Wrth benderfynu sefydlu Dyfodol i’r Iaith, hanner canrif ers sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae’r sylfaenwyr yn gwahodd cwestiwn amlwg: ym mha ffordd y mae eich gweledigaeth chi yn wahanol i weledigaeth y mudiad iaith traddodiadol? Mae’r ateb yn troi o gylch gair sy’n ganolog i’r cof am y ddarlith a ysgogodd sefydlu’r Gymdeithas, sef ‘chwyldro’. Ein man cychwyn yn Dyfodol yw bod Cymru wedi profi chwyldroad dros yr hanner canrif ddiwethaf o ran sefydliadau gwleidyddol ac agweddau poblogaidd. Yr hyn na chafwyd hyd yma, a’r hyn sydd ei ddirfawr angen yn awr, yw chwyldroad o faintioli tebyg yn agweddau a threfniadaeth – yn nulliau – y mudiad iaith.
Mae’n werth ystyried am ennyd hyd a lled y chwyldro sefydliadol a welwyd ers traddodi ‘Tynged yr Iaith’ yn 1962. Bryd hynny nid oedd Swyddfa Gymreig, hyd yn oed. A go brin y gallasai unrhyw un o wrandawyr y ddarlith feiddio gobeithio bryd hynny y byddai Cymru’n gartref i’w deddfwrfa ei hun ac i Lywodraeth Gymreig nerthol.
Ni fu unrhyw un yn fwy brwd o blaid creu sefydliadau cenedlaethol democrataidd na’r Cymry Gymraeg. Hyd yn oed yn 1979 pan sgubwyd cynlluniau Llafur o’r neilltu gan fwyafrif enfawr, roedd caredigion y Gymraeg a Chymry Cymraeg yn gyffredinol yn llawer iawn mwy brwd o blaid datganoli na’u cydwladwyr uniaith. Yn 1997 pleidleisiodd mwyafrif llethol o blith y Cymry Cymraeg ‘Ie dros Gymru’. Erbyn refferendwm 2011 roedd canran y Cymry Cymraeg a fwriodd eu croes o blaid grymuso’r Cynulliad Cenedlaethol yn Sofietaidd o uchel. A charedigion y Gymraeg oedd ymysg cynheiliaid ariannol pwysicaf yr Ymgyrch Ie. Eto i gyd, eironi chwerw’r sefyllfa bresennol yw ei bod hi’n anodd meddwl am garfan o bwys ym mywyd Cymru sydd wedi gwneud llai o ddefnydd o’r cyfleoedd a grëwyd trwy sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru na chefnogwyr yr iaith.
Mae’r rhai ohonom sy’n byw a bod ym Mae Caerdydd yn ymwybodol o’r myrdd o fuddiannau ac achosion a gynrychiolir yno gan wahanol lobïwyr sy’n bachu ar bob cyfle i sicrhau sylw a thriniaeth ffafriol i’w hachos. Mewn gwrthgyferbyniad, nid oes unrhyw un yn gweithio yno’n barhaol i godi llais o blaid y Gymraeg.
Gadewch i ni fod yn eglur, nid diffyg adnoddau sy’n gyfrifol am sefyllfa o’r fath. Yn sgil rhodd hael iawn a adawyd iddi mewn ewyllys (agos i filiwn o bunnau) mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gallu cyflogi staff o bedwar dros y blynyddoedd diwethaf. Ond dim ond 40% (medda fo wrthyf i) o amser un o’r pedwar sy’n cael ei dreulio’n lobïo yn ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol. Adlewyrcha hynny, wrth gwrs, flaenoriaethau a chredoau sylfaenol y Gymdeithas. Mae Cymuned, hyd yn oed, yn dal i gyflogi. Ond, eto, nid lobïo fel y cyfryw yw gwaith y swyddog hwnnw.
