Ac yn wir, mewn arolwg blynyddol o ansawdd bywyd dinasoedd y byd, mae Dulyn wastad yn sgorio’n weddol uchel. Eleni fe ddaeth yn 25ain allan o 215 o ddinasoedd – yn uwch na Llundain, Paris a Barcelona. Mae’r arolwg yn ystyried ffactorau fel gwasanaethau cyhoeddus, adnoddau hamdden, safonau addysg, llygredd ac yn y blaen. (Vienna oedd ar y brig. Baghdad, druan, oedd ar y gwaelod.)
Ond mae ochr dywyll iawn i Ddulyn hefyd. Yn ôl set hollol wahanol o ffigyrau, hi yw’r brifddinas waethaf yn Ewrop o ran llofruddiaethau gan gangiau arfog sy’n delio mewn cyffuriau.
Mae dros 12 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r newyddiadurwraig Veronica Guerin gael ei llofruddio wrth iddi ymchwilio i weithgareddau un o arweinwyr y byd cyffuriau, John Gilligan. Yn 1997 roedd Veronica Guerin yn ceisio dinoethi’r trais a’r torcyfraith a oedd yn sail i fusnes llewyrchus Gilligan a’i griw. Dyna oedd wrth wraidd y twf mewn cyffuriau ar y strydoedd, a’r dioddefaint a’r trais a ddilynai hynny. Roedd ’na deimlad ar y pryd bod Gilligan a’r lleill yn rhodresa o gwmpas y lle yn eu ceir mawr, eu watshis Rolex a’u gynnau, yn gwbl ddirmygus o’r awdurdodau. Yr argraff a roddwyd oedd nad oedd neb yn meiddio tarfu arnyn nhw.
Ond fe feiddiodd Veronica Guerin, ac fe dalodd y pris. Daeth llofrudd ar gefn beic modur i fyny at ochr ei char tra roedd hi’n oedi ger golau coch yn Newlands Cross, un o groesfannau prysuraf y wlad. Saethwyd hi yn ei phen, yn gwbl haerllug, yng ngolau dydd.
Do, fe aeth yr awdurdodau ati wedyn i daclo’r broblem. Sefydlwyd CAB – y Criminal Assets Bureau – i feddiannu elw ac eiddo’r troseddwyr. Carcharwyd Gilligan – nid am gynllwynio llofruddiaeth Veronica Guerin, ond am gyflenwi canabis. Sefydlwyd unedau arbennig o’r heddlu i fynd ar ôl y rhai a oedd yn delio mewn cyffuriau, a neilltuwyd mwy o arian i helpu pobl oedd yn gaeth i gyffuriau.
Ond erbyn heddiw, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, dydy pethau ddim gwell. Maen nhw’n waeth o bosib.
Mae’r gangiau’n dal i ffynnu. Mae’r cyffuriau’n dal i lifo. Ac mae’r llofruddiaethau a’r ymosodiadau’n dal i ddigwydd, yn wythnosol bron, wrth i’r gangiau geisio amddiffyn eu tiriogaethau a’u busnesau, gan ddial ar eu gelynion.
Hyd yn hyn yn 2009, mae o leiaf 23 o bobl wedi cael eu llofruddio fel rhan o’r rhyfela yma. Y mwyafrif ohonyn nhw’n ddynion ifainc a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn Nulyn. Eu dewis ddull o ladd yw bwled ym mhen eu gelyn. Dyma’r flwyddyn waethaf erioed o ran y niferoedd a gafodd eu lladd.
Mae ’na demtasiwn i anwybyddu’r cwbl, gan feddwl mai dim ond lladd ei gilydd maen nhw, a’u bod yn haeddu tynged o’r fath. Wedi’r cyfan, dynion hollol ddiegwyddor ydyn nhw, heb ddim parch at fywyd na chymdeithas.
Ond y drafferth ydy bod y trais yn lledu. Heblaw am y llofruddiaethau, mae’r gangiau’n gosod bomiau pibell o dan geir a thrwy ddrysau tai er mwyn codi ofn ar deuluoedd eu gelynion. Maen nhw’n brawychu cymunedau cyfan mewn rhannau o’r brifddinas. Ac mae pobl ddiniwed yn cael eu dal yn y trais.
Dros y deunaw mis dwytha, er enghraifft, yn Clondalkin yng Ngorllewin Dulyn mae’r heddlu wedi ymateb i dros gant o fomiau ac ymosodiadau arfog. Ar sawl achlysur roedd plant yn lwcus i ddianc heb anaf. Mewn un achos, cafodd mam y person a dargedwyd ei saethu a’i hanafu wrth agor drws ffrynt ei thy.
