Un digwyddiad a ddaeth yn rhyw lun ar draddodiad Dolig inni bellach fel teulu ydi ymweliad â’r theatr i weld ballet. Hynny ydi, pan fyddwn ni yn Tucson, Arizona. (Tydi’r gelfyddyd honno ddim yn ofnadwy o boblogaidd yn Niwbwrch a’r cyffiniau, cofiwch.) Ond, fel yn achos cynifer o Americaniaid, dyw’r Dolig ddim yn Ddolig i deulu Inge fy ngwraig heb berfformiad o Nutcracker Tchaikovsky. (Er mai un o Rwsia oedd hwnnw.) Mwynhaodd Iwan y sioe y tro cyntaf. Ond yn ystod ei ail ymweliad datganodd yn groch ‘Dwi’m isio mynd eto. Tydyn nhw ddim yn blwming deud dim. Oes yna ddim pantomeim fatha Llandudno yma?’ Wrth gwrs, defod Nadoligaidd pan ym Môn ydi mynd draw i Landudno i weld y panto a chael yr anrhydedd o edmygu mawrion y byd adloniant Prydeinig megis brodyr y ‘Chuckle Brothers’. Wir, tydi’r ‘Brothers’ eu hunain ddim yn rhyw arbennig iawn. Ond, credwch chi fi, mae eu brodyr yn llawer iawn gwaeth. Ond mae Iwan yn eu mwynhau. Dyna sy’n bwysig. Mae clywed llond theatr o blant yn chwerthin, neu yn ymateb yn afieithus, yn llonni calon rhywun, yn enwedig felly os ydach chi ar y llwyfan eich hun.
Yn y dyddiau a fu mi wnes amryw o bantomeimiau Cymraeg. Dechreuais fel y gwas ffyddlon yn ail bantomeim Cymraeg Cwmni Theatr Cymru, Gweld Sêr, yn 1972/73. Am ryw ddau ddegawd bûm yn ymddangos yn bur rheolaidd yn y pantomeimiau. Portreadais amryw byd o gymeriadau, yn Bobol Dda a Phobol Ddrwg. Does yna ddim ffasiwn beth ym myd y panto â Phobol Ddiddrwg Ddidda. Actiais lawer iawn efo meistr y pantomeim Cymraeg, Gari Williams. Cawsom andros o sbort. Melys yw’r cof amdano. A mawr o hyd yw’r golled.
Y rhan fwyaf anodd ges i mewn pantomeim oedd chwarae’r dêm, Dorothea Hughes. Oedd, roedd gen i fronnau enfawr. Mwy o John Boobs na John Boots. Mewn wig goch, roeddwn i’n baent ac yn bowdwr i gyd. Ond a gaf i fod yn onest efo chi? Dêm wael iawn oeddwn i. Mae hi’n gamp arbenigol. Mae rhai o’r goreuon yn byw’n braf ar ddim byd ond eu hymddangosiadau blynyddol mewn pantomeimiau.
Traddodiad hynafol yw cael dynion i chwarae’r rhannau yma. Yn union fel y traddodiad o gael merch i chwarae rhan y prif fachgen, y ‘Principal Boy’. Cychwynnodd yr arferiad yn yr Eidal efo’r Commedia dell’Arte. Ymledodd i Ffrainc ac oddi yno i Brydain. Mae pob gwlad yn ei thro wedi rhoi ei stamp a’i lliw ei hun ar y traddodiad, gan gynnwys Cymru. Dywedir mai’r Fari Lwyd Gymreig / Geltaidd yw tarddiad y cymeriad hanfodol hwnnw, y Ceffyl Pantomeim. Fe’i gwelwyd mor bell yn ôl â 1503 mewn drama werinol Gernyweg, Beunaus Meriasek, am fywyd y sant Meriodog.
Gyda’r ‘ceffylau’ yma ymddangosai merched wedi eu gwisgo fel dynion, i ychwanegu at yr hwyl. Ers y dyddiau cynnar dyw’r trawswisgo heb newid llawer. Does dim ymgais i guddio’r ffaith mai dynion ydyn nhw. Nid dynwared menywod yw’r nod ond ieuo’r anghymarus, ffrog a gwrywdod (barfog, weithiau) i greu digrifwch. Does dim ymgais i sbeitio merched na’u bychanu. Rhywbeth i’r werin gan y werin oedd y traddodiad yma. Byddai pynciau’r perfformiadau’n newid o le i le. Yn yr un modd, ceir cyffyrddiadau lleol ym mhantomeimiau heddiw. Ers ei chychwyn mae’r pantomeim yn rhywbeth y mae’r deallusion wedi tueddu i wfftio ato gan deimlo fod yr holl beth yn israddol. Ond rhyw gomedïau dychanol lleol oedd y pantomeimiau cynnar. Dychanu nid bychanu, sylwer. Mae’r ffin yn denau.
Ceisio tynnu ar rai o elfennau comedïol yr hen draddodiad mae ein diwylliant gwladaidd ni’r Cymry hyd heddiw. Dwi wedi gweld llawer i sgets neu ddrama mewn eisteddfod neu gyngerdd mewn neuaddau pentref yng nghefn gwlad Cymru lle mae dynion yn gwisgo fel menywod. Mae hyn yn boblogaidd iawn o hyd. Dwn i ddim pam.
