Un o gynyrchiadau amlycaf yr Eisteddfod eleni oedd Ceisio’i Bywyd Hi, cynhyrchiad Sherman Cymru o gyfieithiad Owen Martell o ddrama Martin Crimp, Attempts on Her Life. Digon tenau oedd y gynulleidfa ddaeth i Neuadd Buddug ar nos Lun gynta’r ’Steddfod, gyda neb yn ein plith yn sifir iawn beth i’w ddisgwyl o’r ‘portread ingol’ hwn o ‘obsesiynau cyfoes’.
Prif gymeriad y ddrama yw Ann. Nid yw Ann yn ymddangos ar y llwyfan o gwbl, ond treulia’r cymeriadau ar y llwyfan yr holl ddrama yn paentio delweddau geiriol ohoni. Mae Ann yn derfysgwr, yn gar chwaethus, yn ffoadur rhyfel ac yn seren porn i gyd ar yr un pryd... dyna’r cynsail p’run bynnag.
Mae sgript Owen Martell (gan ddilyn y ddrama wreiddiol) yn rhoi peth wmbreth o raff i’r cyfarwyddwr wrth ddehongli a llwyfannu’r ddrama. Nid yw’r sgript yn nodi sawl cymeriad sydd yn y ddrama, nac yn eu henwi chwaith. Cryn her i’r cyfarwyddwr (Arwel Gruffydd) yw troi sgript mor foel yn rhywbeth addas ar gyfer gofynion y theatr. Mae hi’n deg felly trafod y ddrama a’r cynhyrchiad fel deubeth ar wahân.
Penderfynodd y cynhyrchiad gyfyngu nifer yr actorion i bedwar, sef Catherine Ayers, Clare Hingott, Aled Pedrick a Meilyr Siôn. Lleolwyd y chwarae mewn fflat fodern a chwaethus. Rhoddodd pob un o’r actorion berfformiadau unigol hyderus, corfforol ac annisgwyl o ingol ar brydiau. Roedd ymarweddiad pob un o’r pedwar cymeriad yn rhannu rhai nodweddion perthnasol i’r ddrama. Egotistiaeth, bywyd cyfforddus a chyfalafol, clyfrwch bombastig, yr angen i greu delweddau ac i ymateb i ddelweddau a grewyd gan eraill, ansadrwydd emosiynol, tensiynau rhywiol, unigrwydd a thrachwant. Wn i ddim faint oedd yr elfennau hyn a ychwanegwyd gan y cyfarwyddwr yn cyfrannu at undod y ddrama. Teimlwn fod cyfoeth y cynhyrchiad yn drysu ac yn tynnu’n groes i’r sgript anhydrin iawn. Daeth y cynhyrchiad i ben yn debyg iawn i ddyddiau olaf Rhufain (neu noson ola’ tymor yn Neuadd Pantycelyn), yn gwbl rhemp gyda phawb yn cnychu’i gilydd, ac yn difaru hynny’r bore wedyn, gan ein gadael ni’r gynulleidfa yn crafu’n pennau ac yn holi – ai dyna’r cyfan ar ôl hynna’i gyd?
Ond beth am y ddrama ei hun? (Os gellir galw sgript heb leoliad na chymeriadau yn ddrama.) Doedd hi ddim yn ddrama hawdd i ymgolli ynddi, er gwaethaf cryfder y sgwennu. Mae hon yn ddrama mor hunanymwybodol o ymenyddol fel ei bod hi’n mynnu dehongliadau, ac mae hi’r un mor agored i wahanol ddehongliadau ag ydyw Ann, gwrthrych anweledig y ddrama ei hun.
Dim ond ar ei thelerau hi ei hun y gellir gwerthfawrogi’r ddrama hon, ac mae hynny’n gwneud ei beirniadu hi’n dasg anodd iawn. Dyma’r telerau fel rydw i’n eu gweld nhw: mae delweddau yn gwbl ddibynnol ar y bobl sy’n eu creu nhw, ac mae cymeriadau’r ddrama (a ninnau yn ein tro) fel duwiau yn chwarae ac yn ’stumio’r delweddau hyn o bethau y tybir y dylent fod yn gysáct a choncrid, megis y gwirionedd, moesoldeb, cariad a hyd yn oed pobl.
