Thema dywyll Thema golau

Y Teigr Celtaidd?

Fe ddaethom i fyw fel teulu bach i Droichead Nua, neu Newbridge, yn swydd Kildare ym 1999. Tref fechan ddeng milltir ar hugain i’r de o Ddulyn yw hon, ar gyrion gwastadedd y Curragh, cartref i gae rasio ceffylau enwocaf Iwerddon, a chartref barics y fyddin Wyddelig. Tref o filwyr a jocis. A thref a oedd, fel gweddill y wlad, ar ganol cyfnod o drawsnewid  aruthrol. Roedd yr awyrgylch yn debyg i’r Wild West – pawb yn brysur yn gwneud pres, yn prynu ac yn adeiladu ym mhobman, heb lawer o gynllunio na hidio am reolau. 

Roedd yr wythdegau llwm, gyda’r diweithdra a’r allfudo, drosodd. Roedd gafael haearnaidd yr Eglwys Babyddol yn llacio, a misdimanars gwleidyddion llygredig yn dechrau dod i’r amlwg. Roedd y broses heddwch yn y Gogledd yn modfeddu ymlaen. Roedd ’na deimlad fod Iwerddon yn llamu i’r awyr iach. 

Ac roedd yr economi’n tyfu ynghynt nag mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop; roedd y Teigr yn rhuo drwy’r ynys. Cafwyd grantiau sylweddol o Frwsel ac fe’u buddsoddwyd i ddatblygu’r economi. Roedd ’na wariant ar rwydwaith o ffyrdd a meysydd awyr, ac – yn allweddol – gwariant ar addysgu a hyfforddi gweithlu ifanc. Oherwydd gweithlu brwd addysgedig, Saesneg ei iaith; oherwydd lleoliad Iwerddon o fewn yr Undeb Ewropeaidd; ac (efallai’n bennaf) oherwydd treth fusnes isel, daeth cwmnïau mawr o America fel Dell, Intel a Hewlett Packard yma. Roedd pobl yn tyrru adre i weithio a gwario. 

Pan ddaethom ni i Newbridge gyntaf, tri bwyty oedd yma (un Tseinïaidd a dau lled-Eidalaidd), un ganolfan siopa fach dila, un siop ddillad posh, a thair set o oleuadau traffig i’n diddanu. Erbyn hyn mae gennym ni fwyty Ffrengig go iawn, canolfan siopa’n llawn enwau mawr Prydeinig fel M&S a Debenhams, theatr, dwsin o oleuadau traffig, dau faes parcio aml-lawr (un wedi ei godi heb ganiatâd cynllunio llawn), pont newydd dros y Liffey, a phump rowndabowt. Mae deg stad newydd o dai wedi blaguro o gwmpas y dre. Mae’r strydoedd yn tagu gyda cheir newydd sbon, cyfran helaeth ohonyn nhw’n SUVs.

A dyna’r stori ledled y wlad gydol y nawdegau a dechrau’r ganrif hon. Ceir newydd, ffyrdd newydd a stadau a thai newydd ym mhobman. Fe ofynnodd Mam i mi mewn penbleth pan ddaeth hi ar ymweliad yma, ‘Ond lle oedd pawb yn byw o’r blaen?’ Prisiau tai oedd y pwnc trafod – neu ble oedd pobl yn mynd ar eu gwyliau nesaf. Roedd pobl yn prynu fflatiau yn Sbaen, neu’n mynd i wneud eu siopa Nadolig yn Efrog Newydd, y banciau’n barod i fenthyg, a Ryanair yn barod i’n cludo’n rhad.

Daeth uchafbwynt y cyfoeth yn 2001, pan oedd yr economi’n tyfu mor wallgof o gyflym a choffrau’r llywodraeth mor llawn fel y penderfynon nhw annog pobl i arbed arian. Am bob pedwar ewro y byddem ni’n eu cynilo mewn cyfrif arbennig yn y banc, byddai’r llywodraeth yn rhoi un ewro. Pres am ddim! Y canlyniad oedd, pan aeddfedodd y cyfrifon yma ymhen pum mlynedd fe lifodd biliynau o ewros i’r economi. Dwi’n cofio cyfnod yn 2006 pan oedd y gweinidog cyllid yn cyhoeddi fis ar ôl mis bod ganddo fo ddau, pump, chwe biliwn yn fwy na’r disgwyl yn y coffrau – ac yn crafu ei ben sut i’w gwario.

