Thema dywyll Thema golau

Y Ddrama Na Sgwennodd Ionesco

Diddorol iawn oedd sylwadau Gareth Miles yn Barn mis Mehefin ynglyn â’r helynt a fu yng Nghaerfyrddin ’nôl yn 1964 yng Ngwyl Cymdeithas Ddrama Myfyrwyr Cymru. Yno – yn fras iawn, i’r rheiny ohonoch na welodd golofn y Bnr Miles – fe lwyfannwyd Y Ffynnon, cyfieithiad Cymraeg o La Fontaine, ‘un o weithiau diweddaraf Ionesco’ gan griw o fyfyrwyr o Fangor, gan ddenu canmoliaeth uchel iawn oddi wrth y gynulleidfa a’r beirniaid. Wrth gwrs, er i’r gwaith gael ei briodoli i Ionesco, ac i Gareth Miles ei hun fel cyfieithydd, nid oedd yn eiddo i’r naill na’r llall: drama gwbl ffug oedd hi, parodi rhyfygus – cymysgedd o linellau ysmala, ymadroddion lled ddefosiynol ac adnodau Beiblaidd. Yn ôl erthygl Barn, yr awduron oedd ‘D[afydd] Glyn Jones ..., John Roberts …, y Dr. John Gwilym Jones, Mr. W. S. Jones, Mr Gwenlyn Parry, ac eraill …’; awgryma John Ogwen fod Huw Lloyd Edwards yno hefyd. ‘Dull y cyfansoddi,’ medd Gareth Miles, ‘oedd “sgrifennu awtomatig”; hynny yw, pawb yn ei dro yn bwrw llinell, gair neu ebychiad i mewn i’r pair creadigol.’ Fe’i lluniwyd mewn noson, a’i pherfformio’n gyhoeddus y noson ganlynol, gan gast a gynhwysai actor o’r enw John Hughes (John Ogwen). 

Roeddwn wedi dod ar draws hanes y digwyddiad hwn o’r blaen, wrth ymchwilio i hanes y theatr Gymraeg rai blynyddoedd yn ôl. Ond – o raid, ar y pryd – roedd fy argraff wedi’i ffurfio’n llwyr gan yr ychydig a adroddwyd amdano ym mhapurau newydd y dydd, ac roedd eu perspectif hwy yn reit wahanol i’r dystiolaeth fwy personol a geir yn erthygl Gareth Miles (ac yng nghyfrol hunangofiannol John Ogwen yntau, Hogyn o Sling (Gwasg Gwynedd, Caernarfon, 1996)). Wedi dweud hynny, fe gadarnhaodd yr adroddiad fy nheimlad i fod yr helynt yn 1964 yn ddigwyddiad tra diddorol, a’i fod yn codi nifer o gwestiynau digon dyrys nid yn unig ynglyn â natur ac integriti’r theatr gyfoes ond hefyd am waith y beirniad a’r hanesydd mewn perthynas â’r theatr honno. 

Cyhoeddwyd detholiad byr iawn o’r Ffynnon ym mhapur myfyrwyr Aberystwyth, Llais y Lli:

      OFF: Helo.

      BART: Be’ wyt ti?

      BER: Sebra myn diawl i.

      OFF: Plisman.

      BART: Roeddan ni yn disgwyl offeiriad ...

      BER: I hel insiwrans y bywyd tragwyddol.

      OFF: Dwi’n offeiriad hefyd. Dwi’n blisman

            ac yn offeiriad.

      BER: Cabledd!

      OFF: Cabledd? Mae arna i eisiau gwybod

            gwreiddyn y drwg yma.

      BER: Pa ddrwg?

      BART: Pa ddrwg?

      OFF: Pa dda?

      BER: Pa dda?

      BART: Pa dda?

      OFF: Pa ddrwg a da?

      BER: Da a drwg.

      BART: Drwg a da.

      OFF: Y Drwg. Y pechod gwreiddiol yr hwn sydd

            yn y ffynnon. Yr hwn oedd y dechreuad

            gyda’r ffynnon … Y Ffynnon. 

