Thema dywyll Thema golau

Dwyieithrwydd Twyllodrus

Mae gan y syniad o ddwyieithrwydd absoliwt, neu ddwyieithrwydd-fel-ideoleg, un anfantais go amlwg. Grym cymdeithasol sy’n pennu tynged syniadau haniaethol. Fe fydd cyfyngderau ar ddwyieithrwydd yn y byd Saesneg am fod gwrthwynebiad iddo ar brydiau, a rhwystrau ymarferol a diffyg diddordeb hefyd. Yn y diwylliant Cymraeg, ar y llaw arall, llyncwyd yr ideoleg yn ddihalen, ac i’r pant dwyieithog y rhedodd y dwr. Fel y dengys y Seisnigeiddio dros nos bron ar y Sîn Roc Gymraeg yn y 1990au, mae dwyieithrwydd, o’i wthio yn y diwylliant lleiafrifol yn unig, yn andwyol i ieithoedd bychain. Ideoleg dwyllodrus, laissez-faire ydyw, sy’n ddrych ieithyddol o’r ymadrodd ‘trechaf treisied, gwannaf gwaedded’. Fe leda’r ffordd ar gyfer gorymdaith ddilestair y Saesneg, gan roi’r hawl iddi ymbresenoli ar bob adeg ymhob man, tra na ddefnyddir y Gymraeg ond pan fo’n gyfleus a rhesymol yn unig.

Canlyniad hyn fu Seisnigo’r rhan helaethaf o’n cymunedau a’n sefydliadau naturiol Gymraeg. Trwy ddisodli’r syniad mai Cymraeg yw priod iaith yr hyn a elwid gennym yn Fro Gymraeg, a datgan bod Cymraeg a Saesneg yr un mor gyfartal â’i gilydd yno, fe drowyd cyndynrwydd mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg yn rhinwedd sy’n brawf o oddefgarwch y Cymry (‘rydym, wedi’r cwbl, yn genedlaetholwyr sifig!’), a chymhellwyd y boblogaeth frodorol i dderbyn y Saesneg yn iaith cysylltiadau rhyng-ethnig.

Ymhellach, mae dwyieithrwydd wedi creu dryswch ynglyn â chenadwri ieithyddol sefydliadau Cymraeg. Raison d’être sefydliadau ar gyfer lleiafrif yw gwneud iawn am y camwahaniaethu yn ei erbyn yn y gymdeithas yn ehangach. Gan na ellid gwadu hyn, bu’n rhaid cael bwch dihangol i gyfiawnhau Seisnigo, a’r esgus mwyaf cyfleus yw darparu Saesneg er mwyn helpu dysgwyr, druan ohonynt. Mae’n anodd cymryd y rhesymeg hon o ddifrif, yn enwedig gan i’r ymdrechion i ddysgu Cymraeg trwy’r Saesneg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fod yn gymaint o fethiant.

Ac eto, dwyieithogodd hyd yn oed Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, un o grudau’r chwyldro iaith, yn ddiweddar ar sail ‘ceisio apelio at nifer fawr o ddysgwyr’, gan drydar cyfarwyddiadau trist am y ‘three legged crawl this evening’ a ‘selling tickets in the Panty office’. Glaniodd dwyieithrwydd gorfodol yn Nant Gwrtheyrn, prifddinas y dysgwyr, hefyd. Mae ei chanolfan newydd über-ddwyieithog (sy’n cyfieithu enwau ysgolion lleol yn ‘... School’, a’r Eifl yn ‘The Rivals’) yn tystio i oes wahanol iawn i’r 1970au pan sefydlodd Carl Clowes y fenter yn uniaith Gymraeg. Heb sôn am yr arwyddion ‘heritage’ hyll sy’n anharddu’r lle:‘Porth y Nant is silent, no steamers wait their turn, Wicklow Hills are calling...’. Yn weledol o leiaf, y Nant erbyn hyn yw un o lecynnau mwyaf Seisnigaidd gogledd Llyn.

A’r gwir amdani yw nad eithriadau prin yw’r rhain ychwaith. Wedi i Gwyneth Lewis gyfieithu The Tempest Shakespeare i’r Gymraeg fel Y Storm, mynnodd Theatr Genedlaethol Cymru gael uwch-deitlau Saesneg yn y cynhyrchiad fel pe na bai’r ddrama wedi’i llwyfannu yn Saesneg erioed. Onid oes gan gynulleidfa Gymraeg hawl i weld drama Gymraeg heb ymyrraeth y Saesneg? A’r eirioni yw mai drama am wladychu, a gwladychu ieithyddol hefyd, yw The Tempest (‘The red plague rid you/ For learning me your language!’, chwedl Caliban) er na fyddech yn gwybod hynny o wylio’r addasiad hwn.