Ddwywaith eleni mae’r gangiau wedi lladd dynion diniwed. Ym mis Gorffennaf, saethwyd Wayne Doherty yn farw tu allan i da ei rieni ar stad o dai yng Ngorllewin Dulyn. Roedd yn 32 oed ac yn dad i ddau o blant. Ei gamgymeriad oedd herio dau lond car o ddynion ifainc oedd wedi stopio yno ar eu ffordd i saethu rhywun arall. Yn Limrig ym mis Ebrill saethwyd Roy Collins, gwr busnes 35 oed, a thad i ddau o blant. Cafodd ei dargedu am fod un o gangiau Limrig yn credu ei fod wedi rhoi tystiolaeth i’r heddlu bedair blynedd yn ôl a arweiniodd at garcharu un o arweinwyr y gang, Wayne Dundon. Mae’r hanes yn rhoi cip inni o feddylfryd y gangiau, a’r ffordd y maen nhw’n gweithredu. Roedd teulu Roy Collins yn berchen ar dafarn yn Limrig. Un noson fe wrthododd llysfrawd Roy Collins adael i chwaer 14 oed Wayne Dundon ddod i mewn i’r dafarn. Bygythiodd Wayne Dundon ei ladd, a hanner awr yn ddiweddarach daeth rhywun i mewn i’r dafarn a saethu Collins. Chafodd neb ei garcharu am y saethu, ond fe garcharwyd Wayne Dundon am wneud bygythiadau. Rhaid oedd talu’r pwyth yn ôl – ac anfon neges at unrhyw un sy’n ystyried herio’r gangiau neu dystio yn eu herbyn. Fe all unrhyw amarch tuag at aelod o’r gangiau arwain at fwled.
Mae’n amlwg felly fod gangiau’n brysur yn Limrig – ac yn wir mewn rhai trefi eraill – er mai ffrae ddiddiwedd rhwng dau deulu estynedig, y Dundons a’r Collopys, sydd wrth wraidd y trais yn Limrig. Ond yn Nulyn mae’r rhan fwyaf o’r gangiau a’r rhan fwyaf o’r helynt.
Yn ôl yr heddlu, mae dulliau’r gangiau wedi newid ers dyddiau John Gilligan. Maen nhw’n fwy hyblyg, a’r arweinwyr yn iau ac yn fwy tebygol o fod yn gaeth i gyffuriau eu hunain, ac o bosib felly yn fwy mympwyol yn eu trais.
Un o’r prif broblemau wrth geisio eu carcharu ydy sicrhau tystiolaeth, fel y mae hanes Roy Collins yn ei ddangos. Mae gan bobl ofn agor eu cegau i gwyno, heb sôn am roi tystiolaeth mewn llys. Mae’r gangiau’n bygwth aelodau’r rheithgor hefyd.
Dyma pam y cyflwynodd y llywodraeth ddeddfwriaeth newydd dros yr haf i alluogi dwyn achos yn erbyn y gangiau gerbron Llys Troseddol Arbennig, y Special Criminal Court. Mae hyn yn arwyddocaol iawn. Dyma’r llysoedd sydd wedi cael eu defnyddio hyd yma i glywed achosion terfysgol. Does dim rheithgor, dim ond tri barnwr, sy’n ateb y broblem o fygythiadau yn erbyn rheithgor. Hefyd o dan y ddeddfwriaeth newydd bydd yn bosib profi bod rhywun yn aelod o gang ar sail gair plismon, heb fod angen i aelodau o’r cyhoedd dystio. Roedd ’na wrthwynebiad i’r newidiadau yma gan grwpiau hawliau sifil, ond ar y cyfan roedd y farn gyhoeddus yn gefnogol, gyda phobl yn teimlo bod rhaid gwneud mwy i garcharu’r gangiau.
Ar ôl llofruddiaeth Roy Collins, gorymdeithiodd miloedd o bobl drwy strydoedd Limrig yn mynnu ymateb chwyrn gan yr awdurdodau. Roedd ’na hyd yn oed alwadau am ailgyflwyno caethiwo heb achos llys – internment – i glirio’r gangiau oddi ar y strydoedd, gan fod yr heddlu (a phawb arall) yn gwybod yn iawn pwy sy’n achosi’r helynt. Ond roedd hynny’n ormod o gam i’r llywodraeth feiddio ei gymryd.
Mae’n rhy gynnar i wybod faint o les a wnaiff y ddeddfwriaeth newydd. Y gobaith yw y bydd rhai o stadau Limrig a gorllewin Dulyn yn saffach o hyn ymlaen.
Yn y cyfamser, gair o gysur. Mae’n hollol bosib mwynhau crwydro’n ddiogel drwy’r ddwy ddinas heb fod yn ymwybodol o’r trais ofnadwy ar y cyrion.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
