Dywedodd Benjamin Disraeli unwaith: ‘Mae eithriad i bob rheol ond anaml y deuir o hyd i ateb drwy ddilyn cyngor un o’n gwrthwynebwyr.’ Os ydych chithau o’r un farn â Disraeli, does dim diben imi ysgrifennu’r geiriau hyn. Ofer fydd y cyfan. Canys yr wyf i ar fin cynnig cyngor i Blaid Cymru, plaid nad wyf yn aelod ohoni. Af ymhellach. Nid wyf yn cytuno â llawer o bolisïau’r Blaid. Efallai’n wir, felly, mai ffolineb llwyr ar fy rhan yw cynnig cyngor iddi o gwbl. Atgoffir fi o hanes y Gwyddel hwnnw a oedd â’i ben ar y bloc yn llythrennol yn aros i gael ei ddienyddio dan y gilotîn. Yn ôl yr hen jôc, jamiodd y llafn deirgwaith ar ei ffordd i lawr. Edrychodd y dyn condemniedig lan a thynnu sylw’r awdurdodau at y nam a rwystrai’r llafn rhag disgyn a thorri ei ben i ffwrdd.
Ers cychwyn datganoli mae canlyniadau etholiadol Plaid Cymru wedi bod yn wirioneddol ddiflas. Cwympodd ei chyfran o’r pleidleisiau o tua 30% yn ei hanterth yn 1999 i dipyn dros hanner hynny yn etholiad diweddara’r Cynulliad y mis diwethaf. Aeth o sefyllfa reit gyfforddus fel yr ail blaid yng Nghymru i fod yn llusgo y tu ôl i’r Ceidwadwyr yn y trydydd safle. Mae hynny wedi digwydd mewn cyfnod a welodd gynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli.
Mae gan Blaid Cymru fantais dros y pleidiau eraill yn etholiadau’r Cynulliad. Dyw hi ddim yn gangen o blaid Brydeinig gyda’r ddeuoliaeth neu’r teyrngarwch rhanedig y mae hynny’n gallu ei olygu. Pe gweithredai llywodraeth Lafur neu Geidwadol yn San Steffan yn groes i les Cymru beth wnâi aelodau’r blaid lywodraethol yng Nghynulliad Cymru o hynny? Hel esgusion dros ymddygiad y blaid ganolog rhag niweidio ei safle fel llywodraeth y Deyrnas Unedig? Neu a fyddai ei chynrychiolwyr yn y Cynulliad yn gwrthdystio ac yn ymladd dros Gymru? Fyddai gan Blaid Cymru fyth broblem o’r fath.
Dylai hynny fod yn ‘unique selling point’ Plaid Cymru. Mae Cymru yn lle dibwys yng nghyd-destun etholiadau Prydeinig. Ychydig o seddi sydd yma – a llai fyth o seddi ymylol. Felly, mae’n debyg, pan fydd buddiannau Cymru’n wahanol i fuddiannau rhanbarthau Prydeinig amlycach, bydd Cymru’n cael ei hisraddio. Gan hynny fe fyddech chi’n disgwyl i bleidleiswyr gefnogi’r Blaid am ei bod hi’n rhyw fath o ‘shop steward’ Cymreig, hyd yn oed os ydyn nhw’n anghytuno â nifer o’i pholisiau. Ond nid yw pleidleiswyr di-Gymraeg Cymru erioed wedi meddwl am Blaid Cymru fel eu hamddiffynnwr.