Iawn, grêt, dwi’n licio’r math yma o rwtsh; beirniadaeth lenyddol ydi ’mhetha i. Er gwaethaf hynny, ni lwyddodd y ddrama hon i ’nghyffwrdd i nac i ’nghyffroi ar unrhyw lefel. Hyd yn oed ar ei thelerau ei hun, mae hon yn ddrama wan. Ni lwyddodd y ddrama i f’annog i i deimlo nac i feddwl drosof fy hun. Fe geisiodd y ddrama borthi’r gynulleidfa gyda bwyd llwy yn hytrach na gadael iddynt gnoi cil ar yr hyn a welsant. Mae Ceisio’i Bywyd Hi yn ddrama glyfar gan ddramodydd clyfar sydd i fod i apelio at gynulleidfaoedd clyfar fydd yn dweud wrth eu ffrindiau clyfar eu bod nhw wedi mwynhau’r ddrama glyfar yma (gan brofi eu bod nhwtha’n blant bach clyfar hefyd)... ac efallai ei bod hi’n glyfar i gyd... ond tydi hynny ddim yn golygu ei bod hi’n dda chwaith.
Byddai’n well o lawer gennyf fi weld egni’r awdur (h.y. cyfieithydd y ddrama) a’r cwmni talentog hwn yn canolbwyntio ar gynhyrchu rhywbeth gwreiddiol a Chymreig o’r un anian. Dwi’n sifir y byddai’r canlyniad wedi bod dipyn difyrrach ac yn llawer llai ffuantus.
Y noson wedyn bûm yn gwylio noson gyntaf O’r Tu Ôl gan Tudur Owen, sioe glybiau newydd Bara Caws yn neuadd Llandderfel. Yn wahanol i arlwy’r noson cynt, tydi O’r Tu Ôl ddim yn fawr nac yn glyfar... ond mi chwerthish i LOT a dyna sy’n bwysig. Allwn i ddim fod wedi gweld drama lai tebyg i Ceisio’i Bywyd Hi (er, yn rhyfedd iawn, roedd ’na lot mwy o gnawd noeth ar lwyfan drama nos Lun nag a welwyd yn un nos Fawrth... peth rhyfedd ydi chwaethusrwydd ynde!). Eto, dim ond ar ei thelerau hi ei hun y gellir gwerthfawrogi’r sioe hon, felly os ydych chi am weld drama gyda dau gymeriad o’r enw Dic a Ffani, jôcs sglyfaethus a rhai o’r cociau plastic mwyaf yng ngorllewin Ewrop, O’r Tu Ôl yw’r sioe i chi!
Ryw fath o sioe glybiau o fewn sioe glybiau ydi O’r Tu Ôl – mae’r chwarae’n digwydd yng nghefn y llwyfan ar noson agoriadol sioe glybiau newydd sbon. Ond yn wahanol i Panto gan Gwenlyn Parry, ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng naws y sioe glybiau ddychmygol a’r un go iawn, sy’n peri bod unrhyw ddychan neu gynildeb sydd yn y ddrama yn boddi ymhell cyn cyrraedd y lan. (Ond os oes gennych chi bidlan chwe troedfedd be ddiawl ’di’r ots am gynildeb?)
Mae Tudur Owen yn sicr yn ysgrifennu’n ddigri, ond roeddwn i’n teimlo bod yna ragor o waith o hyd ar y ddrama hon, achos gwanhau ddaru hi tua’r diwedd. Rydw i’n mawr obeithio y caiff y cast a’r cyfarwyddwr gyfle i ychwanegu ati a ’stumio rhywfaint arni yn unol ag ymateb cynulleidfaoedd cyn mynd â hi ar daith. Byddwn i wedi mwynhau gweld y cynhyrchiad yn cynnwys mwy o ‘gags’ gweledol a’r cast yn gwneud mwy o ymdrech i gynnwys y gynulleidfa ac yn tynnu arni’n fwy hefyd. Yn rhyfedd iawn, digon llugoer fu ymateb rhai o’m cyfeillion i’r ddrama, gan gwyno bod y cyfan dros ben llestri (mae’n siwr eu bod nhw’n mynd yn hen), ond dwi ddim yn amau ’mod i wedi canfod pleser euog newydd yn sioe glybiau Bara Caws!
