‘Cyn ymweld â Slofenia do’n i’n gwbod dim oll am y wlad fechan yma,’ meddai Wil Roberts. Na minnau nes imi ddarllen ei ‘Nodiadau ar Slofenia a Chymru’.
Go debyg yw’r ddwy wlad o ran maint ond mae miliwn a hanner yn fwy o Gymry nag o Slofeniaid. Yn 1282 goresgynnwyd y ddwy gan gymdogion pwerus, nhw gan yr Habsbwrgiaid Ellmynig, ninnau gan y Saeson.
Pur wahanol yw eu cyflwr heddiw. ‘Ers 1991,’ meddai Wil Roberts, ‘mae Slofenia’n wladwriaeth sofran, annibynnol. Cafodd ei chydnabod yn ffurfiol felly gan y Cenhedloedd Unedig yn 1992 ac ers 2004 bu’n aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ganddi wasanaeth teledu dwy sianel, a gwasanaeth radio cenedlaethol ar dair tonfedd, ynghyd â phum (!) papur newydd dyddiol.’ Ni raid imi atgoffa darllenwyr Barn o sefyllfa wleidyddol a diwylliannol druenus ein gwlad ni a’i Chynulliad tila yn y Bae.
Ar ddechrau’r 19g. gellid tybio bod dyfodol y genedl Gymreig yn saffach na’r un Slofenaidd. Roedd Cymru’n wlad Brotestannaidd gyda gwerin lythrennog, traddodiad llenyddol gwych gyda’r meithaf yn Ewrop a ffiniau sefydlog. Ni feddai Slofenia’r un o’r nodweddion hynny. Sut, felly, mai lled-fyw y mae Cymru ar ddechrau’r 21g. tra mae Slofenia yn ffynnu?
Ffactorau daearyddol, gwleidyddol a chymdeithasol sydd i gyfrif am hyn, yn ôl Wil Roberts. Oherwydd lleoliad Slofenia yng nghanolbarth Ewrop, llifodd drwyddi gerrynt diwylliannol a pholiticaidd Goleuedigaeth y 18g., y Chwyldro Ffrengig (1789–1814) a chwyldroadau cenedlaethol 1848. Taniwyd adrannau sylweddol o’r uchelwriaeth a’r fwrgeisiaeth frodorol gan ddelfrydiaeth chwyldroadol ac aethant ati i ymgyrchu ac i ymladd dros wladwriaeth annibynnol. Un o hanfodion sefydliad o’r fath, yn ogystal â byddin, banc a senedd, yw iaith genedlaethol.
‘Doedd dim traffig tebyg yn tramwyo trwy Gymru,’ medd Wil Roberts, ‘gan mai trefedigaeth ymylol oedd hi.’ Cawsom ninnau ein Jacobiniaid, fel y dengys Gwyn A. Williams yn Madoc a When was Wales? – Williams Jones Llangadfan, Iolo Morganwg, Jac Glan-y-gors, Owain Myfyr a’r Gwyneddigion, ond yn Llundain yr ymgynulliai’r rheini am nad oedd yng Nghymru dref a deilyngai’r enw. Ffactor negyddol arall.
Buddugoliaeth Harri Tudur dros y Sais glew, Richard Plantagenet, yn 1485 oedd y felltith fwyaf yn hanes y Gymru fodern. Seisnigwyd yr uchelwriaeth Gymreig ac, wrth i ffiwdaliaeth fadru a chwalu, llanwyd y bwlch cymdeithasol gan ddosbarth o amaethwyr, siopwyr, mân-fasnachwyr a mân-ddiwydianwyr. Mân-fwrgeiswyr oedd arweinwyr y Cymry yn y 19g. – nid bwrgeiswyr go-iawn, yn ddiwydianwyr, bancwyr ac entrepreneurs fel ag a gafwyd mewn cynifer o wledydd bychain dwyrain Ewrop ac yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg. Nid drwy herio Lloegr ac ymdrechu i sefydlu gwladwriaeth annibynnol yr hyrwyddai’r fân-fwrgeisiaeth Anghydffurfiol ei buddiannau ond drwy ymseisnigo ac ymbrydeinio; ‘trwy fewnoli gwerthoedd y gormeswr’.
Ac yn dâl am ei theyrngarwch, ac am arwain gwerin anhydrin Cymru ar hyd yr un llwybr taeogaidd, fe’i gwobrwywyd â dyrnaid o fân freiniau, mân swyddi a mân gonsesiynau ym myd crefydd, addysg, diwylliant a llywodraeth leol.
Anghydffurfiaeth a achubodd y Gymraeg rhag difancoll ond bu sgil-effeithiau’r gymwynas yn enbyd: piwritaniaeth lem, philistiaeth, Calfiniaeth wasaidd a brenhingar a bregethai mai ewyllys yr Hollalluog ddaeth â’r iaith Saesneg i Gymru ac mai mympwy dynol oedd ceisio atal ei lledaeniad. A thunelli dirifedi o bregethau, esboniadau, cofiannau, traethodau diwinyddol ac emynau a amsugnodd ddoniau cenedlaethau o feirdd a llenorion ac sy’n annarllenadwy ers degawdau.