Un o’r  newidiadau mwyaf amlwg a ddaeth yn sgil yr holl gyfoeth oedd y mewnfudwyr – y rhan fwyaf yn dod o Wlad Pwyl a’r gwledydd Baltig, ond hefyd o Nigeria. Mae gan Newbridge rwan sawl siop Bwylaidd – a siop trin gwallt Affricanaidd. Mae 10% o’r boblogaeth yn dod o wlad arall ac mae 16% o’r gweithlu yn dramorwyr. Tro ar fyd mewn gwlad lle mae allfudo ac alltudiaeth yn rhan o’i gwead diwylliannol. Ar y cyfan, fe groesawyd y gweithlu newydd eiddgar, rhad. Ond mae ’na ambell i gwyn wedi bod nad oes posib clywed acen Wyddelig tu ôl i’r cownter mewn odid yr un siop na chaffi yn Nulyn a Galway – a bod hyn yn sbwylio naws arbennig y ‘cead mile failte’ (can mil croeso) sy’n bwysig i’r diwydiant twristiaeth. 

Mae ’na loes hefyd fod y cyfoeth newydd wedi magu hunanoldeb a materoliaeth, gyda phawb yn rhy brysur a barus i sgwrsio neu wneud cymwynas. Ac, wrth gwrs, mae’r Teigr wedi anwybyddu rhai pobl yn llwyr – mae ’na haen o’r gymdeithas sydd wedi aros yr un mor dlawd a difreintiedig ag erioed, ac yn teimlo’n waeth wrth weld y llewyrch o’u cwmpas. 

Fel mae’n digwydd, does dim eisiau poeni gormod rwan am anfanteision cyfoeth. Oherwydd – och a gwae – daeth y cyfan i ben yn arswydus o gyflym eleni. Mae’r Teigr wedi hel ei bac.  

Mae dau reswm am hyn – y dirwasgiad rhyngwladol a’r cwymp yn y diwydiant adeiladu. O edrych yn ôl, fel y mae’r arbenigwyr yn dda am wneud, roedd economi Iwerddon yn or-ddibynnol ar y farchnad dai. Dyna pam roedd coffrau’r llywodraeth mor llawn – treth ar werth a threth-gwerthu-tai (stamp duty). Roedd gormod o weithwyr yn ddibynnol ar y diwydiant adeiladu. Rwan mae’r banciau mewn helynt, prisiau tai yn disgyn, a neb yn gallu prynu na gwerthu. Mae’r adeiladwyr yn diswyddo’u gweithwyr a’r Pwyliaid (a oedd yn rhentu cymaint o dai) yn mynd yn ôl i Wlad Pwyl. Bythefnos yn ôl aeth un o gwmnïau ceir crand Dulyn i’r wal. Ar ôl mwynhau cael chwe biliwn ewro yn fwy na’r disgwyl ddwy flynedd yn ôl mae’r llywodraeth rwan dros ddeg biliwn ewro yn fyr. Mae’r cwmnïau mawr rhyngwladol fel Dell wedi cyhoeddi diswyddiadau, ac mae ’na sibrydion eu bod nhw am symud o Iwerddon i wledydd rhatach.

Yma yn Newbridge, mae gwaith wedi stopio ar ddwy stad o dai sydd heb eu cwblhau. Yn ôl ffrind i mi sy’n berchen caffi yn y dre, mae’r hogiau – y plymars a’r adeiladwyr oedd yn dod i mewn am eu brecwast – eisoes wedi mynd i Awstralia i chwilio am waith. Mae’r archfarchnad leol wedi rhoi’r gorau i fod ar agor 24 awr er mwyn arbed costau, a daw storïau am bobl yn colli eu gwaith o bob cyfeiriad. Mae’r wlad mewn sioc, gan fethu deall lle i ble yr aeth y pres i gyd.  

Ar un adeg roedd hi’n ffasiynol gofyn sut y gallai Cymru ddilyn esiampl Iwerddon a dysgu gwersi er budd yr economi. Efallai mai gwersi dipyn gwahanol fydd yn cael eu dysgu erbyn hyn.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Brifwyl - Digon yw Digon

Ymlaen >

Awdurdod yr Eglwys