Wrth gwrs, mae modd ei wneud yn gelfydd ac i bwrpas, fel ym mherfformiad gwych Dustin Hoffman yn y ffilm Tootsie. Doedd dim a oedd yn dilorni menywod yn y ffilm honno. Ond dyw’r mwyafrif llethol o’r hyn a welaf wrth feirniadu a chyflwyno ar hyd Cymru yn ddim ond esgus i ymdrybaeddu mwyn budreddi sy’n gwbl ddilornus o ferched. Bychanu o’r math gwaethaf. Mae’r un peth yn wir am y portreadu ffiaidd rydw i wedi ei weld o bobol hoyw hefyd. Mae pob un yn ddieithriad yn cyflwyno merched a hoywon fel gwrthrychau gwawd a dirmyg.
* * * * *
Ond y pechod gwaethaf mewn perfformiadau o’r fath – a’r un mwyaf cyffredin, mae’n gywilydd gen i ddweud – yw hiliaeth. Mae gen i ddegau o esiamplau. Roeddwn i’n beirniadu mewn gwyl ddrama yn ddiweddar. Dyma i chi blot un ddrama gan gwmni o ffermwyr ifanc. Ffermwr a’i wraig yn disgwyl y ferch adre i fwrw’r Sul efo’i chariad newydd oedd yn ddysgwr. Pan gyrhaeddodd y cariad, datgelwyd mai bachgen o Bacistan oedd o, yn cael ei chwarae gan ffermwr Cymraeg a dduodd ei wyneb. Dyna i chi ddoniol! Tydan ni’n gesys! Roedd llond neuadd yn rowlio chwerthin. Yn waeth byth roedd y gwron o Bacistan yn siarad Cymraeg gydag acen ffug a difrïol Tsieinïaidd. Wrth gwrs, ‘flied lice’ oedd un o’i ymadroddion. Roedd eu hanwybodaeth ddaearyddol a diwylliannol yn ail un unig i’w diffyg chwaeth.
Clywais gan gyfeillion eu bod nhw wedi gweld drama mewn theatr fach amatur bur enwog rywle rhwng Porthmadog a Dun Laoghaire. Ynddi roedd gwraig i ffarmwr ifanc, y ddau yn Fonwysaidd wyn, wedi cael babi du. I ymweld â nhw yn y ward famaeth daeth Nain. Un bragmataidd oedd Nain. Ceisiodd wneud y gorau o’r sefyllfa. Trodd at y babi a dweud: ‘Gen ti wefusau mawr, mawr i roi swsys mawr, mawr i Nain’. Wrth ymadael â’r ward, ei chyngor i’r rhieni newydd parthed bwydo’r babi du oedd: ‘Digon o gnau a bananas iddo fo’. Aeth fy nau gyfaill dan eu seddau mewn cywilydd anghrediniol. A’r gynulleidfa? Wrth eu boddau! Fu erioed y fath hwyl. Roedden nhw’n chwerthin nes oedden nhw’n sâl. Ond ddim hanner mor sâl â nghyfeillion.
Yn fy meirniadaethau byddaf yn hallt fy nghondemniad o hiliaeth a phethau rhywiaethol a homoffobig. Clywais feirniaid eraill hefyd yn gwneud yr un modd. Yr ymateb dwi’n ei gael bob un tro ydi nad hiliaeth mo hyn. Dim ond dipyn bach o hwyl…
Clywaf hefyd mewn llawer o’r nosweithiau hyn y dylai’r cynnyrch yma fod ar S4C. Mynnir ei fod o’n llawer gwell na’r comedïau sydd ar y Sianel. Wel, fe’i gwelwyd nhw ar S4C yn eu holl ogoniant yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc o Sir Benfro yn ddiweddar. Roedd gen i gywilydd o ’nghenedl. Y fath hiliaeth erchyll. Y fath ddilorni menywod. Byddai’r sgets Ping a Pong wedi gweddu’n berffaith mewn cyngerdd i godi arian i’r BNP. Bron nad oedd yr ymateb ffyrnig i bobol fel Malan Wilkinson a Cris Dafis a gwynodd am y fath gynnwys ar Taro’r Post yn beryclach na pheth o gynnwys yr eisteddfod ei hun.
Efallai mai diffyg dirnadaeth o beth yn union yw hiliaeth ydi o. Newidiwn ni byth os na ddeallwn a derbyn ein hiliaeth a’n dirmyg at unrhyw un neu unrhyw beth sy’n wahanol i ni. Mae gan fy mab ffrindiau agos yn yr ysgol sy’n Gymry Cymraeg ac yn hanu o dras Tsieinïaidd. Gofynnais i’w teuluoedd am ymateb. Gwaredu a phoeni oedden nhw fod eu plant yn cael eu cyflwyno i’r fath ddiwylliant. Mae duo perfformwyr neu wneud sbort am ben diwylliannau eraill wedi hen ddiflannu o lwyfannau’r byd, y Jim Crow Americanaidd a’r Black and White Minstrels, Seisnig, gynt. Pam? Am eu bod yn ddilornus a sarhaus o’n cyd-ddyn. Mae ffermwyr ifainc yn ddigon croen denau eu hunain pan maen nhw’n cael eu galw’n joscins – neu’n cael eu galw’n ‘Sheep shaggers’. Os nad ydyn nhw’n hoff o dermau ffiaidd fel’na, peidied hwythau â bychanu a dilorni eraill.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
