Dwi yma yn y Seion Newydd, rai miloedd o filltiroedd oddi wrth goncrid Caerdydd a phridd cynhyrchiol Niwbwrch. Los Angeles yw’r concrid. Y pridd yw gwyrddni Pennsylvania. Felly, nid y cwta ddau gan milltir arferol sy’n gwahanu’r naill oddi wrth y llall ond tair mil o filltiroedd maith.
Dwi yma ers dros fis bellach. Ac yn dechrau cael llond bol, yn enwedig pan fo pawb, bron, gan gynnwys fy nheulu yng nghyfraith, yn galw Cymru yn England. ‘D’you do this in England?’ gofynnir imi. Fel tiwn gron, atebaf innau: ‘Dwi ddim yn gwybod sut maen nhw wrthi yn England, ond yng Nghymru fel hyn ’dan ni’n gwneud petha.’ Dwi’n ceisio egluro bod galw Cymru yn Lloegr fel galw’r Unol Daleithiau yn Fecsico neu Ganada, ond dydw i ddim elwach. Dwi wedi bod yn feirniadol iawn o bobol sy’n cyffredinoli am y wlad yma. Allwch chi ddim. Mae hi mor enfawr ac mor amrywiol ei phoblogaeth. Ond, dwi fy hun am gyffredinoli y tro yma: mae yma anwybodaeth affwysol o unrhyw beth y tu allan i America. A dweud y gwir maen nhw’n anwybodus hefyd o’rhyn sy’n digwydd oddi mewn i America ei hun.
Dwi wedi treulio’r rhan fwyaf o f’amser yma yn Los Angeles. Mae Los Angeles yn dref fawr estynedig, sydd â’r heulwen yn tywynnu trwy’r amser, a’r palmwydd uchel yn cael eu suo gan awel o’r Tawelfor. Yma mae pyllau nofio mor gyffredin ym mhob ta ag oedd cwt glo yng ngerddi cefn Cymru ers talwm. Welais i erioed gymaint o geir drudfawr yn yr un man. Mae hi fel y nefoedd yma, a dweud y gwir. Nefoedd y goludog.
Helpu i lunio rhaglen ddogfen dwi wedi bod yn ei wneud yma am Gymro a oedd yn allweddol yn natblygiad Los Angeles o dref fechan i’r metropolis ag ydi hi heddiw. Griffith Jenkins Griffith oedd ei enw. Roedd yn enedigol o’r Betws ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Parc enfawr yn dwyn ei enw yn y ddinas hyd heddiw. Mae ei stori’n darllen fel sgript ffilm. Gadawodd Gymru yn bedair ar ddeg oed mewn tlodi enbyd. Terfynodd ei ddyddiau yn un o ddynion cyfoethocaf California. Cofiwch, fe gafodd o hefyd ei garcharu am gyfnod yng ngharchar San Quentin. Ddatgela i ddim mwy. Cewch wylio’r rhaglen pan ddaw hi ar S4C. Yr actor Matthew Rhys sy’n dweud y stori.
Wrth ddilyn stori Griffith y teithiais i bridd a gwyrddni Danville, Pennsylvania. Yno y daeth Griffith Jenkins yn laslanc i chwilio am Gymry eraill. Y diwydiant dur oedd wedi hudo’r Cymry yno. Roedd Danville, wedi’r cyfan, yn chwaer dref i Ferthyr. Un a oedd yn byw yno’r un pryd â Griffith oedd y cerddor Joseph Parry. Mae lolfa’r gwesty yr oeddem yn aros ynddo wedi ei enwi ar ei ôl. Aethom o Danville i Efrog Newydd i orffen y ffilmio. Wrth gerdded yn ôl i’r gwesty un noswaith, roeddwn yn aros i groesi 7th Ave ger 53rd St, pan glywais rywun yn galw fy enw. Dau Fonwysyn oedden nhw yn cael mygyn yn nrws eu gwesty. Cododd hiraeth arnai am Dafarn Tusw a’r ardd a’r tatws newydd.
Wrth ymchwilio i hanes Griffith, canfyddais Gymro lliwgar arall oedd yn byw yn Efrog Newydd: Aneurin Jones neu Aneurin Fardd o Fedwas ger Caerffili. Roedd Aneurin Fardd yn fardd cydnabyddedig, ac yn feirniad eisteddfodol o bwys. Fo roddodd y wobr i Ceiriog am ei fugeilgerdd ‘Alun Mabon’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr ym 1861. Yn fuan wedyn ymfudodd Aneurin i America i ddilyn gyrfa fel tirluniwr. Trwy amrywiol ffyrdd daeth yn bennaeth yr enwog Central Park, Efrog Newydd. Ond gwnaeth ddifrod enbyd i’r parc. Mynnodd ddymchwel nifer o goed hardd a phrin gan ddadlau eu bod yn mygu’r olygfa! Ni fu yn y swydd yn hir wedyn.
Cafodd swydd ar ôl hynny fel pennaeth parciau a boulevards Brooklyn. Ond pechu eto wnaeth y Bardd – neu ‘Vardd’ fel yr oedd y New York Times yn ei alw. Torrodd goed prin yno hefyd. A gwaharddodd arlunwyr o barciau Brooklyn am eu bod nhw’n sathru’r glaswellt. Doedd Cymdeithas Cymry Efrog Newydd ddim yn ei arddel. A chyhoeddodd Y Drych nad oedd mewn unrhyw ffordd yn cynrychioli Cymry da America. Ceisiodd Aneurin ddechrau ei gymdeithas ei hun – efo fo ei hun yn ben arni. Cyhoeddodd fisolyn Cymraeg hefyd, ond ni fu’n llwyddiannus. Roedd y New York Times yn haeru y gwnâi Aneurin Vardd unrhyw beth i gael cyhoeddusrwydd. Yn wir, unwaith bu’n wrthrych stori ar dudalen flaen y papur hwnnw. Ymosododd ar gyd-Gymro, John Hughes, a oedd yn un o uchel-swyddogion dinas Efrog Newydd ac yn un o bileri’r Gymdeithas Gymraeg. Ar ôl cyfarfod o’r gymdeithas un noswaith, aeth Aneurin Fardd a’i ffrindiau i far i yfed cwrw. Pan gyrhaeddodd John Hughes y bar roedd y Bardd wedi cael llwyth i’w yfed. Mewn iaith aflan condemniai ei gyd-Gymry a’u heglwys. Ceryddodd Hughes ef. Efo’i ambarél trywanodd y Bardd ei geryddwr yn ei lygad. Bu bron iddo ei ddallu.
Daethpwyd ag achos yn erbyn Aneurin Fardd. Ond gan nad oedd neb yn fodlon tystiolaethu ni ddaeth i lys. Clywodd Griffith Jenkins Griffith am hyn a chynigiodd swydd iddo fel rheolwr Parc Griffith yn Los Angeles. Ond erbyn iddo gyrraedd yno roedd Griffith yn y carchar. Chafodd Y Bardd mo’r swydd a’r flwyddyn wedyn yn 1904, bu farw, ac fe’i claddwyd yma yn Ninas yr Angylion.
Wyddoch chi be, tasa mwy o Gymry lliwgar fel y rhain wedi bod yn byw yn America dwi’n sicr y byddai’r Iancs erbyn hyn yn gwybod yn iawn nad England ydi Cymru.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