Mae S4C am drafod y posibiliad o gynnig dewis Saesneg i’w holl raglenni trwy’r botwm coch, a fydd yn cynyddu nifer y gwylwyr mae’n siwr, ond gydag effeithiau ieithyddol tebygol ar aelwydydd cymysg eu hiaith nad ydynt yn gyfan gwbl anhysbys, fel y gwyr unrhyw un sydd wedi gwylio rygbi S4C trwy’r Saesneg mewn tafarn. A dwyieithog hefyd yw gormod o’i chyfryngau digidol (megis ei Ap Tywydd, rhagorol fel arall), sy’n golygu y bydd siaradwyr Cymraeg llai hyderus yn troi at y Saesneg.

A defnyddio terminoleg crefydd, ymgais eciwmenaidd i ddod â’r ‘gymuned’ at ei gilydd yw dwyieithrwydd, ond hynny ar y sail mai un iaith yn unig (iaith y bregeth) yw’r lingua franca go-iawn. Yn Academia Fawr, ystryw drefedigaethol ydyw, a rhaid i bob cais am grant ymchwil ar lenyddiaeth Gymraeg greu cynnyrch dwyieithog er mwyn cyrraedd cynulleidfa ‘ryngwladol’. Yn gynyddol felly, nid yw dwyieithrwydd yn esgor ar ddeunydd sy’n wreiddiol i’r gymuned Gymraeg, ond yn hytrach yn ei chaethiwo fel isddiwylliant (cyfieithedig) nad yw’n bodoli ond er mwyn bwydo gwybodaeth i ymerodraeth fawr y Saesneg.

Nid diben hyn o lith yw moesoli ynglyn â’r Saesneg fel yr arferid moesoli ynglyn â dirwest. Mae’n iawn mwynhau diwylliant Saesneg (rhaglenni teledu, llyfrau, cerddoriaeth boblogaidd ayyb) ond inni beidio â disgwyl fod digwyddiadau Cymraeg yn gorfod bod yn Gymraeg-a-Saesneg hefyd. Ond siawns nad yw gweld cynifer o ardaloedd, sefydliadau ac, ar y cyfryngau cymdeithasol, unigolion Cymraeg eu hiaith yn symud yn un don gref i gyfeiriad dwyieithrwydd yn awgrymog. Yn wir, tybed a yw hyn yn shifft iaith tu fewn i’r dosbarth canol Cymraeg (a’r mudiad cenedlaethol) ei hun?

Shifft iaith ar sail tiriogaeth, sefydliad, ideoleg a dosbarth: pa iaith leiafrifol allai oroesi hyn? Os ydym o ddifrif ynglyn â rhai o heriau Cyfrifiad 2011, fe fydd yn rhaid inni gydnabod yn onest broblem dwyieithrwydd. Dyletswydd mewnfudwyr i’r ardaloedd Cymraeg yw dysgu Cymraeg – nid oes cyfrifoldeb dinesig ar y Cymry lleol, na mewnfudwyr sydd wedi dysgu Cymraeg, i gyfathrebu mewn Saesneg â hwy. Ond nid yw dwyieithrwydd sy’n rhoi rhwydd hynt i’r Saesneg yn debygol o gymhathu fawr neb, ac fe aiff y Gymraeg yn iaith gul, ethnig yn cael ei dathlu o flwyddyn i flwyddyn yn Eisteddfodau dwyieithog y Ffermwyr Ifainc. Yn wir, diffinio dinasyddiaeth ddiwylliannol ar sail iaith yw un o’r ffyrdd gorau sydd gennym o hybu cyfartaledd mewn cymdeithas amlethnig gan y gellir meistroli iaith newydd, er nad yw’n bosib newid na thras ethnig na man geni.

I’r diawl felly â dwyieithrwydd Dafydd Elis-Thomasaidd sy’n addo dim ond cynhebrwg diofal i’r Gymraeg, a’r ymgymerwr wedi cael diwrnod o wyliau er mwyn ymgyrchu am ragor o ddatganoli. Nid cyd-ddigwyddiad mohono mai sefydliadau uniaith megis ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain fu sail hynny o gynnydd a gafwyd dros y degawdau diwethaf. Wrth i’r Gymraeg fynd yn iaith lleiafrif mewn talpiau eang o’r gogledd a’r gorllewin, fe fydd rhaid cefnu ar rethreg dwyieithrwydd yno hefyd, gan mai dim ond pan fo’r Gymraeg yn cael ei thrin fel iaith normal, heb ddibyniaeth seicolegol ar iaith arall, y bydd unrhyw adferiad yn bosib.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Pridd A'r Concrid - Hiliaeth cefn gwlad

Ymlaen >

Mynd i'r Capel