Thema dywyll Thema golau

Awdurdod yr Eglwys

Dwn i ddim faint o ddarllenwyr Barn fydd ag unrhyw ddiddordeb yn yr erthygl yma gan mai mater ymddangosiadol fewnol i’r Eglwys Anglicanaidd ydyw; hynny, a chofio hefyd fod grym crefydd yn treio’n enbyd yng Nghymru. Ond y mae a wnelo’r ddadl eglwysig yma â gwerthoedd sylfaenol cymdeithas ryddfrydol. Y mae efengylwyr gwrth-hoyw yn yr eglwys yn ceisio tanseilio’r gwerthoedd sylfaenol rheiny megis goddefgarwch a rhyddid yr unigolyn, gwerthoedd y cymerwyd canrifoedd i’w hennill. Peidied neb â meddwl felly mai rhywbeth mewnol i’r eglwys yw hyn. Mae difrïo’r gwerthoedd hyn mewn un rhan o’r gymdeithas yn peryglu’r gymdeithas gyfan. Damaid wrth damaid y mae colli hawliau.

Felly beth yn union yw’r ddadl ynglyn â phobl hoyw, ac yn arbennig offeiriaid hoyw, yn yr eglwys? Wel, gadewch i ni ddechrau trwy edrych ar un o hanfodion Anglicaniaeth. Yn y bôn, ac ar ei gorau, eglwys lydan (‘Broad Church’) yw’r Eglwys Anglicanaidd. Hynny yw, o’i mewn y mae nifer o garfanau – catholig, efengylaidd a rhyddfrydol. Ar sawl ystyr, system gynhaliol yw Anglicaniaeth, reit debyg i’r Blaid Lafur hefo’i hadain dde a chwith, a’r canol sy’n medru dal y carfanau yma wrth ei gilydd mewn cytgord y rhan fwyaf o’r amser. Hwyrach fod yna rywbeth Seisnig am hyn – yr ‘enaid’ Seisnig ar ei orau? Nid oes gan yr un garfan yr hawl i dra-arglwyddiaethu ar y lleill. Simsanwyd y garfan gatholig yn arw pan ordeiniwyd merched i’r offeiriadaeth, ac nid yw hi wedi cweit fedru canfod ei thraed hyd eto.Yn ddiweddar  – o ddiwedd yr 80au ymlaen, tybed? – bu i’r garfan efengylaidd feio’r garfan ryddfrydol dan arweiniad esgobion megis Robert Runcie, Archesgob Caergaint a Richard Holloway, Profost yr Alban, am y dirywiad crefyddol yn Lloegr, Cymru a’r Alban. (Mae stori Gogledd Iwerddon rywfaint yn wahanol.) Rhyddfrydiaeth oedd y bwgan i’r efengylwyr. Ac mewn cymdeithas oedd yn chwilio am sicrwydd, yn mynnu atebion ac yn amharod i fyw hefo cwestiynau, bu cynnydd mawr yn rhengoedd yr efengylwyr. Ac yno hefyd roedd y pres! Nhw bellach oedd yn ariannu’r eglwys – yn Lloegr beth bynnag. Felly roedd y ‘banc’ yn mynnu mwy o lais ar faterion penodol. Mae pris am bres! I mewn i hyn i gyd daeth  ECUSA (Eglwys Esgobol Unol Daleithiau America) a’i benderfyniad i ordeinio’r dyn hoyw Gene Robinson yn esgob, ynghyd ag Eglwys Anglicanaidd Canada yn bendithio priodasau rhwng hoywon. I’r efengylwyr, y Beibl yw maen prawf pob dim. Yn eu tyb nhw nid yw’r Beibl yn ‘caniatáu’ hoywder. Ond, ar sawl ystyr, masg yw hoywder ar y wir ddadl, sef awdurdod. Pwy yw’r Awdurdod yn yr eglwys yw’r gwir gwestiwn. Ac ymhle y mae’r Awdurdod hwnnw?  

Yn hanesyddol, awdurdod (gydag ‘a’ fach) llac iawn sydd wedi bod yn yr Eglwys Anglicanaidd erioed: Archesgob Caergaint yn fwy o fugail, yn ffigwr oedd yn cynrychioli undod, nid Awdurdod megis Pab  a Phabaeth; a Chynhadledd Lambeth – cyfarfod i holl esgobion Anglicanaidd y byd bob degawd – yn trafod hyn a’r llall ac yn gwneud datganiadau digon diddrwg-didda ar y cyfan ond fyth ‘encyclicals’ oedd yn mynnu FEL HYN MAE HI BLANT BACH. Mewn Anglicaniaeth, cydwybod yw’r awdurdod terfynnol. Nid yw hyn yn ddigon i’r efengylwyr mwyach. A hoywder yw’r pwnc a ddefnyddir i wthio am Awdurdod-A- fawr, mwy ‘cadarn’ a chanolog, gan roi blaenoriaeth i’r Beibl.