Rhesymau syniadaethol sydd wedi rhwystro’r mudiad iaith traddodiadol rhag dygymod â’r cyfleoedd a’r heriadau newydd a gododd yn sgil creu egin wladwriaeth Gymreig. Gellir gweld natur y methiant hwn ar ei fwyaf eglur, efallai, yn natganiadau syniadaethol sylfaenol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sef ei Maniffestoau. Bob yn ddegawd y cyhoeddwyd y rhain. Cafwyd dau ers datganoli. Yn rhyfeddol, fe lwyddodd fersiwn 2002 i anwybyddu datganoli fwy neu lai’n gyfan gwbl gan ganolbwyntio’n hytrach ar effeithiau globaleiddio. Er ei bod yn hapus ddigon yn trafod y byd-eang a’r lleol, roedd y Gymdeithas yn fud yn wyneb y cenedlaethol ar ei newydd wedd. Prin yr oedd pethau wedi gwella erbyn traddodi ‘Tynged yr Iaith 2’. Traddodwyd honno ar achlysur pen-blwydd y ddarlith wreiddiol yn 50. Dyna – am wn i – yw’r mynegiant mwyaf awdurdodedig o safbwyntiau presennol y mudiad. Wrth ymhonni trafod sut i greu cymunedau Cymraeg cynaliadwy, ni roddir unrhyw ystyriaeth ddifrif yn y ddogfen i sut y gallai’r haen genedlaethol gyfrannu at y cyfryw nod.
Yn hytrach nag addasu i’r chwyldro sefydliadol a gafwyd yng Nghymru, mae’r mudiad iaith wedi parhau’n driw i fodelau trefniadaethol ac i ragdybiaethau deallusol oes o’r blaen. O ran trefniadaeth golyga hyn wario’r rhan helaethaf o adnoddau Cymdeithas yr Iaith ar geisio (yn ddigon aflwyddiannus) cynnal rhwydwaith o gelloedd lleol. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyferbynnu â strwythur grwpiau pwysedd llwyddiannus sy’n pwysleisio cynnal craidd cryf i’w galluogi i ymyrryd yn wleidyddol yn effeithiol. Yn ddeallusol, mynegir amheuaeth ddofn o’r broses wleidyddol yn cydgerdded â ffydd ymddangosiadol ddi-ben-draw yn y broses ddeddfwriaethol.
Mae amheuaeth o’r broses wleidyddol yn hydreiddio rhethreg ac ieithwedd y mudiad iaith traddodiadol. Ymddengys, er enghraifft, fod ‘lobïo’ yn gysyniad amheus os nad budr ond bod ‘ymgyrchu’ yn weithred bur a dilychwyn. Yn fwy sylfaenol fyth, mae’r pwyslais parhaol ar ‘Y Brotest’, ‘Y Rali’, ‘Aberth’, ‘y Frwydr’ ac ati’n arwydd o garfan sy’n ei hystyried ei hun yn ymylol; yn bobl heb ei sefydliadau gwladwriaethol ei hunan. Anghofir, felly, y rôl gwbl ganolog a chwaraeodd caredigion a siaradwyr y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf yn creu’r cyfryw sefydliadau. Rhaid cyfaddef fy mod yn ei chael yn anodd cysoni agweddau o’r fath efo tuedd y mudiad iaith traddodiadol i droi deddfwriaeth yn llo aur. Ond dyna fo – deddfau, fe ymddengys, yw’r ateb. Yn wir, deddfau, boed Ddeddf Iaith neu Ddeddf Eiddo, yw’r ‘unig ateb’. Anwybyddir y ffaith mai rhan fechan yn unig o’r broses o lunio a gweithredu polisi cyhoeddus yw deddfwriaeth. Wrth gyfyngu ar ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a’r broses bolisi yn y fath fodd collwyd cyfle ar ôl cyfle ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Mae gweledigaeth amgen Dyfodol i’r Iaith yn syml. Y nod yw bod yn bresenoldeb cyson, egnïol ac effeithiol yn ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol i ddadlau achos y Gymraeg. Ond er mor ymddangosiadol syml yw’r weledigaeth honno, nid ar chwarae bach y’i gwireddir. Mae ystod eang iawn cyfrifoldebau’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru’n gosod her yn ogystal â chreu posibiliadau.
A nodi rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol yn unig, er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd bydd gofyn i Dyfodol allu ymateb ym meysydd cynllunio, datblygu cynaliadwy, addysg, a mwy. Heb sôn am weithio’n galed i sicrhau bod y ‘safonau’ sy’n rhoi cig ar esgyrn Mesur Iaith 2011 yn wirioneddol heriol. Nid ymateb yn unig yw’r nod chwaith. Yn ogystal â hynny, rhaid ymyrryd yn rhagweithiol i osod syniadau cadarnhaol ar yr agenda gwleidyddol.
