Nid sentimentaliaeth sydd i gyfrif am fy nheyrngarwch, na’r ffaith mai hwy yw’r unig gyhoeddiadau fydd yn gofyn imi am erthyglau, er fod hynny, mae’n debyg, yn arwydd o gydnawsedd. Maent, i mi, yn fwy na misolyn a phapur newydd. Maent yn gymunedau o ddarllenwyr a sgwenwyr rwy’n falch o’m haelodaeth ohonynt.
I’r Cymry sy’n dweud gyda Prosser Rhys, ‘Bydd Cymru byth, waeth beth fo’i rhawd / Ym mêr fy esgyrn i a’m cnawd’, mae Barn yn hanfodol. A’r un yw pwysigrwydd y Morning Star i sosialwyr a chomiwnyddion sy’n ymgyrchu dros heddwch a sosialaeth yng ngwledydd Prydain a ledled y byd.
Am wn i, dim ond fy nghyfaill, y newyddiadurwr Gwyn Griffiths a minnau, sy’n ein hystyried ein hunain yn gyflawn aelodau o’r ddwy gymuned. Bydd y ddwy’n gorgyffwrdd pan gyhoeddir llithoedd gennym yn Barn a phan ymddengys rhai gan Farn-wyr a Barn-wragedd eraill yn y Seren Fore yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Er gwaethaf y gwahaniaeth ideolegol, mae llawer yn gyffredin i’r ddau gyhoeddiad. Deisyfant weld ein Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau deddfwriaethol a threthiannol cyflawn. Gwelant y Gymraeg a’i diwylliant yn wrthwenwynau rhag haint y gau-ddiwylliant Eingl-Americanaidd. Maent yn arddel rhyng-genedlaetholdeb. Ymwrthodant â phoblyddiaeth ffug-werinol a gwrth-ddeallusol heb anghofio bod mwy i fywyd na pholitics a phrotest. Ceir erthyglau am wyddoniaeth, bwyd a diod a byd natur yn y ddau, ynghyd ag adolygiadau o lyfrau, cryno-ddisgiau, ffilmiau, llên a drama. Rhaid imi gyfaddef fod tudalen Chwaraeon Derec Llwyd Morgan fwy at fy nant i na’r ddwy neu dair a geir yn y Star.
Tybiaf fod golygyddion, sgwenwyr a darllenwyr Barn a’r Morning Star yn gytûn yngl?n â dilysrwydd o leiaf un adnod Farcsaidd: ‘Ni wnaeth yr athronwyr ddim byd ond dehongli’r byd; beth sydd yn rhaid ei wneud yw ei newid.’
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