Bu Cwmni’r Sherman hefyd yn brysur ar y Maes ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher gyda’i sesiynau Sgript Slam yn Theatr y Maes. Bob diwrnod roedd y cwmni yn rhoi cyfle i dri dramodydd newydd i’r grefft weld eu sgriptiau yn cael eu perfformio gan actorion profiadol (a oedd, chwarae teg iddynt, yn rhoi o’u hamser yn rhad ac am ddim) a’r gynulleidfa yn pleidleisio dros eu hoff ddrama. Roedd y dramodwyr hefyd yn derbyn adborth adeiladol gan banel o arbenigwyr. Rwy’n hoff iawn o’r syniad yma, a rhaid llongyfarch y Sherman ar eu hymroddiad i feithrin talentau newydd. Gobeithio y bydd y cwmni yn parhau i drefnu gweithdai a pherfformiadau cyffelyb yn y dyfodol, yn enwedig ar faes yr Eisteddfod. Cymysg oedd safon y gweithiau, gyda rhai o’r dramâu byrion yn boenus o felodramatig a dylanwad confensiynau ac arddull dreuliedig ysgrifennu teledu yn drwm ar ambell un. Mae hyd yn oed y sgwenwyr gorau angen hyfforddiant elfennol ynglyn â’r ffordd orau i feithrin eu crefft. Roedd ambell i dalent yn serennu serch hynny, gyda pheth ysgrifennu gwreiddiol a chadarn yn codi i’r brig.
Un o’r pethau brafiaf am yr Eisteddfod yw cael bod allan yn yr awyr agored (hyd yn oed pan mae hi’n piso bwrw) ac weithiau does gan ddyn mo’r awydd i’w gau ei hun mewn theatr fechan pan fo cymaint o bethau eraill i’w mwynhau. Ond bûm yn hynod o ffodus i ddal Cwmni Pypedau Cortyn yn perfformio ar lwyfan Rondo wrth ymyl y lle bwyta ar brynhawn dydd Mawrth. Dyma’n union y carwn weld rhagor ohono ar faes yr Eisteddfod – perfformiadau bach, cyhoeddus addas i blant o bob oed. Fe gafodd y pypedwr, Owen Glynne Davies, hwyl garw yn fy niddanu i a’m chwaer (a llawer o blant llai) gyda’i bypedwaith crefftus a doniol. Roedd o’n giamstar ar neidio oddi ar y llwyfan i ddychryn plant (a dyn mawr tew peryg yr olwg) efo ci gwirion a sgerbwd oedd yn hoff o ddawnsio. Theatr ddieiriau, ddi-ffiniau, a hynod o ddifyr.
Cyn perfformiad nos Iau o O’r Tu Ôl, bu Stewart Jones yn traddodi ei ddarlith/sioe un dyn Wil Sam – Y Dewin Geiriau, sef teyrnged bersonol i’w ddiweddar gyfaill. Bu Stewart yn perfformio rhai o’i hoff sgriptiau Ifas y Tryc, y cymeriad a wnaeth y bartneriaeth rhwng Stewart a Wil mor enwog drwy Gymru benbaladr. Nid yw gafael ddihafal Stewart ar ieithwedd unigryw Wil Sam, na’i allu i gyflwyno hynny gerbron cynulleidfa, wedi pylu dim dros y blynyddoedd.
Er gwaethaf yr holl ddewis sydd ar gael i garedigion y theatr Gymraeg yn yr Eisteddfod, does dim amheuaeth fod y theatr yn rhyw fath o chwaer fach i’r celfyddydau eraill yn y brifwyl. Rwy’n cydnabod mai blwyddyn ddigon gwan fu hon, oherwydd i’r unig ddau gwmni proffesiynol ddewis cynhyrchu dramâu oedd yn pegynu i eithafion chwaeth eu cynulleidfaoedd arferol, gan adael bwlch sylweddol yn y canol, a dieithrio nifer o theatrgarwyr selog. Cymharer hynny gydag arlwy y llynedd a’r flwyddyn cynt, ac mae’r gwahaniaeth yn drawiadol. Ond faint o fai sydd ar yr Eisteddfod ei hun? Wel, mae’n ffaith nad yw’r Eisteddfod wedi sicrhau bod drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama y llynedd wedi cael ei llwyfannu, ac nad ydi’r Eisteddfod chwaith wedi comisiynu drama ar gyfer y brifwyl ers 2003. Faint o ddyfodol sydd i’r theatr Gymraeg yn yr Eisteddfod os na chaiff hi’r gefnogaeth sy’n ddyledus iddi?
Bydd Ceisio’i Bywyd Hi (Sherman Cymru) ar daith 1–16 Hydref, a bydd O’r Tu Ôl (Bara Caws) yn teithio 8 Medi – 17 Hydref. Bydd Stewart Jones yn cyflwyno Wil Sam – Y Dewin Geiriau ar wahoddiad cymdeithasau ledled y wlad drwy gydol y gaeaf (cysyllter â Bara Caws ar 01286 676335).
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