Erbyn 1922 roedd y dosbarth canol Anghydffurfiol wedi cyflawni pob un o’i amcanion hanesyddol: dryllio iau y meistri tir, disodli’r rhain fel arweinwyr politicaidd y werin, difreinio Eglwys Loegr yng Nghymru, cau tafarnau ar y Sul a chyfranogi’n helaeth yn llywodraeth a gweinyddiaeth y Deyrnas a’r Ymerodraeth. Tua’r un pryd fe chwalodd y Blaid Ryddfrydol a anrhegodd y dosbarth â’r diwygiadau hyn ac a lwyddodd, felly, i’w integreiddio’n llwyr â’r drefn Brydeinig.
Serch hynny, yr oedd un garfan fechan o’r dosbarth canol Anghydffurfiol heb ei bodloni. Goreugwyr deallusion organig Anghydffurfiaeth oedd y rhain, yn academwyr, gweinidogion yr Efengyl ac athrawon ysgol; delfrydwyr a gwlatgarwyr yr oedd y Gymraeg, a hithau dan warchae gan gynifer o rymusterau estron, yn sylfaen i’w bywoliaeth, eu safle gymdeithasol a’u byd-olwg. Dyna pam na cheisient wladwriaeth genedlaethol bwerus; dim ond un fechan, foneddigaidd, gyda digon o rym ac awdurdod i warchod yr iaith a’i diwylliant Cristnogol.
Wyrion, gorwyrion a gor-gor-wyrion ysbrydol y dynion a sylfaenodd Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 yw aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Dyfodol i’r Iaith fel ei gilydd. Hoffent weld Cymru’n wladwriaeth sofran ond gan gredu mai breuddwyd cenedlaetholwr wrth ei ewyllys yw hynny cyfyngant eu gwleidydda i ymgyrchu a lobïo o blaid deddfwriaeth a newidiadau gweinyddol a fydd yn ffafrio parhad y Gymraeg. Geilw’r ddau fudiad am ‘chwyldro’ i achub yr iaith, eithr mudiadau diwygiadol (reformist) ydynt, yn gweithredu mewn modd nad yw’n peryglu’r status quo gwleidyddol ac economaidd. Diau fod ‘yr iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth’ ond ansicr iawn yw ei dyfodol heb lywodraeth sy’n meddu’r grym a’r ewyllys i gyfeirio diwydiant a swyddi i’r ‘broydd Cymraeg’ ynghyd â’r angen am iaith genedlaethol i ategu hunaniaeth genedlaethol ei deiliaid.
Ni cheir hynny oni welir newidiadau sylfaenol yn y modd y llywodraethir gwledydd Prydain a chyfandir Ewrop ac y trefnir eu heconomïau; oni ddisodlir unbennaeth y banciau a’r corfforaethau a’u gweision mewn senedd-dai ac yn y cyfryngau torfol gan drefn a seilir ar gydweithrediad a chyfiawnder cymdeithasol yn hytrach na chystadleuaeth, hunanoldeb, anghydraddoldeb a rhyfeloedd imperialaidd diddiwedd.
Fel y dywed Dafydd Wigley (Barn 597, Tachwedd 2012), gwelir newidiadau cyfansoddiadol sylweddol ym Mhrydain cyn bo hir. Tybiaf y deillia datblygiadau cyffelyb ledled Ewrop o fethiant yr ymgais i greu gwladwriaeth Ewropeaidd ac argyfwng cyffredinol cyfalafiaeth. Os yw caredigion y Gymraeg am fanteisio ar hyn, dylent wneud goroesiad y Gymraeg yn rhan o raglen wleidyddol a fydd yn ymateb i anghenion a dyheadau trwch poblogaeth ein gwlad, yr hyn na wna’r un o’r pedair plaid nationalist-lite, neo-ryddfrydol sy’n ein cynrychioli ni yn y Bae.
Os mynnwn ni, Gymry Cymraeg proffesiynol, mai ‘parhad y Gymraeg yw’r unig fater politicaidd y mae’n werth i Gymro ymboeni ag ef heddiw’, mae’n deg i’n gwrthwynebwyr ein cyhuddo o flaenoriaethu ein lles materol ni fel dosbarth ar draul y rhelyw ac o ddiystyru anghenion pobol lai breintiedig, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg.
Esgorodd y daeargrynfeydd gwleidyddol a ddymchwelodd ymerodraethau canol a dwyrain Ewrop ar derfyn y Rhyfel Byd Cyntaf ar sefyllfa a alluogodd gwledydd bychain fel Slofenia i sefydlu eu gwladwriaethau cenedlaethol. A oes digon o ruddin ynom ni Gymry i’w hefelychu pan ddatgymalir The United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland ac ymuno yn y broses o greu’r cydffederasiwn o wledydd Prydain (ac Iwerddon?) y sonia Wigley amdano yn ei lith?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