Ac yn y blaen: ysmala yn wir, a digon Ionescaidd at hynny (tybed a oes copi cyfan ohoni i’w gael yn rhywle?). Ond nid y parodi ar waith y Rwmaniad oedd prif ergyd gohebwyr y wasg yn 1964, ond y ffaith fod y gynulleidfa at ei gilydd, a beirniaid yr wyl yn enwedig – gan gynnwys D. R. Davies, Norah Isaac ac R. Gerallt Jones, yn ôl Gareth Miles – wedi eu twyllo’n llwyr gan y fath greadigaeth ysgeler. Yn y drafodaeth agored wedi’r perfformiad, cynulliad dethol a gynhwysai ‘hufen ymenyddol y genedl’ yn ôl y wasg, mawr oedd clod y beirniaid hyn i’r ddrama: ‘Dywedir wrthym... ,’ meddai un, ‘fod Ionesco yn dywyll a niwlog. Ni welais i ddim erioed mor eglur-resymegol â’r ddrama wych hon. Rwyf am grefu ar iddi gael ei theledu’. A honnodd un arall iddo/iddi gael ‘[p]rofiad ysbrydol a dreiddiodd i ddyfnder fy enaid’.  

Yn ôl y gohebwyr, amlygai helynt La Fontaine holl ffwlbri ffuantus ‘y ddrama newydd’, gan ddangos bod crach-ysgolheigion ymhlith cefnogwyr y theatr Gymraeg wedi colli golwg ar briod rinweddau’r cyfrwng, ac wedi mopio’n lân â newydd-deb disylwedd yr Absyrd: roedd Y Cymro yn ei morio hi wrth ddisgrifio fel y cafodd y ddrama ‘wrandawiad sobr a defosiynol. Nid oedd gwên ar wyneb dim un o’r gwrandawyr. Roedd naws addolgar yn llenwi’r neuadd’. Ac fe droes gohebydd Baner ac Amserau Cymru ei lach ar y gynulleidfa hithau: ‘Bu cymaint o haeru ffôl ynghylch rhai dramâu y dywedid eu bod yn esiamplau o gynnyrch y theatr ddwl,’ meddai, ‘nes bod pobl i’w cael sy’n barod i lyncu pob math o ddamcaniaeth feirniadol a phob math o ddrama ond iddi fod yn eirias newydd a disynnwyr … Hobi fach digon diniwed gan rai o’n ffug-feirniaid diweddar yw ceisio gweled arwyddocâd tragwyddol i ddwli ymhonwyr o awduron a dramawyr’. Beirniadwyd Ionesco yntau yn hallt, a’i ddisgrifio fel dramodydd ‘ ... a ddaeth i’r amlwg ar lwyfannau Llundain o 1950 ymlaen gyda nifer o ddramâu ffasiwn newydd lle y mae symboliaeth yn bopeth’. 

Helaethwyd yr hanes, a rhoi tro arall i’r gyllell, gan y wasg hefyd. Yn ôl adroddiad Y Cymro, o dan y pennawd ‘Tynnu Coesau’r Beirniaid’, yn fuan wedi’r wyl yng Nghaerfyrddin (a chyn i’r twyll gael ei ddatgelu, mae’n debyg) rhoddwyd ail berfformiad o’r ddrama, y tro hwn yn Neuadd y Dref, Cricieth: 

Derbyniad cymysg a gafodd y ddrama’r tro hwn, oherwydd cymysg oedd y gynulleidfa. Meibion a merched o gefn gwlad Llyn oedd yn y seddau cefn a’r gwybodusion yn y seddau blaen. 

Roedd y seddau cefn yn chwerthin yn eu dyblau drwy’r perfformiad, a’r seddau blaen yn filain iawn wrthynt am fod mor ddiystyrllyd o waith aruchel. 

Rhwbiwyd halen i’r briw drachefn, mewn adroddiad pellach yn y Cymro, wrth gyplysu helynt La Fontaine â hanesion amrywiol am ffugwyr celfyddydol eraill yn Awstralia a Chanada, y naill wedi creu ‘barddoniaeth’ fodern trwy dorri darnau ar hap o gylchgronau, a’r lleill wedi paentio cynfas cyfan mewn llai nag ugain munud a’i osod yn arddangosfa yr Academi: ‘Rhoddwyd clod mawr i’r darlun gan y beirniaid a sylw eang iddo mewn cylchgronau’. Aeth yr adroddiad yn ei flaen fel a ganlyn: 

... [y] jôc fwyaf i gyd yw’r ffaith fod yr arddangosfa wedi penderfynu cadw’r llun yn yr arddangosfa hyd yn oed ar ôl cael gwybod am y twyll. Mae’n bosibl ei fod yn tynnu mwy i ymweld â’r arddangosfa na’r pethau o ddifri. Daeth y newydd hefyd fod tri darlun gan fwnci o’r enw Peter wedi eu gwerthu am £230 yn Gothenburg, Sweden. 

