Thema dywyll Thema golau

Beth yw Buddugoliaeth?

Wfft i’r holl dywydd garw ’ma! I ni’r anoraciaid gwleidyddol mae’r rhagolygon ar gyfer 2011 yn fendigedig. Refferendwm ymhen ychydig wythnosau. Wedyn, cyn bod amser i dynnu gwynt, dyna gychwyn ar yr ymgyrch etholiadol. A phetai cyffro’r etholiad cyffredinol Cymreig ddim yn ddigon, oni bai bod T?’r Arglwyddi yn llwyddo i roi sbocsan yn olwynion y llywodraeth glymblaid yn Llundain, mi gawn ni refferendwm ar gyfundrefn bleidleisio amgen ar gyfer yr etholiadau i D?’r Cyffredin. Prin y gellir dychmygu gwell. Ond, yn wir, mae mwy! Am y tro cyntaf erioed yn hanes gwleidyddol Cymru mae gennym arolygon barn yn cael eu

cyhoeddi mor gyson fel y gellir dadansoddi a phroffwydoliaethu’n dragywydd. Ychydig cyn y Nadolig fe gyhoeddwyd canlyniadau tri arolwg gwahanol o fewn

ychydig ddyddiau i’w gilydd. Mewn cymhariaeth, dim ond tri arolwg a welodd olau dydd trwy gydol y pedair blynedd rhwng etholiadau Cynulliad 2003 a 2007. Gwyn ein byd!

Un o sgileffeithiau cynhyrchu’r fflyd o arolygon barn yma yw ein bod yn llawer iawn llai tebygol o gael ein synnu gan ganlyniadau’r gwahanol bleidleisiau sydd ar y gweill. Go brin y gwelwn ni eto unrhyw beth mor gwbl syfrdanol o annisgwyl â chanlyniad Islwyn yn ôl yn 1999, dyweder. Wrth reswm, fe fydd yna ambell i ganlyniad unigol annisgwyl hwnt ac yma. Ond os oes ‘daeargryn tawel’ yn yr arfaeth yna siawns y byddwn yn barod amdano. Felly, gyda’r arolygon yn dangos mantais mor gyson ac mor fawr o blaid y rheini sy’n deisyfu cyfundrefn o rymoedd mwy synhwyrol na’r un bresennol, dim ond person go ddewr neu anghyfrifol fyddai’n mentro ei swllt ar unrhyw beth ac eithrio pleidlais gadarnhaol yn refferendwm y mis nesaf. Yn yr un modd, gyda chanlyniad trychinebus Llafur yn etholiad Prydeinig mis Mai diwethaf wedi profi’n hwb aruthrol i’r gefnogaeth i Carwyn Jones a’i blaid yma yng Nghymru, mae’n amlwg mai Llafur fydd yn elwa ym Mai eleni. Y cwestiwn diddorol wrth edrych ymlaen at weddill 2011 yw nid pwy fydd yn ennill, ond yn hytrach a fydd y fuddugoliaeth yn ddigonol?

Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn gwybod fy mod yn ystyried y refferendwm ar bwerau yn un cwbl ddiangen. Nid oes unrhyw egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol yn y fantol wrth symud o Ran 3 i Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn hytrach, byddwn yn cael ein gwahodd i bleidleisio ar y trydydd o Fawrth o ganlyniad i ddadl fewnol ymysg Aelodau Seneddol Llafur o Gymru ac ymdrechion yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Peter Hain, i dorri’r ddadl honno. Y broblem efo cynnal refferendwm dan amgylchiadau o’r fath, wrth gwrs, yw ei bod yn si?r o brofi’n anodd argyhoeddi’r etholwyr y dylent ymddiddori yn yr holl fusnes. Wedi’r cyfan, adar digon prin ydym ni’r anoraciaid gwleidyddol! Mae gan y mwyafrif bethau gwell i’w gwneud â’u hamser.

Ond os yw’r ganran sy’n pleidleisio’n isel iawn, gellir bod yn weddol sicr y bydd y rheini sy’n parhau i wrthwynebu datganoli yn ceisio cyflwyno hyn fel adlewyrchiad ar hygrededd a statws cyffredinol ‘Y Cynulliad’ yn hytrach na dyfarniad ar benderfyniad Peter Hain i gynnwys refferendwm yn Neddf 2006. Os yw’r canlyniad yn un agos, yna dichon y cânt wrandawiad, ond go brin y bydd eu dadl yn tycio os yw’r mwyafrif cadarnhaol yn un cyffyrddus. Ar y pwynt yna, buan iawn y bydd pawb yn anghofio faint a fu’n bwrw eu croes; y fuddugoliaeth fydd yr unig stori sy’n cyfrif. Neu mewn geiriau eraill, po fwyaf y mwyafrif, lleiaf yn y byd fydd y broblem a greëir gan ganran isel yn pleidleisio.

O droi at yr etholiad cyffredinol Cymreig, mae’n amlwgmai poblogrwydd dwy blaid sydd wedi eu heffeithio gan y newid yn yr hinsawdd wleidyddol a ddilynodd gwymp Brown. Tra bod Plaid Cymru a’r Torïaid yn sefyll yn eu hunfan, mae Llafur wedi llamu ’mlaen a chefnogaeth y Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi dymchwel. Amser a ddengys faint yn union o seddau fydd Llafur yn llwyddo i’w hennill ar sail ffigyrau o’r fath. Fy nhybiaeth i yw y bydd llawer o’r pleidleisiau hyn yn debygol o bentyrru mewn llefydd lle mae Llafur eisoes yn weddol ddiogel – yn y seddau rheini yn y Cymoedd lle bu ymgeiswyr annibynnol yn gymaint o bla iddynt mewn etholiadau diweddar – yn hytrach nag yn y mannau hynny lle y gallent wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w rhagolygon. Ond hyd yn oed os llwyddir i droi pleidleisiau’n seddau, mae cwestiwn mwy sylfaenol fyth yn aros i’w ateb, sef beth yw mwyafrif gweithredol mewn corff seneddol o 60 aelod?