Bydd gwneud hyn oll yn effeithiol yn dibynnu ar greu adnoddau ariannol digonol i allu cyflogi cnewyllyn cryf o staff proffesiynol a fydd mewn cyswllt dyddiol efo gwleidyddion a gweision sifil. Nid yw hanner swydd neu un swydd lawn amser yn ddigon. Yn hytrach rhaid codi ein golygon. Er mwyn gallu ymyrryd yn effeithiol yn yr ugain maes polisi datganoledig bydd angen pedair neu pum swydd fel lleiafswm. Bydd hyn yn ei dro yn golygu sicrhau incwm blynyddol o tua £200,000.
Sut mae gwneud hynny? Trwy fod yn hael ac yn anghymreig o uniongyrchol! Trwy herio caredigion y Gymraeg i’w holi eu hunain pa bris y maen nhw’n fodlon ei dalu am weld lles y Gymraeg yn derbyn ystyriaeth drwyadl a chanolog wrth lunio a gweithredu polisi cyhoeddus yng Nghymru. £10 y mis? £20 y mis? £30 y mis? Mwy, hyd yn oed? Nid ar chwarae bach y cesglir ynghyd y symiau angenrheidiol. Eto, mae’r syniad y dylid gwneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir gan enedigaeth sefydliadau democrataidd Cymreig yn un y mae caredigion y Gymraeg yn ei chael yn hawdd iawn i’w ddeall a’i goleddu. A pha syndod, o gofio pa mor gefnogol y bu’r rhain i’r broses o’u creu? Mae’r nod ymhell o fod yn amhosib ei gyrraedd.
Nid arian yn unig sydd ei angen. Mae dirfawr angen syniadau newydd yn ogystal. Syniadau o faintioli digon uchelgeisiol i allu ymateb i’r heriadau sy’n wynebu’r Gymraeg; syniadau y gall eu heffaith fod yn gymesur â’r angen. O ystyried pa mor eang yw cyfrifoldebau ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol, ni ellir disgwyl i staff o bedwar neu bump feistroli manylion – na deall posibiliadau – pob maes polisi unigol. Yn hytrach, bydd angen llunio rhwydweithiau o arbenigwyr yn y meysydd hyn a all fod yn gefn i’r staff proffesiynol. A siarad o brofiad, rwy’n argyhoeddedig fod digon o bobl a fyddai’n fodlon cyfrannu o’u harbenigedd a’u profiad i’r fenter. Yn wir, fe fyddan nhw’n awyddus i wneud hynny – pe bai’r cyfle ar gael.
Rhag-amod hyn oll yw chwyldro mewn ieithwedd ac agwedd ymhlith caredigion y Gymraeg. Rhaid cefnu ar y syniad ein bod yn bobl yr ymylon, heb ein gwladwriaeth ein hunain. Dyna sut yr oedd hi hanner canrif yn ôl ond erbyn hyn mae egin wladwriaeth wedi ei chreu, a hynny i raddau helaeth oherwydd cefnogaeth frwd siaradwyr a charedigion y Gymraeg. Onid yw’n hwyr glas inni wneud y defnydd mwyaf effeithiol sy’n bosib ohoni er mwyn ceisio sicrhau’r dyfodol yr ydym yn ei chwenychu ar gyfer ein hiaith? Onid yw’n bryd cydnabod bod chwyldro eisoes wedi digwydd o ran sefydliadau ac agweddau poblogaidd? Yr hyn sydd ei angen yn awr ar y mudiad iaith yw chwyldro yn ein dulliau o weithredu.
Oherwydd ein bod wedi mynnu aros yn yr un hen rigolau cyfarwydd – yn gaeth i ragdybiaethau trefniadol a syniadaethol oes a fu – collwyd cyfleoedd dirifedi ers 1999 i hybu’r Gymraeg. Mae sefydlu Dyfodol yn cynnig cyfle i gamu o’r rhigolau a chreu mudiad iaith a fydd, nid yn unig yn fwy effeithiol, ond a fydd yn fwy cydnaws â chefnogaeth frwd y Gymru Gymraeg i ymreolaeth. Ond ni all y fenter newydd hon lwyddo heb gefnogaeth hael a brwdfrydig caredigion y Gymraeg. Bydd ymateb darllenwyr Barn yn allweddol. Mawr obeithiaf y byddwch yn ystyried o ddifrif sut y gallwch chi gyfrannu wrth i Dyfodol geisio rhoi ‘Llais i’r iaith’.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