Mae byrdwn adroddiadau’r wasg yn amlwg: gallwch dwyllo’r crach-feirniaid academaidd, a’r gwybodusion ffuantus, ond thwyllwch chi mo’r werin. Mae’n gwbl ddigyfaddawd wrth wahaniaethu rhwng y gwahanol garfanau ar sail eu dosbarth cymdeithasol. Yr un yw cân y wasg boblogaidd hyd heddiw, wrth gwrs – does dim ond angen crybwyll Gwobr Turner i droi’r awyr yn goch gan wawd tabloid. A diau bod y portread o’r gynulleidfa ranedig honno yng Nghricieth yn dal i daro tant hefyd. Nid pawb sy’n gwirioni’r un fath, wrth gwrs; ond mae hanes y theatr Gymraeg yn dangos mai anodd iawn yw ymestyn tiriogaeth ddychmygol y cyfrwng heb ddieithrio a rhannu’r gynulleidfa. Ac mae hynny’n weithred beryglus, am fod yn rhaid i’r theatr weithredu fel defod gymdeithasol yn ogystal ag fel cerbyd ar gyfer stori ddramataidd. 

A dyna ni: jôc reit graff y neidiwyd arni gan y wasg a’i dyrchafu i dudalen flaen yr wythnosolyn cenedlaethol; direidi a fentrodd herio a dinoethi gwacter gwerthoedd beirniadol cyfoes. Ond arhosed rhywun am eiliad. Fel y nododd Gareth Miles, cafodd y jôc hon ‘effaith arwyddocaol a pharhaol ar Gwenlyn [Parry] fel dramodydd’, gan i’r cynhyrchiad lwyddo ar y llwyfan er gwaetha’r ffaith ei fod yn groes i bob rheol ynglyn â ffurf a chrefft theatraidd draddodiadol. At hynny, rhaid gofyn pa fath ar agenda a oedd gan y wasg hithau: a dyma ddinoethi gau-awduraeth o fath arall. Er cyhoeddi’r stori mewn dau fersiwn cymharol wahanol yn Y Cymro a Baner ac Amserau Cymru, mae’n debyg iawn mai’r un gwr oedd awdur y naill a’r llall, sef y dramodydd a’r cyfarwyddwr J. Ellis Williams – mae elfennau o’r naill hanes a’r llall yn ymddangos, ymron air am air, fel Rhagarweiniad i deipysgrif anghyhoeddedig o’i eiddo, sef ‘Byd y Ddrama’. Roedd yn defnyddio’r achlysur, a’i fraint fel gohebydd, i hyrwyddo’i geidwadaeth werinol yntau. Roedd ganddo bob hawl i wneud hynny, wrth gwrs; ond mae’r ffaith ei fod wedi gwneud hynny’n anhysbys yn creu argraff ym meddwl y darllenydd mai haid o ohebwyr a oedd yma, a bod cefnogaeth gyhoeddus (a golygyddol) eang i’w dehongliad hwy o’r digwyddiad. Fel y buasai Roland Barthes yn ei nodi efallai, creu ‘myth’ oedd nod J. Ellis Williams, yn hytrach nag adrodd ‘hanes’. 

