara Caws iddi ei gweld, a hynny yn Neuadd Pantycelyn pan oedd hi’n fyfyrwraig ifanc yn Aberystwyth yn 1979.
‘O’n i’n ista ar y llawr yn y ffrynt a’r neuadd yn orlawn. Do’n i erioed wedi gweld y ffasiwn beth. Roedd o’n brofiad anhygoel. Roedd rhywun yn chwerthin a wedyn yn crio. A ’mwriad i wrth atgyfodi’r sioe ydi mynd yn ôl at ethos gwreiddiol Bara Caws a gweld a wneith y math yna o sioe weithio eto.’
Roedd Hwyliau’n Codi, fel holl sioeau cynnar y cwmni, yn rifíw cymdeithasol / addysgol / gwleidyddol, wedi’i gyd-ysgrifennu gan yr actorion eu hunain, sef Valmai Jones, Iola Gregory, Dyfan Roberts, Mei Jones ac Owen Garmon. Gobaith Betsan ar gyfer cynhyrchiad 2013 yw cael criw o actorion ifanc at ei gilydd sydd â diddordeb mewn ysgrifennu hefyd, a meithrin y diddordeb hwnnw wedyn drwy weithio gyda’r un criw ar ragor o sioeau rifíw, rhai newydd sbon.
‘Mi fyddan nhw’n actorion fydd erioed wedi gweld Bara Caws yn gwneud y math yma o stwff o’r blaen. Mewn rifíw mae’r actorion yn chwarae sawl cymeriad, yn newid o un i’r llall ar amrantiad. Ac er bod y cwbl yn ddau-ddimensiwn mewn ffordd, mewn rifíw llwyddiannus mae’r cymeriadau yn rhai crwn, credadwy. Dyna pam mae’r gynulleidfa’n gallu chwerthin a chrio efo nhw. A dwi’n meddwl mai dyna fydd yr her i actorion ein cynhyrchiad ni o Hwyliau’n Codi – ffeindio ffordd o fod yn gwbl ddiffuant mewn cymeriad ond wedyn eu bod nhw’n gallu camu allan o hynny hefyd mewn ambell olygfa i fod yn garicatiwr.’
Fel yn y rifíw gwreiddiol bydd caneuon yn rhan o’r sioe, gan mai’r bwriad yw cyflogi actorion sydd â sgiliau cerddorol hefyd. A bydd set lai nag a ddefnyddiwyd mewn cynyrchiadau diweddar yn galluogi’r cwmni i fynd â’r sioe i neuaddau pentref bach, hynny eto’n unol ag athroniaeth wreiddiol gymunedol Bara Caws. Ond a fydd math o ddrama a oedd yn boblogaidd yng Nghymru’r 1970au a’r 1980au yn apelio at gynulleidfaoedd Cymru’r 21g.?
‘Dwi ddim yn gwybod,’ meddai Betsan, gyda’r onestrwydd uniongyrchol a di-lol sy’n ymddangos yn nodweddiadol ohoni. ‘Mi fydd hynny’n her hefyd, gwerthu’r sioe i’r gynulleidfa yn y fath fodd fel nag ydyn nhw ddim yn disgwyl rhywbeth rhy realistig ei arddull. Er enghraifft, dwi’n cofio yn yr Hwyliau’n Codi gwreiddiol fel yr oedd dau focs ac ysgol yn cynrychioli uchder y mast yr oedd yr hogia bach yn gorfod ei ddringo. Ond os bydd yr arbrawf yn llwyddiant, a’r ymateb yn dda, dwi eisiau creu rifíw newydd am y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer 2014, blwyddyn fydd yn nodi canrif ers dechrau’r rhyfel.’
Edrych yn ôl eto? ‘Ie, ond mae rhyfel fel pwnc mor gyfoes ag erioed. Mae hogiau ifanc, gan gynnwys rhai o Gymru, yn dal i fynd i ryfel rwan, heb gwestiynu, ac mi fyddwn ni am wneud i’r gynulleidfa feddwl am y wedd gyfoes yna hefyd. Felly ie, edrych yn ôl ydi o, ond edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen.’
Mae’r tirlun theatrig yng Nghymru wedi newid llawer yn ystod y degawdau diwethaf a’r ffiniau rhwng y mathau o theatr a gynigir gan y gwahanol gwmnïau gryn dipyn yn fwy niwlog bellach nag y buont, yn enwedig yn sgil y pwysau ar gwmnïau a arferai fod yn gwmnïau Theatr Mewn Addysg gynnig deunydd mwy cyffredinol a chymunedol ei apêl.
‘Mae’n mynd yn anodd wedyn,’ meddai Betsan, ‘achos mae’r cwmnïau yn aml iawn yn mynd i fod yn cystadlu am yr un arian nawdd, ac am yr un gynulleidfa efo’r un math o sioe. Mae Cyngor y Celfyddydau eu hunain wedi gorfod newid ac esblygu fel corff a thros y blynyddoedd dwytha maen nhw wedi tueddu i symud pyst y gôl yn aml. Bob blwyddyn mae cwmni fel Bara Caws wedi gorfod addasu eu cynlluniau yn unol â gofynion newydd ac o achos hynny mae’n anodd cynllunio’n iawn.’