Dyna’r her i Blaid Cymru: torri mas o’i chadarnleoedd a denu cefnogaeth y Cymry Saesneg eu hiaith. Fe geisiodd hi wneud hynny drwy gwato ei pholisi craidd, sef annibyniaeth. Eto i gyd dyw hi ddim wedi llwyddo i chwalu’r ddrwgdybiaeth mai mewn pethau ethnig, ieithyddol a diwylliannol y mae ei gwir ddiddordeb. Mae annibyniaeth yn llai gwenwynig i obeithion etholiadol y blaid na’r argraff o werthuso pobl yn ddiwylliannol. Yn wir, mae’r amharodrwydd i drafod – neu hyd yn oed i sôn o gwbl am annibyniaeth – yn cael ei ddehongli fel ystryw wleidyddol ddiegwyddor a sinigaidd i geisio denu pleidleisiau drwy daflu llwch i lygaid pobl.
Y peth sy’n cael ei edmygu gan yr etholwyr ar hyn o bryd yw diffuantrwydd. Ystyrier sylw Groucho Marx: ‘The most important thing is sincerity. Fake that and you’ve got it made.’
Mae’n rhaid i Blaid Cymru ymddangos yn ddiffuant ac egwyddorol. Ond ar yr un pryd rhaid iddi ennill ymddiriedaeth etholwyr di-Gymraeg.
Cynigiaf y sgript ganlynol ar gyfer y Blaid.
Y peth allweddol yw bod yn hollol agored: Rym ni moyn annibyniaeth a moyn gweld Cymru’n cymryd ei lle yn anrhydeddus ymhlith y teulu o genhedloedd sydd yn y byd... ac ati. Byrfyfyrier i’r perwyl hwn.
Y cam nesaf yw bod yn hollol onest gyda’r etholwyr: Pe byddai Cymru’n annibynnol ar hyn o bryd, byddem yn dlotach o lawer. Bydd rhai pobl yn bodloni ar hynny. Nid felly’r mwyafrif llethol. Ys gwedodd Ardalydd Halifax: ‘In the contest between ease and liberty, the first hath generally prevailed.’
Felly ildiwch i’r gwirionedd: Gweision pobl Cymru ydym ni a ’dyn ni ddim yn bwriadu eich gwneud yn dlawd. I’r gwrthwyneb, ein hamcan yw sefydlogi economi Cymru i’r fath raddau fel y gall y Cymry ddewis annibyniaeth heb fod yn dlotach.
Ailadrodder: Rym ni’n canolbwyntio ein holl ymdrechion ar ailadeiladu’r economi Gymreig. Ein hamcan ni yw eich amcan chithau: helpwn ni chi i ddod yn gyfoethog.
Pwysleisier yr USP: Yn wahanol i bleidiau eraill does dim teyrngarwch rhanedig gyda ni a does dim byd i dynnu ein sylw oddi ar ein pwrpas.
Dangoswch fod eich traed ar y ddaear: Mae’n debyg y bydd hyn yn cymryd degawd neu ddau, efallai dri.
Ond cofier ailbwysleisio delfrydiaeth: Efallai fod cyfoeth yn ddigon i rai pobl ond fe goledda’r Blaid bwrpas uwch. Pan fyddwn ni’n cyrraedd ein nod economaidd, anogwn ni chi eto i gefnogi annibyniaeth.
Gorffennwch gyda gostyngeiddrwydd: Hyd yn oed wedyn, eich dewis chi fydd derbyn neu wrthod annibyniaeth.
Dyma naratif fydd yn gweithio.Wrth gwrs ar ôl ymgymryd â bodloni dyheadau materol pobl Cymru heb guddio eich egwyddorion, bydd yn rhaid i chi ddod mas â pholisiau economaidd credadwy a chynaliadwy. Stori arall yw honno. Ond yn groes i bolisiau’r pleidiau eraill, ddylech chi ddim cardota’n ofer am grantiau uwch. Ceisiwch sicrhau pwerau cyllidol i’r Cynulliad – nid pwerau er eu mwyn eu hunain ond fel arfau i’n galluogi i gyflawni’r dasg.
A byddai o gymorth pe meddai eich arweinydd ar yr un chutzpah a hunanhyder ag Alex Salmond
Dyma fy nghyngor. Ond eich plaid chi yw hi.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