Ond, i mi, yr elfen bwysicaf a mwyaf diddorol yn stori’r Ffynnon yw ymateb y beirniaid a dwyllwyd. O dan yr amgylchiadau, gellid bod wedi disgwyl i’r ‘gwybodusion’ roi eu pennau yn eu plu, neu syrthio ar eu bai. Protestiodd ambell un ohonynt, a mynnu ymddiheuriad; a diau bod dicllonedd di-urddas yr ymateb hwnnw wrth fodd y twyllwyr (nid yw techneg gomig Jonathan Ross a Jeremy Clarkson a’u bath mor newydd â hynny, wedi’r cwbl). Fodd bynnag, clywyd eraill yn mynnu bod rhinweddau sylweddol yn perthyn i’r ddrama er gwaetha’r ffaith ei bod yn ffug, ac yn argymell ei llwyfannu drachefn. Nodwyd yn y Faner, er enghraifft, fod ‘Cwmni Drama Coleg Caerfyrddin yn paratoi i’w pherfformio, dan gyfarwyddyd Miss Norah Isaac’; ac, wrth adolygu dramâu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y flwyddyn honno, nododd Emyr Edwards y byddai ‘wedi gwneud lles i lawer’ i weld La Fontaine yn cael ei pherfformio yno: 

... os nad yn unig am yr elfen ddramatig gadarn, a’r actio grymus a gafwyd wrth ei chyflwyno. Gan anghofio’r elfen o gynllwyn, y mae arbrofi fel hyn yn beth dynamig tu hwnt, ac yn arwydd o iechyd yn theatr ieuenctid Cymru Gymraeg y chwedegau. 

Yn y gwrthgyferbyniad hwn rhwng gwawd gohebwyr y wasg a mentergarwch y beirniaid a dwyllwyd y mae diddordeb arhosol Y Ffynnon, a hynny sydd, i’m tyb i, yn golygu bod iddi lawer mwy o arwyddocâd na’r foeswers ymddangosiadol syml am ochel rhag gor-ymroi i’r ‘eirias newydd a disynnwyr’. Cwyd ymateb cefnogol Norah Isaac ac Emyr Edwards nifer o gwestiynau ynglyn â chynhyrchu dramâu’r Absyrd, ac ynglyn â’u derbyniad a’u harwyddocâd hanesyddol, yng Nghymru a thu hwnt. Rhagdybiaeth sylfaenol gohebwyr y wasg oedd na châi’r gynulleidfa unrhyw flas ar y ddrama o gwbl ar ôl i’r gwir amdani gael ei ddatgelu; ond teimlai’r cefnogwyr fod awduraeth ffug y ddrama yn gwbl amherthnasol, gan ei bod yn cyflawni’r un swyddogaeth theatraidd ag unrhyw ddrama arall o eiddo Ionesco. Hwyrach y sylweddolai’r ddau ohonynt na ellid ‘twyllo’ cynulleidfa drwy ffugio drama gan Ionesco mewn gwirionedd, gan fod dramâu Ionesco hwythau yn eu ffordd eu hunain yn ‘twyllo’r gynulleidfa’ trwy lurgunio’r iaith lafar, trwy gyflwyno golygfeydd direswm a thrwy ymosod ar grefft y dramodydd. Roedd gweledigaeth Ionesco ei hun eisoes yn dra choeg, ac ni wnaethai’r cynhyrchiad hwn o ddrama yn null Ionesco ond ychwanegu at y coegni hwnw, gan beri iddo fod yn sylfaen i’r digwyddiad theatraidd yn ogystal â’r testun dramataidd. 

Er gwaetha’r ffaith mai direidi ar lwyfan Gwyl Ddrama fyfyrwyr a oedd yn sail i’r cyfan, felly, rwy’n dal i deimlo bod helynt Y Ffynnon yn haeddu’i gydnabod fel rhan o hanes ein theatr yng Nghymru. Yr hyn a wnaeth llunwyr (gweddol) anhysbys y ddrama, a’r ddau feirniad a’u cefnogodd, oedd mynnu cydnabod theatr fel theatr – hynny yw, fel cyfrwng celfyddydol gorffenedig, ac nid fel ffordd o roi drama ar gerdded. Wrth gymeradwyo a llwyfannu ail berfformiad o’r Ffynnon, mynnent geisio darbwyllo’r gynulleidfa Gymraeg fod ei gwerth fel darn o theatr ganwaith uwch na’i gwerth fel darn o ddrama, a’i bod yn dra huawdl fel profiad theatraidd er y bwriadwyd hi i fod yn garbwl fel testun dramataidd. Mynnent ddarbwyllo’r gynulleidfa Gymraeg i’w pharchu oherwydd ei hegni a’i harddull yn unig, ac nid oherwydd ei chynnwys.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Bala, Berwyn a bwdaeth

Ymlaen >

Petai Baby P wedi byw...