Does dim dwywaith fod Betsan Llwyd yn dod â chyfoeth o brofiad i Bara Caws i fynd i’r afael gyda gwahanol sialensau’r hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni. Roedd hi’n un o gyd-sefydlwyr Theatr Ystwyth yn y 1980au ac ers hynny mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfan, ffilm a theledu, gyda dwy wobr BAFTA Cymru i’w henw (am Y Wisg Sidan a Y Twr). Dair blynedd yn ôl roedd yn un o griw o actoresau a sefydlodd Theatr Peña, yn benodol er mwyn llwyfannu clasuron yn yr iaith Saesneg sy’n rhoi rhannau canolog i actoresau hyn, oherwydd bod cyfleoedd actio â gafael ynddynt ar gyfer merched hyn yn brin. Drwy hynny, yn ogystal ag actio a chyfarwyddo, cafodd brofiad gwerthfawr o ochr ariannol y gwaith o redeg cwmni theatr ac ymwneud gyda cheisiadau am nawdd. Bu’n cyfarwyddo i sawl cwmni arall dros y blynyddoedd hefyd, gan gynnwys Bara Caws a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae’n amlwg fod parch mawr iddi yn y gymuned theatrig Gymraeg ac mae hithau’n edrych ymlaen at yr her o arwain Bara Caws yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ar ôl gweithio’n llawrydd bron ar hyd ei gyrfa, bu’r chwe mis diwethaf yn gyfnod o ymgyfarwyddo gyda’r profiad go wahanol o fod yn weithiwr theatr cyflogedig, o drafod gyda’i thîm bychan o gyd-weithwyr yn y cwmni ac aelodau’r bwrdd rheoli, o feddwl a chynllunio a rhaglennu. Yn awr mae ffrwyth cyntaf y gwaith paratoi hwn ar fin cyrraedd y llwyfan, sef Llanast!, cyfieithiad Gareth Miles o ddrama Ffrangeg gan Yasmina Reza, Le Dieu du Carnage (a addaswyd yn ffilm, Carnage, gan Roman Polanski).
‘Mae hi’n ddrama wych am ddau gwpwl dosbarth canol sy’n dod at ei gilydd i drafod ymddygiad anystywallt eu plant, ond yn fuan iawn mae popeth yn chwalu a chyn bo hir mae’u hymddygiad nhw’n waeth o lawer na’r plant. Rydan ni’n ei gosod hi yng Nghymru ond mi fuasai hi’n gallu digwydd yn unrhyw le.’
Mae Llanast! hefyd yn gydnaws gyda’r math o theatr sy’n diddori Betsan yn gyffredinol. ‘Mae hi’n ddrama syml, dim lot o set. Does gen i ddim cymaint o ddiddordeb mewn setiau mawr, moethus a chlyfrwch technegol. Y peth mawr i mi ydi cael y cyd-chwarae’n iawn, sicrhau gwaith ensemble da – bod pawb o’r actorion yn cyd-actio, yn plethu efo’i gilydd, ac nid yn perfformio fel unigolion.’
Ymhlith ei chynlluniau eraill y mae llwyfannu drama newydd am Kate Roberts gan Francesca Rhydderch ar gyfer Eisteddfod Dinbych y flwyddyn nesaf, a drama newydd yn ogystal gan Siôn Eirian. Mae’n fwriad hefyd cynnal cwrs yn Nhy Newydd ar gyfer awduron ifanc sy’n awyddus i ysgrifennu ar gyfer y theatr, gydag Aled Jones Williams yn mentora a’r prentisiaid, dan gyfarwyddyd Betsan, yn cael cyfle i lunio sioe fydd yn cael ei pherfformio ar ddiwedd y cwrs.
Mae’r bobl sy’n dod â’u hen bethau i ganolfan ailgylchu Stad Cibyn yn gobeithio bod defnydd pellach i’r pethau hynny mewn rhyw fodd, yn rhyw le. Amser a ddengys beth fydd ffrwyth ymdrechion Betsan Llwyd i gyfuno’r elfennau gorau o orffennol Bara Caws gydag elfennau newydd, yn cynnwys buddsoddiad yn nhalentau’r dyfodol. Ond yn ei ffordd dawel a chadarn ei hun, mae hi’n llawn brwdfrydedd i roi cynnig arni.
*********************************************************************
Bydd Llanast! yn cael ei berfformio yn Sherman Cymru, Caerdydd, ar 22–24 Tachwedd ac yna yn adeilad Theatr Bara Caws, Uned A1 Cibyn, Caernarfon, ar 29 a 30 Tachwedd a 1 Rhagfyr.
Bydd Hwyliau’n Codi ar daith ym mis Mawrth hyd at 6 Ebrill 2013. Am fwy o fanylion ewch i
www.theatrbaracaws.com
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