Bu tuedd i drin 30 fel ryw fath o ffigwr hud: o’i gyrraedd yna byddai Llafur wedi croesi’r trothwy ac wedi sicrhau mwyafrif. Ond nid oes angen dim ond ychydig eiliadau o ystyriaeth i sylweddoli pa mor gamarweiniol yw hynny. Er mwyn i 30 gyfrif fel mwyafrif yna byddai’n rhaid wrth gydweithrediad y gwrthbleidiau wrth gytuno mai un o’u haelodau hwy ddylai ysgwyddo baich y Llywyddiaeth. A hyd yn oed wedyn byddai’n rhaid i bob aelod Llafur fod yn bresennol ar gyfer pob pleidlais o bwys: felly dim teithiau, neu ymweliadau neu gyfarfodydd, dim ots pa mor ddefnyddiol, pwysig neu arwyddocaol. Dim salwch chwaith. O ystyried cynifer o Aelodau sydd wedi gorfod cilio o’r Cynulliad am gyfnodau estynedig yn ystod yr un mlynedd ar ddeg diwethaf yn sgil salwch difrifol, nid mater bach mo hynny chwaith. Mewn byr eiriau, hyd yn oed petai Llafur yn llwyddo i gyrraedd y 30 – a fyddai’n andros o gamp ynddo’i hun – ni fyddai’n ddigon.

Ond beth felly sy’n cyfrif fel mwyafrif gweithredol yng Nghynulliad Cymru? 31 yw ateb Carwyn Jones. Mae ei ragflaenydd Rhodri Morgan yn awgrymu 33. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn cynnal rhyw fath o arolwg barn answyddogol (a chwbl anwyddonol) ymysg yr aelodau Llafur rheini rwy’n taro ar eu traws yng nghoridorau’r Senedd yng Nghaerdydd gan ofyn iddynt am eu barn nhw yngl?n â’r mater. Teg yw dweud bod y ffigwr a grybwyllwyd gan y Prif Weinidog presennol ar waelod eithaf yr ystod ymatebion a gefais i. Ond daeth yr ymateb mwyaf arwyddocaol gan un o’r Llafurwyr rheini oedd yn wrthwynebus i’r syniad o glymbleidio efo Plaid Cymru yn ôl yn 2007 ac a ystyrir yn weddol llugoer ei agwedd tuag at ddatganoli. Pan ofynnais iddo beth a ystyriai’n fwyafrif gweithredol, fel fflach fe ddywedodd ‘amhosibl’. Wedi holi ymhellach, ei farn bendant oedd nad oedd unrhyw senario credadwy lle y gallai Llafur lywodraethu ar ei liwt ei hun. Dim ond trwy glymbleidio y gall Llafur ffurfio llywodraeth sefydlog.

Os felly, y cwestiwn nesaf yn amlwg ddigon yw pa blaid arall y gellir clymbleidio â hi? Erbyn hyn, gyda’r Rhyddfrydwyr wedi eu niweidio i’r fath raddau yng ng?ydd Llafur a’r etholwyr, fel ei gilydd, gan y garwriaeth fawr o amgylch bwrdd y Cabinet yn Downing Street, dim ond un ateb credadwy sydd: Plaid Cymru. Wedi bod mor gyndyn yn 2007, deisyfiad y mwyafrif llethol o Lafurwyr yw troi Cymru’n Un yn Cymru’n Un, Rhan 2. Mae apêl wleidyddol canlyniad o’r fath i’r ddwy blaid yn amlwg. Serch hynny, mae un rhwystr sylfaenol. Yn syml, mae’n anodd iawn dyfalu beth fyddai sail cytundeb clymblaid nawr bod Llafur wedi colli grym yn Llundain ac felly wedi colli’r gallu i gynnig consesiynau i Gymru. Os am weithredu argymhellion Holtham, sefydlu Awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig, cyflwyno pleidlais gyfrannol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, neu wneud un o’r myrdd o bethau eraill fyddai’n gymorth i’r Blaid yn eu prosiect o ‘godi cenedl’, yna ni all Llafur gynnig dim. Yn baradocsaidd ddigon, mae’n haws o lawer dyfalu beth fyddai cynnwys cytundeb Enfys na chynnwys Cymru’n Un, Rhan 2 er ei bod bron iawn yn amhosibl dychmygu sut, yn wleidyddol, y gallai Plaid Cymru fyth fod yn rhan o’r un llywodraeth â phleidiau George Osborne, Jeremy Hunt a Danny Alexander.

Hyd yn oed os yw arolygon barn cyson yn golygu bod canlyniadau etholiadol cwbl annisgwyl yn llai tebygol o lawer bellach, y gwir amdani yw bod canlyniadau’r broses wleidyddol yn parhau’n amhosibl i’w rhagweld. Mae cymaint yn dibynnu ar fedr ein gwleidyddion a’u pleidiau wrth lunio gweledigaeth, trafod, dadlau a dwyn perswâd, nid yn unig ar yr etholwyr ond ar ei gilydd hefyd. Ni ellir fyth fod yn sicr. Ac i ni’r anoraciaid mae hynny’n rhan hanfodol o’r apêl.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ysgrif goffa Catrin (Kathleen) Dafydd (1938-2010)

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Cestyll ein Balchder