Ac efallai felly mai peth cwbl naturiol iddo yw gofyn i reithgor o ddeuddeg i farnu’r Eisteddfod Genedlaethol. Ond nid corff cyhoeddus a ddylai fod yn atebol i lywodraeth (unrhyw lywodraeth) yw’r Brifwyl, ond sefydliad annibynnol sy’n derbyn arian yn gydnabyddiaeth o fodolaeth lleiafrif, a hawl y lleiafrif hwnnw i ddathlu ei ddiwylliant ei hun. Yn hynny o beth, nid yw’n wahanol iawn i Ffair Appleby y Sipsiwn, neu Mardi Gras cymuned hoyw Caerdydd, neu Black History Month.
Peth od iawn felly yw cynnull pwyllgor a’i siarsio i wneud yr wyl yn fwy deniadol i’r di-Gymraeg. Wrth gwrs y dylai fod croeso i’r di-Gymraeg yn yr Eisteddfod, yn union fel y croesewir pobl strêt i’r Mardi Gras, a phobl wynion i ddysgu mwy am hanes pobl dduon. Mater arall yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ydi dadlau y dylid newid y Mardi Gras er mwyn i bobl heterorywiol deimlo’n fwy cyfforddus, neu bryderu nad yw Black History Month yn cynnwys digon o wynebau gwyn.
Camddeall amlddiwylliannedd yw tybio fod rhaid i bob un achlysur unigol yng Nghymru fod yn gymysgfa o wahanol ddiwylliannau, neu i bob gwyl fod yn ddwyieithog. Mae pob diwylliant angen ei ofod ei hun, ac mae hyn yn arbennig o wir am ddiwylliannau lleiafrifol. Mae dathliadau sy’n perthyn yn eu hanfod i un grwp cymdeithasol yn unig, megis Ramadan er enghraifft, yn gwbl dderbyniol yn y Gymru gyfoes, a hir y parhaed felly; felly hefyd wyliau fel Gwyl y Gelli nad oes brin air o Gymraeg ar ei chyfyl ond sy’n haeddu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru er hynny. Wedi’r cwbl, mae llenyddiaeth Saesneg Cymru angen ei llwyfan hefyd.
Rhaid felly i ddatganiad Leighton Andrews na fydd trafod ar reol Gymraeg yr Eisteddfod gyfrif nid yn unig ar y llwyfan, ond hefyd ar y maes, ac ar y ffrinj yn yr hwyr. Gwir gyfraniad yr Eisteddfod yw rhoi’r cyfle i’r Gymraeg fod yn iaith go-iawn am wythnos, yn annibynnol ar y Saesneg. Mae ei natur grwydrol yn dangos fod ganddi hawl i fod yn iaith fyw ymhob twll a chornel o’i thiriogaeth hanesyddol. Atgof yw’r rheol Gymraeg o wlad a oedd ar un adeg yn uniaith, ac er mor anghyfleus yw hyn i wleidyddion heddiw, mae ei gwadu’n anonest ac yn debyg i orchuddio delweddau Trotsky yn y lluniau enwog ohono gyda Lenin yn ystod Chwyldro Rwsia.
Braf yw pob trafodaeth, a phwy a wyr na fyddai’r Steddfod ar ei hennill o gael mwy o amrywiaeth yn y Babell Lên, a ffair ar y maes fel bod gan blant anystywallt rywbeth i’w wneud. Ond y Brifwyl biau’r hanfodion. Fe ddylai’r term ‘settled will’ fod yn gyfarwydd iawn i ddatganolwr fel Leighton Andrews. Mae ‘settled will’ y diwylliant Cymraeg am dynged yr Eisteddfod eisoes wedi ei setlo.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