Gair am y Beibl mewn Anglicaniaeth. Yn wahanol i Brotestaniaeth, rhan yw’r Beibl o unrhyw awdurdod. Ar yr un gwastad, o’r un gwerth, â’r Ysgrythurau y mae traddodiad a rheswm. Yn benodol ar fater hoywder y mae’r safbwynt efengylaidd yn mynd yn erbyn rheswm. Bellach nid oes unrhyw ddisgyblaeth – boed wyddonol, seicolegol na meddygol – sy’n dirnad hoywder fel rhywbeth gwyrgam, ond yn hytrach fel rhan o’r cyfoeth dynol. Mae’n union fel cael llygaid glas neu wallt brown. Felly y mae ei wrthod oherwydd fod ysgrythur hynafol nad oedd ganddi mo’r ddirnadaeth gyfoes o hoywder yn mynd yn groes i reswm – un o bileri mawr Anglicaniaeth.Y mae safbwynt y Beibl ar hoywder mor dwp â’i ddealltwriaeth o gosmoleg. Ond llenyddiaeth yw’r Beibl, wrth gwrs, nid llyfr o wybodaeth. I’r efengylwyr, pechod yw hoywder.

Sut y mae arweinyddiaeth yr eglwys wedi ymateb? Y mae yr Archesgob Rowan Williams – diwinydd ceidwadol iawn, gyda llaw – ac wrth ei gwt Archesgob Cymru, y Dr. Barry Morgan, wedi penderfynu ceisio cadw undeb yr eglwys – undeb hollol ffuantus – ar draul medru cyfathrebu’n ddilys ac effeithiol â’r gymdeithas ehangach sy’n ymsynio am y ‘ddadl hoyw’ fel hurtrwydd noeth ac yn ddim llai na homoffobia. Y mae yr ildio yma i’r pwysau efengylaidd adweithiol yn ddamniol i hygrededd yr eglwys ei hun tu  mewn i gymdeithas ryddfrydol, fel un Prydain a gweddill Ewrop yn negawd cyntaf yr 21g.. Mae’r arweinyddiaeth yn edrych yn sdiwpid a’r eglwys bellach yn sawru o gwpwrdd ffosiliau mewn amgueddfa. Eglwys yw hi bellach sy’n siarad â hi ei hun.

Sut mae hyn i’w weld yng Nghymru? Daeth y polisi swyddogol alaethus yma i’r fei yn ddiweddar gydag ethol Andrew John yn esgob Bangor. Nid oedd yr arweinyddiaeth am edrych hyd yn oed ar John arall – Jeffrey John, deon St Alban, Cymro Cymraeg ac Anglican disglair llawn dychymyg – ond a wnaeth y camgymeriad i gyhoeddi’n onest ei fod yn hoyw ac yn gymar mewn parttneriaeth sifil. (A gyda llaw mae’r eglwys yn llawn dop o offeiriaid hoyw ac wedi bod erioed, a hebddynt byddai’n dlotach ac yn lle hollol ddi-liw.) Doedd gan Jeffrey John ddim tjans. Ac yn y coleg ethol i benodi esgob newydd Bangor – coleg ethol front ac anghynnes – fe ddifrïwyd yn gïaidd, ac  yn gyhoeddus, ymgeisydd disglair arall ac fe ganiatawyd y difrïo yna heb ymyrraeth. Heb os mae i Andrew John rinweddau, ond y mae wedi ei ethol yn esgob Bangor yn syml oherwydd ei fod o yn wr priod ac yn efengylwr. Yn yr un cywair, yn eglwys Aberdaron bu i bartneriaeth sifil ddigwydd. Ar ôl i un o’r offeiriaid efengylaidd achwyn am y gwasanaeth hwn, rhybuddiwyd yr offeiriad yna nad oedd hyn fyth i ddigwydd eto neu…

Y mae’r sefyllfa yn yr Eglwys Anglicanaidd ar hyn o bryd yn ymylu ar y trasig. Eglwys agored fel yr oedd hi, oddefgar, nad oedd dogmatiaeth yn rhan ohoni, yn cael ei chlymu’n grïau gan efengyliaeth awdurdodol ac anachronistig, sy’n ei thwyllo’i hun ei bod yn gyfoes ond nad oes ganddi na’r crebwyll angenrheidiol na’r dychymyg i gyfarfod y gymdeithas sydd ohoni, ac sy’n troi eglwys a fu’n fawr yn ddim byd llai na sect. Ac ar bwy y mae’r bai? Ar yr arweinyddiaeth.  


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Teigr Celtaidd?

Ymlaen >

Bala, Berwyn a bwdaeth